Profiad elusennau bach o gydweithio
Y Comisiwn Elusennau yw'r rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer gweithgarwch elusennol. Mae hon yn un o gyfres o adroddiadau sy'n defnyddio'r ymchwil annibynnol a gomisiynwyd gennym, yn ogystal â'n data mewnol, ein gwybodaeth a'n profiad ein hunain o gydweithio ag elusennau.
Diben yr adroddiadau hyn yw helpu i gynyddu dealltwriaeth o bwnc arbennig. Maent yn rhan o'n cenhadaeth i helpu elusennau i gael yr effaith fwyaf posibl a chydymffurfio â'u rhwymedigaethau cyfreithiol, annog arloesi o fewn y sector elusennol a gwella effeithiolrwydd.
Gallwch weld fersiwn PDF lliw hefyd o Mewn undod mae nerth (RS24)
Cynnwys
Rhagair
Mae elusennau wedi cael eu cysylltu ers amser maith â chydymdrechion i wella bywydau pobl eraill neu sicrhau newid cymdeithasol, gan ysbrydoli miliynau o bobl i roi eu hamser a'u harian i'r achosion a gefnogant.
Mae nifer o elusennau'n cydnabod bod pŵer cydweithio yn ymestyn y tu hwnt i sefydliadau unigol, ac mae rhai o'r elusennau mwyaf adnabyddus ar Gofrestr y Comisiwn Elusennau yn gweithio gyda'i gilydd i gael canlyniadau gwell, lleihau dyblygu a thorri costau. Ond hyd yma, nid oedd llawer o ymchwil ar gael ar lefelau cydweithio ymysg elusennau gydag incwm blynyddol o £250,000 neu lai - neu yn wir ar y gwahaniaeth y gall gweithio ar y cyd ei wneud i elusennau llai.
Mae'r adroddiad hwn yn cynnig gwybodaeth newydd, werthfawr ar batrymau cydweithio ymysg elusennau llai ac mae'n dangos bod y mwyafrif helaeth (82%) o elusennau sydd â phrofiad o gydweithio yn dweud bod y profiad hwnnw wedi bod yn un llwyddiannus. Gall y profiad cadarnhaol hwn esbonio'r lefelau uchel o weithio ar y cyd ymysg elusennau llai. Dywedodd bron hanner y rhai a gafodd eu holi eu bod nhw wedi cydweithio mewn rhyw ffordd neu'i gilydd yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, boed yn anffurfiol, megis cyfnewid syniadau a gwybodaeth, neu drwy drefniadau cytundebol mwy ffurfiol.
Fodd bynnag, o'r elusennau oedd heb gydweithio, dywedodd bron un rhan o dair mai'r rheswm am hyn oedd oherwydd nad oedd unrhyw bartner posibl wedi cysylltu â nhw. Awgryma hyn y gall fod mwy o angen i ymddiriedolwyr fynd ati'n fwriadol i chwilio am gyfleoedd cydweithio ac ehangu rhwydweithiau cysylltiadau a phartneriaid eu helusennau nhw o fewn y sector.
Rydym yn arbennig o falch i weld bod cydweithio yn cael effaith uniongyrchol ar y gwasanaethau y mae elusennau'n eu darparu i'w buddiolwyr. Dywed bron hanner yr elusennau fod cydweithio ag elusen arall wedi eu helpu i gynnal, datblygu neu wella eu gwasanaethau, a dywed ychydig llai nag un rhan o dair fod gweithio ar y cyd wedi eu helpu i gyrraedd nifer fwy o fuddiolwyr. Mae darparu'r gwasanaeth gorau posibl i fuddiolwyr yn un o brif ddyletswyddau ymddiriedolwyr ac mae'r adroddiad hwn yn dangos y gall gweithio ar y cyd wneud gwahaniaeth mawr i allu elusennau i gyflawni eu hamcanion.
Wrth i elusennau wynebu cyfnod o her ariannol fawr, o ganlyniad i'r dirywiad economaidd a'r toriadau diweddar mewn gwariant cyhoeddus, mae hefyd yn braf gweld bod mwy na chwarter (28%) o elusennau'n dweud bod cydweithio ag elusen arall wedi arbed costau iddynt.
Felly anogwn ymddiriedolwyr i astudio'r casgliadau a'r cyngor sy'n deillio o'r adroddiad hwn. Rydym yn argyhoeddedig y bydd y rhan fwyaf o ymddiriedolwyr yn cael syniadau newydd sy'n dangos sut y gall eu helusen elwa drwy gydweithio - a chydag ymrwymiad o'r newydd i gydweithio a chydweithredu.
| Y Fonesig Suzi Leather |
Cadeirydd |
| Sam Younger |
Prif Weithredwr |
Cyflwyniad
Roedd y gwaith ymchwil hwn wedi archwilio i ba raddau y mae elusennau bach yn cydweithio, eu profiadau o gydweithio a gweithio mewn partneriaeth ag elusennau eraill, a'r anghenion cymorth y teimlant sy'n deillio o'r gweithgarwch hwn.
Ein diffiniad o 'elusen fach' at ddibenion yr ymchwil oedd yr elusennau hynny gydag incwm blynyddol o £250,000 neu lai.
Y Comisiwn Elusennau yn hybu cydweithio
Fel rheoleiddiwr elusennau yng Nghymru a Lloegr, mae'r Comisiwn yn hyrwyddo'r defnydd effeithiol o adnoddau elusennau. Un ffordd y gall elusennau gynyddu eu heffeithiolrwydd yw trwy weithio mewn partneriaeth neu 'gydweithio' ag elusennau eraill. Mae ein diffiniad o gydweithio fel a ganlyn:
Mae cydweithio yn disgrifio dau sefydliad neu ragor sy'n gweithio ar y cyd er mwyn cyflawni eu dibenion yn well, tra eu bod yn parhau'n sefydliadau ar wahân.1
Gall cydweithio gyfeirio at unrhyw agwedd ar weithgareddau elusennau, gan gynnwys gweinyddiaeth, codi arian, defnyddio adnoddau, ymgyrchu a darparu gwasanaeth. Gall elusennau gydweithio mewn amryw o ffyrdd, yn amrywio o gytundebau anffurfiol iawn i gontractau ar raddfa fawr; gall y trefniadau bara am gyfnod penodol neu fod yn barhaol. Cred y Comisiwn y gall cydweithio, os caiff ei gyflawni'n briodol, arwain at wella effeithiolrwydd sefydliadau, lleihau dyblygu a sicrhau'r defnydd gwell o adnoddau - ac mae'r cyfan yn galluogi'r elusen i wasanaethu ei buddiolwyr yn well. I grynhoi, felly, polisi'r Comisiwn ar gydweithio yw annog elusennau i ystyried yn gyson ac yn greadigol beth arall y gallant ei gyflawni i'w buddiolwyr drwy weithio gydag eraill.2
Rydym yn mawr obeithio y bydd casgliadau'r ymchwil hon yn annog mwy o elusennau bach i gydweithio ag elusennau eraill, a thrwy wneud hynny y byddant yn fwy effeithiol byth yn eu gwaith.
Yr angen am yr ymchwil: pam cynnal arolwg o elusennau bach a'u gweithgarwch cydweithio?
Er bod cydweithio yn rhywbeth y byddai pob elusen efallai yn hoffi ei ystyried a'i archwilio, waeth beth fo'i maint, mae elusennau bach yn wynebu rhai heriau sy'n golygu bod cydweithio yn arbennig o berthnasol iddyn nhw:
- Bydd elusennau bach yn dibynnu'n aml ar ddyrnaid o staff ymroddedig neu wirfoddolwyr i ymgymryd â'r rhan fwyaf o'u gwaith - ac maent yn tueddu i fod mewn sefyllfa fregus os yw'r unigolion allweddol hynny yn gadael.3
- Mae sefydliadau elusennol llai yn llawer mwy tebygol nag elusennau mwy i ddweud bod lefelau isel o aelodau sy'n talu neu wirfoddolwyr yn cyfyngu ar eu gweithgareddau.4
- Mae bychander yn cael ei gysylltu'n aml â bod yn fwy agored i bwysau allanol, pwysau ariannol yn fwyaf arbennig. Gall sefydliadau bach hefyd ddioddef mwy o newid sydyn yn eu hincwm na sefydliadau canolig a mwy, a gall hyn greu ansefydlogrwydd ac ansicrwydd.5
- Mae diffyg gwybodaeth arbenigol ac arbenigedd yn broblem gyffredin i elusennau bach, a hefyd prinder adnoddau i dalu am gyfleusterau, adeiladau, cludiant ac offer (mae'r pwynt olaf hwn yn arbennig o berthnasol yn yr hinsawdd ariannol sydd ohoni).
Gall yr heriau 'cysylltiedig â maint' hyn esbonio i ryw raddau pam y bydd elusennau bach yn cydweithio llai nag elusennau mwy. Roedd ein hadroddiad ymchwil cynharach, Cydweithio a Chyfuniadau (2003) wedi dangos mai dim ond 15% o elusennau gydag incwm o lai na £10,000 oedd yn dweud eu bod yn cydweithio ag elusennau eraill, o'i gymharu â 39% o elusennau gydag incwm o fwy na £1 miliwn.
Mae sawl rheswm pam y gallai elusennau bach gydweithio llai nag elusennau mwy - efallai eu bod nhw'n gweithio mewn ardal ddaearyddol fach iawn lle nad yw unrhyw elusennau eraill yn bresennol, neu efallai eu bod nhw'n cynnig gwasanaethau arbenigol iawn ac felly nid yw cydweithio yn briodol neu hyd yn oed yn bosibl. Ar y llaw arall, efallai fod elusennau bach am ddatblygu perthynas â sefydliadau eraill ond nid oes ganddynt yr amser neu'r adnoddau i gael hyd i bartneriaid addas a meithrin perthynas â nhw.
Methodoleg ymchwil
Comisiynwyd yr asiantaeth ymchwil, GfK NOP gan y Comisiwn Elusennau i ymgymryd â'r gwaith ymchwil hwn. Cynhaliwyd deg cyfweliad ansoddol i gychwyn gydag amrywiaeth o arbenigwyr sector ac elusennau (y cyfeirir atynt fel y 'y rhai sy'n cael eu cyfweld' drwy'r adroddiad hwn) i sefydlu'r prif themâu a phroblemau sy'n wynebu elusennau bach yn achos cydweithio. Roedd hyn wedi llywio'r gwaith o ddatblygu holiadur yr arolwg a gafodd ei ddosbarthu i 10,000 o elusennau bach ym Mawrth ac Ebrill 2010 gyda'r nod o sicrhau cyfradd ymateb 25%; cyfradd a gafodd ei chyflawni.
Er nad oes un diffiniad, pendant o 'elusen fach', roedd yr ymchwil wedi canolbwyntio ar elusennau gydag incwm blynyddol o hyd at £250,000. Er mai diben cyffredinol yr ymchwil oedd archwilio profiadau elusennau bach, roeddem yn awyddus nid yn unig i wneud cymhariaeth ar draws bandiau incwm gwahanol, ond hefyd i ystyried dylanwad ffactorau megis nifer y staff cyflogedig a gwirfoddolwyr. Felly, er mwyn dal amryw o brofiadau gwahanol, penderfynwyd gosod y trothwy yn eithaf uchel. Mae gan 147,000 o elusennau incwm o £250,000 neu lai yng Nghymru a Lloegr - hynny yw, 91% o'r holl elusennau. Mae cyfanswm eu hincwm blynyddol bron £4 biliwn.6
Mae'r rhan fwyaf o'r dadansoddiad yn yr adroddiad hwn yn seiliedig ar y casgliadau o'r holiaduron a oedd wedi gofyn i elusennau am eu barn, canfyddiadau a phrofiadau o gydweithio. Lle y bo'n briodol, caiff ei ategu gan gasgliadau o'r cyfweliadau ansoddol cychwynnol. Ceir manylion llawn am y fethodoleg ymchwil yn Atodiad A.
Prif gasgliadau
Graddfa cydweithio
Dywedodd bron hanner (45%) yr elusennau bach a arolygwyd eu bod wedi cydweithio ag o leiaf un elusen arall yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf; o'r rhain, roedd tri chwarter (73%) yn cydweithio adeg cynnal yr arolwg.
Sicrhau cydweithio llwyddiannus
Teimlai 82% o'r elusennau oedd yn cydweithio eu bod nhw wedi cael profiad cydweithio llwyddiannus; teimlai 29% eu bod nhw wedi cael profiad llwyddiannus dros ben. Dywedodd 5% na fu'r profiad yn un llwyddiannus.
Y prif ffactorau oedd wedi cyfrannu at lwyddiant oedd:
- ansawdd y berthynas bresennol â'u helusen bartner (55%); a
- nodau, gwerthoedd a chenhadaeth gytûn y sefydliadau (52%).
Arweinyddiaeth, cynllunio neu gyfathrebu gwael (29%) gafodd eu nodi yn fwyaf aml fel y rheswm pam na fu trefniadau cydweithio penodol yn llwyddiannus.
Math o weithgarwch cydweithio
Roedd 35% o'r elusennau bach a arolygwyd wedi rhannu gwybodaeth neu adnoddau ac roedd 32% wedi gweithio ar y cyd. Y math o gydweithio mwyaf cyffredin oedd rhannu syniadau a gwybodaeth yn anffurfiol (27%) ac yna digwyddiadau neu weithgareddau codi arian ar y cyd (15%) a rhannu offer (11%).
Natur y cydweithio
Cafodd partneriaethau eu ffurfio'n bennaf naill ai gydag elusennau o faint tebyg (51%) neu gydag elusennau mwy (39%), ac oherwydd bod gan yr elusennau hanes o weithio gyda'i gilydd (60%); roedd nifer fach (llai na 5%) wedi defnyddio gwasanaeth broceriaeth.
Roedd y mwyafrif o elusennau sy'n cydweithio wedi gwneud trefniadau cydweithio anffurfiol yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf (83%); dim ond chwarter (26%) oedd wedi llunio cytundebau ffurfiol. Roedd elusennau sy'n cydweithio gydag incwm o fwy na £100,000 yn fwy tebygol o gael cytundebau ffurfiol (40%). Ceisiadau ar y cyd am gyllid, darparu gwasanaeth ar y cyd neu rannu lle gwaith neu staff oedd y mathau mwyaf cyffredin o gydweithio ffurfiol.
Proffil o'r elusennau sy'n cydweithio
Roedd gan yr elusennau oedd yn fwyaf tebygol o ddweud eu bod nhw wedi cydweithio yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf un neu ragor o'r nodweddion canlynol:
- roeddent yn fwy o ran incwm a nifer y staff;
- roeddent yn iau o ran y cyfnod y buont yn gweithredu;
- roeddent rhan o ffederasiwn / strwythur mwy;
- roedd staff cyflogedig ganddynt;
- roeddent yn derbyn incwm statudol;
- roeddent wedi'u lleoli yn Llundain, Gogledd Lloegr a Chymru; ac
- roedd eu hardal gweithredu yn ymestyn y tu hwnt i'r DU a Gweriniaeth Iwerddon (fel arall, nid oedd gan yr ardal gweithredu unrhyw ddylanwad / ychydig yn unig o ddylanwad ar eu tueddiad i gydweithio, ond y rhai sy'n gweithio mewn ardaloedd gwledig yn unig oedd y lleiaf tebygol o gydweithio).
Cymhellion i gydweithio
Roedd yr elusennau a ddywedodd eu bod nhw wedi wynebu heriau arbennig dros y ddwy flynedd ddiwethaf yn fwy tebygol o gydweithio. Yn arbennig, roedd mwy o achosion o gydweithio ymysg yr elusennau hynny oedd wedi wynebu problemau gyda thwf sefydliadol (75%), cynnydd yn y galw am wasanaeth (73%) a phroblemau gweithredol (71%). Nid oedd heriau cyllid yn ffactorau oedd â chysylltiad agos â lefelau uchel o weithgarwch cydweithio.
Roedd cydweddu yn fwy o gymhelliant i gydweithio na chyllid. Roedd elusennau yn fwy tebygol o gydweithio os oedd partneriaid elusen ar gael gyda nodau, gwerthoedd a chenhadaeth sefydliadol tebyg, neu bartneriaid elusen oedd yn gweithredu yn yr un ardal leol, neu a oedd angen cymorth (roedd 67% o'r elusennau a arolygwyd wedi nodi un o'r ffactorau hyn fel cymhelliad). Roedd y rhain yn gymhellion mwy cyffredin na'r angen i wella effeithiolrwydd sefydliadol (58%) neu am resymau ariannol (44%).
Manteision cydweithio
Dywedodd y rhan fwyaf o elusennau eu bod nhw wedi gwireddu amcanion eu gweithgareddau cydweithio. Dywedodd y mwyafrif o elusennau sy'n cydweithio (84%) fod cydweithio wedi dod â manteision iddynt, gyda dim ond 1% yn honni eu bod heb gael unrhyw fudd o gwbl. Prif fanteision cydweithio oedd cynnal neu wella gwasanaethau (43%) a gwella enw da (39%). Roedd ychydig llai nag un rhan o dair o elusennau wedi nodi gostyngiad mewn costau fel budd (28%).
Rhwystrau i gydweithio a'r anawsterau a gafwyd
Roedd yr elusennau hynny oedd heb gydweithio yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf wedi nodi'r rhesymau canlynol dros beidio â chydweithio:
- ni fu unrhyw angen iddynt wneud hynny, neu ni chawsant eu hargyhoeddi o fanteision cydweithio (46%);
- nid oedd unrhyw bartneriaid elusen priodol ganddynt (34%); ac
- nid oedd unrhyw elusen arall a oedd â diddordeb mewn cydweithio wedi cysylltu â nhw (30%).
Roedd un rhan o dair o'r elusennau hynny oedd wedi cydweithio yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf wedi cael anawsterau gyda'u trefniadau cydweithio; yr anawsterau mwyaf cyffredin oedd:
- diffyg cyllid, adnoddau neu arbenigedd (16%); a
- gwahaniaeth mewn personoliaethau neu ddiwylliannau gweithio (16%).
Y math o weithgarwch cydweithio lle y cafwyd anawsterau yn fwyaf aml oedd y rhai oedd yn cynnwys:
- gwneud cais ar y cyd am gontractau (68%);
- ceisiadau am gyllid (61%);
- trafodaethau i osgoi dyblygu gwasanaeth (59%); a
- rhannu gwybodaeth neu syniadau yn ffurfiol (56%).
Roedd y mwyafrif o'r rhai a gafodd anawsterau wedi cymryd camau i'w hatal neu eu datrys (75%), yn bennaf drwy:
- gynnal trafodaethau bwrdd (27%);
- monitro a gwerthuso'r gweithgarwch cydweithio (23%);
- cysylltu â sefydliadau cymorth / mantell (21%);
- sefydlu cynlluniau a chytundebau clir, ysgrifenedig (19%).
Gwybodaeth, cymorth a chyngor
Roedd 35% o'r elusennau sy'n cydweithio wedi ceisio gwybodaeth, cyngor neu gymorth ynghylch cydweithio dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Y prif ffynonellau a ddefnyddiwyd oedd y Comisiwn Elusennau a sefydliadau cymorth lleol. Gofynnwyd am wybodaeth a chyngor ar agweddau cyfreithiol ar gydweithio yn bennaf, cymorth ar gyllid, rheoli newid sefydliadol yn ogystal â chynllunio a pharatoi ar gyfer cydweithio.
Fodd bynnag, nid oedd cyfran arwyddocaol o'r elusennau hyn a gafodd anawsterau gyda'u gweithgarwch cydweithio wedi ceisio cyngor neu gymorth ar gyfer yr anawsterau penodol hynny (67%).
Teimlai 65% o elusennau sy'n cydweithio a 35% o elusennau sydd heb gydweithio y byddai angen cymorth arnynt yn y dyfodol er mwyn gwella, neu gychwyn cydweithio. Roedd yr elusennau sy'n cydweithio yn nodi bod angen cael mynediad at gyllid a gwybodaeth, cyngor a chanllawiau, ond roedd sefydliadau sydd heb gydweithio yn nodi gwybodaeth, cyngor a chanllawiau fel y cymorth yr oedd yr angen pwysicaf amdano.
Agweddau cyffredinol tuag at gydweithio
Roedd y mwyafrif o elusennau sy'n cydweithio yn teimlo'n gadarnhaol am gydweithio: roedd 77% yn cefnogi'r syniad ac roedd 58% yn teimlo ei bod yn gwneud synnwyr i'w helusen.
Yn ôl y disgwyl, roedd elusennau sydd heb gydweithio yn llai brwdfrydig - dim ond 16% oedd yn cefnogi'r syniad a dim ond 8% oedd yn teimlo ei fod yn gwneud synnwyr i'w helusen nhw. Fodd bynnag, roedd rhai rhannau o'r boblogaeth elusennau sydd heb gydweithio a oedd fel petaent yn fwy cadarnhaol ynghylch cydweithio. Daw'r casgliad hwn o'r ffaith eu bod yn fwy tebygol o adnabod yr anghenion cymorth y byddai eu hangen arnynt pe byddent yn mynd ati i gydweithio yn y dyfodol. Roedd yr elusennau hyn yn tueddu i fod yn elusennau iau, eithaf mawr oedd heb ymwybyddiaeth a gwybodaeth am gydweithio.
Dadansoddiad a chasgliadau
Pan fydd elusennau bach yn cydweithio, bydd yn gweithio'n dda fel arfer. Mae'n galonogol iawn gwybod bod y mwyafrif helaeth o elusennau a arolygwyd, oedd wedi cydweithio yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, yn teimlo bod cydweithio wedi gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i'w helusen - naill ai drwy wella gwasanaethau, gwella enw da neu leihau costau. Mae'n amlwg bod elusennau bach yn credu y gall cydweithio gael effaith fawr ar wasanaethau rheng-flaen a'u galluogi i gyflawni eu hamcanion yn well. Mae'n ymddangos y gall rhai mathau o weithgarwch cydweithio hefyd fod yn fwy cyffredin ymysg elusennau bach. Drwy gymharu canlyniadau'r arolwg hwn ag ymchwil blaenorol y Comisiwn a wnaed yn 20037, gellir gweld cynnydd yn nifer yr elusennau bach sy'n cydweithio i godi arian a darparu gwasanaethau. Fodd bynnag, mae angen gwneud mwy o waith i ddarbwyllo'r elusennau bach hynny sy'n parhau i fod yn ansicr ynghylch y cyfleoedd sydd ar gael iddynt, yn ogystal â'r manteision posibl a ddaw drwy gydweithio.
Mae cydweithio llwyddiannus yn dibynnu ar sawl cynhwysyn allweddol. Yn ôl canlyniadau'r arolwg, mae mentrau cydweithio llwyddiannus wedi'u seilio ar berthnasoedd cryf a nodau a gwerthoedd sefydliadol cyffredin. Mae arweinyddiaeth, cynllunio a chyfathrebu effeithiol hefyd yn hanfodol er mwyn i gydweithio lwyddo.
O ran rheoli risg, mae'n ymddangos bod elusennau bach yn dal y fantol yn dda. Mae'r achosion niferus o weithio mewn partneriaeth anffurfiol yn awgrymu bod elusennau bach yn mabwysiadu ymagwedd hyblyg, agored a blaengar tuag at weithio gydag eraill yn gyffredinol. Fodd bynnag, mae'n galonogol gweld yn achos gweithgarwch cydweithio mwy cymhleth neu risg uchel, er enghraifft, darparu gwasanaeth ar y cyd neu rannu swyddogaethau cefn swyddfa, bod elusennau bach yn fwy tebygol o gael y trefniadau ffurfiol angenrheidiol, megis cytundeb ysgrifenedig neu gontract.
Mae lleiafrif o elusennau bach yn cael anawsterau gyda'u mentrau cydweithio. Roedd un rhan o dair o'r elusennau sy'n cydweithio wedi wynebu anawsterau o ryw fath ond, yn galonogol, roedd y mwyafrif o'r sefydliadau hyn wedi cymryd camau synhwyrol i'w datrys. Mae'r casgliadau'n dangos bod llywodraethu cryf, prosesau effeithiol ar gyfer monitro a gwerthuso, a defnyddio cymorth allanol er mwyn i elusennau allu goresgyn heriau pan fydd cydweithio'n eu harwain at anawsterau.
Gall gwneud cais ar y cyd am gontractau greu problemau arbennig. Mae'n ddiddorol nodi mai'r gweithgarwch cydweithio hwn oedd yn fwyaf tebygol o fynd i drafferthion; hwn hefyd oedd y gweithgaredd nad oedd yn arbennig o gyffredin ymysg elusennau bach. Felly wrth ystyried gwneud cais ar y cyd am gontractau, mae'n bwysig bod rheolwyr ac ymddiriedolwyr yn cymryd camau i leihau'r anawsterau posibl drwy gynllunio gofalus, a thrwy sicrhau eu bod yn hollol ymwybodol o'r risgiau a'r rhwymedigaethau. Mae hefyd yn hanfodol bod yr elusen yn y cyfnod cywir yn ei datblygiad er mwyn rheoli cais ar y cyd yn llwyddiannus ac, os yw'n llwyddiannus, darparu'r prosiect neu'r fenter arfaethedig.
Gall elusennau bach elwa drwy fabwysiadu dull mwy rhagweithiol. Mae casgliadau'r arolwg yn awgrymu y gall elusennau bach helpu eu hunain mewn amryw o ffyrdd yn achos cydweithio:
- Pan ofynnwyd iddynt pam nad oeddent yn cydweithio, roedd elusennau oedd heb gydweithio yn aml yn honni nad oedd unrhyw elusen erioed wedi cysylltu â nhw neu fod diffyg partneriaid priodol. Mae hyn yn awgrymu y byddai'r rhan fwyaf o elusennau bach yn elwa o chwilio am bartneriaid addas eu hunain yn hytrach nag ymateb i gyfleoedd wrth iddynt godi.
- Po fwyaf yr oedd incwm yr elusen, y mwyaf tebygol yr oedd o gydweithio. Nid yw hyn yn syndod efallai gan fod twf sefydliadol yn aml yn creu cyfleodd ar gyfer cydweithio. Gan fod manteision cydweithio yn cael eu cydnabod gan bob elusen, waeth beth fo'i maint neu'i hincwm, mae'n amlwg bod mwy o le i elusennau gydag incwm is i wneud defnydd llawn o'r cymorth a'r wybodaeth sydd ar gael ar gyfleoedd cydweithio ac, yn eu tro, i ddarparwyr y cymorth a'r wybodaeth hon dargedu'r elusennau hyn.
- Er bod rhai mathau o gydweithio, er enghraifft, rhannu staff neu swyddogaethau cefn swyddfa, yn eithaf anghyffredin, maent yn enghreifftiau pwysig o'r amrywiaeth o fathau o gydweithio, a gall ysgogi elusennau bach eraill i ddilyn y trefn debyg yn y meysydd hyn.
- Pan ofynnwyd iddynt yn uniongyrchol am eu hanghenion, roedd angen gwybodaeth, cyngor a chanllawiau yn bennaf ar elusennau bach. Yn fwy penodol, mae casgliadau'r arolwg yn awgrymu bod angen cymorth ar elusennau bach i gael mynediad at gyllid ar gyfer cydweithio, goresgyn cymhlethdodau cyfreithiol a rheoli newid sefydliadol yn ogystal â gwrthdaro personoliaeth rhwng staff ac ymddiriedolwyr. Yn yr hinsawdd ariannol sydd ohoni, gall cael mynediad at gyllid ar gyfer cydweithio fod yn broblem, ond gall sicrhau cyllid o'r fath greu manteision hirdymor i'r elusen ac i'w gwaith.
Casgliadau manwl
1.0 Yr heriau y mae elusennau bach yn eu hwynebu
- Roedd 54% o'r elusennau a arolygwyd wedi wynebu heriau o ran cynnal eu llif incwm dros y ddwy flynedd ddiwethaf.
- Roedd 32% yn dweud bod recriwtio staff yn her iddynt.
- Roedd 28% wedi wynebu cynnydd mewn costau.
Roedd yr ymgynghoriad ansoddol cychwynnol a'r arolwg meintiol wedi archwilio'r heriau a wynebir gan elusennau bach er mwyn deall sut y gallant fod wedi dylanwadu ar weithgarwch cydweithio.
Cyn y prif gwestiynau ar gydweithio, gofynnwyd i'r ymatebwyr pa heriau arbennig roeddent wedi'u hwynebu dros y ddwy flynedd flaenorol. Roedd ychydig dros dri chwarter (77%) wedi dweud eu bod nhw wedi wynebu heriau. Fel y dengys yn Siart 1, roedd ymatebwyr wedi wynebu sialensiau yn ymwneud â llif incwm yn bennaf (54%), recriwtio staff (32%) a chynnydd mewn costau (28%).
Teimlai 22% o ymatebwyr fod hybu eu sefydliad yn her iddynt. Roedd rhai o'r unigolion a gafodd eu cyfweld wedi nodi hyn fel problem hefyd; teimlid y gallai rhai elusennau bach ei chael hi'n anodd i gynnal eu proffil, ac felly eu cyllid, yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni - yn rhannol oherwydd cystadleuaeth gan elusennau mwy sydd â mwy o adnoddau.
Siart 1: Yr heriau roedd elusennau wedi'u hwynebu dros y ddwy flynedd ddiwethaf
Gweld y ddelwedd fel testun
(Sail = pob ymatebwr: 2,515)
Yr elusennau mwyaf (y rhai gydag incwm rhwng £100K a £250K) oedd yn fwyaf tebygol o fod wedi wynebu heriau dros y ddwy flynedd ddiwethaf (94%), yn enwedig o ran cynnal llif incwm (80%). I'r gwrthwyneb, yr elusennau lleiaf (gydag incwm hyd at £5K) oedd yn lleiaf tebygol o fod wedi wynebu heriau (65%).
2.0 Graddfa, math a natur trefniadau cydweithio elusennau bach
- Dywedodd 45% o'r elusennau bach a arolygwyd eu bod nhw wedi cydweithio ag o leiaf un elusen arall yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf.
- Roedd 35% o'r holl ymatebwyr wedi rhannu gwybodaeth neu adnoddau ag elusen neu elusennau eraill; roedd 32% wedi gweithio ar y cyd.
- Roedd y mwyafrif o'r trefniadau cydweithio (83%) wedi bod yn anffurfiol (h.y. heb gynnwys cytundebau ysgrifenedig).
Gofynnwyd i ymatebwyr a oeddent wedi cydweithio ag elusennau eraill yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf ac, os oeddent, pa fath o gydweithio oedd hynny. Dengys y casgliadau yn Siart 2.
At ei gilydd, roedd 45% o'r elusennau bach a arolygwyd wedi ymgymryd â rhyw fath o weithgarwch cydweithio.
Siart 2: Math o gydweithio roedd elusennau'n ymwneud ag ef
Gweld y ddelwedd fel testun
(Sail = pob ymatebwr: 2,515)
Gellir rhannu'r amrywiaeth o weithgarwch cydweithio y gallai elusennau ymwneud ag ef (fel y manylir yn Siart 2 uchod) yn ddau brif fath: rhannu adnoddau (ee cyfleusterau, staff neu offer) a gweithio ar y cyd (ee codi arian, gwasanaethau neu ymgyrchoedd). Drwy grwpio ymatebion yn y ddau gategori hyn, gwelwyd bod elusennau ychydig yn fwy tebygol o rannu adnoddau (35%) nag yr oeddent o weithio ar y cyd (32%). Fodd bynnag, fel arfer y prif weithgareddau unigol oedd rhannu syniadau, arbenigedd neu wybodaeth yn anffurfiol (27%) a gweithgareddau codi arian ar y cyd (15%).
Dywedodd y rhan fwyaf o'r elusennau sy'n cydweithio bod ganddynt drefniadau cydweithio anffurfiol (83%), a dim ond chwarter (26%) oedd â threfniadau ffurfiol (h.y. cytundebau ysgrifenedig). Yr elusennau mwyaf (gydag incwm yn y band £100-250K) oedd yn fwyaf tebygol o gael trefniadau ffurfiol (40% ohonynt, o'i gymharu â llai na 29% o elusennau gydag incwm o lai na £100K). Roedd y trefniadau ffurfiol hyn yn fwy tebygol na'r rhai anffurfiol o ymwneud â gwasanaethau ar y cyd i fuddiolwyr, ceisiadau neu gynnig ar y cyd am gyllid a rhannu swyddogaethau cefn swyddfa, lle gwaith neu staff.
Mae'r casgliadau'n dangos bod hyd a lled cydweithio anffurfiol ymysg elusennau bach yn weddol uchel. Mae hyn yn adlewyrchu'r farn a fynegwyd gan rai unigolion a gafodd eu cyfweld a deimlai y gallai cydweithio fynd rhagddo'n 'anweledig'.
"Byddwn i'n amau bod rhyw fath o gydweithio anffurfiol yn digwydd, ond dim llawer o gwbl ar lefel fwy ffurfiol." - Unigolyn a gafodd ei gyfweld
Astudiaeth achos: rhannu neuadd bentref
Mae elusen fach yn Ne-orllewin Lloegr yn cynnal neuadd bentref sy'n cael ei defnyddio fel lleoliad gan y gymuned leol ar gyfer digwyddiadau, gweithgareddau grŵp a dosbarthiadau addysg oedolion. Gydag incwm blynyddol o dim ond £5,000, mae sicrhau incwm rheolaidd yn anodd. Er gwaethaf ei chronfeydd gweddol fach, fodd bynnag, mae'r elusen yn uchelgeisiol ac yn bwriadu datblygu'r gwasanaethau y mae'n eu cynnig i'r gymuned. I'w helpu i gyflawni'r nod hwn, mae'r elusen wedi creu sawl perthynas anffurfiol â sefydliadau elusennol lleol bach eraill. Mae'r unigolion dan sylw yn adnabod ei gilydd yn dda ac yn aml iawn dim ond galwad ffôn syml sydd ei angen i gychwyn menter ar y cyd o ryw fath.
Mae'r neuadd bentref ar gael i sefydliadau lleol ar gyfer cyfarfodydd, digwyddiadau codi arian a sesiynau gwybodaeth ar reoli a llywodraethu elusennau. Yn gyfnewid am hyn, mae'r elusennau hyn yn rhoi'r gair ar led bod y neuadd ar gael i'w hurio, gan helpu i ddenu pobl i'w defnyddio ac arian ychwanegol. Drwy gydweithio â'i gilydd mae'r elusennau lleol hyn yn gallu cefnogi ei gilydd yn eu nod gyffredin, sef gwasanaethau'r gymuned leol.
|
Graddfa cydweithio presennol
Dywedodd tri chwarter (73%) o'r elusennau a oedd wedi cydweithio yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf (cyfanswm o 1,134 o elusennau) eu bod nhw'n cydweithio ar hyn o bryd. Unwaith eto, roedd yr elusennau mwy yn fwy tebygol o wneud hynny (er enghraifft, roedd 84% o'r rhai gydag incwm yn y band £100-250K yn cydweithio ar hyn o bryd, o'i gymharu â 68% o'r rhai gydag incwm o dan £5K).
3.0 Proffil o'r elusennau bach sy'n cydweithio
Roedd yr elusennau hynny oedd wedi cydweithio yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf yn fwy tebygol o fod yn:
- elusennau mwy, ond iau;
- elusennau gydag aelodau staff cyflogedig;
- elusennau gydag ardal gweithredu sy'n ymestyn y tu hwnt i'r DU a Gweriniaeth Iwerddon;
- elusennau y mae eu hardal gweithredu yn cynnwys ardaloedd trefol, o'i gyferbynnu ag ardaloedd gwledig yn unig; ac
- elusennau sy'n derbyn incwm statudol.
3.1 Lefel incwm a math o incwm
Dengys Siart 3 po fwyaf oedd incwm yr elusen, y mwyaf tebygol yr oedd o gydweithio; roedd tri chwarter o'r elusennau gydag incwm yn y band incwm £100-250K wedi cydweithio yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, o'i gymharu â dim ond un rhan o dair (34%) o'r elusennau gydag incwm blynyddol o lai na £5K.
Siart 3: Cyfrannau'r elusennau oedd wedi cydweithio, yn ôl incwm
Gweld y ddelwedd fel testun
(Seiliau: 0-5K: Heb ei bwysoli 757, Wedi'i bwysoli 934; 5-10K: Heb ei bwysoli 471, Wedi'i bwysoli 426; 10-25K: Heb ei bwysoli 490, Wedi'i bwysoli 438; 25-100K: Heb ei bwysoli 545, Wedi'i bwysoli 503; 100-250K: Heb ei bwysoli 252, Wedi'i bwysoli 214)
Roedd y gweithgareddau cydweithio yr oedd elusennau mwy yn fwyaf tebygol o ymgymryd â nhw (h.y. elusennau gyda lefel incwm lefel o £100-250K) fel a ganlyn:
- rhannu gwybodaeth a syniadau yn anffurfiol (56% o elusennau gyda mwy na £100K, o'i gymharu ag 24% o elusennau eraill);
- gwasanaethau ar y cyd i fuddiolwyr elusen (26% o elusennau gyda mwy na £100K, o'i gymharu â 8% o elusennau eraill);
- rhannu lle gwaith, cyfleusterau neu dir (25% o elusennau gyda mwy na £100K, o'i gymharu â 9% o elusennau eraill);
- ceisiadau ar y cyd neu gonsortiwm am gyllid (23% o elusennau gyda mwy na £100K, o'i gymharu â 3% o elusennau eraill); a
- digwyddiadau hyfforddi ar y cyd i staff (23% o elusennau gyda mwy na £100K, o'i gymharu â 5% o elusennau eraill).
Gwnaethpwyd dadansoddiad o ffynonellau incwm elusennau hefyd a pha mor debygol yr oeddynt o gydweithio8. Cafodd y ffynonellau incwm amrywiol eu grwpio yn dri chategori: 'incwm statudol', 'incwm a enillwyd' ac 'incwm arall' (h.y. rhoddion, cymynroddion, grantiau gan sefydliadau/ymddiriedolaethau a chyllid gan gwmnïau preifat). Gwelwyd bod elusennau sy'n derbyn o leiaf peth o'u hincwm o ffynonellau statudol yn fwy tebygol o gydweithio (64%), wedi'i ddilyn gan y rhai sy'n derbyn incwm o 'ffynonellau eraill' (50%). Y rhai oedd yn derbyn 'incwm a enillwyd' oedd y lleiaf tebygol o gydweithio (46%).
Hefyd edrychwyd ar brif9 ffynhonnell incwm yr elusennau o ran eu tuedd i gydweithio. Gwelwyd mai'r elusennau sy'n derbyn eu prif incwm o'r ffynonellau penodol canlynol oedd yn fwyaf tebygol o fod wedi cydweithio dros y ddwy flynedd ddiwethaf:
- incwm o gyflenwi contractau sector cyhoeddus (roedd 85% wedi cydweithio);
- incwm a enillwyd o fasnachu (70%);
- incwm a enillwyd o ddarparu gwasanaethau (64%);
- grantiau gan ymddiriedolaethau (64%); ac
- incwm statudol o grantiau (61%).
Elusennau sy'n derbyn eu prif incwm o'r ffynonellau canlynol oedd y lleiaf tebygol o fod wedi cydweithio:
- incwm a enillwyd o fuddsoddiadau (18%);
- grantiau o gymynroddion (34%); ac
- incwm a enillwyd o rentu/hurio (42%).
3.2 Nifer y gweithwyr a'r gwirfoddolwyr
Roedd graddfa cydweithredu yn cyfateb ag incwm a hefyd gyda maint o ran nifer y staff/ gwirfoddolwyr a oedd gan yr elusen. Roedd elusennau oedd ag o leiaf 50 staff/gwirfoddolwr yn fwy tebygol o fod wedi cydweithio (74% ohonynt), ond elusennau gyda llai na 10 aelod o staff/gwirfoddolwr oedd yn lleiaf tebygol o gydweithio (41%). Roedd yr elusennau hynny gyda chymysgedd o staff cyflogedig a gwirfoddol hefyd yn fwy tebygol o gydweithio (63%), wedi'i ddilyn gan y rhai gyda staff cyflogedig yn unig (53%), a'r rhai sy'n dibynnu ar wirfoddolwyr yn unig (43%).
3.3 Cyfnod gweithredu
Roedd yr elusennau iau - y rhai a fu'n gweithredu am 20 mlynedd neu lai - yn fwy tebygol o fod wedi cydweithio yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf (51%), o'i gymharu â'r rhai a fu'n gweithredu am gyfnod hwy (41%). Roedd cydweithio hefyd yn fwy tebygol os oedd yr elusen yn rhan o ffederasiwn neu strwythur grŵp mwy - roedd 62% wedi cydweithio, o'i gymharu â 41% o elusennau nad oeddent yn rhan o ffederasiwn.
3.4 Ardal ddaearyddol a chwmpas y gwasanaeth
Roedd yr elusennau gydag ardal gweithredu oedd yn ymestyn y tu allan i'r DU a Gweriniaeth Iwerddon yn fwy tebygol o fod wedi cydweithio (54%), gyda dim ond tua 44% o'r rhai gydag ardal gweithredu genedlaethol neu lai yn dweud eu bod nhw'n cydweithio.
Roedd elusennau sydd wedi'u lleoli yn Llundain, Gogledd-ddwyrain Lloegr, Swydd Gaerefrog, Gogledd-orllewin Lloegr a Chymru yn fwy tebygol o fod wedi cydweithio (tua hanner yr elusennau yn yr ardaloedd hyn) o'i gymharu â'r rhai yn Ne-orllewin Lloegr a Gorllewin Canolbarth Lloegr (40% o'r elusennau yn yr ardaloedd hynny).
Roedd y rhai sy'n gweithredu mewn ardaloedd trefol yn unig (49%), neu yn ardaloedd trefol a gwledig (52%), yn fwy tebygol o fod wedi cydweithio na'r rhai sy'n gweithredu mewn ardaloedd gwledig yn unig (37%).
3.5 Is-sector, math o weithgarwch elusen a math o fuddiolwr
Roedd elusennau sy'n gweithio ym maes datblygiad economaidd/cymunedol, cyflogaeth, yr amgylchedd (ee cadwraeth neu dreftadaeth), lles anifeiliaid, cymorth dramor, chwaraeon a hamdden, anabledd ac addysg yn fwy tebygol o fod wedi cydweithio (o leiaf 53% o bob un), gydag elusennau sy'n gweithio at ddibenion elusennol cyffredinol, mewn gweithgareddau crefyddol, darparu llety ac ym maes tlodi yn llai tebygol fod wedi cydweithio (llai na 45% yr un).
Roedd graddfa'r cydweithio yn amrywio hefyd yn ôl y math o weithgarwch elusennol yr oedd elusennau'n ymwneud ag ef; y rhai oedd yn fwyaf tebygol o fod wedi cydweithio oedd y rhai sy'n darparu gwasanaethau eiriolaeth/cyngor/gwasanaethau gwybodaeth (70%), ymgymryd â gwaith ymchwil (68%), gweithredu fel corff mantell (64%), darparu adnoddau dynol (64%) a darparu gwasanaethau (62%). Yr elusennau oedd yn llai tebygol o fod wedi cydweithio oedd y rhai sy'n dosbarthu arian drwy grantiau i unigolion (31%) neu i sefydliadau (36%) neu sy'n darparu 'cyllid arall' (41%).
Yn achos buddiolwyr elusen, gwelwyd bod elusennau sy'n gweithio er budd grwpiau lleiafrifoedd ethnig yn fwy tebygol o fod wedi cydweithio (57%), gyda'r rhai sy'n gweithio er budd pobl oedrannus yn llai tebygol o gydweithio (44%).
4.0 Sut y cafodd trefniadau cydweithio eu llunio
- Ffurfiwyd partneriaethau yn bennaf ag elusennau o faint tebyg neu elusennau mwy.
- Roedd cydweithio wedi digwydd yn bennaf oherwydd bod gan yr elusennau hanes o weithio gyda'i gilydd.
Gofynnwyd i elusennau a oedd eu partneriaid cydweithio yn fwy, yn llai neu yn debyg o ran maint i'w sefydliad nhw. O'r rheiny oedd wedi cydweithio dros y ddwy flynedd ddiwethaf, roedd hanner (51%) wedi gwneud hynny gydag elusennau o faint tebyg iddyn nhw. Yn gyffredinol, os nad oedd yr elusen bartner o faint tebyg, roedd elusennau yn fwy tebygol o fod wedi cydweithio â phartneriaid mwy (39%) yn hytrach nag elusennau llai (18%).
Astudiaeth Achos: elusen fawr yn cefnogi partner llai
Mae elusen fach yng Ngogledd-ddwyrain Lloegr yn darparu cymorth, gwybodaeth a gwasanaeth cynghori i'r gymuned leol; mae'n gangen o fudiad Ewropeaidd mwy a hoffai ymsefydlu yn y DU. I gychwyn, roedd gweithgareddau'r elusen fach ar raddfa weddol fach ond dros y blynyddoedd mae ei haelodaeth a'i dylanwad wedi tyfu.
Er mwyn helpu'r elusen fach i gychwyn arni, roedd partner mwy wedi darparu lleoliad, adeilad ac arian. Mae'r cydweithio yn gytundeb 'lled-ffurfiol' sy'n darparu bod y lleoliad a'r cyfleusterau i'w defnyddio at ddiben cefnogi nodau'r elusen lai yn unig a bydd yr amcanion hyn yn parhau i gyfateb ag amcanion ei phartner fwy ac anghenion y gymuned. Mae'r elusen lai hefyd yn cynnal digwyddiadau hyfforddi ar y cyd, gwasanaethau cynghori a sesiynau hyfforddi i'r gymuned leol yn ogystal â chefnogwyr yr elusen fwy. Yn gyfnewid am hyn, mae'r elusen fawr yn rhoi ei henw er mwyn codi proffil gwasanaethau a digwyddiadau.
Heb gymorth partner mwy mae'n debyg na fyddai modd i'r elusen fach ddechrau. "fydden ni ddim wedi gallu datblygu yn y ffordd rydyn ni wedi datblygu heb y cymorth 'ma. Fydden ni ddim wedi gallu fforddio datblygu'r adeiladau sydd gyda ni. Doedd arian ddim gyda ni i brynu'n safle; roedd rhaid iddo gael ei roi i ni."
|
Mae Siart 4 yn dangos sut y gwnaethpwyd y cysylltiad cyntaf â phartner(iaid) cydweithio'r elusen. Roedd y mwyafrif o ymatebwyr yn dweud bod ganddynt 'hanes' o weithio gyda'u partneriaid cydweithio (60%). Er nad yw hyn yn esbonio sut roedd y cydweithio wedi dechrau'n wreiddiol, mae'n awgrymu bod partneriaethau'n cael eu ffurfio'n aml dros gyfnod hir. Fel arall, roedd yr elusennau a arolygwyd ychydig yn fwy tebygol o fod wedi cysylltu ag elusen arall (26%) na bod rhywun yn cysylltu â nhw (21%). Yr elusennau mwyaf (elusennau gydag incwm o fwy na £100K) oedd y rhai mwyaf tebygol o chwilio am elusennau eraill (42%, o'i gymharu â llai na 27% o'r rhai gydag incwm o lai na £100K). Dim ond lleiafrif bach oedd wedi defnyddio gwasanaeth brocera.
Siart 4: Sut y gwnaethpwyd y cysylltiad cyntaf â'u partner(iaid) cydweithio
Gweld y ddelwedd fel testun
5.0 Cymhellion i gydweithio, y manteision a gafwyd ac i ba raddau y gwireddwyd amcanion cydweithio
- Roedd elusennau oedd wedi wynebu heriau o ran twf sefydliadol ac ateb galw cynyddol yn fwy tebygol o fod wedi cydweithio nag elusennau a oedd wedi wynebu mathau eraill o her dros y ddwy flynedd ddiwethaf.
- Cafodd elusennau eu cymell i gydweithio'n bennaf mewn ymateb i elusennau eraill, naill ai oherwydd bod nodau a gweithgareddau tebyg ganddynt (44%) neu oherwydd eu bod nhw'n gweithredu yn yr un ardal leol (34%).
- Gwireddwyd amcanion cydweithio yn achos y mwyafrif o elusennau, gyda'r mwyafrif helaeth o elusennau sy'n cydweithio (84%) yn dweud y cawsant fudd o'u trefniadau cydweithio.
- O'r amrywiaeth o fanteision penodol a nodwyd, roedd elusennau yn fwyaf tebygol o nodi datblygu gwasanaeth a gwella enw da (43% a 39% yr un).
5.1 Heriau sefydliadol a chymhellion i gydweithio
Roedd yr elusennau hynny oedd wedi wynebu heriau yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf yn fwy tebygol nag eraill o gydweithio (53% o'i gymharu ag 18% o'r rhai oedd heb gydweithio).
Yr elusennau oedd wedi profi'r heriau canlynol oedd yn fwyaf tebygol o fod wedi cydweithio:
- rheoli twf sefydliadol (roedd 75% o elusennau oedd yn wynebu'r her hon wedi cydweithio);
- ateb galw cynyddol am eu gwasanaethau (73%); a
- phroblemau gweithredol (71%).
Elusennau oedd wedi wynebu heriau cyllid oedd y lleiaf tebygol o fod wedi cydweithio (54%).
Gofynnwyd i'r elusennau hynny oedd wedi cydweithio yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf pa ffactorau penodol oedd wedi cymell eu helusen i gydweithio. Dengys y casgliadau yn Siart 5.
Siart 5: Ffactorau oedd wedi cymell elusen i gydweithio
Gweld y ddelwedd fel testun
(Sail = Pob elusen oedd wedi cydweithio yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf: Heb ei bwysoli: 1,162, Wedi'i bwysoli: 1,134. DS: gofynnwyd i elusennau nodi'r holl ffactorau oedd wedi eu cymell i gydweithio).
Dengys y casgliadau fod elusennau wedi cael eu cymell i gydweithio'n bennaf os oedd elusennau eraill ar gael gyda nodau neu weithgareddau sefydliadol tebyg (44%) neu os oedd elusennau yn yr un lleoliad â nhw (34%). Fel arall, cafodd elusennau eu cymell yn bennaf gan yr awydd i helpu elusen arall (30%), neu wella eu gwasanaethau eu hunain (27%).
At ddiben dadansoddiad pellach, cafodd yr ystod uchod o ymatebion posibl ei grwpio'n bedwar categori:
- cydweithio am resymau ariannol;
- ymateb i elusen arall;
- cynyddu effeithiolrwydd elusennau; ac
- ateb anghenion buddiolwyr yn well.
Gwelwyd bod elusennau wedi cael eu cymell i gydweithio'n bennaf mewn ymateb i elusennau eraill (67%), naill ai oherwydd bod yr elusen arall neu'r elusennau eraill yn debyg i'w helusen nhw, yn gweithio gerllaw neu fod angen cymorth arnynt. Roedd 58% wedi cael eu cymell i gydweithio er mwyn cynyddu effeithiolrwydd eu helusen, gyda dim ond 44% wedi'u cymell oherwydd rhesymau ariannol (h.y. i leihau costau neu oherwydd problemau cyllid). Mae hyn yn cadarnhau'r dadansoddiad cynharach o heriau elusennau, sy'n awgrymu bod yr elusennau hynny sy'n wynebu problemau cyllid a chostau yn llai tebygol o fod wedi cydweithio yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf na'r elusennau hynny sy'n wynebu mathau eraill o heriau.
Yn gyffredinol roedd yr elusennau mwyaf (y rhai gydag incwm dros £100K) wedi nodi mwy o gymhellion dros gydweithio nag elusennau llai. Roeddent yn fwy tebygol o gael eu cymell gan ofynion corff cyllido (23% o'i gymharu â llai na 9% o elusennau llai) ac oherwydd bod prosiect newydd yn gofyn am ffordd newydd o weithio (19% o'i gymharu â llai na 9% o'r elusennau lleiaf).
5.2 Manteision cydweithio
Gofynnwyd i'r elusennau hynny oedd wedi cydweithio yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf pa fanteision, neu effeithiau, roedd eu gweithgarwch cydweithio wedi'u cael, a nodi p'un o'r manteision hyn fu'r brif fantais10. Dengys y casgliadau yn Siart 6.
Siart 6: Y manteision a gafwyd o weithgarwch cydweithio elusennau
Gweld y ddelwedd fel testun
(Sail = Pob elusen oedd wedi cydweithio yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf: Heb ei bwysoli: 1,162, Wedi'i bwysoli: 1,134)
Dywedodd 84% o'r elusennau sy'n cydweithio eu bod nhw wedi cael budd o'u gweithgarwch cydweithio dros y ddwy flynedd ddiwethaf, gyda dim ond 1% o elusennau yn honni nad oeddent wedi cael unrhyw fudd drwy gydweithio. Roedd elusennau gydag incwm yn yr ystod £100-250K yn fwy tebygol o nodi manteision (91% o'i gymharu â llai na 85% o'r rheiny gydag incwm o lai na £100k).
Roedd elusennau yn fwyaf tebygol o nodi effeithiau cydweithio a oedd wedi cynnig budd i'w sefydliad eu hunain (72%) - ee, llai o gostau, mynediad at gyllid, gwella enw da, sgiliau newydd a recriwtio - yn hytrach nag effeithiau oedd yn cynnig manteision uniongyrchol i'r sector ehangach neu i'w buddiolwyr (er byddai cleientiaid a defnyddwyr gwasanaeth, wrth gwrs yn elwa'n anuniongyrchol o effeithiau mwy o effeithiolrwydd sefydliadol).
Fodd bynnag, roedd bron dwy ran o dair (63%) wedi nodi manteision penodol i fuddiolwyr (er enghraifft, drwy allu cynnal a gwella gwasanaethau neu allu cynnig gwasanaeth mwy cyfannol), ac roedd hanner (48%) wedi nodi manteision i'r sector ehangach (er enghraifft, drwy osgoi dyblygu gwasanaethau, neu allu cael mwy o effaith gyffredinol drwy weithio gydag elusennau eraill).
O'r amrywiaeth o fanteision penodol a nodwyd, roedd elusennau yn fwyaf tebygol o nodi datblygu gwasanaeth a gwella enw da (43% a 39% yr un). Dilynwyd hyn gan gyrraedd mwy o fuddiolwyr (31%) a chael mynediad at sgiliau newydd neu arbenigedd (29%).
Datblygu gwasanaeth oedd y 'brif fantais' a nodwyd yn fwyaf aml, a chafodd ei nodi gan bron hanner y rhai oedd yn elwa fel hyn (roedd 43% wedi nodi hyn fel budd, gyda bron hanner o'r ymatebwyr hyn - 20% - yn dweud mai dyma oedd y 'brif fantais'). Er bod gwella enw da; cyrraedd mwy o bobl; a mynediad at sgiliau/gwybodaeth yn cael eu nodi'n aml fel manteision, roedd y rhain yn llai tebygol o gael eu nodi na datblygu gwasanaeth fel y 'prif' fanteision a gafwyd.
5.3 Mathau o weithgarwch cydweithio sy'n dod â'r manteision mwyaf
Y gweithgareddau cydweithio sy'n fwyaf tebygol o gael eu nodi fel rhai sydd wedi dod â manteision i'r elusennau a arolygwyd oedd:
- rhannu staff/cyflogi staff ar y cyd (96% wedi nodi manteision);
- trafodaethau ar gyfer dim dyblygu (95%);
- gwasanaeth ar y cyd i fuddiolwyr elusennau (94%); a
- cheisiadau ar y cyd am gyllid (93%);
5.4 A gafodd amcanion gwreiddiol cydweithio eu gwireddu
Mae dadansoddiad o'r cymhellion ar gyfer cydweithio o'i gymharu â'r manteision a nodwyd o weithgarwch cydweithio yn tueddu i ddangos bod nodau gwreiddiol/manteision disgwyliedig cydweithio wedi'u gwireddu yn y rhan fwyaf o achosion. Er enghraifft, roedd dwy ran o dair o'r elusennau hynny a ddywedodd mai gwella effeithlonrwydd oedd un o'r cymhellion ar gyfer eu gweithgarwch cydweithio wedi nodi llai o gostau neu arbedion cost fel un o ganlyniadau'r gweithgarwch. Mae'r tabl isod yn dangos rhagor o enghreifftiau o nodau wedi'u gwireddu.
Cymhelliad i gydweithio
|
…o'r rheiny, % yn nodi budd cysylltiedig
|
| Cael mynediad at sgiliau nad ydynt ar gael yn eu sefydliad |
71% wedi cael mynediad at sgiliau, arbenigedd neu wybodaeth newydd |
| Gwella effeithlonrwydd |
66% wedi nodi bod llai o gostau/arbedion costau ganddynt |
| Gwella gwasanaethau/lleihau dyblygu |
64% wedi nodi gwell wasanaethau/gwasanaethau wedi'u cynnal |
| Angen cynnal ffrydiau incwm |
63% wedi nodi gwell wasanaethau/gwasanaethau wedi'u cynnal |
| Bodloni gofynion cyrff cyllido |
60% wedi cynyddu mynediad at gyfleoedd cyllido |
| Diffyg cyllid i ddarparu gwasanaethau ar eu pennau eu hunain |
60% wedi nodi gwell wasanaethau/gwasanaethau wedi'u cynnal |
6.0 Rhwystrau i gydweithio a'r anawsterau a gafwyd yn ystod cydweithio
- Dywedodd yr elusennau oedd heb gydweithio yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf mai'r rheswm pennaf am hynny oedd nid oedd angen iddynt wneud hynny neu ni chawsant eu hargyhoeddi o'r manteision (46%), nid oedd unrhyw bartneriaid elusen priodol (34%) neu nid oedd unrhyw elusen arall wedi cysylltu â nhw i gydweithio (30%).
- Roedd un rhan o dair (33%) o'r elusennau oedd wedi cydweithio wedi cael anawsterau gyda'u trefniadau cydweithio.
- Yr anawsterau a nodwyd yn fwyaf aml oedd diffyg cyllid, adnoddau neu arbenigedd (16%) a gwahaniaeth mewn personoliaethau neu ddiwylliannau gweithio (16%).
- Y math o weithgarwch cydweithio lle y cafwyd yr anawsterau mwyaf aml oedd gwneud cais ar y cyd am gontractau (roedd 68% o'r elusennau a gafodd anawsterau gyda gweithgarwch cydweithio yn ymwneud â gwneud cais ar y cyd am gontractau).
- Dywedodd y mwyafrif o'r rhai oedd yn cael anawsterau (75%) eu bod wedi cymryd camau i ddatrys yr anawsterau hyn.
6.1 Rhwystrau a brofwyd gan elusennau sydd heb gydweithio
Gofynnwyd i'r elusennau hynny a ddywedodd nad oeddent wedi ymwneud â gweithgarwch cydweithio yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf i esbonio eu rhesymau dros hyn. Dangosir y casgliadau yn Siart 7.
Siart 7: Rhesymau dros beidio â chydweithio
Gweld y ddelwedd fel testun
(Sail = Elusennau oedd heb gydweithio yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf: Heb ei bwysoli: 1,332, Wedi'i bwysoli: 1,360. DS: gofynnwyd i ymatebwyr nodi'r holl resymau sy'n gymwys).
Dywedodd elusennau oedd heb gydweithio yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf mai'r rheswm pennaf am hynny oedd naill ai eu bod yn teimlo nad oedd angen iddynt wneud hynny neu oherwydd nid oeddent wedi'u hargyhoeddi o'r manteision (46%). Fel arall, roedd eu rhesymau yn ymwneud yn bennaf â gweithgareddau neu weithredoedd elusennau eraill, gyda thua un rhan o dair naill ai'n nodi nad oedd unrhyw bartneriaid elusen priodol ganddynt (34%), neu nid oedd elusen arall wedi cysylltu â nhw (30%). Roedd yr elusennau mwyaf (gydag incwm yn yr ystod £100-250k) yn fwyaf tebygol o ddweud nad oedd unrhyw bartneriaid elusen priodol (49% o'i gymharu â llai na 38% o elusennau eraill).
Roedd 21% o'r elusennau oedd heb gydweithio yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf 'byth wedi ystyried cydweithio', a theimlai 13% fod diffyg gwybodaeth, amser neu adnoddau ganddynt i ymgymryd â gweithgarwch cydweithio.
Yn ystod yr ymgynghoriad ansoddol, roedd y rhai a gafodd eu cyfweld wedi tynnu sylw at nifer o rwystrau o ran agwedd at gydweithio - rhwystrau a gafodd eu harsylwi gan yr arbenigwyr sector neu a brofwyd yn uniongyrchol gan yr elusennau a gafodd eu cyfweld. Mae'r rhwystrau hyn o ran agwedd yn adlewyrchu amrywiaeth o ofnau a chanfyddiadau gan elusennau. Er enghraifft:
- Gallai unigolion sy'n rhedeg sefydliad llai deimlo y gallai cydweithio arwain at golli ei sefyllfa arbennig yn y gymuned.
- Gallai rhai ymddiriedolwyr a Phrif Swyddogion Gweithredol bryderu y gallai eu helusen golli ei hunaniaeth a'i hannibyniaeth, ac y gallai cydweithredu wanhau ei nodau a'i dibenion.
- Efallai fod rhai elusennau yn ofni y gallai cydweithio arwain at gystadleuwyr yn dwyn eu syniadau. Mae hon yn broblem arbennig pan fydd yr elusennau lleiaf yn cystadlu am yr un adnoddau.
- Cred rhai elusennau mai 'ein ffordd ni yw'r ffordd orau' ac mae cysylltiad cryf ganddynt â hanes eu helusen, yn aml er gwaethaf amgylchiadau sy'n newid.
- Gall elusennau ganolbwyntio ar eu buddiannau sefydliadol cul eu hunain yn hytrach na'u cenhadaeth ac anghenion buddiolwyr.
Roedd y rhai a gymerodd ran yn yr ymgynghoriad ansoddol o'r farn y gallai'r ofnau a'r canfyddiadau hyn waethygu weithiau gan wrthdaro personoliaeth, agendâu personol a diwylliannau ac arferion gweithio plwyfol. Yn wir, roedd consensws cyffredinol y gall problemau sy'n gysylltiedig â materion personol a diwylliannol fod yn arwyddocaol iawn yn y trafodaethau ar gydweithio. Teimlai'r rhai a gafodd eu cyfweld bod hyn yn arbennig o wir ymysg Prif Swyddogion Gweithredol, ymddiriedolwyr neu sylfaenwyr, ond gallai fod yn broblem hefyd ymysg buddiolwyr a staff gweithredol.
Fodd bynnag, nid oedd casgliadau'r arolwg eu hunain yn cadarnhau'n uniongyrchol arwyddocâd yr ofnau a'r canfyddiadau hyn fel rhesymau dros beidio â chydweithio. Er enghraifft, dim ond 3% o'r elusennau oedd heb gydweithio yn ystod y tair blynedd diwethaf a ddywedodd mai diffyg cefnogaeth o'r tu mewn i'r sefydliad oedd y rheswm am hynny, a dim ond 2% dywedodd mai risgiau canfyddedig i'r elusen oedd y rheswm. Eto i gyd ni ellir diystyru'r ffaith yn llwyr y gallai rhai o'r ofnau a'r canfyddiadau hyn fod yn sail i'r rheswm sy'n cael ei nodi'n fwyaf aml dros beidio â chydweithio - h.y. bod elusennau'n teimlo 'nad os unrhyw angen cydweithio' neu eu bod 'heb eu hargyhoeddi o'r manteision' (46%).
6.2 Rhesymau dros beidio â chydweithio - er gwaethaf ei ystyried o ddifrif
Gofynnwyd i bob elusen, os oeddent wedi ymgymryd â gweithgarwch cydweithio arall neu beidio yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, a oeddent wedi ystyried neu archwilio'n fanwl unrhyw fath o gydweithio yn ystod y cyfnod hwn a oedd, am ba bynnag rheswm, heb fynd rhagddo. Dywedodd 6% eu bod nhw wedi profi'r sefyllfa hon. Mae'r rhesymau dros beidio â bwrw ymlaen â'r mentrau cydweithio hyn wedi'u nodi yn Siart 8 isod.
Siart 8: Rhesymau dros beidio ag ymgymryd â gweithgarwch cydweithio
Gweld y ddelwedd fel testun
(Seiliau: Pob un oedd wedi ystyried cydweithio yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf ond oedd heb gydweithio: Heb ei bwysoli 166, Wedi'i bwysoli 152)
Y prif resymau dros beidio â bwrw ymlaen â rhyw fath o weithgarwch cydweithio er gwaethaf ei ystyried o ddifrif oedd diffyg adnoddau megis amser, cyllid neu arbenigedd (39%) ac anawsterau o ran arweinyddiaeth, cynllunio neu gyfathrebu (31%).
6.3 Anawsterau a gafwyd wrth gydweithio
Gofynnwyd i elusennau sy'n cydweithio a oeddent wedi cael unrhyw anawsterau wrth gydweithio ac, os oeddent, i nodi'r prif anhawster a gafwyd. At ei gilydd, dim ond un rhan o dair (33%) dywedodd eu bod nhw wedi cael anawsterau, gyda dros hanner (54%) yn dweud na chawsant unrhyw anawsterau. Nodir y gwahanol anawsterau a gafwyd yn Siart 9.
Siart 9: Anawsterau a gafwyd gan elusennau wrth gydweithio
Gweld y ddelwedd fel testun
(Sail: Pob elusen oedd wedi cydweithio yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf: Heb ei bwysoli 1,162, Wedi'i bwysoli 1,134)
Dengys y casgliadau bod yr anawsterau mwyaf cyffredin yn ymwneud a:
- diffyg adnoddau megis amser, cyllid neu arbenigedd (16%);
- gwahaniaeth mewn personoliaethau neu ddiwylliant gweithio (16%); ac
- anawsterau o ran arweinyddiaeth, cynllunio neu gyfathrebu (11%).
Pan ofynnwyd iddynt nodi'r anhawster mwyaf arwyddocaol a gafwyd, nododd y gyfran fwyaf o elusennau ddiffyg adnoddau megis amser, cyllid neu arbenigedd (10%), wedi'i ddilyn gan wahaniaeth mewn personoliaethau neu ddiwylliant gweithio (8%).
Elusennau gydag incwm yn yr ystod £100-250K oedd yn fwyaf tebygol o gael anawsterau (50% yn erbyn llai na 38% o elusennau incwm is).
6.4 Mathau o gydweithio a achosodd yr anawsterau mwyaf
Y math o weithgareddau cydweithio yr oedd elusennau yn fwyaf tebygol o gael anawsterau â nhw oedd gwneud cais ar y cyd am gontractau (68% wedi cael anawsterau), ceisiadau ar y cyd am gyllid (61%), trafodaethau i sicrhau dim dyblygu (59%) a rhannu gwybodaeth/syniadau mewn ffordd ffurfiol (56%).
Y gweithgareddau cydweithio lle yr oedd anawsterau yn lleiaf tebygol o godi oedd rhannu swyddogaethau cefn swyddfa neu gerbydau (34% wedi cael anawsterau), prynu rhywbeth gyda'i gilydd (37%), codi arian ar y cyd (38%) neu rannu gwybodaeth/syniadau mewn ffordd anffurfiol (39%).
6.5 Camau a gymerwyd i ddatrys anawsterau
Gofynnwyd i'r elusennau hynny a gafodd anawsterau wrth gydweithio pa gamau yr oeddent wedi'u cymryd, os o gwbl, i atal neu ddatrys yr anawsterau hyn. Dengys y casgliadau yn Siart 10.
Siart 10: Camau a gymerwyd i atal neu ddatrys anawsterau
Gweld y ddelwedd fel testun
(Sail: Pob un oedd wedi cael anawsterau wrth gydweithio: Heb ei bwysoli 385, Wedi'i bwysoli 373)
Roedd tri chwarter o'r rhai a gafodd anawsterau wrth gydweithio wedi cymryd camau i atal neu ddatrys yr anawsterau hynny. Y camau a gymerwyd yn bennaf oedd:
- Cynnal trafodaethau bwrdd am drefniadau cydweithio (27%).
- Monitro a gwerthuso trefniadau cydweithio yn barhaus (23%).
- Cysylltu â sefydliadau cymorth/cyrff mantell am gyngor ac arweiniad (21%).
- Cael cynlluniau, cytundebau a chyfrifoldebau ysgrifenedig(19%).
Yr elusennau mwyaf (gydag incwm yn yr ystod £100-250K) oedd yn fwyaf tebygol o weithredu (86%), a'r elusennau lleiaf (gydag incwm hyd at £5K) oedd yn lleiaf tebygol o wneud hynny (63%).
Yr elusennau hynny a gafodd anawsterau cyfreithiol yn ystod eu gweithgarwch cydweithio oedd yn fwyaf tebygol o fod wedi cymryd camau i'w datrys (93% o'i gymharu â llai na 85% o elusennau eraill). Yn arbennig, roeddent yn fwy tebygol nag eraill i gael cynlluniau a chytundebau ysgrifenedig (48% o'i gymharu â 28% o eraill).
7.0 Sicrhau cydweithio llwyddiannus
- Teimlai'r mwyafrif o elusennau sy'n cydweithio (82%) fod cydweithio wedi bod yn llwyddiannus.
- Nid oedd lefel y llwyddiant canfyddedig yn dibynnu ar faint yr elusen o reidrwydd. Roedd y trefniadau yn fwyaf llwyddiannus pan oedd yr elusen y lleiaf o fewn y bartneriaeth, a phan oedd cytundebau ffurfiol wedi'u paratoi.
- Y prif ffactorau llwyddiant oedd ansawdd y berthynas bresennol rhwng y partneriaid elusen (55%) ac i ba raddau yr oedd nodau, gwerthoedd a chenhadaeth sefydliadol y partneriaid elusen yn cyfateb (52%), a dyma'r ffactorau oedd wedi darbwyllo nifer o elusennau i gydweithio yn y lle cyntaf.
- Cafodd ansawdd arweinyddiaeth, cynllunio neu gyfathrebu eu nodi fel prif ffactor yn niffyg llwyddiant partneriaethau (29%), yn ogystal â bod yn un o'r prif anawsterau a gafwyd gan elusennau oedd wedi cydweithio'n aflwyddiannus.
- Dim ond 50% o'r rhai a dywedodd eu bod nhw wedi cael profiadau cydweithio aflwyddiannus oedd yn teimlo eu bod nhw yn y cyfnod cywir yn eu datblygiad sefydliadol ar gyfer eu gweithgarwch cydweithio, o'i gymharu â 84% o'r rhai a ddywedodd eu bod nhw wedi cael profiad cydweithio 'llwyddiannus'.
7.1 Llwyddiant cyffredinol cydweithio
Gofynnwyd i ymatebwyr pa mor llwyddiannus neu aflwyddiannus, at ei gilydd, y bu eu profiadau cydweithio yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, yn eu barn nhw. Dengys y casgliadau yn Siart 11.
Siart 11: I ba raddau roedd elusennau'n teimlo bod eu profiadau cydweithio wedi llwyddo neu fethu yn ystod y ddwy flynedd flaenorol.
Gweld y ddelwedd fel testun
(Sail: pob elusen oedd wedi cydweithio yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf: Heb ei bwysoli 1,162, Wedi'i bwysoli 1,134)
At ei gilydd, dywedodd mwy na phedair rhan o bump (82%) eu bod nhw wedi cael profiadau cydweithio eithaf llwyddiannus neu lwyddiannus iawn. Dywedodd 29% eu bod nhw wedi cael profiadau llwyddiannus iawn; dim ond 5% dywedodd na chawsant brofiadau llwyddiannus iawn.
Roedd yr elusennau lleiaf (gydag incwm o lai na £5K) ychydig yn llai tebygol o ddweud eu bod nhw wedi cael profiadau llwyddiannus (75% o'i gymharu â chyfartaledd o 82% ar draws bandiau incwm eraill). Roeddent hefyd yn fwy tebygol o fod yn ansicr ynghylch lefel y llwyddiant; roedd cyfran fwy o'r elusennau lleiaf, o'i gymharu â'r bandiau incwm mwyaf, naill ai heb ateb y cwestiwn hwn neu wedi dewis 'ddim yn gwybod' fel ateb.
7.2 Llwyddiant yn ôl math o gydweithio
Nid oedd amrywiaeth mawr yn lefel y llwyddiant yn ôl math o weithgarwch cydweithio, ond gellir nodi'r canlynol:
- Y gweithgareddau cydweithio mwyaf llwyddiannus oedd: digwyddiadau hyfforddi ar y cyd (93% o'r rhain yn llwyddiannus), rhannu syniadau/gwybodaeth mewn ffordd ffurfiol (93%), rhannu staff (92%), rhannu swyddogaethau cefn swyddfa (92%) a thrafodaethau er mwyn osgoi dyblygu gweithgareddau (91%).
- Y gweithgareddau cydweithio oedd yn tueddu i sgorio ychydig yn is o ran llwyddiant oedd gwneud cais ar y cyd am gontractau (77% yn llwyddiannus), ceisiadau ar y cyd am gyllid (84%) a rhannu syniadau/gwybodaeth yn anffurfiol (84%).
Gwelwyd bod llwyddiant cydweithio yn dibynnu i ryw raddau ar faint perthynol y partner elusen; roedd y rhai oedd yn cydweithio â sefydliadau mwy yn tueddu i fod yn fwy tebygol o gael llwyddiant. Dywedodd 38% o'r rhai oedd yn bartner i elusennau mawr iawn, o'i gymharu â 29% o'r rhai oedd yn bartner i elusennau llai, eu bod nhw wedi cydweithio'n 'llwyddiannus iawn'.
Ffactor arall a oedd fel petai wedi cael rhyw ddylanwad ar lwyddiant oedd graddfa ffurfioldeb y trefniadau cydweithio. Roedd y rhai oedd â chytundebau ffurfiol, neu gymysgedd o gytundebau ffurfiol ac anffurfiol, yn cael cyfraddau llwyddiant uwch (38% a 42% yr un ) o'i gymharu â'r rhai oedd â threfniadau anffurfiol yn unig (28%).
7.3 Elfennau cydweithio llwyddiannus
Gofynnwyd i elusennau oedd wedi cael profiad o gydweithio i nodi'r prif ffactorau roeddent yn teimlo oedd wedi cyfrannu at lwyddiant neu ddiffyg llwyddiant eu gweithgareddau cydweithio yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf. Dengys Siartiau 12a a 12b y prif ffactorau i'r rhai a ddywedodd y cawsant weithgareddau cydweithio llwyddiannus (Siart 12a) ac i'r rhai a gafodd rhai aflwyddiannus (Siart12b).
Siart 12a: Y prif ffactorau sydd wedi cyfrannu at lwyddiant gweithgareddau cydweithio
Gweld y ddelwedd fel testun
(Sail: Elusennau a gafodd brofiadau llwyddiannus: Heb ei bwysoli 957, Wedi'i bwysoli 924)
Y prif ffactorau a nodwyd fel y rhai oedd wedi cyfrannu at lwyddiant oedd ansawdd y berthynas bresennol (55%) ac i ba raddau yr oedd nodau a chenhadaeth sefydliadol yn cyfateb â'u partneriaid elusen eraill (52%). Dilynwyd hyn gan ansawdd arweinyddiaeth, cynllunio a chyfathrebu (35%). Roedd cael mynediad at gymorth ac adnoddau, ee cyllid, yn ffactor llai pwysig.
Nodwyd pwysigrwydd cyfatebiaeth partneriaid cydweithio o ran nodau, gwerthoedd a chenhadaeth sefydliadol gan y rhai a gafodd eu cyfweld yn yr ymgynghoriad ansoddol hefyd.
Astudiaeth Achos: perthynas anffurfiol yn arwain at ddarparu cymorth busnes
Mae elusen fach yn Ne Lloegr yn trefnu gweithgareddau awyr agored i bobl anabl a phobl agored i niwed. Mae'n cael ei rhedeg gan ymddiriedolaeth elusennol, gyda thîm bach o ymddiriedolwyr a gwirfoddolwyr. Mae adeiladau'r elusen fach ar gael i sefydliadau lleol i gynnal digwyddiadau, cyfarfodydd a chynadleddau; mae hyn yn cynhyrchu incwm bach i helpu ariannu gweithgareddau'r elusen. Un o'r sefydliadau oedd yn defnyddio'r cyfleusterau hyn yn rheolaidd oedd elusen fawr sy'n gweithio yn yr un maes gyda throsiant blynyddol o £4 miliwn. Drwy'r cysylltiad hwn roedd cadeiryddion y ddwy elusen wedi cychwyn ar berthynas anffurfiol, a dechreuon nhw drafod eu nodau cyffredin a sut i ddatblygu a chynnal yr elusen lai.
Yn dilyn y sgyrsiau hyn, roedd yr elusen fwy wedi cynnig drafftio cynllun busnes ar gyfer y sefydliad llai; roedd hyn wedi arwain at gyflwyno sawl cais am gyllid am weithiwr datblygu. Roedd un o'r ceisiadau hyn yn llwyddiannus, felly penderfynwyd y byddai'r sefydliad mwy yn cyflogi'r gweithiwr datblygu ac yn defnyddio'r arian i dalu cyflog yr unigolyn hwnnw. Roedd hyn yn golygu y gallai'r elusen fach fanteisio ar weithiwr medrus ychwanegol heb y cyfrifoldebau a'r baich gweinyddol o fod yn gyflogwr. Ymhen amser, rhagwelwyd y byddai'r partner mwy yn elwa o'r trefniadau drwy wneud defnydd pellach o adeiladau'r sefydliad llai, gan gynnwys darparu ei gwasanaethau ei hunan.
Roedd y trefniadau cydweithio wedi llwyddo oherwydd sawl ffactor:
- Cyfathrebu effeithiol rhwng y ddau sefydliad, meithrin perthynas gref a thryloyw.
- Manteision amlwg i fuddiolwyr y ddwy elusen.
- Amcanion clir a chyraeddadwy, wedi'u sefydlu ar ddechrau'r trefniadau cydweithio.
- Cydnabyddiaeth ar ran yr elusen fwy bod buddsoddi yn y partner llai yn amlwg yn cyd-fynd â'i nodau elusennol, ac y byddai'n arwain at lwyddiant yn y tymor hir.
|
Siart 12b: Y prif ffactorau sydd wedi cyfrannu at ddiffyg llwyddiant gweithgareddau cydweithio
Gweld y ddelwedd fel testun
(Sail: Elusennau a gafodd brofiadau aflwyddiannus: Heb ei bwysoli 61, Wedi'i bwysoli 62)
Dywedwyd mai ansawdd arweinyddiaeth, cynllunio neu gyfathrebu oedd y ffactor mwyaf arwyddocaol sy'n cyfrannu at fethiant trefniadau cydweithio (29%). Fodd bynnag, roedd yn ymddangos bod y berthynas bresennol â phartner elusen ac i ba raddau yr oedd nod, gwerthoedd a chenhadaeth sefydliadol y partneriaid yn cyfateb, er yn ffactorau pwysig o hyd, yn gwneud cyfraniad llai arwyddocaol i ddiffyg llwyddiant nag i lwyddiant mentrau cydweithio.
7.4 A yw elusennau'n teimlo eu bod nhw yn y cyfnod cywir yn eu datblygiad sefydliadol i gydweithio
Gofynnwyd i elusennau a oedden nhw'n teimlo eu bod nhw yn y cyfnod cywir yn eu datblygiad sefydliadol ar gyfer gweithgarwch cydweithio.
Er bod un rhan o dair o elusennau wedi cael anawsterau gyda'u gweithgarwch cydweithio, teimlai elusennau yn gyffredinol eu bod nhw yn y cyfnod cywir yn eu datblygiad i gydweithio (74% o bob elusen sy'n cydweithio, a 72% o'r rhai a oedd wedi cael anawsterau).
Fodd bynnag, o'r rhai oedd wedi cael profiad 'aflwyddiannus', dim ond 50% oedd yn teimlo eu bod nhw yn y cyfnod cywir, o'i gymharu â 84% o'r rhai a ddywedodd eu bod nhw wedi cael profiad cydweithio 'llwyddiannus'.
8.0 Gwybodaeth, cymorth a chyngor ac agweddau tuag at gydweithio
- Roedd un rhan o dair o elusennau sy'n cydweithio (35%) wedi ceisio gwybodaeth, cyngor neu gymorth am gydweithio yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf; y ffynonellau gwybodaeth mwyaf poblogaidd ar gyfer yr elusennau hyn oedd: seilwaith lleol/sefydliadau cymorth (36%); elusennau eraill (32%); y Comisiwn Elusennau (30%) a chyrff mantell/cymorth cenedlaethol (29%); roedd yr wybodaeth a'r cyngor a geisiwyd yn ymwneud yn bennaf ag agweddau cyfreithiol, cymorth ariannu, rheoli newid sefydliadol a chynllunio a pharatoi.
- Nid oedd cyfran sylweddol o'r elusennau wedi ceisio cyngor neu gymorth i helpu datrys anawsterau penodol a gawsant wrth gydweithio (67%).
- Teimlai 65% o elusennau sy'n cydweithio a 35% o elusennau oedd heb gydweithio y byddai angen cymorth arnynt er mwyn gwella neu gychwyn cydweithio.
8.1 Cymorth a gafwyd
Gofynnwyd i bob elusen pa wybodaeth, cyngor neu gymorth ar gydweithio, os o gwbl, yr oeddent wedi ei geisio yn ystod y ddwy flynedd flaenorol. Dengys y casgliadau yn Siart 13.
Siart 13: Mathau o wybodaeth, cyngor neu gymorth a geisiwyd ar faterion cydweithio
Gweld y ddelwedd fel testun
(Seiliau: Pob ymatebwr: 2,515; Elusennau sy'n cydweithio: Heb ei bwysoli 1,162, Wedi'i bwysoli 1,134; Elusennau sydd heb gydweithio: Heb ei bwysoli 1,332, Wedi'i bwysoli 1,360)
At ei gilydd, dim ond tua un rhan o bump o'r elusennau a arolygwyd (22%) oedd wedi gofyn am wybodaeth, cyngor neu gymorth ar gyfer cydweithio yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf. Fodd bynnag, yn ôl y disgwyl, roedd y rhai oedd wedi cydweithio yn fwy tebygol o fod wedi gwneud hynny (35%), o'i gymharu â dim ond 12% o'r rhai oedd heb gydweithio dros yr un cyfnod.
Elusennau mwy (gydag incwm yn yr ystod £100-250K) oedd yn fwyaf tebygol o geisio gwybodaeth neu gyngor (45%); mae hyn yn cyd-fynd â'r ffaith eu bod yn fwy tebygol o fod wedi cydweithio yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf. Yr elusennau lleiaf (gydag incwm hyd at £5K) oedd yn lleiaf tebygol o fod wedi ceisio gwybodaeth neu gyngor (14%).
Roedd elusennau gyda phrofiad o gydweithio wedi cael mynediad at gymorth yn bennaf ar agweddau cyfreithiol/rheoleiddio (16% o elusennau sy'n cydweithio) a materion cyllid (12%).
Roedd elusennau yn fwy tebygol o geisio cyngor os oeddent yn gwneud cais ar y cyd am gontractau (roedd 62% o elusennau sy'n cydweithio fel hyn wedi ceisio cyngor), ceisiadau ar y cyd am gyllid (59%), neu reoli trafodaethau er mwyn osgoi dyblygu gweithgareddau (60%); dyma'r mathau o weithgareddau lle yr oedd elusennau hefyd yn fwyaf tebygol o gael anawsterau.
8.2 Cymorth a gafwyd gan y rhai oedd yn cael anawsterau
Os yw'r math o gymorth a gafwyd yn cael ei ddadansoddi yn ôl y mathau o anawsterau yr oedd elusennau wedi sôn amdanynt yn ystod cydweithio, yna gellir gwneud yr arsylwadau canlynol:
- Nid oedd cyfran sylweddol o'r elusennau wedi ceisio cyngor neu gymorth i helpu ì ddatrys yr penodol a gawsant wrth gydweithio (67%).
- O'r 4% o elusennau sy'n cydweithio a ddywedodd eu bod nhw wedi cael cymhlethdodau cyfreithiol gyda'u gweithgarwch cydweithio, roedd 75% wedi ceisio cyngor ar faterion cyfreithiol.
- O'r rhai oedd wedi cael anhawster gydag arweinyddiaeth, cynllunio neu gyfathrebu, roedd 23% wedi ceisio cyngor ar gynllunio neu baratoi, 23% ar reoli newid sefydliadol ac roedd 7% wedi ceisio cyngor ar sut i ddelio â 'gwrthdaro diwylliannol'.
- O'r rhai oedd yn cael gwahaniaethau diwylliannol neu wrthdaro personoliaeth, dim ond 8% oedd wedi ceisio cyngor ar sut i ddelio â'r broblem.
8.3 Ffynonellau cymorth
Gofynnwyd i'r elusennau hynny oedd wedi ceisio gwybodaeth a chyngor i nodi'r sefydliad neu'r math o sefydliad yr oeddent wedi ceisio'r cymorth hwnnw ganddynt; mae'r casgliadau i'w gweld yn Siart 14.
Siart 14: Mathau o sefydliadau y ceisiwyd cyngor ganddynt
Gweld y ddelwedd fel testun
(Seiliau: Pob ymatebwr a geisiodd wybodaeth11: Heb ei bwysoli 587, Wedi'i bwysoli 557; Elusennau sy'n cydweithio: Heb ei bwysoli 421, Wedi'i bwysoli 396; Elusennau sydd heb gydweithio: Heb ei bwysoli 163, Wedi'i bwysoli 158)
Dengys y casgliadau mai'r Comisiwn Elusennau a seilwaith/sefydliad cymorth lleol oedd y ffynonellau gwybodaeth mwyaf poblogaidd yn gyffredinol am wybodaeth, cyngor neu gymorth (31% a 29% yr un).
Fodd bynnag, roedd elusennau a gafodd brofiad o gydweithio yn fwyaf tebygol o fod wedi ceisio cyngor gan seilwaith/sefydliadau cymorth (36%), er bod cyngor gan elusennau eraill (32%), y Comisiwn Elusennau (30%) a chyrff mantell/cymorth cenedlaethol (29%) hefyd yn ffynonellau poblogaidd i'r elusennau hyn.
8.4 Anghenion cymorth
Gofynnwyd i'r holl elusennau a arolygwyd pa gymorth y teimlent y byddai ei angen arnynt er mwyn gwella eu gweithgareddau cydweithio neu gychwyn cydweithio. Dangosir y casgliadau yn Siart 15.
Siart 15: Anghenion yn y dyfodol er mwyn gwella, neu gychwyn cydweithio
Gweld y ddelwedd fel testun
(Seiliau: Pob ymatebwr: 2,515; Elusennau sy'n cydweithio: Heb ei bwysoli 1,162, Wedi'i bwysoli 1,134; Elusennau sydd heb gydweithio: Heb ei bwysoli 1,332, Wedi'i bwysoli 1,360)
Roedd hanner yr elusennau a ymatebodd wedi mynegi rhyw fath o angen am gymorth, gan ffurfio 69% o'r elusennau sy'n cydweithio a 34% o'r elusennau sydd heb gydweithio.
Roedd y mathau o anghenion a fynegwyd yn debyg ar gyfer elusennau sy'n cydweithio ac sydd heb gydweithio; roedd ymatebwyr am gael gwybodaeth, cyngor ac arweiniad yn bennaf (28%), neu fynediad at gyllid (25%), ac roedd yr olaf yn angen llawer mwy arwyddocaol i'r elusennau hynny oedd wedi ymgymryd â gweithgarwch cydweithio yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf (39%).
Roedd yr elusennau mwyaf yn fwyaf tebygol o nodi anghenion (68%) ac yn lleiaf tebygol o ddweud nad oedd unrhyw ddiddordeb ganddynt mewn cydweithio yn y dyfodol (19%).
Dywedodd 54% o'r elusennau oedd heb unrhyw brofiad o gydweithio nad oedd diddordeb ganddynt mewn cydweithio yn y dyfodol.
8.5 Gweithredu pellach y mae ei angen i gefnogi cydweithio
Yn ystod yr ymgynghoriad ansoddol cychwynnol, roedd y rhai a gafodd eu cyfweld o'r farn bod eisoes llawer iawn o wybodaeth ar gael ar gydweithio i elusennau. Fodd bynnag, teimlid bod gwybodaeth o'r fath yn darparu cymorth generig yn hytrach na chymorth wedi'i deilwra ar sut i fynd ati i gydweithio.
"Gallwch chi ddysgu'r theori ond mae gweithredu arno'n ymarferol yn wahanol iawn, dydy hi byth mor hawdd ac rydych chi'n meddwl." - Unigolyn a gafodd ei gyfweld
Er mwyn datrys hyn, roedd y rhai a gawsant eu cyfweld yn awgrymu bod angen cymorth mwy hygyrch, ymarferol. Hefyd teimlid mai sefydliadau seilwaith lleol oedd yn y sefyllfa orau i helpu i greu cyfleoedd i elusennau bach rwydweithio, eu helpu i adnabod partneriaid posibl a hybu manteision cydweithio. Yn ail, teimlid y gallai sefydliadau seilwaith lleol helpu elusennau sy'n cydweithio i ddatrys unrhyw broblemau diwylliannol neu weithredol arwyddocaol. Dyma'r math o gymorth ymarferol sy'n rhaid talu amdano ar hyn o bryd, cost y mae'r elusennau lleiaf yn llai tebygol o allu ei fforddio.
""Does dim cymorth ar gael i elusennau bach, gallwch gael cymorth os oes gennych chi'r arian i dalu amdano fe, fel hyfforddiant a phopeth arall, ond os nad oes gennych chi unrhyw gyllid rydych chi...ar eich pen eich hunan." - Unigolyn a gafodd ei gyfweld
8.6 Proffil o elusennau sydd heb gydweithio a allai ystyried cydweithio yn y dyfodol
Cynhaliwyd dadansoddiad segmentu ar ddata'r arolwg i gael proffil o'r elusennau hynny sydd heb gydweithio a fyddai efallai'n ystyried cydweithio yn y dyfodol pe byddai anghenion cymorth penodol yn cael eu bodloni - mae'r dybiaeth hon yn deillio o'r ffaith bod yr elusennau hyn wedi adnabod anghenion cymorth yn gadarnhaol yn hytrach na dweud nad oedd diddordeb ganddynt mewn cydweithio.
Mae'r casgliadau o'r dadansoddiad segmentu yn dangos bod yr elusennau hyn yn fwyaf tebygol o fod yn:
- elusennau gydag incwm yn yr ystod £25-100K;
- yr elusennau ieuaf;
- elusennau yn Nwyrain Canolbarth Lloegr, Gogledd-ddwyrain Lloegr, De-orllewin Lloegr a Swydd Gaerefrog; a'r
- elusennau sy'n ymwneud ag is-sectorau neu feysydd gweithgaredd sy'n debyg i'r rhai y mae'r mwyafrif o elusennau sy'n cydweithio yn ymgymryd â nhw, h.y. datblygiad economaidd/cymunedol a chyflogaeth, cymorth dramor, chwaraeon/hamdden, y celfyddydau/diwylliant a'r amgylchedd/cadwraeth/treftadaeth.
Gweler Atodiad Ch i gael gwybodaeth bellach am y dadansoddiad segmentu.
8.7 Agweddau cyffredinol tuag at gydweithio
- Roedd y mwyafrif o elusennau sy'n cydweithio wedi ymateb yn gadarnhaol i'r syniad o gydweithio; roedd 77% yn cefnogi'r syniad ac roedd 58% ohonynt yn teimlo ei fod yn gwneud synnwyr i'w helusen nhw.
- Nid yw'n syndod felly bod elusennau sydd heb gydweithio yn llai brwdfrydig; dim ond 16% oedd yn cefnogi'r syniad a dim ond 8% oedd yn teimlo ei fod yn gwneud synnwyr i'w helusen nhw.
Gofynnwyd i bob elusen a ymatebodd a oeddent yn cytuno neu'n anghytuno â chyfres o ddatganiadau yn ymwneud ag agwedd tuag at gydweithio. Dengys Siart 16 y casgliadau ar gyfer pob ymatebwr.
Siart 16: Agweddau cyffredinol tuag at gydweithio
Gweld y ddelwedd fel testun
Sail: Cyfanswm (Pob ymatebwr): 2,515
Mewn ymateb i'r rhan fwyaf o'r datganiadau uchod, dywedodd tua chwarter yr ymatebwyr nad oeddent yn cytuno nac yn anghytuno â'r datganiadau, a dywedodd 15% i 20% pellach naill ai nad oeddent yn gwybod neu nid oeddent wedi ateb y cwestiwn.
Fodd bynnag, roedd 43% o elusennau yn cefnogi'r syniad o gydweithio ag elusennau eraill,12 roedd 30% yn cytuno bod cydweithio yn gwneud synnwyr i'w helusen nhw ac roedd 28% yn teimlo bod y manteision sy'n deillio o gydweithio yn werth yr amser a'r adnoddau a fuddsoddir.
Ar y llaw arall, dim ond cyfran fach o ymatebwyr (13%) oedd yn ystyried cydweithio yn flaenoriaeth a dim ond un rhan o bump (19%) oedd yn cytuno bod cydweithio yn ffordd o ymdopi â'r dirywiad economaidd.
Yn gyffredinol, roedd yr elusennau mwyaf (gydag incwm yn yr ystod £100-250K), oedd wedi cydweithio mwy dros y ddwy flynedd ddiwethaf nag elusennau llai, yn fwy cadarnhaol at ei gilydd ynghylch cydweithio, gyda'r elusennau lleiaf (incwm o lai na £5K) yn gadarnhaol fan lleiaf.
Casgliadau o'r elusennau a oedd wedi cydweithio yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf
Roedd yr elusennau a gafodd brofiad o gydweithio yn fwy cadarnhaol amdano. Roedd tri chwarter o'r elusennau hynny oedd wedi cydweithio yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf (77%) yn cefnogi'r syniad o gydweithio; teimlai dros hanner (58%) fod cydweithio yn gwneud synnwyr i'w helusen nhw, a theimlai 56% bod y manteision yn werth yr amser a'r adnoddau a fuddsoddir.
Fodd bynnag, dim ond un rhan o dair (34%) oedd yn ystyried cydweithio fel ffordd o ymdopi â'r dirywiad economaidd (fel y gwelsom eisoes, nid ffactorau ariannol oedd y prif gymhellion dros gydweithio).
Teimlai ychydig o dan un rhan o dair (32%) bod angen cymorth arnynt er mwyn cydweithio'n effeithiol.
Casgliadau o'r elusennau oedd heb gydweithio yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf
Roedd y rhai oedd heb gydweithio yn tueddu i beidio â gweld unrhyw fanteision posibl. Roeddent yn fwy tebygol o anghytuno â'r datganiadau, neu'n teimlo nad oeddent yn gwybod neu nid oeddent mewn sefyllfa i gytuno neu anghytuno. Er enghraifft, dim ond 16% oedd yn cefnogi'r syniad o gydweithio a dim ond 8% oedd yn teimlo bod cydweithio yn gwneud synnwyr i'w helusen nhw.
Atodiad A - Methodoleg
Cafodd y gwaith ymchwil hwn ei gyflawni gan y cwmni ymchwil GfK NOP mewn dau gam: ymgynghoriad ansoddol cychwynnol, wedi'i ddilyn gan y prif arolwg meintiol.
Cam 1: Ymgynghoriad ansoddol
Nod yr ymgynghoriad hwn oedd cynnal asesiad cychwynnol o'r problemau sy'n wynebu elusennau bach o ran cydweithio. Fe'i cynhaliwyd cyn y cam ansoddol a chafodd ei lywio gan ddiffiniad yr ymchwil o 'elusen fach' a 'chydweithio', yn ogystal â datblygu holiadur yr arolwg.
Roedd yr ymgynghoriad ansoddol yn cynnwys 10 cyfweliad ffôn unigol. Cawsant eu rhannu fel a ganlyn:
- Cynhaliwyd saith cyfwelid ag arbenigwyr o'r sector elusennol oedd wedi cael profiad o weithio gydag elusennau bach a'u cefnogi.
- Cynhaliwyd tri chyfweliad gydag elusennau 'rheng-flaen':
- Un cyfweliad gydag elusen fwy, gydag incwm rhwng £1,000,000 a £2,000,000.
- Dau gyfweliad gydag elusennau bach, gydag incwm rhwng £5,000 a £250,000.
Darparwyd manylion cyswllt yr elusen fawr a'r arbenigwyr sector gan y Comisiwn Elusennau; roeddent wedi cymryd rhan yn wirfoddol. Cafodd yr elusennau bach eu recriwtio o ffrâm sampl a ddarparwyd gan y Comisiwn ar ôl gael eu sgrinio yn gyntaf i gadarnhau bod profiad o gydweithio ganddynt. Cynhaliwyd y cyfweliadau rhwng Ionawr a Chwefror 2010.
Diffinio 'elusen fach' a 'chydweithio'
Fel yr esbonnir uchod, roedd yr ymgynghoriad cam un yn archwilio dealltwriaeth a diffiniadau o'r hyn sy'n cael ei ystyried yn 'elusen fach' gan geisio barn am yr hyn a olygir wrth y term 'cydweithio'.
Diffinio elusen fach
Her gychwynnol oedd yn wynebu'r ymchwil oedd llunio diffiniad priodol ar gyfer 'elusen fach'. Er mai incwm blynyddol yw'r dangosydd mwyaf amlwg, roedd y rheiny oedd wedi cymryd rhan yn yr ymgynghoriad ansoddol wedi awgrymu amryw o ffyrdd eraill o nodweddu elusen fel naill ai elusen 'fach, ganolig neu fawr'. Roedd y nodweddion hyn yn cynnwys:
- Gwerth cyfalaf/asedau sefydlog
Awgrymwyd bod elusennau llai yn llai tebygol o gael portffolio cryf o asedau. Fodd bynnag, roedd gan yr elusennau bach oedd yn cymryd rhan yn yr ymchwil ansoddol incwm blynyddol isel iawn ond roeddent yn berchen ar eiddo neu dir, neu'n dal eiddo neu dir mewn ymddiriedolaeth sy'n cynrychioli ased arwyddocaol; mae hyn yn arbennig o gyffredin ymysg sefydliadau a fu'n gweithredu ers amser maith. Er enghraifft, gall cymdeithasau pentref berchen ar y tir o amgylch neuadd bentref neu ei ddal ar ymddiriedolaeth.
Awgrymodd rhai cyfranogwyr fod elusennau bach yn tueddu i wasanaethu nifer cyfyngedig o fuddiolwyr. Fodd bynnag, mae rhai sefydliadau bach yn cyrraedd nifer fawr o ddefnyddwyr gwasanaeth, er enghraifft trwy wasanaethau gwybodaeth seiliedig ar y rhyngrwyd.
- Nifer y gweithwyr cyflogedig
Awgrymwyd bod y gallu i gyflogi staff cyflogedig yn arwydd glir o allu sefydliad, ac felly ei faint. Fodd bynnag, y broblem gyda dibynnu ar nifer y gweithwyr fel diffiniad penodol yw nad oes gan nifer fawr o elusennau bach unrhyw staff cyflogedig o gwbl. Hefyd awgrymwyd bod y gallu i gyflogi staff yn ffordd anuniongyrchol yn unig o asesu incwm.
Diffiniad o 'elusen fach' at ddiben yr ymchwil hwn
Wedi ystyried hyn, er bod modd cyfuno'r ffactorau uchod i ddarparu rhai nodweddion cyffredinol ar gyfer elusennau bach, y teimlad oedd na fyddent wedi darparu haenau clir o'r sector at ddibenion yr astudiaeth hon. Teimlid bod diffinio union nodweddion arbennig elusen fach yn wrthrychol ac yn anodd.
Un o fanteision defnyddio incwm fel prif ddiffiniad oedd ei gysylltiad â rhwymedigaethau cyfreithiol a rheoleiddio elusennau. Cydnabuwyd wrth i incwm elusen godi, felly hefyd mae ei rhwymedigaethau adrodd i'r Comisiwn Elusennau. Y lefel atebolrwydd gynyddol hon oedd y nodwedd ddiamheuol allweddol rhwng elusennau bach a mawr. I gael dadansoddiad llawn o'r trothwyon incwm adrodd gweler CC15b - Adroddiadau a Chyfrifon Elusennau: Yr hanfodion.
Yn dilyn yr ymgynghoriad ansoddol, dewiswyd incwm fel y brif nodwedd sy'n diffinio elusen fach ar gyfer yr astudiaeth hon. Penderfynwyd y byddai'r diffiniad yn cynnwys yr holl elusennau cofrestredig gydag incwm o £250,000 a llai. Dewiswyd trothwy gweddol uchel er mwyn caniatáu ar gyfer mwy o gymhariaeth ar draws bandiau incwm ac archwilio'r berthynas rhwng cydweithio a thwf sefydliadol (os oedd).
Diffiniad o 'gydweithio at ddiben yr ymchwil hwn
Er bod y term 'cydweithio' yn un cyffredin ymysg arbenigwyr a gafodd eu cyfweld, nid oedd elusennau bach oedd yn cymryd rhan yn yr ymgynghoriad yn ei ystyried yn ddisgrifiad cyffredinol o'r ystod lawn o weithgareddau y maent yn ymgymryd â nhw gydag elusennau eraill. I'r elusennau bach hyn, roedd 'cydweithio' yn awgrymu cydweithio ffurfiol, hirdymor wedi'i anelu at gyflawni targed neu ganlyniad wedi'i ddiffinio ymlaen llaw. Teimlid ei fod yn weithgaredd i elusennau mwy ac nid rhywbeth oedd yn berthnasol iddyn nhw.
Fodd bynnag, roedd y ddwy elusen fach oedd yn cymryd rhan yn yr ymgynghoriad ansoddol yn ymgymryd ag ystod o weithgareddau cydweithio, megis:
- cynnig lleoliadau i elusennau lleol;
- rhannu arbenigedd/profiad o redeg elusen;
- benthyca offer megis cadeiriau a bordydd; a
- gwirfoddoli i helpu gyda digwyddiadau sy'n cael eu llwyfannu gan elusennau eraill.
Yn hytrach na chydweithio, roedd termau fel 'benthyca', 'rhannu', 'rhoi benthyg', 'rhoi', 'cefnogi' a 'chydweithredu' yn tueddu i gael eu defnyddio gan yr elusennau bach hyn i ddisgrifio gweithgareddau o'r fath. Yn fwy arwyddocaol, roedd yr achosion o 'fenthyca' a 'rhannu' fel petaent yn ddigwyddiad cyffredin ymysg elusennau bach, gan awgrymu y gallai elusennau bach ddiystyru'n hawdd y perthnasoedd cydweithio lefel isel hyn oherwydd eu bod yn rhan o'u harferion bob dydd.
Felly gall y term 'cydweithio' gyfeirio at amrywiaeth o weithgareddau. Oherwydd hynny, roedd angen eglurder i sicrhau bod elusennau bach yn rhoi digon o sylw i'r gweithgareddau lefel isel yr oeddent yn ymgymryd â nhw gydag elusennau eraill. At ddibenion yr astudiaeth ymchwil hon, roedd y diffiniad o gydweithio fel a ganlyn:
"Yr hyn a olygwn wrth 'gydweithio' yn yr arolwg hwn yw gweithio ar y cyd ag elusen arall neu rannu gwybodaeth neu adnoddau ag elusen arall, boed mewn ffordd ffurfiol (ee, defnyddio contract/cytundeb lefel gwasanaeth) neu mewn ffordd anffurfiol (ee, dim cytundeb ysgrifenedig neu heb amlinellu'r telerau ymlaen llaw)."
Dewiswyd diffiniad eang yn fwriadol oherwydd bod y Comisiwn Elusennau am ddal yr ystod lawn o wahanol ffyrdd o gydweithio, gan gynnwys gweithgareddau anffurfiol megis rhannu syniadau a gwybodaeth. Mae'r diffiniad hwn ychydig yn ehangach na diffiniad swyddogol y Comisiwn a nodwyd yn y Cyflwyniad, sydd heb gynnwys rhannu adnoddau.
Cam 2: Arolwg post meintiol
Holiadur
Roedd y casgliadau o'r ymgynghoriad ansoddol wedi llywio datblygu holiadur yr arolwg. Cafodd yr holiadur hwn ei dreialu ar raddfa fach drwy'r e-bost; roedd deuddeg elusen wedi ymateb. Gwnaethpwyd newidiadau bach i'r holiadur o ganlyniad i'w hadborth.
Roedd yr holiadur terfynol yn cynnwys cyfanswm o 27 o gwestiynau, ac mae copi i'w weld yn Atodiad B.
Samplu a dull
Cafodd y dull arolwg meintiol ei ddewis er mwyn cael data oedd yn ddibynadwy yn ystadegol y gellid eu hallosod i'r boblogaeth ehangach o elusennau bach (y rhai gydag incwm blynyddol o ddim mwy na £250,000). Y nod oedd cael o leiaf 2,500 o ymatebion, gan ganiatáu ar gyfer uchafswm lled y gwall o +/-2%. Er mwyn cyrraedd y targed hwn, cafodd holiaduron eu postio i 10,524 o elusennau, ac roedd GfK NOP yn rhagweld cyfradd ymateb o 25% o leiaf. Seiliwyd y ffrâm samplu ar gyfrannau poblogaeth yn ôl incwm elusen ac ardal. Fodd bynnag, roedd y band incwm £0-5K heb ei gynrychioli'n llawn yn fwriadol, a chafodd eraill eu gwneud yn fwy, er mwyn anelu at gael o leiaf 400 o holiaduron wedi'u dychwelyd ym mhob un o'r pedwar band incwm cyntaf ac o leiaf 200 yn y band incwm £100-250K - gweler y tabl isod.
|
Proffil poblogaeth
|
Proffil y ffrâm samplu
|
Niferoedd y ffrâm samplu
|
| £0-5K13 |
37% |
30% |
3,156 |
| £5-10K |
17% |
19% |
1,983 |
| £10-25K |
17% |
19% |
2,009 |
| £25-100K |
20% |
22% |
2,326 |
| £100-250K |
8% |
10% |
1,050 |
| Cyfanswm |
|
|
10,524 |
Hefyd, ychwanegwyd at y niferoedd yng Ngogledd-ddwyrain Lloegr a Chymru ryw ychydig, ac roedd De Lloegr heb ei gynrychioli'n llawn er mwyn cynyddu'r tebygolrwydd o gael o leiaf 100 o holiaduron wedi'u dychwelyd o bob ardal - gweler y tabl isod.
|
Proffil poblogaeth
|
Proffil y ffrâm samplu
|
Niferoedd y ffrâm samplu
|
| Gogledd-ddwyrain Lloegr |
3% |
5% |
511 |
| Gogledd-orllewin Lloegr |
9% |
9% |
992 |
| Swydd Gaerefrog & Humber |
7% |
7% |
746 |
| Dwyrain Canolbarth Lloegr |
7% |
6% |
681 |
| Gorllewin Canolbarth Lloegr |
10% |
11% |
1,112 |
| Dwyrain Lloegr |
12% |
12% |
1,232 |
| Llundain |
15% |
14% |
1,512 |
| De-ddwyrain Lloegr |
18% |
17% |
1,833 |
| De-orllewin Lloegr |
13% |
12% |
1,311 |
| Cymru |
5% |
6% |
594 |
| Cyfanswm |
|
|
10,524 |
Hefyd gwnaethpwyd yn siŵr bod y ffrâm samplu yn cynnwys o leiaf 500 o elusennau o fewn pob un o'r categorïau gweithgarwch elusen posibl - gweler y rhestr isod:
- Dibenion elusennol cyffredinol
- Addysg/hyfforddiant
- Meddygol/iechyd/salwch
- Anabledd
- Lleddfu tlodi
- Cymorth dramor/cymorth newyn
- Llety/tai
- Gweithgareddau crefyddol
- Celfyddydau/diwylliant
- Chwaraeon/adloniant
- Anifeiliaid
- Amgylchedd/cadwraeth/treftadaeth
- Datblygiad economaidd/cymunedol/cyflogaeth
Cafodd yr holiaduron eu cyfeirio at Ohebydd y Comisiwn Elusennau pob elusen er mwyn iddynt eu hanfon at bwy bynnag y teimlant oedd yn fwyaf priodol ar gyfer cwblhau'r holiadur. Penderfynwyd ar fethodoleg bost gan fod cronfa ddata'r Comisiwn Elusennau yn dal cyfran uwch o gyfeiriadau post ar gyfer Gohebwyr yr Elusennau na chyfeiriadau e-bost. Gwnaethpwyd y gwaith maes rhwng 22 Mawrth a 19 Ebrill 2010. Wythnos cyn gorffen y gwaith maes, postiwyd 2,000 o lythyron atgoffa i'r rhai oedd heb ymateb, a phostiwyd dros 3,000 o nodiadau atgoffa drwy'r e-bost.
Dadansoddi ac adrodd
Pwysolwyd y data i adlewyrchu poblogaeth elusennau bach yn ôl incwm ac ardal. Dadansoddwyd y data gan yr holl wybodaeth broffilio (naill ai'n bresennol yn y sampl neu wedi'u casglu o fewn yr holiadur arolwg), a gwnaethpwyd dadansoddiad segmentu hefyd ar y data. Cynhaliwyd y dadansoddiad segmentu er mwyn cael hyd i glystyrau homogenaidd o elusennau sydd ag agweddau a/neu ymddygiad tebyg o ran cydweithio - i gael manylion pellach am y dadansoddiad segmentu, gweler Atodiad Ch.
Atodiad B - Proffil o'r ymatebwyr
Derbyniwyd cyfanswm o 2,515 o ymatebion, yn cynrychioli cyfradd ymateb 24%. Mae'r tablau isod yn dangos yr ymatebion a gafwyd yn ôl incwm ac ardal, ynghyd â'r sylfeini yn dilyn pwysoli'r data i'r proffiliau poblogaeth.
|
Ymatebion a gafwyd
|
Seiliau wedi'u pwysoli
|
| £0-5K |
757 |
934 |
| £5-10K |
471 |
426 |
| £10-25K |
490 |
438 |
| £25-100K |
545 |
503 |
| £100-250K |
252 |
214 |
| Cyfanswm |
2,515 |
2,515 |
|
Ymatebion a gafwyd
|
Seiliau wedi'u pwysoli
|
| Gogledd-ddwyrain Lloegr |
140 |
80 |
| Gogledd-orllewin Lloegr |
221 |
241 |
| Swydd Gaerefrog & Humber |
182 |
189 |
| Dwyrain Canolbarth Lloegr |
168 |
166 |
| Gorllewin Canolbarth Lloegr |
297 |
257 |
| Dwyrain Lloegr |
306 |
308 |
| Llundain |
257 |
370 |
| De-ddwyrain Lloegr |
451 |
448 |
| De-orllewin Lloegr |
343 |
322 |
| Cymru |
150 |
133 |
| Cyfanswm |
2,515 |
2,515 |
Mae rhagor o wybodaeth am broffiliau ymatebwyr i'w gweld isod. Mae'r tablau isod yn dangos proffiliau'r set data heb ei bwysoli (Heb ei bwysoli) ac wedi'i bwysoli (Wedi'i bwysoli) (2,515) yn ôl:
- Gwybodaeth y sampl (cronfa ddata y Comisiwn Elusennau):
- Incwm yn erbyn ardal
- Gweithgareddau'r elusen
- Ardal gweithredu ddaearyddol
- Ymatebion i'r holiadur:
- C1. Oedran yr elusen (am faint y bu'n gweithredu)
- C2. Ffynonellau incwm (unrhyw reng neu ffynhonnell a nodwyd mewn ffordd arall)
- C3. Dadansoddiad o gyfanswm staff yn ôl statws 'cyflogedig' neu 'wirfoddol'
- C3. dadansoddiad o gyfanswm staff
- C4. Rhan o ffederasiwn neu beidio
- C5a. Gweithio ar lefel leol neu beidio
- C5b. Gweithio ar draws ardal drefol a/neu wledig
Incwm yn
erbyn lleoliad
yr elusen
|
Cyfanswm
|
Gogledd-ddwyrain Lloegr
|
Gogledd-orllewin Lloegr
|
Swydd Gaerefrog & Humber
|
Dwyrain Canolbarth Lloegr
|
Gorllewin Canolbarth Lloegr
|
Dwyrain Lloegr
|
Llundain
|
De-ddwyrain Lloegr
|
De-orllewin Lloegr
|
Cymru
|
Sail Heb
ei Bwysoli |
2515 |
140 |
221 |
182 |
168 |
297 |
306 |
257 |
451 |
343 |
150 |
Sail Wedi'i
Bwysoli |
2515 |
80 |
241 |
189 |
166 |
257 |
308 |
370 |
448 |
322 |
133 |
| 0-5K |
934 |
30 |
92 |
72 |
68 |
101 |
123 |
114 |
153 |
125 |
56 |
|
37% |
37% |
38% |
38% |
41% |
39% |
40% |
31% |
34% |
39% |
42% |
| 5-10K |
426 |
13 |
41 |
33 |
30 |
45 |
54 |
53 |
75 |
57 |
25 |
|
17% |
17% |
17% |
17% |
18% |
18% |
17% |
14% |
17% |
18% |
19% |
| 10-25K |
438 |
13 |
40 |
32 |
28 |
45 |
53 |
63 |
86 |
57 |
22 |
|
17% |
16% |
17% |
17% |
17% |
17% |
17% |
17% |
19% |
18% |
16% |
| 25-100K |
503 |
16 |
46 |
36 |
29 |
46 |
58 |
90 |
98 |
62 |
22 |
|
20% |
20% |
19% |
19% |
17% |
18% |
19% |
24% |
22% |
19% |
16% |
| 100-250K |
214 |
8 |
22 |
16 |
11 |
20 |
20 |
49 |
37 |
22 |
9 |
|
9% |
10% |
9% |
9% |
7% |
8% |
7% |
13% |
8% |
7% |
6% |
Ardal Gweithredu ddaearyddol
|
Heb ei bwysoli
|
%
|
Wedi'i bwysoli
|
%
|
|
Sail
|
2515
|
|
2515
|
|
| Lleol/rhanbarthol a'r tu allan i'r DU/GI |
23
|
1%
|
23
|
1%
|
| Lleol/rhanbarthol yn unig |
2095
|
83%
|
2073
|
82%
|
| Lleol/rhanbarthol a'r tu allan i'r DU/GI |
70
|
3%
|
75
|
3%
|
| Cenedlaethol yn unig |
276
|
11%
|
295
|
12%
|
| Y tu allan i'r DU/GI yn unig |
51
|
|
50
|
|
Gweithgareddau'r elusen
|
Heb ei bwysoli
|
%
|
Wedi'i bwysoli
|
%
|
|
Sail
|
2515
|
|
2515
|
|
| Dibenion Elusennol Cyffredinol |
744
|
30%
|
738
|
29%
|
| Addysg/Hyfforddiant |
1154
|
46%
|
1138
|
45%
|
| Meddygol/Iechyd/Salwch |
370
|
15%
|
370
|
15%
|
| Anabledd |
370
|
15%
|
360
|
14%
|
| Lleddfu Tlodi |
394
|
16%
|
404
|
16%
|
| Cymorth dramor/Cymorth newyn |
136
|
5%
|
136
|
5%
|
| Llety/Tai |
125
|
5%
|
125
|
5%
|
| Gweithgareddau crefyddol |
398
|
16%
|
400
|
16%
|
| Celfyddydau/diwylliant |
478
|
19%
|
473
|
19%
|
| Chwaraeon/adloniant |
582
|
23%
|
556
|
22%
|
| Anifeiliaid |
130
|
5%
|
125
|
5%
|
| Amgylchedd/Cadwraeth/Treftadaeth |
366
|
15%
|
362
|
14%
|
| Datblygiad Economaidd Cymunedol/Cyflogaeth |
310
|
12%
|
298
|
12%
|
| Dibenion elusennol eraill |
76
|
3%
|
76
|
3%
|
C1: Oedran yr elusen
|
Heb ei bwysoli
|
%
|
Wedi'i bwysoli
|
%
|
|
Sail
|
2515
|
|
2515
|
|
| Llai na blwyddyn |
12
|
*
|
12
|
*
|
| Blwyddyn i lai na 5 mlynedd |
198
|
8%
|
193
|
8%
|
| 5 mlynedd i lai na 10 mlynedd |
298
|
12%
|
295
|
12%
|
| 10 mlynedd i lai nag 20 mlynedd |
524
|
21%
|
523
|
21%
|
| 20 mlynedd neu hwy |
1455
|
58%
|
1464
|
58%
|
| Dim ateb |
28
|
1%
|
29
|
1%
|
* dynodi canrannau llai na 0.5%
C2: Ffynonellau incwm
|
Heb ei bwysoli
|
%
|
Wedi'i bwysoli
|
%
|
|
Sail
|
2515
|
|
2515
|
|
| Rhoddion (gan roddwyr byw) |
1219
|
48%
|
1207
|
48%
|
| Cymynroddion |
390
|
16%
|
399
|
16%
|
| Grantiau gan sefydliadau/ymddiriedolaethau |
745
|
30%
|
701
|
28%
|
| Cyllid gan gwmnïau preifat |
182
|
7%
|
180
|
7%
|
| Grant(iau) |
468
|
19%
|
435
|
17%
|
| Contract(iau) |
105
|
4%
|
90
|
4%
|
| Gwerthu neu ddigwyddiadau |
975
|
39%
|
943
|
38%
|
| Rhentu/hurio |
579
|
23%
|
538
|
21%
|
| Darparu gwasanaethau |
297
|
12%
|
280
|
11%
|
| Tanysgrifiadau |
638
|
25%
|
624
|
25%
|
| Buddsoddiadau |
611
|
24%
|
627
|
25%
|
| Incwm is-gwmni masnachu |
57
|
2%
|
52
|
2%
|
| Dim ateb |
26
|
1%
|
28
|
1%
|
| NET: Incwm a enillwyd |
1978
|
79%
|
1953
|
78%
|
| NET: Incwm statudol |
509
|
20%
|
469
|
19%
|
| NET: Arall |
1686
|
67%
|
1672
|
66%
|
C3: Staff yn ôl statws 'cyflogedig' a 'gwirfoddol'
|
Heb ei bwysoli
|
%
|
Wedi'i bwysoli
|
%
|
|
Sail
|
2515
|
|
2515
|
|
| Cyflogedig yn unig |
130
|
5%
|
123
|
5%
|
| Cyflogedig a gwirfoddolwyr |
649
|
26%
|
585
|
23%
|
| Gwirfoddolwyr yn unig |
1062
|
42%
|
1094
|
43%
|
| Dim ateb |
674
|
27%
|
713
|
28%
|
C3: Cyfanswm staff
|
Heb ei bwysoli
|
%
|
Wedi'i bwysoli
|
%
|
|
Sail
|
2515
|
|
2515
|
|
| Llai na 10 |
905
|
36%
|
927
|
37%
|
| 10 i 49 |
855
|
34%
|
801
|
32%
|
| 50 i 249 |
77
|
3%
|
69
|
3%
|
| 250+ |
4
|
*
|
5
|
*
|
| Dim ateb |
674
|
27%
|
713
|
28%
|
* dynodi canrannau llai na 0.5%
C4: A yw'r elusen yn rhan o ffederasiwn neu beidio
|
Heb ei bwysoli
|
%
|
Wedi'i bwysoli
|
%
|
|
Sail
|
2515
|
|
2515
|
|
| Ie |
522
|
21%
|
518
|
21%
|
| Na |
1939
|
77%
|
1942
|
77%
|
| Dim ateb |
54
|
2%
|
54
|
2%
|
C5a: Gweithio yn lleol
|
Heb ei bwysoli
|
%
|
Wedi'i bwysoli
|
%
|
|
Sail
|
2515
|
|
2515
|
|
| Ar lefel leol |
1920
|
76%
|
1905
|
76%
|
| Ardal ddaearyddol ehangach |
539
|
21%
|
552
|
22%
|
| Dim ateb |
56
|
2%
|
58
|
2%
|
C5b: Gweithio mewn ardal drefol neu wledig
|
Heb ei bwysoli
|
%
|
Wedi'i bwysoli
|
%
|
|
Sail
|
2515
|
|
2515
|
|
| Gwledig |
907
|
36%
|
897
|
36%
|
| Trefol |
727
|
29%
|
762
|
30%
|
| Y ddau |
820
|
33%
|
795
|
32%
|
| Dim ateb |
61
|
2%
|
61
|
2%
|
Atodiad C - Holiadur yr arolwg
PDF o holiadur yr arolwg
Atodiad Ch - Dadansoddiad segmentu
Mae dadansoddiad segmentu wedi datgelu dau glwstwr ar wahân a allai fod o ddefnydd o ran darparu ffocws â tharged i gael canlyniadau cadarnhaol o'r ymchwil:
- Grŵp o elusennau sydd heb gydweithio oedd yn fwy cadarnhaol nag eraill am gydweithio ac yn fwy tebygol o adnabod anghenion cymorth. Aelodau mwyaf cyffredin y clwstwr hwn oedd yr elusennau ieuaf, eithaf mawr (yn dibynnu'n bennaf ar roddion neu werthu/ddigwyddiadau am incwm), a'r rhai oedd heb wybodaeth am gydweithio.
- Grŵp o elusennau sy'n cydweithio oedd yn fwyaf cadarnhaol am gydweithio, ar ôl iddynt gydweithio'n llwyddiannus eu hunain. Roedd aelodau'r clwstwr hwn hefyd yn tueddu i fod yn elusennau iau, rhai o'r elusennau mwyaf, ac roeddent wedi cael trefniadau cydweithio mwy ffurfiol ag elusennau oedd yn fwy na nhw.
Cyflwyniad i segmentu a'i ddiben
Mae dadansoddiad segmentu yn rhannu'r ymatebwyr yn grwpiau gwahanol, neu'n glystyrau, gyda phob grŵp yn arddangos agweddau ac ymddygiad sy'n wahanol i'w gilydd. Defnyddiwyd meddalwedd ystadegol i wneud hyn. I gychwyn mae'r broses yn cynnwys adnabod yr holl gwestiynau a gaiff eu cynnwys yn y dadansoddiad segmentu (cwestiynau rhif/agwedd yw'r gorau, neu gwestiynau lle mae graddfa rifiadol, megis incwm), a defnyddio'r meddalwedd i drefnu ymatebwyr yn nifer arbennig o glystyrau. Yna mae'r meddalwedd dadansoddi yn dechrau proses iteraidd lle mae'n dynodi canolfannau clwstwr (yn seiliedig ar yr holl newidynnau), gyda phob ymatebwr yn cael ei ddosbarthu i'r clwstwr hwnnw yn ôl sut y mae'n ymateb. Mae'r algorithm clystyru yn ceisio sicrhau'r pellter (gwahaniaeth) mwyaf posibl rhwng clystyrau a lleihau'r gwahaniaeth lleiaf posibl o'i fewn. Ar ôl cwblhau'r broses, mae clystyrau'n cael eu creu fel bod aelodau pob clwstwr yn arddangos agweddau ac ymddygiad tebyg. Mae profion ystadegol yn cael eu gwneud i weld pa mor agos yw'r berthynas rhwng aelodau pob clwstwr (neu pa mor wahanol yw'r clystyrau i'w gilydd). Gallai hyn ddatgelu nad ydynt yn ddigon homogenaidd, a fyddai'n dangos y dylai'r broses gael ei hailadrodd drwy ofyn i'r meddalwedd rannu'n nifer fwy o glystyrau.
Ar gyfer yr astudiaeth hon, pan fydd clystyrau wedi'u diffinio (yn seiliedig ar y clystyrau mwyaf gwahanol), cafodd pob clwstwr ei broffilio gyda newidynnau eraill oedd heb eu cynnwys yn y broses glystyru (h.y. y rhai nad ydynt yn rhifiadol mewn unrhyw ffordd, ee ardal, gweithgaredd elusen ac ati), i weld a oeddent wedi cael unrhyw ddylanwad o fewn y clystyrau.
Cynhaliwyd dadansoddiad segmentu ar wahân ar gyfer yr 'elusennau sy'n cydweithio' ac 'elusennau sydd heb gydweithio'.
- Mae'r ymarfer segmentu ar gyfer yr elusennau sydd heb gydweithio yn darparu gwybodaeth am y mathau o elusennau (ee, o ran incwm ac oedran yr elusennau) y byddai'n haws eu hannog i gydweithio, ac mae'n tynnu sylw at y mathau o gymorth y mae eu hangen arnynt er mwyn gwneud hynny.
- Mae'r ymarfer segmentu ar yr elusennau sy'n cydweithio yn awgrymu'r mathau o elusennau, a'r gweithgareddau cydweithio, sydd wedi bod yn fwyaf llwyddiannus.
Clystyrau o elusennau sydd heb gydweithio
Mae dadansoddiad segmentu wedi dangos bod tri chlwstwr gwahanol ar gyfer yr elusennau sydd heb gydweithio, fel a ganlyn:
- elusennau bach, sefydledig sydd heb unrhyw ddiddordeb;
- elusennau mawr, sefydledig gyda pheth diddordeb; ac
- elusennau ifanc, maint canolig sydd â'r diddordeb mwyaf.
Mae ysgrifau portread o'r rhain fel a ganlyn:
Clwstwr 1 (52% o elusennau sydd heb gydweithio): Elusennau bach, sefydledig heb unrhyw ddiddordeb
- Yr elusennau hynaf fel arfer, a fu'n gweithredu am fwy nag 20 mlynedd.
- Maent yn fach o ran incwm (58% ohonynt gydag incwm hyd at £5K, 11% gydag incwm £25-100K) a chyfanswm aelodau staff cyflogedig a gwirfoddol (dim ond pedwar ar gyfartaledd).
- Nhw sy'n fwyaf tebygol o'r holl glystyrau i ddibynnu ar fuddsoddiadau ar gyfer incwm (42%).
- Mae eu rhwystrau i gydweithio yn ymwneud yn bennaf â chael dim angen i gydweithio a heb weld y manteision.
- Nhw yw'r lleiaf cefnogol o'r syniad o gydweithio, ac yn fwyaf tebygol o heb gael unrhyw ddiddordeb yn y dyfodol (66% wedi nodi nad oes unrhyw anghenion cymorth ganddynt).
Clwstwr 2 (30% o elusennau sydd heb gydweithio): Elusennau mawr, sefydledig gyda pheth diddordeb
- Mae'r rhain yn rhai o'r elusennau hynaf hefyd, er eu bod ychydig yn iau ar gyfartaledd nag elusennau clwstwr 1.
- Nhw yw'r mwyaf o ran incwm (dim ond 27% gydag incwm hyd at £5K, 25% gydag incwm £25-100K) ac aelodau staff/ gwirfoddol (16 ar gyfartaledd).
- Maen nhw'n fwy tebygol nag eraill i ddibynnu ar roddion (53%) ac incwm o werthu neu ddigwyddiadau (53%), yna thanysgrifiadau (35%), yna grantiau gan sefydliadau/ymddiriedolaethau (30%).
- Mae eu rhwystrau i gydweithio yn ymwneud â chael dim angen, ond hefyd diffyg partneriaid priodol a heb gael eu cysylltu gan elusennau eraill.
- Mae barn fwy cadarnhaol ganddynt na chlwstwr 1 am y syniad o gydweithio, ond nid ydynt mor gadarnhaol â chlwstwr 3; dim ond 39% nododd nad oes unrhyw anghenion cymorth ganddynt o ran cydweithio yn y dyfodol (er bod 33% yn teimlo bod angen cyngor, gwybodaeth ac arweiniad arnynt).
Clwstwr 3 (18% o elusennau sydd heb gydweithio): Elusennau ifanc, maint canolig sydd â'r diddordeb mwyaf
- Nhw yw'r elusennau ieuaf a fu'n gweithredu am lai na 10 mlynedd yn gyffredinol.
- Maen nhw'n tueddu i fod yn fwy nag elusennau clwstwr 1, ond yn llai nag elusennau clwstwr 2 o ran incwm (34% gydag incwm hyd at £5K, 21% gydag incwm £25-100K) a chyfanswm staff cyflogedig a gwirfoddol (wyth aelod staff/gwirfoddol ar gyfartaledd).
- Maen nhw'n dibynnu ar roddion yn bennaf (60%), yna incwm o werthu/digwyddiadau (41%), a nhw yw'r lleiaf tebygol o ddibynnu ar fuddsoddiadau (13%).
- Mae eu rhwystrau i gydweithio yn ymwneud â chael dim angen, ond hefyd diffyg partneriaid priodol, prinder elusennau eraill yn cysylltu â nhw a diffyg gwybodaeth.
- Nhw sy'n teimlo'n fwyaf cadarnhaol o'r holl glystyrau am y syniad o gydweithio, a dim ond 40% ohonynt oedd wedi nodi nad oedd unrhyw anghenion cymorth ganddynt. Fel y gwelir o'u rhwystrau, dyma'r clwstwr sy'n fwyaf tebygol o fod angen gwybodaeth, cyngor ac arweiniad pellach os ydynt yn cydweithio yn y dyfodol (40% o'i gymharu â dim ond 33% o glwstwr 2).
Clystyrau o elusennau sy'n cydweithio
Mae dadansoddiad segmentu wedi dangos bod tri chlwstwr ar wahân ar gyfer yr elusennau sy'n cydweithio, fel a ganlyn:
- elusennau mawr, sefydledig sy'n cydweithio'n anffurfiol ag elusennau llai, y lleiaf cadarnhaol;
- elusennau mawr, ifanc sy'n cydweithio'n fwy ffurfiol ag elusennau mwy, y mwyaf cadarnhaol; ac
- elusennau bach, sefydledig, sy'n cydweithio'n llwyddiannus ac yn anffurfiol â rhai elusennau mwy, yn gadarnhaol.
Mae ysgrifau portread pen o'r rhain fel a ganlyn:
Clwstwr 4 (39% o elusennau sy'n cydweithio): Elusennau mawr, sefydledig sy'n cydweithio'n anffurfiol ag elusennau llai, y lleiaf cadarnhaol
- Yr elusennau hynaf fel arfer, a fu'n gweithredu am fwy nag 20 mlynedd.
- Elusennau canolig o ran incwm (28% gydag incwm hyd at £5K, 14% gydag incwm £100-250K), ond y mwyaf o ran nifer y staff/gwirfoddolwyr (33 ar gyfartaledd), yn enwedig aelodau staff cyflogedig.
- Nhw yw'r mwyaf tebygol o'r holl glystyrau i ddibynnu ar roddion (64%), incwm o werthu/digwyddiadau (61%) a thanysgrifiadau (42%).
- Maen nhw wedi tueddu i gydweithio ag elusennau o faint tebyg (57%), ond maen nhw hefyd yn fwyaf tebygol o'r holl glystyrau i gydweithio â phartneriaid elusen llai.
- Nhw yw'r mwyaf tebygol o fod wedi cael trefniadau anffurfiol yn unig (69%).
- Eu trefniadau cydweithio nhw oedd y lleiaf llwyddiannus o'r holl glystyrau.
- O'r holl glystyrau, eu hagwedd tuag at gydweithio yw'r lleiaf cadarnhaol.
Clwstwr 5 (23% o elusennau sy'n cydweithio): Elusennau mawr, ifanc, sy'n cydweithio'n ffurfiol ag elusennau mwy, y mwyaf cadarnhaol
- Yr elusennau ieuaf fel arfer a fu'n gweithredu am lai na 10 mlynedd
- Nhw yw'r mwyaf o ran incwm (dim ond 15% gydag incwm hyd at £5K, 22% gydag incwm £100-250K), ond o faint canolig o ran nifer y staff/gwirfoddolwyr (22 ar gyfartaledd).
- O ran incwm, nhw yw'r mwyaf tebygol o'r holl glystyrau i ddibynnu ar roddion (64%) a grantiau gan sefydliadau/ymddiriedolaethau (57%).
- Maen nhw wedi tueddu i gydweithio ag elusennau sy'n fwy na nhw (62%).
- Nhw yw'r lleiaf tebygol o'r holl glystyrau o fod wedi cael trefniadau anffurfiol yn unig (59%), ac yn fwyaf tebygol o fod wedi cael trefniadau ffurfiol ac anffurfiol (23%).
- Mae eu trefniadau cydweithio wedi bod yn llwyddiannus iawn.
- O'r holl glystyrau, eu hagwedd tuag at gydweithio yw'r mwyaf cadarnhaol.
Clwstwr 6 (38% o elusennau sy'n cydweithio): Elusennau bach, sefydledig sy'n cydweithio'n anffurfiol (ac yn llwyddiannus) â rhai elusennau mwy, yn gadarnhaol
- Nhw yw rhai o'r elusennau hynaf hefyd, er eu bod ychydig yn iau ar gyfartaledd nag elusennau clwstwr 4.
- Nhw yw'r lleiaf o ran incwm (dim ond 37% gydag incwm hyd at £5K, dim ond 9% gydag incwm £100-250K), ac o ran nifer y staff/gwirfoddolwyr (dim ond 5 ar gyfartaledd).
- O ran incwm, nhw yw'r mwyaf tebygol o'r holl glystyrau i ddibynnu ar incwm o amrywiaeth o ffynonellau gwahanol.
- Maen nhw wedi tueddu i gydweithio ag elusennau sydd naill ai'n fwy na nhw (40%) neu sydd o faint tebyg (49%).
- Fel clwstwr 4, nhw oedd yn fwyaf tebygol o gael trefniadau anffurfiol, ond i raddau ychydig yn is na chlwstwr 4 (64%).
- O'r holl glystyrau, eu trefniadau cydweithio nhw oedd y rhai mwyaf llwyddiannus, ychydig yn fwy felly, ar gyfartaledd, na threfniadau cydweithio clwstwr 5.
- Mae eu hagweddau tuag at gydweithio yn weddol gadarnhaol, ond nid mor gadarnhaol â chlwstwr 5.
Atodiad D - Cyfeirio at adnoddau
COMISIWN ELUSENNAU CYMRU A LLOEGR
Y Comisiwn Elusennau yw rheoleiddiwr annibynnol elusennau yng Nghymru a Lloegr. Ei nod yw rheoleiddio elusennau yng Nghymru a Lloegr yn y ffordd orau bosibl er mwyn cynyddu effeithiolrwydd elusennau a ffydd a hyder y cyhoedd. Mae'n rhaid i'r rhan fwyaf o elusennau gofrestru gyda'r Comisiwn, ond nid oes rhaid i rai mathau arbennig o elusennau gofrestru. Mae tua 180,000 o elusennau cofrestredig yng Nghymru a Lloegr. Mae'r fframwaith yn wahanol yn yr Alban, ac nid yw'r Comisiwn yn rheoleiddio elusennau'r Alban.
Mae'r Comisiwn yn darparu amrywiaeth helaeth o gyngor a chanllawiau i elusennau a'u hymddiriedolwyr, ac yn aml iawn gall helpu i ddatrys problemau. Rhaid i elusennau cofrestredig sydd ag incwm blynyddol dros drothwy arbennig ddarparu gwybodaeth a chyfrifon blynyddol i'r Comisiwn. Mae pwerau eang gan y Comisiwn i ymyrryd ym materion elusen pan fydd pethau wedi mynd o'i le.
Mae rhagor o wybodaeth am y Comisiwn, ynghyd ag ystod o ganllawiau i elusennau, i'w gweld ar ein gwefan: www.comisiwnelusennau.gov.uk
CANLLAWIAU AC YMCHWIL PERTHNASOL Y COMISIWN ELUSENNAU
Gall y cyhoeddiadau canlynol gan y Comisiwn Elusennau fod o gymorth i'r darllenwyr, ac maen nhw i gyd ar gael i'w lawrlwytho o wefan y Comisiwn: http://www.charitycommission.gov.uk/welsh/Charity_requirements_guidance/Your_charitys_activities/Working_with_others/default.aspx
SEFYDLIADAU SY'N DARPARU CYNGOR A CHYMORTH AR GYDWEITHIO
bassac - mae'n rhedeg y rhaglen Collaboration Benefits sy'n darparu hyfforddiant a chymorth i helpu grwpiau cymunedol a gwirfoddol i ddatblygu partneriaethau cryf a llwyddiannus. Mae hefyd yn cynnig amryw o becynnau cymorth ac astudiaethau achos ar fathau penodol o gydweithio. http://www.bassac.org.uk/
Cyngor Cenedlaethol Mudiadau Gwirfoddol (NCVO) - mae ganddo Uned Gydweithredu benodol sy'n darparu gwybodaeth ar arferion da a chyngor ar bob agwedd ar gydweithio i gymdeithasau gwirfoddol a chymunedol. Mae'r uned hefyd yn cynnal digwyddiadau yn ogystal â chynhyrchu cylchlythyr misol ar gydweithio. http://www.ncvo-vol.org.uk/
Cymdeithas Genedlaethol Gweithredu Gwirfoddol a Chymunedol (NAVCA) yw llais cenedlaethol seilwaith y sector gwirfoddol lleol yn Lloegr. Mae ei wefan yn darparu gwybodaeth, wedi'i hanelu'n bennaf at sefydliadau seilwaith lleol ar gyfuniadau yn ogystal â chydweithio. http://www.navca.org.uk/
Cymdeithas Prif Weithredwyr Mudiadau Gwirfoddol (ACEVO) yw'r corff proffesiynol ar gyfer prif weithredwyr cyrff sector gwirfoddol, gyda dros 2000 o aelodau. Mae'n cysylltu, yn datblygu ac yn cynrychioli arweinwyr y sector, gyda'r nod o gynyddu effaith ac effeithlonrwydd y sector. www.acevo.org.uk
Charities Evaluation Services (CES) - elusen sy'n darparu adnoddau, gwasanaeth ymgynghori, gwerthusiadau allanol a chymorth ar systemau ansawdd a gwerthuso i'r sector gwirfoddol. http://www.ces-vol.org.uk/
Institute for Voluntary Action Research (IVAR) - mae'n gweithio gyda sefydliadau sector gwirfoddol i gynnig atebion arloesol i'r heriau trefnu a rheoli a wynebir ganddynt. Mae ei waith wedi cynnwys ymchwil ar bartneriaethau cydweithio rhwng mudiadau gwirfoddol. http://www.ivar.org.uk/
The Small Charities Coalition - mae'n bodoli i helpu elusennau bach i fanteisio ar y sgiliau, y profiad a'r adnoddau y mae eu hangen arnynt i gyflawni eu hamcanion. Mae hefyd yn paru elusennau bach â sefydliadau eraill er mwyn datblygu adnoddau a gwella gwybodaeth a sgiliau. http://www.smallcharities.org.uk/
PECYNNAU CYMORTH A CHANLLAWIAU
Collaborative Working: Partnership between voluntary organisations - NCVO, 2007. Ar gael yn http://www.ncvo-vol.org.uk/uploadedFiles/NCVO/What_we_do/Collaborative_Working_Unit/Information_and_advice/What_is_collaborative_working_PDF.pdf
Getting ready for collaboration: Learning from experience- IVAR, 2010. Ar gael yn http://www.ivar.org.uk/publications/reports-and-publications/getting-ready-collaboration-learning-experience
How to collaborate: tools and templates - bassac, 2009. Ar gael yn http://www.bassac.org.uk/dms/documents/8/how-to-collaborate-tools-and-templates
Models of collaborative working -NCVO. Ar gael yn http://www.ncvo-vol.org.uk/advice-support/collaborative-working-models
Should you collaborate? Key questions - NCVO, 2005. Ar gael yn http://www.ncvo-vol.org.uk/advice-support/collaborative-working/information-and-tools/shouldyoucollaborate
YMCHWIL
Cydweithio a Chyfuniadau (RS4) - Comisiwn Elusennau, 2003. Ar gael yn: www.charitycommission.gov.uk/welsh/publications/rs4.aspx
Collaborative working between large and small voluntary organisations - NCVO, 2006. Ar gael yn http://www.ncvo-vol.org.uk/uploadedFiles/NCVO/What_we_do/Collaborative_Working_Unit/Resources/NCVO%20Collaborative%20working%20large%20small%20report.pdf
Mix, Match, Merge? Issues and Options for Charities considering Mergers and other Partnerships - Ysgol Fusnes City University, 2000. Ar gael yn http://www.lhf.org.uk/Publications/MixMatchMerge.pdf
Sharing without merging - bassac, 2005. Ar gael yn http://www.bassac.org.uk/node/244
Sink or Swim: Towards a 21st century community sector - bassac, 2006. Ar gael yn http://www.bassac.org.uk/dms/documents/8/sink-or-swim-towards-a-21st-century-community-sector
Working together for better office infrastructure - ACEVO, 2006. Ar gael yn www.sayervincent.co.uk/Asp/uploadedFiles/File/workingtogether.pdf
1 + 1 = 3 Does size really matter? NCVO, 2005. Ar gael yn http://www.ncvo-vol.org.uk/node/987#Executive_Summary
GWASANAETHAU I GYNORTHWYO CYDWEITHIO
Funding Central - mae'n rhedeg cynllun o'r enw 'Find a Partner' sy'n galluogi elusennau i chwilio am bartneriaid cydweithio posibl. http://www.fundingcentral.org.uk/Page.aspx?SP=6126
bassac - mae'n rhedeg rhaglen o'r enw Collaboration Benefits sy'n darparu hyfforddiant a chymorth i helpu grwpiau cymunedol a gwirfoddol i ddatblygu partneriaethau cryf a llwyddiannus. http://www.bassac.org.uk/our-programmes/collaboration/collaborationbenefits
Diolchiadau
Hoffem ddiolch i bawb sydd wedi cydweithredu i gynhyrchu'r adroddiad hwn, yn enwedig yr elusennau a'r arbenigwyr sector a gytunodd i gael eu cyfweld yn ystod y cam ansoddol cychwynnol.
Diolch yn arbennig i GfK NOP a gafodd ei gomisiynu i wneud yr ymchwil hwn.
Troednodiadau
1. Canllaw'r Comisiwn Elusennau: Gweithio gydag elusennau eraill: http://www.charitycommission.gov.uk/welsh/Charity_requirements_guidance/Your_charitys_activities/Working_with_others/default.aspx
2. Ibid
3. London School of Economics: A Handbook for Small Voluntary Agencies (2000) Rochester, C.
4. Office for the Third Sector State of the Sector Panel Survey, Report 4: Human and Capital Resources (2008): http://www.cabinetoffice.gov.uk/media/120340/sosp%20report%204.pdf
5. NCVO: The UK Civil Society Almanac (2009)
6. Wedi'i dynnu o gronfa ddata'r Comisiwn Elusennau, 31/03/10
7. Adroddiad ymchwil y Comisiwn Elusennau: Cydweithio a Chyfuniadau - RS4 (2003): http://www.charitycommission.gov.uk/welsh/Publications/rs4.aspx
8. Gofynnwyd i ymatebwyr nodi ffynonellau incwm eu helusen, drwy eu rhestru yn ôl eu cyfraniad at eu hincwm, gydag '1' yn dynodi'r brif ffynhonnell incwm. Fodd bynnag, mae'r dadansoddiad arbennig hwn yn canolbwyntio ar ganran yr elusennau a nododd fod o leiaf peth incwm yn dod o ffynhonnell arbennig, waeth sut y cafodd ei raddio.
9. Diffinnir prif incwm fel yr incwm a restrir yn gyntaf yn ôl ei gyfraniad at gyfanswm incwm yr elusen.
10. Er bod ail ran y cwestiwn hwn yn gofyn i ymatebwyr nodi un brif fantais, roedd rhai ymatebwyr wedi nodi mwy nag un 'brif fantais'. Felly mae'r holl ymatebion a gofnodwyd yn ail ran y cwestiwn wedi cael eu nodi fel 'prif fantais'.
11. Y sail oedd pob un oedd a ddywedodd eu bod nhw wedi ceisio cyngor (yn ôl y data yn Siart 13), ond aeth 8% o'r ymatebwyr hyn ymlaen i ddweud nad oeddent yn ceisio cyngor (yn ôl y data yn Siart 14).
12. Gall y cyfran cytuno net ('Cytuno'n gryf' plws 'Tueddu i gytuno') amrywio weithiau gan 1% o swm pob un oherwydd talgrynnu'r canrannau gwahanol.
13. Ysgrifennwyd y bandiau incwm hyn yn y fformat hwn trwy'r ddogfen hon at ddibenion symleiddio. Fodd bynnag, mae'r union fandiau y maent yn eu cynrychioli fel a ganlyn: '£0-5K' = £0 - 5,000, '£5-10K'=£5,001-10,000, '£10-25K'= £10,001 - 25,000, '£25-100K' = £25,001-100,000, '£100-250K'= £100,001-250,000.