(Version Awst 2002)
Cynnwys
Am y cyhoeddiad hwn
1. Mae amgueddfeydd ac orielau celf yn gwneud cyfraniad
hanfodol i ddiwylliant a threftadaeth y genedl. O'r sefydliadau cenedlaethol
i'r amgueddfeydd ac orielau celf rhanbarthol a lleol, maen nhw'n boblogaidd
ac yn werthfawr iawn. Ond yn ogystal â bod yn llefydd o addysg,
maen nhw hefyd yno i ni eu mwynhau. Cynhaliodd y Comisiwn Elusennau
ei adolygiad i annog trafodaeth a chyfnewid syniadau am werth addysgol
amgueddfeydd ac orielau celf a materion ymarferol sy'n codi wrth ystyried
eu statws elusennol.
2. Rydym yn awyddus i hybu haelioni cyfranwyr ac asbri
a chraffter y sectorau cyhoeddus a phreifat, y mae sector y celfyddydau
yn dibynnu arnynt i raddau helaeth. Ni ddylai ein harweiniad dynnu oddi
wrth ein hanogaeth hyd yn oed pan fyddwn yn amlinellu materion sy'n
ymwneud ag annibyniaeth a budd preifat.
3. Mae'r cyhoeddiad yn rhoi arweiniad, ac yn arbennig
ein barn ynglŷn â'r angen i amgueddfa neu oriel gelf fodloni
maen prawf teilyngdod er mwyn cael eu cydnabod fel cyrff elusennol.
Rydym yn ddiolchgar iawn i bawb a gyfrannodd at yr ymgynghoriad cyhoeddus
a arweiniodd at yr arweiniad hwn.
4. Nid yw'r arweiniad hwn yn ymdrin â chasgliadau
sy'n ymwneud â dibenion ymchwil yn unig na chasgliadau sy'n ymwneud
yn benodol â hyrwyddo syniadau a phropaganda gwleidyddol.
5. Nid yw'r arweiniad hwn yn cynnig unrhyw sylwadau
ar nifer yr amgueddfeydd ac orielau celf mewn unrhyw ardal arbennig
neu nifer yr amgueddfeydd ac orielau celf sy'n ymwneud â'r un
pwnc. Mae'r rhain yn faterion i bob sefydliad eu trafod, ond mae'n amlwg
y byddant am ystyried a fyddai modd i'w dibenion elusennol gael eu cyflawni
yn fwy effeithlon neu effeithiol trwy gydweithio fel un corff er mwyn
osgoi dyblygu ymdrech a gwastraffu adnoddau.
Amcanion
6. Mae sefydlu a chynnal amgueddfa a/neu oriel gelf
er budd y cyhoedd yn amcan elusennol. Mae hybu celfyddyd a hyrwyddo
addysg hefyd yn amcanion elusennol amlwg. Rhaid i'r amcan a fynegir
adlewyrchu'n fanwl gywir ddibenion sefydliad. Felly gallai sefydliad
fynegi ei amcan mewn unrhyw un o'r ffyrdd canlynol1
yn dibynnu ar ei ddibenion:
- "sefydlu a chynnal amgueddfa a/neu oriel gelf er budd y cyhoedd".
- "hybu celfyddyd trwy sefydlu a chynnal [amgueddfa] [oriel gelf]".
- "hyrwyddo addysg trwy sefydlu a chynnal amgueddfa"2.
- "hyrwyddo addysg yn y celfyddydau trwy sefydlu a chynnal amgueddfa
gelf neu oriel gelf".
Gofynion cyffredinol ar gyfer statws
elusennol
7. Daethom i'r casgliad y bydd rhaid
i amgueddfeydd ac orielau celf, er mwyn bod yn elusennol, ddangos bod
eu casgliadau neu arddangosion -
(i) wedi'u sefydlu er budd y cyhoedd, hynny
yw:
- maen nhw'n darparu digon o fynediad i'r cyhoedd;
- mae unrhyw fudd preifat a gaiff unigolion yn atodol ac wedi'i reoli'n
briodol;
- nid ydynt yn cael eu defnyddio at ddibenion anelusennol, fel masnachu3;
a
- yn bodloni maen prawf teilyngdod, hynny yw, mae digon o dystiolaeth
y bydd casgliadau ac arddangosion a'r defnydd a wneir ohonynt naill
ai'n ad dysgu meddyliau'r cyhoedd y mae'r amgueddfa neu'r oriel gelf
yn bwriadu ei wasanaethu, neu sydd o leiaf yn gallu gwneud hynny.
Yr hyn a gyfleir i'r cyhoedd yw syniad, emosiwn neu brofiad sy'n goleuo
ac sydd o werth iddynt, neu sydd â'r gallu i fod o werth iddynt.
Celfyddyd
8. Byddwn yn ystyried ystyr y gair celfyddyd wrth bennu
a yw'r maen prawf teilyngdod wedi'i fodloni neu beidio mewn ffordd eang
a chynhwysol. Ystyr 'cynhwysol' yma yw eangfrydig ac agored. Mae celfyddyd
yn cynnwys celfyddyd haniaethol, cysyniadol a pherfformiad. Gall y cyfrwng
ar gyfer cyfathrebu celfyddyd gynnwys cyfrifiadur, fideo a dulliau aml-gyfrwng.
Pwyso a mesur teilyngdod ac "arbenigwyr"
9. Os yw nodweddion cynhenid arddangosyn neu gasgliad
yn awgrymu bod rhagdybiaeth o deilyngdod, bydd ein staff yn gallu pennu'r
maen prawf teilyngdod heb yr angen am dystiolaeth arbenigol; mae'r amgylchiadau
yn cadarnhau bod y maen prawf teilyngdod wedi'i fodloni. Mae enghreifftiau
o sefydliadau sy'n dod o fewn y band neu'r categori "amlwg" hwn yn cynnwys
y rheiny sydd â chasgliadau o artistiaid sefydledig a chydnabyddedig.
Os yw teilyngdod gwaith, artist neu gasgliad arbennig yn destun dadlau
ymhlith barn ddeallus, byddwn yn ystyried y mater mewn ffordd gynhwysol.
10. Mae amgueddfa neu oriel gelf yn debygol o gael
ei chofrestru dan y Cynllun Cofrestru i amgueddfeydd ac orielau celf
yn y Deyrnas Unedig sy'n gosod y safonau lleiaf ar gyfer amgueddfeydd
ac orielau celf yn nhermau casglu, gofal, gwasanaethau cyhoeddus a rheolaeth.
Gall amgueddfeydd ac orielau celf hefyd fod yn aelodau o Gymdeithas
yr Amgueddfeydd neu gyrff ymbarél eraill sy'n gysylltiedig â'r
sector amgueddfeydd a chelfyddydau. Bydd amgueddfeydd ac orielau celf
sydd wedi'u cofrestru dan y Cynllun Cofrestru yn dod o fewn y "band
amlwg".
11. Gall fod achosion eraill lle y byddai ein staff
yn gallu pennu a yw'r maen prawf teilyngdod wedi'i fodloni neu beidio
heb yr angen am dystiolaeth arbenigol. Yn yr achosion hyn lle nad yw'r
casgliad dan sylw yn bodloni'r maen prawf teilyngdod mewn ffordd amlwg,
bydd rhai nodweddion pellach neu wybodaeth berthnasol a fydd yn ddigonol
i'n bodloni bod y maen prawf wedi'i fodloni. Enghraifft fyddai aelodaeth
sefydliadol o Gymdeithas yr Amgueddfeydd y cyfeirir ati uchod. Unwaith
eto, os oes dadlau ymhlith barn ddeallus ynglŷn â theilyngdod
gwaith, artist neu gasgliad arbennig, byddwn yn ystyried y mater mewn
ffordd gynhwysol.
12. Os nad yw cais yn amlwg ar unwaith neu nid oes
modd pennu ei deilyngdod mewn ffordd amlwg, rhaid i ni ddibynnu ar dystiolaeth
arbenigol. Ymdrinnir â chymhwyster a dewis arbenigwyr ym mharagraffau
A9 i A14 Atodiad A y ddogfen hon.
Gwybodaeth bellach
13. Os yw sefydlu amgueddfa neu oriel gelf elusennol
o ddiddordeb i chi, cysylltwch â'n staff cofrestru ar 0870 333
0123.
Effaith yr arweiniad hwn ar elusennau
sy'n bodoli
14. Ni ddylai fod angen i elusennau sy'n bodoli newid
eu hamcanion o ganlyniad i'r arweiniad hwn. Ond dylai ymddiriedolwyr
adolygu dulliau gweithredu'r amgueddfa neu'r oriel gelf. Yn arbennig
dylai'r ymddiriedolwyr nodi'r maen prawf teilyngdod y cyfeiriwyd ato
a'r hyn a ddywedwn yn ein harweiniad yn Atodiad A ynglŷn
â:
- chyfraniad unigolion a chyrff eraill lle y gallai fod gwrthdaro
buddiannau, er enghraifft, lle mae annibyniaeth ymddiriedolwyr elusennau
wedi'i chyfyngu neu lle y gall buddiannau preifat lywodraethu.
15. Os nad yw ymddiriedolwyr elusennau cofrestredig
yn sicr ynglŷn â'r defnydd o'r arweiniad hwn neu os oes ganddynt
unrhyw ymholiadau eraill, bydd ein staff cefnogi elusennau yn falch
i drafod y materion gyda hwy. Gallwch gysylltu â nhw hefyd ar
0870 333 0123.
Effaith yr arweiniad hwn ar elusennau
sy'n rhoi grantiau
16. Mae'r arweiniad hwn yn berthnasol i elusennau sy'n
rhoi grantiau i amgueddfeydd a/neu orielau celf. Mae elusennau o'r fath
yn cynnwys y rheiny a sefydlwyd gydag amcanion elusennol eang a phwerau
rhoi grantiau cyffredinol. Er mwyn bodloni ei hun ei bod yn cyflawni
dibenion elusennol, dylai unrhyw elusen sydd yn y sefyllfa hon ystyried
yr arweiniad hwn wrth roi grantiau i amgueddfeydd ac orielau celf neu
brynu eiddo ar eu cyfer.
Atodiad A - Canllawiau pellach
Canllawiau cyffredinol
A1. Pan fyddwn yn derbyn cais gan amgueddfa neu oriel
gelf i gofrestru fel elusen byddwn yn gofyn y cwestiynau canlynol ac
yn dilyn yr egwyddorion canlynol:
- Ydy'r casgliadau neu'r arddangosion wedi'u sefydlu er budd y cyhoedd?
Hynny yw:
(a) rhaid cael digon o fynediad i'r cyhoedd
(gweler yn ddiweddarach yn A19);
(b) rhaid i unrhyw fudd preifat a gaiff unigolion
fod yn atodol ac wedi'i reoli'n briodol (gweler yn ddiweddarach
yn A37); ac
(c) ni ddylent gael eu defnyddio at ddibenion
anelusennol, er enghraifft, masnachu'n bennaf (gweler yn ddiweddarach
yn A34).
- Ydy'r casgliadau neu'r arddangosion yn bodloni maen prawf teilyngdod?
Adnabod teilyngdod
A2. Mynegir y maen prawf teilyngdod ym mharagraff
7 uchod. Yn achos amgueddfa nad yw'n ymwneud â chelfyddyd,
er enghraifft amgueddfa wyddoniaeth, rhaid i ni fod yn fodlon bod y
casgliad(au) a'r defnydd a wneir ohono/ohonynt yn addysgu'r ymwelydd,
neu'n gallu gwneud hynny.
A3. Yn achos amgueddfa gelf neu oriel gelf, gall y
budd addysgol fod ar ffurf ehangu neu ddyfnhau meddyliau'r ymwelwyr
neu drwy ddatblygu eu pwerau mewnwelediad, canfyddiad a gwerthfawrogiad.
A4. Ni fydd ein hagwedd yn rhagnodol a bydd y safonau
ar gyfer adnabod teilyngdod yn eang ac yn gynhwysol eu natur. Byddant
yn cynnwys dulliau traddodiadol ac agweddau blaengar neu arbrofol. Bydd
gwaith mewn unrhyw gyfrwng sefydledig yn cael ei ystyried i'w gofrestru.
Teilyngdod amlwg
A5. Wrth ystyried ceisiadau i gofrestru fel elusen
gan amgueddfeydd neu orielau celf mae'n bosib y byddwn yn gallu canfod
rhagdybiaeth o deilyngdod yn y casgliad(au) a'i ddefnydd/a'u defnydd
arfaethedig mewn arddangosfa i'r cyhoedd. Os oes dadlau ymhlith barn
ddeallus ynglŷn â theilyngdod gwaith, artist neu gasgliad
arbennig, byddwn yn ystyried y mater mewn ffordd gynhwysol.
A6. Yn amodol ar y materion sy'n codi yn gyffredinol
wrth ystyried ceisiadau, byddwn yn derbyn unrhyw amgueddfa neu oriel
gelf sy'n arddangos casgliadau gan artistiaid cydnabyddedig; neu unrhyw
amgueddfa neu oriel gelf sydd wedi cofrestru dan y Cynllun Cofrestru
ar gyfer amgueddfeydd ac orielau yn y Deyrnas Unedig a weinyddir yn
Lloegr gan Re:source4, ac a weinyddir yng Nghymru
gan y corff priodol. Byddwn yn anwybyddu gweithgareddau anelusennol
ategol y mae amgueddfeydd ac orielau celf yn ymgymryd a hwy. Ystyr gweithgareddau
ategol yw gweithgareddau sy'n atodol ac yn eilradd i gyflawni
amcan elusennol yr amgueddfa neu'r oriel gelf dan sylw.
Teilyngdod canfyddadwy
A7. Os nad oes modd pennu teilyngdod, gall fod modd
canfod teilyngdod gwaith yr amgueddfa neu'r gwaith arfaethedig trwy
ddulliau eraill, er enghraifft, trwy gyfeirio at ei haelodaeth o Gymdeithas
yr Amgueddfeydd neu Gymdeithas yr Amgueddfeydd Annibynnol. Gall aelodaeth
o gyrff eraill fod yn berthnasol hefyd. Gall y maen prawf teilyngdod
hefyd gael ei ganfod trwy gyfeirio at geisiadau a gyflwynwyd i Gynghorau
Amgueddfeydd Rhanbarthol a gohebiaeth gysylltiedig. Unwaith eto, os
oes dadlau ymhlith barn ddeallus ynglŷn â theilyngdod gwaith,
artist neu gasgliad arbennig, byddwn yn ystyried y mater mewn ffordd
gynhwysol.
Dim teilyngdod amlwg neu ganfyddadwy
A8. Os na allwn bennu neu ganfod bod y maen prawf teilyngdod
wedi'i fodloni yn y ffyrdd a ddisgrifiwyd eisoes, bydd angen dibynnu
ar gymorth "arbenigwr", er mwyn i ni allu bodloni ein hunain yn briodol
bod y maen prawf yn cael ei ateb.
A9. Mewn rhai achosion gall y dystiolaeth
arbenigol ganolbwyntio yn gyfan gwbl neu'n rhannol ar y ffordd y mae'r
casgliad yn cael ei arddangos i'r cyhoedd (gan gynnwys unrhyw ryngweithio
a gwaith estyn allan), er mwyn dangos bod y dull neu'r broses arddangos
ei hun yn darparu budd addysgol. Mewn achosion o'r fath, mae'n bosib
y byddwn yn gallu derbyn y diben a ddatganwyd fel diben elusennol hyd
yn oed os nad oes gan yr eitemau unigol a arddangosir unrhyw deilyngdod
cynhenid arbennig.
A10. Os nad oes unrhyw ddull arddangos y gallwn ei
dderbyn fel un addysgol, rhaid i'r dystiolaeth arbenigol ein bodloni
bod yr arddangosion neu'r casgliadau o deilyngdod cynhenid o'r fath
fel y byddai eu harddangos heb unrhyw beth arall yn ddigonol i fodloni'r
maen prawf.
Y cais i gofrestru neu ganfyddadwy
A11. Byddem yn disgwyl i'r cais i gofrestru gynnwys
datganiad gan yr hyrwyddwyr neu'r ymddiriedolwyr a/neu'r curadur. Bydd
y datganiad hwn, a fydd yn sôn am y casgliad neu'r casgliadau
a'r defnydd addysgol sydd i'w gwneud ohonynt a sut y cânt eu harddangos
i'r cyhoedd, yn ein cynorthwyo i bennu a yw'r maen prawf yn amlwg neu'n
ganfyddadwy.
Tystiolaeth "arbenigol"
A12. Os oes angen cymorth arbenigwr arnom er mwyn bodloni
ein hunain bod y maen prawf wedi'i ateb, rhaid i'r arbenigwr gael cymwysterau
addas.
Cymwysterau "arbenigwyr"
A13. Y cymwysterau hanfodol y dylai arbenigwr feddu
arnynt yw -
(1) trwy gymhwyster academaidd neu brofiad gwaith
(neu'r ddau) sy'n berthnasol i'r casgliad dan sylw, gall yr arbenigwr
ddangos ei fod yn gymwys i siarad ag awdurdod ar y casgliadau sy'n
destun cais i gofrestru, a'r maen prawf teilyngdod.
(2) rhaid i'r arbenigwr fod yn annibynnol yn nhermau
perthnasol, hynny yw, yn ddiduedd. Rhaid iddo neu iddi allu siarad
yn wrthrychol mewn ffordd amhleidiol am y casgliad; mae hyn yn golygu
na ddylai fod ganddo neu ganddi unrhyw fudd sylweddol neu gysylltiad
teuluol â'r hyrwyddwyr, ymddiriedolwyr, sefydliad neu gasgliad.
Wrth gwrs, nid yw hyn yn atal arbenigwr rhag llunio barn bendant ar
deilyngdod artistig neu deilyngdod arall y casgliad y mae'n ei asesu5.
A14. Gall staff amgueddfeydd, fel staff curadol, sydd
â phrofiad gwaith perthnasol gyda chasgliadau o'r math dan sylw,
weithredu fel "arbenigwyr" heb fod angen iddynt feddu ar gymhwyster
academaidd perthnasol. Ym mhob achos dylid cynnwys disgrifiad o'u cymhwyster
neu brofiad gyda'r cais6.
Dewis "arbenigwyr"
A15. Yn amodol ar y cyfyngiadau hyn, bydd hyrwyddwyr/ymddiriedolwyr
yr amgueddfa yn rhydd i ddewis arbenigwr ac fel rheol byddwn yn gallu
derbyn ei adroddiad heb yr angen i gael unrhyw beth arall. Mewn achosion
dadleuol byddwn yn ystyried y mater mewn ffordd gynhwysol. Rydym yn
cadw'r hawl i ddilysu addasrwydd arbenigwr a ddewiswyd gan yr hyrwyddwyr.
A16. At ddiben dilysu, byddem yn ceisio barn corff
priodol fel Re:source neu'r Cyngor Amgueddfeydd Rhanbarthol perthnasol.
Rydym am sicrhau ein bod yn clywed gan yr arbenigwr priodol ar gyfer
y casgliad neu'r casgliadau sy'n cael ei ystyried/eu hystyried ac yn
achos amgueddfa fwy lleol, gall arbenigwr lleol fod yn fwy priodol nag
arbenigwr cenedlaethol a rhoi barn fwy defnyddiol.
A17. Ni ragwelwn y bydd rhaid i ni ymyrryd yn y ffordd
hon ac eithrio mewn achosion prin iawn; ond wrth ystyried pob cais byddwn
yn dod i'n casgliadau ein hunain ynglŷn â theilyngdod, yn
seiliedig ar y maen prawf a byddwn yn ystyried barn yr hyrwyddwyr a'r
cyngor arbenigol annibynnol wrth wneud hynny.
Amgueddfeydd ac orielau celf newydd
A18. Yn achos amgueddfa neu oriel gelf sy'n cael ei
chynllunio, ni fydd gan y sefydliad gasgliad o anghenraid. Nid yw hyn
yn golygu nad oes modd ei gofrestru fel elusen. Byddwn yn gofyn i'r
sefydliad gynhyrchu deunydd sy'n dangos bod y casgliad ar ôl ei
brynu a'r defnydd sydd i'w wneud ohono yn bodloni'r maen prawf teilyngdod
a bod y gweithgareddau arfaethedig wedi'u hadlewyrchu'n briodol yn nogfen
lywodraethol y sefydliad.
Budd i'r cyhoedd a mynediad i'r cyhoedd
A19. Bydd y cwestiwn o fudd i'r
cyhoedd wedi'i gyfyngu yn achos y rhan fwyaf o amgueddfeydd ac orielau
celf at bennu a yw'r arddangosfa o gasgliad neu gasgliadau yr amgueddfa
dan sylw yn bodloni'r maen prawf teilyngdod oherwydd, yn gyffredinol,
mae amgueddfeydd ac orielau celf yn agored i'r cyhoedd. Credwn fod mynediad
yn hanfodol i statws elusennol. Nid yw cyfyngiadau mympwyol ar fynediad
nad yw'n gysylltiedig â'r deunydd neu ddibenion yr amgueddfa neu'r
oriel gelf yn dderbyniol7.
A20. Er nad oes unrhyw ofynion lleiaf o ran "oriau
agor", yr egwyddor i'w mabwysiadu yw y dylai'r casgliadau fod ar gael
yn ddigon aml i ddarparu ar gyfer pob math o ymwelwyr. Mae hyn yn cynnwys
bod ar agor ar y penwythnos yn ogystal ag oriau busnes arferol, Llun
- Gwener. Os na all amgueddfa neu oriel gelf aros ar agor bob dydd,
er enghraifft, am resymau cost neu lefelau staffio annigonol, rhaid
i'w chorff llywodraethol benderfynu pa ddiwrnodau y bydd ar gau. Yn
amodol ar amgylchiadau y tu allan i'w rheolaeth sy'n cyfyngu ar eu gweithrediad,
byddem yn disgwyl iddynt agor ar y diwrnodau hynny pan fydd aelodau'r
cyhoedd yn fwy tebygol o allu ymweld.
A21. Derbyniwn fod modd cyflwyno rhesymau da dros agor
ar lai o ddiwrnodau ond po leiaf yw'r diwrnodau hynny, y mwyaf y pryder
nad yw budd i'r cyhoedd yn bresennol. Fel mater o bolisi byddem yn disgwyl
i hyd yn oed amgueddfeydd ac orielau celf bach fod ar agor am o leiaf
hanner y flwyddyn.
A22. Os yw'r ymddiriedolaethau neu'r ymddiriedolwyr
yn gosod unrhyw gyfyngiad ar fynediad i'r cyhoedd, rhaid i'r cyfyngiad
gynnig modd o gyflawni'r diben elusennol yn well a dylid ei osod dim
ond i'r graddau sy'n angenrheidiol (a ddim mwy na hynny) er mwyn hybu'r
amcan elusennol. Er enghraifft, gellir cyfyngu ar fynediad corfforol
am resymau diogelwch yr eiddo, diffyg adnoddau, cyflwr y casgliadau
a'r angen i'w diogelu neu er mwyn gweinyddu'r elusen yn well.
A23. Wrth ystyried cais i gofrestru fel elusen, byddwn
yn gofyn am fanylion ynglŷn â'r darpariaethau mynediad a
gynigir os nad yw hyn yn amlwg yn y dogfennau a ddarperir. Os yw mynediad
i'r cyhoedd wedi'i gyfyngu'n benodol, byddwn yn gofyn beth yw'r rhesymau
am y cyfyngiad hwn. Os yw cyfyngiadau anghyfiawn wedi'u mynegi yn yr
ymddiriedolaethau gallent amharu ar yr hyn a fyddai fel arall yn ddiben
elusennol.
Strwythur aelodaeth
A24. Mewn achosion eithriadol mae'n bosib y bydd angen
cael cyfyngiad ar fynediad corfforol gan y cyhoedd y gellir ei ddiwallu
trwy gynnig mynediad wedi'i reoli trwy gyfrwng strwythur aelodaeth;
er enghraifft, problemau diogelwch a/neu gyflwr casgliadau ac arddangosion.
Os yw strwythur aelodaeth yn cael ei fabwysiadu byddwn yn gwneud ymholiadau
er mwyn sicrhau mai'r unig reswm dros ei fabwysiadu yw hybu dibenion
elusennol. At hynny, byddem am weld dulliau diogelu penodol er mwyn
sicrhau bod yr aelodaeth wedi'i chyfyngu dim ond i'r graddau sy'n angenrheidiol
fel a bennir gan nodweddion y casgliad dan sylw a'r dibenion sy'n cael
eu hybu; a bod hawliau'r amgueddfa i wrthod neu derfynu aelodaeth yn
amodol ar arolygiaeth a bod modd eu harfer dim ond am reswm da.
Benthyg casgliadau
A25. Mae tri phwynt arall i'w hystyried ynglŷn
â mynediad corfforol i'r cyhoedd. Yn gyntaf, os na all yr elusen
ei hun ddarparu ar gyfer mynediad corfforol i'r cyhoedd oherwydd diffyg
adnoddau, byddwn yn gofyn i'r hyrwyddwyr/ymgeiswyr beth yw eu hagwedd
tuag at hybu mynediad i'r cyhoedd trwy fenthyg y casgliadau a'r arddangosion
i sefydliadau sy'n meddu ar yr adnoddau hyn.
Codi tâl mynediad
A26. Yr ail bwynt yw codi tâl. Er mai polisi'r
Llywodraeth yw y dylai amgueddfeydd ac orielau celf gynnig mynediad
am ddim, cydnabyddwn y bydd yn rhaid i rai godi tâl. Os nad yw'r
cais yn sôn am hyn, byddwn yn holi a fydd tâl yn cael ei
godi a byddwn yn dilyn yr egwyddorion ynglŷn â chodi tâl
a amlinellir yn ein cyhoeddiad RR8: Natur Gyhoeddus
Elusennau. Felly byddwn yn disgwyl gweld bod y tâl a godir
yn rhesymol, yn briodol i ddibenion cyffredinol y sefydliad ac wedi'u
gosod ar gyfradd sy'n pwyso a mesur gweithgareddau'r sefydliad yn awr
ac yn y dyfodol ac nid ydynt wedi'u gosod ar lefel sy'n gwahardd rhan
sylweddol o'r cyhoedd.
Storio arddangosion
A27. Y trydydd pwynt yw dwyn ynghyd casgliadau sy'n
fwy na gallu arddangos yr amgueddfa neu'r oriel gelf ac felly mae rhan
neu rannau o'r casgliad yn cael ei storio. Nid oes unrhyw wrthwynebiad
i storio arddangosion am resymau da ond daw adeg pan fydd "storio" yn
cael ei ystyried yn cronni os nad yw'n rhesymol disgwyl y gallant gael
eu harddangos neu y byddant yn cael eu harddangos. Os yw amgueddfa neu
oriel gelf yn wynebu anhawster o'r fath byddem yn disgwyl i'r ymddiriedolwyr
ystyried a yw dal casgliadau o'r fath er budd y cyhoedd os yw'r mynediad
a gynigir i'r cyhoedd, neu rannau o'r cyhoedd sydd â diddordeb,
yn ddibwys neu heb fod mewn gwirionedd8.
Dulliau eraill o gynnig mynediad heblaw mynediad corfforol
A28. Nid mynediad corfforol yw'r unig ffordd o fesur
natur gyhoeddus elusen er mai dyma yw'r ffordd fwyaf amlwg o wneud hynny
ac os nad oes modd cynnig mynediad corfforol, rhaid i'r amgueddfa neu
oriel gelf ddod o hyd i ffyrdd eraill o fodloni'r prawf budd i'r cyhoedd
fel y rhyngrwyd; cyhoeddi fideos neu lenyddiaeth; darlithoedd; benthyg
arddangosion i sefydliadau a allai eu harddangos i'r cyhoedd (ar yr
amod nad oes unrhyw beth yn yr ymddiriedolaethau sy'n gwahardd hyn);
a sylw ar y teledu a'r radio.
A29. Mae'r dulliau eraill hyn o gynnig mynediad yn
awgrymu dulliau priodol posib eraill o ddefnyddio'r casgliad neu'r casgliadau
i gynnig budd i'r cyhoedd ac nid ydynt yn darparu rhestr gyflawn. Byddwn
yn ystyried unrhyw ddulliau priodol eraill o fodloni'r angen i gynnig
budd i'r cyhoedd.
Manylion ynglŷn â mynediad mewn adroddiadau
blynyddol
A30. Byddem yn ail-ddatgan ein hargymhelliad a wnaed
yn ein cyhoeddiad RR9: Cadwraeth a Gwarchod sef
y byddai'n arfer dda i amgueddfeydd ac orielau celf sy'n elusennau ddatgelu,
naill ai yn eu hadroddiad blynyddol neu rywle arall:
- nifer y bobl sy'n ymweld â'r amgueddfa neu oriel gelf a, lle
y bo'n briodol, y nifer sydd wedi gwneud ymholiadau ond nid oedd modd
iddynt ymweld;
- y trefniadau i roi cyhoeddusrwydd yn genedlaethol neu o fewn yr
ardal leol;
- os yw mynediad corfforol wedi'i gyfyngu neu nid yw ar gael, sut
y cyfiawnheir parhau â pholisi o'r fath, gyda manylion am ddulliau
eraill o ecsbloetio'r casgliad neu'r casgliadau er mwyn cynnig budd
i'r cyhoedd a'r ymgais i fenthyg casgliadau i gyrff eraill eu harddangos
i'r cyhoedd (ar yr amod nad oes unrhyw beth yn yr ymddiriedolaethau
sy'n atal benthyciad o'r fath); ac, yn dilyn o hyn;
- os oes aelodaeth, nifer y bobl sydd wedi gwneud cais am aelodaeth
a'r nifer y gwrthodwyd gyda rhesymau. Bydd datganiad o'r polisi aelodaeth
yn ddefnyddiol hefyd;
- os oes arddangosion sydd heb gael eu harddangos i'r cyhoedd, esboniad
am y problemau ac unrhyw gynlluniau i'w harddangos yn y dyfodol.
A31. Os nad yw gwybodaeth o'r fath wedi'i chynnwys
yn yr adroddiad ei hun, argymhellwn y dylai'r adroddiad esbonio sut
i gael y ddogfen sy'n cynnwys y wybodaeth.
Annibyniaeth
A32. Yn ddelfrydol rydym am weld corff sydd wedi'i
sefydlu gydag ymddiriedolwyr annibynnol, sydd heb unrhyw wrthdaro buddiannau,
gyda digon o arian i'w alluogi i geisio ei gyngor proffesiynol ei hun
a chael rhwydd hynt i ddatblygu ei safbwyntiau a'i bolisïau ei
hun. Disgwyliwn weld fod unrhyw drefniadau cyllido neu brydlesu yn diogelu
disgresiwn sylfaenol yr ymddiriedolwyr ynglŷn â darparu gwasanaethau,
ac nid ydynt yn gofyn i'r ymddiriedolwyr weithredu polisïau a dymuniadau
sydd o natur anelusennol.
A33. Os yw amgueddfa neu oriel gelf am fod yn elusennol,
rhaid i'w dibenion gael eu cyfeirio at addysgu neu hybu celfyddyd yn
unig, fel y bo'r achos, mewn ffordd sy'n dderbyniol dan y gyfraith.
Gall amodau a osodir gan ddarparwyr neu gymwynaswyr sefydliadau sydd
newydd gael eu sefydlu godi pryderon ynglŷn ag annibyniaeth rheolaeth
y sefydliadau hyn a'r budd preifat a gaiff unigolion nad ydynt yn amcanion
priodol yr elusen ond nid yw hyn yn golygu y byddwn yn gwrthod cofrestru
os ydym yn gweld y posibilrwydd o wrthdaro buddiannau. Os yw'r sawl
sy'n darparu casgliad am barhau i gymryd rhan yn rheolaeth y sefydliad,
byddwn yn disgwyl i'r ceiswyr ddangos bod y cyfraniad er budd yr elusen
ac y gall ac y bydd unrhyw sefyllfa o wrthdaro buddiannau yn cael ei
rheoli9.
Masnachu
A34. Cydnabyddwn fod amgueddfeydd
ac orielau celf yn cael eu hannog i fod yn hunanariannol cyn belled
â phosib. Os yw amgueddfa neu oriel gelf yn elusen ac mae ganddi
gwmni masnachu, neu bydd yn cael cwmni masnachu, disgwyliwn i'r holl
drefniadau rhyngddi â'i chwmni masnachu gael eu trafod ar hyd
braich. Os ydym yn fodlon bod diben sefydliad yn elusennol, ond mae'n
ymgymryd â gweithgaredd masnachu i raddau mwy na'r hyn a ganiateir,
byddwn yn ei gynorthwyo i gofrestru trwy gynnig cyngor er mwyn i'w drefniadau
fodloni gofynion elusennau yn ogystal â gofynion rheolyddion eraill10.
A35. Rydym hefyd yn cydnabod y gall amgueddfeydd ac
orielau celf ddymuno gweithio gyda'r sector twristiaeth, a'u bod yn
cael eu hannog i wneud hynny. Rydym yn gweld yr amgueddfa neu'r oriel
gelf yn cydweithredu gyda'r nod o hyrwyddo addysg neu hybu celfyddyd
ac mae'r cydweithrediad yn cynrychioli ffordd o gyrraedd cynulleidfa
ehangach.
Secondio staff
A36. Mae amgueddfeydd ac orielau celf hefyd yn "allforio"
eu hadnoddau e.e. secondio arbenigwyr i amgueddfeydd ac orielau celf
eraill yn y wlad hon a thramor i gyfarwyddo a throsglwyddo gwybodaeth.
Cydnabyddwn fod y rheiny sydd ar secondiad yn hyfforddi ac yn datblygu
eraill i gynnal ac arddangos casgliadau o deilyngdod addysgol, artistig
neu deilyngdod arall sydd o fudd i'r cyhoedd. Gall amcanion yr amgueddfa
neu'r oriel gelf sy'n "secondio" gael eu llunio er mwyn caniatáu
gweithgaredd o'r fath. Ond, ni fydd amcanion sydd wedi'u cyfyngu i arddangos
casgliad mewn ardal leol benodol yn caniatáu secondio ei guradur
i amgueddfa arall os nad oes budd cymesur i'r amgueddfa (a all fod ar
ffurf yr hyfforddiant a'r profiad y mae ef neu hi yn ei gael).
Cyllido a grantiau amodol
A37. Cydnabyddwn fod amgueddfeydd
ac orielau celf fel nifer o elusennau eraill yn dibynnu ar gyllido allanol
fel arfer. Nid yw hyn yn broblem. Gall cyllido o'r fath gan ddarparwr/cymwynaswr
gael ei roi trwy gyfrwng grant neu drwy lunio trefniadau cytundebol
â'r cyllidwr. Byddwn yn holi a yw'r amodau grant neu drefniadau
cytundebol yn golygu bod annibyniaeth gweithredu corff llywodraethol
yr amgueddfa neu'r oriel gelf wedi'i chyfyngu. Byddwn yn holi i'r graddau
sy'n angenrheidiol er mwyn bodloni ein hunain nad yw unrhyw gyfyngiad
wedi'i osod at ddiben sy'n anelusennol11.
Budd i'r cyhoedd yn erbyn budd preifat
A38. Mae pryder ynglŷn â'r budd preifat
sy'n deillio o rodd yn codi pan fydd darparwr/cymwynaswr yn parhau â'i
ddiddordeb uniongyrchol yn y sefydliad neu ei gasgliadau neu arddangosion.
Y llinyn cyffredin sy'n rhedeg trwy'r cwestiwn o fudd i'r cyhoedd yn
erbyn budd preifat yw bod rhaid i amgueddfa neu oriel gelf elusennol,
fel unrhyw elusen arall, gyflawni dibenion elusennol yn unig ac mae
cyflwyno diben anelusennol yn creu problem sylfaenol. Nid ydym yn ystyried
y cymhelliad dros roi'r rhodd. Yr hyn y byddwn yn ei ystyried yw'r dibenion
gwirioneddol sy'n cael neu a fydd yn cael eu cyflawni yn unol â
darpariaethau'r ddogfen lywodraethol.
A39. Rydym yn awyddus i hybu haelioni. Derbyniwn y
gall cyfranogiad parhaus darparwyr/cymwynaswyr yn y casgliadau a'r arddangosion
y maen nhw'n eu rhoi gynnig budd positif a gwella gwaith yr amgueddfa
neu'r oriel gelf dan sylw. Mae'n bosib mai dyma fydd yr achos hefyd
gydag aelodau teulu cyfrannwr, yn dibynnu ar yr amgylchiadau. Os yw
darparwr/cymwynaswr casgliad am barhau â diddordeb ac, o ganlyniad,
gall ychydig o fudd preifat godi, ni fydd cofrestru yn cael ei wrthod
o anghenraid ond byddwn am fodloni ein hunain bod y budd yn dod o fewn
yr egwyddorion rydym eisoes wedi'u gosod12.
A40. Os yw unigolion nad ydynt yn amcanion yr elusen
yn cael budd, yr egwyddor gyffredinol a ddilynir ac a ystyrir yn gyfraith
yw bod budd preifat (hynny yw, budd a gaiff unigolyn mewn ffordd arall
heblaw trwy fod yn amcan yr elusen) yn gyfreithlon atodol os yw'n deillio
fel canlyniad angenrheidiol ond atodol i benderfyniad a wnaed gan yr
ymddiriedolwyr sydd â'r unig nod o hybu dibenion elusennol y sefydliad
ac mae gwerth y budd yn rhesymol. Mae'r budd yn ategol ond yn eilradd
i'r diben elusennol a gyflawnir. Mae'n dilyn bod y budd yn codi neu'n
digwydd o ganlyniad i weinyddu'r elusen ond mae'r dull gweinyddu sy'n
esgor ar y budd yn ffordd briodol o gyflawni'r diben elusennol dan sylw.
A41. Mae enghreifftiau o achosion lle byddwn yn gwneud
ymholiadau os nad yw'r cais yn egluro hyn yn cynnwys y canlynol:
- Mae'r darparwr/cymwynaswr yn rhoi rhodd o gasgliad neu arddangosion
gan gadw hawliau neu fuddiannau; er enghraifft, os yw casgliad yn
amodol ar yr hawl i "ddefnyddio'r" casgliad neu rai o'r arddangosion
ar achlysuron preifat penodo13l.
- Mae'r darparwr/buddiolwr yn darparu ar gyfer swydd â thâl
i'w hunan a/neu aelod o'i deulu.
- Casgliadau neu arddangosion sy'n cael eu benthyg yn unig i'r sefydliad.
Os yw unrhyw fuddiannau yn cael eu cynnig i'r darparwr/cymwynaswr,
byddwn am fodloni ein hunain eu bod nhw'n atodol. Felly, byddwn yn
gwneud ymholiadau, er enghraifft, ynglŷn â chynnal a chadw/diogelu
a threfniadau yswiriant yn ogystal ag unrhyw delerau eraill y benthyciad.
- Bydd y darparwr/cymwynaswr yn arddangos un neu fwy o'i weithiau
ei hun.
- Mewn unrhyw un o'r enghreifftiau hyn, er bod yr egwyddorion a ddilynir
yn aros yr un fath, mae'r ffeithiau yn cael eu cymhlethu pan fydd
casgliadau neu arddangosion yn waith artist byw neu os yw'r artist
wedi marw ac mae'r budd preifat yn cael ei drosglwyddo i'w ystad neu
deulu. Mae'r broblem hon yn gwaethygu os yw'r unigolyn dan sylw neu
aelodau'r teulu yn ymddiriedolwyr neu'n bwriadu bod yn ymddiriedolwyr.
Atodiad B - Crynodeb o'r gyfraith berthnasol
sy'n ymwneud ag amgueddfeydd ac orielau celf
Addysg
B1. Mae'r gyfraith elusennau, ac o fewn y gyfraith
elusennau y cysyniad o addysg, yn un sy'n datblygu. Derbynnir:
"nad yw syniadau'r dyn dysgedig am addysg yn
sefydlog, ond yn symud ac yn newid. Mae'r ddau yn newid gyda newidiadau
mewn syniadau ynglŷn â gwerthoedd cymdeithasol. Yn arbennig
wrth gymhwyso'r gyfraith i amgylchiadau cyfoes mae'n beryglus iawn
anghofio bod syniadau ynglŷn â chwmpas ac ehangder addysg
yn wahanol iawn yn y gorffennol i'r rheiny a dderbynnir yn gyffredinol
heddiw"14.
B2. Mae'r llys hefyd wedi derbyn nad yw addysg wedi'i
chyfyngu i hyfforddiant a chyfarwyddyd ffurfiol15.
B3. Mae addysg, cyn belled ag y bo elusennau yn y cwestiwn,
yn ymestyn i "wella cangen ddefnyddiol o wybodaeth a'i lledaeniad cyhoeddus"16.
Disgrifiad arall o addysg yw "ennill gwybodaeth a medr…trwy astudio
haniaethol a thrwy ymarfer y gelfyddyd … ac maen nhw'n gallu cynnwys
darganfod gwybodaeth newydd, sy'n ffrwyth gwaith ymchwil, a dysgu gwybodaeth
sy'n bodoli naill ai gan fyfyrwyr sy'n cymhwyso neu gan [y rheiny sy'n
gymwys] ac sydd am wella eu gwybodaeth a'u medr..."17
Felly, mae addysg (hynny yw, addysg nad yw'n gorfforol), yn cael ei
hystyried gan y llys yn weithred sy'n cynnwys proses o hyfforddi'r meddwl,
hynny yw, adeiladu neu feithrin y meddwl.
B4. O fewn y maes elusennau derbynnir bod addysg yn
derm eang ond rhaid i addysg oleuo, hyfforddi neu gyfarwyddo'r meddwl
mewn gwybodaeth ddefnyddiol. Mae addysg yn ymestyn i ddarparu cyfleoedd
i'r cyhoedd archwilio gwaith crefftwyr a oedd yn byw amser maith yn
ôl18 a dysgu am eu celfyddyd a'u harferion19.
Addysg a chelfyddyd o fewn cwmpasiad elusen
B5. Mae'r llys wedi hen dderbyn y gall amgueddfeydd
fod yn elusennol gan eu bod yn hyrwyddo addysg20.
B6. Mae dysgu a gwyddoniaeth er budd y cyhoedd yn elusennol21.
Mae'r llys yn derbyn bod addysg yn ymestyn y tu hwnt i astudio pynciau
academaidd mewn sefydliad addysgol i bynciau fel celfyddydau cyfathrebu
cymdeithasol22 ac egwyddorion disgyblaeth, teyrngarwch
a dinasyddiaeth dda23. Mae hybu celfyddyd yn elusennol.
"Rwy'n meddwl bod 'addysg' yn cynnwys …. nid yn unig addysgu, ond hybu
neu annog y celfyddydau hyn a grasau bywyd sydd efallai, wedi'r cwbl,
yn cynrychioli ochr orau y natur ddynol"24. Mae ymddiriedolaethau
i sefydlu a chynnal amgueddfeydd ac orielau celf yn elusennol25.
Mae rhodd i amgueddfa sefydledig yn elusennol26.
B7. Wrth gwrs, mae rhai ffiniau. Hefyd, ni fydd amgueddfa
sydd wedi cronni casgliad sydd, mewn gwirionedd, yn gabinet trugareddau
sy'n difyrru neu'n diddanu yn unig, yn elusen27.
Ond nid yw hyn yn golygu bod pleser, adloniant neu difyrrwch yn amharu
ar yr un sydd, fel arall, yn ddiben elusennol28.
B8. Mae'r llys wedi cynnal nad oes modd derbyn profiad
yn unig fel diben elusennol29. Nid yw diben neu weithgaredd
sy'n adloniant neu'n ddifyrrwch yn y bôn yn cael ei droi'n elusennol
oherwydd ei fod yn cael effaith addysgol neu fuddiol30.
B9. Ond, mae'n ymddangos po ieuaf y mae'r buddiolwyr
arfaethedig, y mwyaf rhyddfrydig y mae'r llysoedd yn eu dehongliad o
addysg31. Mae gan gêm gwyddbwyll werth addysgol
ac felly gall twrnameintiau i bobl ifanc fod yn elusennol er mwyn hyrwyddo
addysg32.
Rhaid cael nod o addysgu, hynny yw, goleuo'r meddwl
B10. Gall yr egwyddorion a esbonnir yn achosion y Gymdeithas
Goraw33l, Cranstoun34 a Clerkenwell
Green35 gael eu cymhwyso trwy gyfatebiaeth i sefydliadau
a chyrff sy'n ymwneud ag amgueddfeydd ac orielau celf. Trwy ddilyn y
dibenion elusennol, mae'r sefydliad yn gallu addysgu:
- aelodau'r sefydliad os yw'r strwythur aelodaeth yn briodol. [Cydnabyddir
y gellir codi (neu hyfforddi) chwaeth artistig trwy gyflwyno neu arddangos
gweithiau teilwng]; ac
B11. Cydnabyddir hefyd y gall yr hyfforddiant fod yn
raddol a gall aelodau'r cyhoedd sy'n ymweld wneud hynny gyda'r syniad
o gael eu difyrru neu eu diddanu; ond nid cyflwr meddwl y rheiny a fyddai'n
cael eu difyrru neu eu diddanu sy'n bwysig. Pwrpas y bobl sy'n perfformio
neu'n arddangos, sy'n darparu'r "adloniant" [os yw'r rheiny sy'n mynychu
yn ei weld fel adloniant] sy'n bwysig. Mae'r pleser yn isgynnyrch gwir
ddiben y sefydliad sy'n elusennol36. Mae derbyniad
cyffredinol y penderfyniad yn achos y Gymdeithas Gorawl37
yn arwydd clir y byddai'r llys yn derbyn casgliadau neu arddangosion
o deilyngdod addysgol neu artistig amrywiol, ar yr amod, pan gânt
eu profi yn eu cyfanrwydd, eu bod yn cynnwys proses addysgu neu oleuo
sy'n briodol i'r cyhoedd sy'n ymweld.
Gorgyffwrdd rhwng hyrwyddo addysg a dibenion sy'n darparu
budd i'r cyhoedd
B12. Mae'r llys wedi derbyn rhoddion i amgueddfeydd
a chelfyddyd yn elusennol at bwrpas hyrwyddo addysg38
neu at bwrpas sydd o fudd cyffredinol i'r cyhoedd y gall y llys ei dderbyn
fel un elusennol. Er enghraifft, nid yw casgliad personol yn addysgol
o anghenraid; rhaid ystyried yr arddangosion eu hunain. Ond, os oedd
y casgliad yn eiddo unigolyn enwog neu'n gysylltiedig â digwyddiadau
pwysig, gall hyd yn oed eitemau cyffredin fod yn werth eu diogelu a'u
harddangos oherwydd gallant fod o werth addysgol neu deilyngdod artistig
neu arall gan eu bod yn addysgu neu'n goleuo'r meddwl. Neu mae'n bosib
y gall fod casgliadau neu arddangosion a all fod yn werth eu diogelu
a'u harddangos at ryw bwrpas arall sydd o fudd i'r cyhoedd. Er enghraifft,
gallant weithredu swyddogaeth goffa neu gall fod er budd y cyhoedd iddynt
gael eu diogelu.
B13. Yn achos Cranstoun39 mae darparu
cyfleoedd i'r cyhoedd archwilio gwaith crefftwyr a oedd yn byw amser
maith yn ôl yn elusennol. Derbyniodd y Llys bod y dibenion hyn
o ddefnydd cyffredinol i'r cyhoedd er budd y cyhoedd. Er gwaethaf hyn,
gall y dibenion fod yr un mor dderbyniol ar gyfer hyrwyddo addysg40.
Mae achos Clerkenwell Green41 yn dangos bod darparu
cyfleoedd i'r cyhoedd dysgu am gelfyddyd ac arferion crefftwyr yn elusennol.
Derbyniodd y llys yn yr achos hwnnw bod diogelu a gwella crefftwaith
cain yn ddiben elusennol er budd y cyhoedd.
Budd i'r Cyhoedd
Rhaid i'r pwnc fod yn ddefnyddiol neu fel arall yn
fuddiol
B14. Rhaid i'r addysg neu'r gelfyddyd fod yn fuddiol
h.y. o deilyngdod addysgol neu arall i'r gymuned a rhaid i'r buddiannau
fod ar gael i'r cyhoedd [neu ran ddigonol o'r cyhoedd]. Felly, mae dwy
agwedd i fudd i'r cyhoedd. Y cyntaf yw deilyngdod addysgol neu artistig
neu deilyngdod arall. Yr ail yw mynediad i'r cyhoedd.
Asesu ansawdd - Tystiolaeth o deilyngdod addysgol neu
artistig
B15. Os yw'n amlwg bod y diben yn fuddiol i'r cyhoedd,
nid oes angen i'r llys wneud unrhyw ymholiadau pellach42.
Os mai'r diben yw hyrwyddo addysg, cymerir bod budd i'r cyhoedd oni
bai fod rhywbeth i wrthbrofi'r dybiaeth honno. Os yw natur addysgol
y rhodd yn cael ei chwestiynu ac nid oes modd ei ateb trwy gyfeirio
at delerau'r rhodd, gall y llys [ac felly'r Comisiynwyr wrth ymarfer
eu swyddogaethau43] geisio tystiolaeth arbenigol
i wrthbrofi neu gadarnhau'r dybiaeth bod y rhodd yn elusennol, gan ei
bod yn hyrwyddo addysg44. Os mai'r diben yw hyrwyddo
celfyddyd neu fudd arall i'r cyhoedd, rhaid i'r budd i'r cyhoedd gael
ei ddangos. (Yn ein harweiniad rydym yn mabwysiadu proses o fandio casgliadau
er mwyn adnabod y rheiny sydd yn amlwg yn deilwng ac nid oes angen eu
cwestiynu, y rheiny lle nad yw eu teilyngdod yn amlwg ond y mae modd
eu pennu heb farn arbenigol a'r gweddill lle y byddai angen cael arbenigwr
i gynorthwyo staff y Comisiwn). Mae celfyddyd yn cael ei hystyried mewn
ffordd gynhwysol a derbyniwn y bydd yn cynnwys celfyddyd gynrychioliadol
a ffigurol, haniaethol, cysyniadol a pherfformiad, ar yr amod bod modd
dangos bod gwaith o'r fath yn ychwanegu at ddealltwriaeth a phrofiad
yr ymwelydd, neu'n gwella dealltwriaeth a phrofiad yr ymwelydd yn nhermau
hyrwyddo celfyddyd er budd y cyhoedd.
B16. Os nad yw'r ansawdd yn amlwg neu'n ddirnadwy trwy
ddefnyddio set o feini prawf, rhaid cael barn arbenigwr annibynnol fanwl45.
Mae'r cwestiwn a yw rhodd yn gweithredu er budd y cyhoedd yn cael ei
ateb gan y llys trwy lunio barn yn seiliedig ar y dystiolaeth sydd ger
ei bron46. "Gellir cymryd bod rhodd i sefydlu amgueddfa
gyhoeddus yn elusennol gan ei fod o ddefnydd i'r cyhoedd os nad yw unrhyw
un yn ei gwestiynu"47. "Ni all y ffaith syml bod
unigolyn yn gwneud rhodd o eiddo i ffurfio amgueddfa gyhoeddus bennu
y bydd ei sefydlu [ein pwyslais ni] yn tueddu i hyrwyddo addysg
mewn gwerthfawrogiad aesthetig neu unrhyw beth arall"48.
Mynediad
B17. Fel pob elusen, rhaid i amgueddfa neu oriel gelf
elusennol gael ei gweithredu er budd y cyhoedd. Rhaid i'w buddiannau
fod ar gael i'r cyhoedd neu ran ddigonol o'r cyhoedd. Os yw mynediad
i'r cyhoedd wedi'i gyfyngu, rydym yn edrych yn ofalus ar yr amgylchiadau
er mwyn pennu beth yw gwir ddiben yr amgueddfa neu'r oriel gelf49.
Casgliadau prifysgolion a chymdeithasau
B18. Mae safle cyfreithiol casgliadau prifysgolion
a sefydliadau addysgol eraill a ddelir fel rhan o eiddo cyffredinol
y sefydliad ac a ddefnyddir i hyrwyddo ei ddibenion addysgol yn wahanol
i gasgliad a ddelir ar ymddiriedolaeth i fyfyrwyr a/neu staff academaidd
sefydliad addysgol50. Ond, mae myfyrwyr a/neu staff
academaidd sefydliad addysgol (y mae buddiannau'r sefydliad ar gael
i ran ddigonol o'r cyhoedd) yn ffurfio rhan ddigonol o'r cyhoedd51.
B19. Yn yr un ffordd, byddai dibenion casgliad a ddelir
ar ymddiriedolaeth ar wahân er budd cymdeithas addysgol sydd ag
aelodaeth ac sy'n elusen ei hun yn cael eu derbyn fel dibenion elusennol.
B20. Mae'n bosib i amgueddfa neu oriel gelf drosglwyddo
ei buddiannau trwy strwythur aelodaeth52. Mae'r Comisiynwyr
wedi derbyn yr egwyddor hon am sawl blwyddyn. Y prawf sy'n pennu a yw
gosod strwythur aelodaeth yn dderbyniol neu beidio yw a oes angen ei
osod er mwyn gweinyddu'r elusen yn well. Wrth gwrs, rhaid i'r aelodaeth
fod yn agored i'r cyhoedd neu ran ddigonol o'r cyhoedd.
Amgueddfeydd a chasgliadau'r lluoedd arfog
B21. Mae amgueddfeydd a chasgliadau'r lluoedd arfog
yn wahanol oherwydd gallant fod yn elusennol gan eu bod yn tueddu hybu
effeithlonrwydd y lluoedd trwy feithrin teimlad o falchder/esprit de
corps [ysbrydoli teyrngarwch; hybu recriwtio] a/neu hybu addysg y cyhoedd
neu ddiben arall er budd y cyhoedd, er enghraifft, swyddogaeth goffa.
B22. Gall yr amgueddfeydd a'r casgliadau gael eu lleoli
mewn adeiladau sy'n eiddo'r Weinyddiaeth Amddiffyn sydd hefyd yn rhoi
grantiau a gall ddarparu'r curadur ac aelodau staff eraill.
B23. Os yw'r amgueddfa neu'r casgliadau yn agored i'r
cyhoedd, gellir codi tâl mynediad. Gall amgueddfeydd a chasgliadau
o'r fath gael eu lleoli y tu allan i eiddo'r Weinyddiaeth Amddiffyn
a gallant fodloni dibenion addysgol ac effeithlonrwydd. Ond mae'n bosib
bod yr amgueddfeydd catrodol llai wedi'u lleoli yn adeiladau'r Weinyddiaeth
Amddiffyn ac felly dim ond mynediad cyfyngedig, os o gwbl, sydd gan
y cyhoedd. Os oes mynediad i'r cyhoedd, fel arfer fe'i cynigir ar adegau
penodol neu drwy wneud apwyntiad gyda chytundeb Prif Swyddog yr uned
dan sylw53.