Yn yr adran hon...

Beth sy'n newdd?

CC36 - Newid Dogfen Lywodraethol eich Elusen

Awst 2011

Gallwch weld fersiwn PDF lliw hefyd o Newid Dogfen Lywodraethol eich Elusen (CC36)

Cynnwys

Canllawiau i ymddiriedolwyr, ysgrifenyddion a chynghorwyr elusennau ar wneud newidiadau i ddogfen lywodraethol elusen.

Diolchiadau

Mae'r Comisiwn Elusennau yn ddiolchgar i'r gwasanaeth ymgynghori Campbell Tickell am ei gymorth wrth ddrafftio'r cyhoeddiad hwn.

A. Cyflwyniad

A1. Am beth mae'r canllaw hwn?

Mae'r canllaw hwn wedi'i anelu at ymddiriedolwyr sy'n ystyried newid dogfen lywodraethol eu helusen. Mae'n crynhoi sut y gellir gwneud newidiadau o'r fath.

A2. 'Rhaid' a 'dylai': beth ydym yn ei olygu

Yn y canllaw hwn, pan ddefnyddiwn 'rhaid', golygwn ei fod yn ofyniad cyfreithiol neu reoleiddiol penodol sy'n effeithio ar ymddiriedolwyr elusen. Rhaid i ymddiriedolwyr gydymffurfio â'r gofynion hyn. Er mwyn eich helpu i adnabod yr adrannau hynny sy'n cynnwys gofyniad cyfreithiol neu reoleiddiol rydym wedi defnyddio'r symbol wrth ochr yr ateb byr yn yr adran honno.

Defnyddiwn dylai ar gyfer eitemau sy'n cael eu hystyried yn arfer da lleiaf, ond nid oes unrhyw ofyniad cyfreithiol penodol ar eu cyfer. Dylai ymddiriedolwyr ddilyn y canllawiau arfer da oni bai fod rheswm da dros beidio â gwneud hynny.

Rydym hefyd yn cynnig cyngor llai ffurfiol ac argymhellion a all fod yn ddefnyddiol i ymddiriedolwyr wrth iddynt reoli eu helusen.

A3. Canllawiau blaenorol

Mae'r canllaw yn cymryd lle Newid dogfennau llywodraethol elusennau: Gorchmynion a Chynlluniau (CC36) er mwyn ystyried darpariaethau Deddf Elusennau 2006 a chyflwyno'r canllawiau mewn fformat newydd a hygyrch. Yn y fersiwn diweddaraf hwn rydym wedi gwneud newidiadau pellach i adran C er mwyn egluro'r sefyllfa o ran y newidiadau sy'n caniatáu buddiannau ymddiriedolwyr.

A4. Cwmpas y canllaw hwn

Mae'r canllaw hwn yn rhoi cyflwyniad cyffredinol a throsolwg i ymddiriedolwyr sy'n ystyried newid dogfen lywodraethol eu helusen.

Mae rhai o'r pynciau a drafodir yn gymhleth, ac wedi'u cwmpasu gan gyfreithiau a rheoliadau gwahanol sy'n ymwneud â mathau gwahanol o elusennau. Ni ddylech ddibynnu ar y canllaw hwn i fod yn ddisgrifiad manwl neu gyflawn o'r materion cyfreithiol sy'n effeithio ar eich elusen chi.

Nid yw'r canllaw yn bwriadu cymryd lle cyngor gan ymgynghorwyr proffesiynol yr elusen ei hun ychwaith. Dylai'r ymddiriedolwyr ystyried a oes angen iddynt ymgynghori â'u hymgynghorwyr proffesiynol pryd bynnag y cynigiant newid eu dogfen lywodraethol. Gallwch gael cyngor hefyd gan y Comisiwn.

Mae'r canllaw hwn wedi'i ysgrifennu i ymddiriedolwyr pob math o elusennau, boed yn gwmnïau, yn ymddiriedolaethau neu'n gymdeithasau. Ymdrinnir â'r mathau hyn o elusennau mewn ffyrdd gwahanol ac rydym wedi tynnu sylw at y prif wahaniaethau.

Nid yw'r canllaw hwn yn ymwneud â newid y math o ffurf gyfreithiol sydd gan elusen. Er enghraifft, os yw ymddiriedolwyr elusen anghorfforedig eisiau newid eu helusen i fod yn gwmni, mae hynny'n fater ar wahân sydd heb ei drafod yma. Mae'r wybodaeth berthnasol ar gyfer newidiadau o'r fath i'w gweld yn ein Pecyn Cofrestru.

A5. Defnyddio'r canllaw hwn

Yr hyn sy'n hanfodol er mwyn gwneud newidiadau llwyddiannus i ddogfen lywodraethol yw deall y pwerau sydd ar gael i'ch elusen a sut a phryd y gellir eu defnyddio. Bydd darllen adran B (sy'n rhoi crynodeb 'cyflym' o'r ffactorau) ac adran C2 (sy'n ystyried y ffactorau yn fwy manwl) yn eich helpu i gasglu'r wybodaeth sydd ei hangen arnoch i helpu adnabod pa bwerau sy'n gymwys a sut i'w defnyddio. Mae gweddill adran C yn rhoi mwy o fanylion am y pwerau sydd ar gael yn y sefyllfaoedd mwyaf cyffredin. Mewn rhai sefyllfaoedd yr unig ffordd i wneud y newid yw trwy wneud cais i ni am Gynllun ac mae adran Ch yn eich tywys trwy'r broses hon.

Mae patrwm y canllaw hwn yn dilyn y ffurf safonol a fabwysiadwyd gan y Comisiwn. Dan bob pennawd, gofynnwn gyfres o gwestiynau perthnasol y gall ymddiriedolwyr eu gofyn. Yn gyffredinol rhown ateb cryno ('Yr ateb byr'), ac yna awn ymlaen i roi esboniad pellach a chefndir ('Yn fwy manwl').

Mae'r canllaw hefyd yn cyfeirio darllenwyr at ffynonellau gwybodaeth pellach a ffurflenni, ac mae'r rhan fwyaf ohonynt ar gael trwy ein gwefan.

A6. Termau a diffiniadau

Mae'r termau canlynol yn cael eu defnyddio trwy'r ddogfen hon, a dylid cymryd bod ganddynt yr ystyron penodol fel y nodir.

Amcanion Fel arfer bydd dibenion sefydliad wedi'u mynegi yng 'nghymal amcanion' ei ddogfen lywodraethol. Fodd bynnag, weithiau nid yw'r datganiad o amcanion yn disgrifio'n ddigonol neu'n gyflawn ddibenion y sefydliad. Felly, mae gwahaniaeth rhwng dibenion y sefydliad a'r geiriau sy'n ymddangos yn ei ddatganiad o amcanion.
Canllawiau Gweithredol Canllawiau sydd wedi'u hysgrifennu ar gyfer ein staff yn bennaf. Rydym yn ymroddedig i weithio mewn ffordd mor agored â phosibl, ac fel rhan o hyn, rydym wedi rhoi llawer o'n canllawiau ysgrifenedig ar y gyfraith elusennau ar ein gwefan.
Cwmni elusennol Elusen sydd wedi'i chofrestru fel cwmni gyda Thy'r Cwmnïau. Fel arfer bydd erthyglau cymdeithasu ganddo fel ei ddogfen lywodraethol a'i hunaniaeth gyfreithiol ei hun.
Cynllun Yn y ddogfen hon mae'r term 'Cynllun' yn cyfeirio at Gynllun a wnaed gan y Comisiwn, fel rheol o dan adran 16 Deddf 1993. Mae'n ddogfen gyfreithiol sy'n newid, yn disodli neu'n ehangu ymddiriedolaethau elusen. Gall fod yn Gynllun rheoleiddio llawn, sy'n cwmpasu pob agwedd ar weinyddiaeth a dibenion elusen gan gymryd lle'r ddogfen lywodraethol flaenorol, neu gall fod yn Gynllun sy'n ychwanegu at ryw ran o'r ddogfen lywodraethol, neu'n ei haddasu.
Deddf 1993 yw Deddf Elusennau 1993, fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Elusennau 2006.
Dibenion Er mwyn bod yn elusen, mae'n rhaid i sefydliad gael dibenion sy'n elusennol yn unig yn ôl y gyfraith. Fel arfer bydd dibenion elusen wedi'u diffinio gan yr hyn y mae ei dogfen lywodraethol yn ei ddweud ynghylch beth y cafodd ei sefydlu i'w wneud a sut y dylid defnyddio ei chronfeydd os caiff ei dirwyn i ben.
Dogfen lywodraethol Unrhyw ddogfen sy'n pennu dibenion yr elusen ac, fel arfer, y dull o'i gweinyddu. Gall fod yn Siartr Frenhinol, yn weithred ymddiriedolaeth, yn gyfansoddiad, erthyglau cymdeithasu, yn ewyllys, yn drawsgludiad neu'n Gynllun.
Elusen anghorfforedig Ymddiriedolaeth neu gymdeithas fel arfer. Yn wahanol i gwmni elusennol, nid oes ganddynt eu hunaniaeth gyfreithiol ar wahân eu hunain.
Incwm Incwm blynyddol gros yr elusen o bob ffynhonnell.
Tir dynodedig

Tir a ddelir ar ymddiriedolaethau sy'n gwneud hi'n ofynnol iddo gael ei ddefnyddio ar gyfer unrhyw ddiben neu bob diben yr elusen, er enghraifft neuadd bentref neu faes chwarae.

Ymddiriedolaethau Darpariaethau yw'r rhain sydd ar unrhyw adeg arbennig yn rheoleiddio dibenion a gweinyddiaeth yr elusen (os yw'r darpariaethau hynny yn dod i rym trwy gyfrwng ymddiriedolaeth neu beidio).
Ymddiriedolwyr Ymddiriedolwyr elusen. Ymddiriedolwyr elusen yw'r bobl sy'n gyfrifol am reoli gweinyddiad yr elusen yn gyffredinol. Yn nogfen lywodraethol yr elusen gallant gael eu galw'n ymddiriedolwyr, yn ymddiriedolwyr rheoli, yn aelodau pwyllgor, yn llywodraethwyr neu'n gyfarwyddwyr, neu gall fod enw arall arnynt.

Defnyddiwn y termau newid a diwygiad i gyfeirio at unrhyw fath o addasiad i ddogfen lywodraethol elusen, gan gynnwys dileadau, ychwanegiadau ac aralleirio.

B. Bwrw golwg ar newidiadau i ddogfen lywodraethol

Pan fydd elusen yn cael ei ffurfio, mae ei dibenion a'r rheolau sy'n pennu sut y dylai weithredu wedi'u nodi mewn dogfen lywodraethol.

Mae sylfaenwyr yn ceisio sicrhau bod dogfen lywodraethol yn gwasanaethu'r elusen yn dda yn y dyfodol agos, ac yn caniatáu ar gyfer amgylchiadau sy'n newid. Fodd bynnag, gyda threigl amser, mae'n debyg y bydd anghenion newydd a digwyddiadau anrhagweladwy yn codi ac mae'n bosibl y bydd angen diweddaru'r ddogfen lywodraethol er mwyn adlewyrchu'r newidiadau hyn.

Yn yr amgylchiadau hyn mae dyletswydd ar ymddiriedolwyr i geisio newid y ddogfen lywodraethol er mwyn sicrhau bod yr elusen yn parhau i fod yn effeithiol. Mae'r ffordd a wnânt hynny yn dibynnu ar natur y newid, strwythur eu helusen (cwmni neu elusen anghorfforedig), maint ac, os na ellir defnyddio'r pwerau sydd wedi'u darparu gan statud, delerau eu dogfen lywodraethol. Er enghraifft:

  • Gall pob cwmni elusennol newid ei erthyglau cymdeithasu. Mae rhai 'newidiadau rheoledig' sy'n gofyn am ein sêl bendith (gweler C6).
  • Gall nifer o elusennau anghorfforedig gydag incwm o £10,000 neu lai newid eu dogfen lywodraethol, hyd yn oed os nad oes unrhyw bwer i wneud hynny yn y ddogfen lywodraethol (gweler C3 ac C4). Yn gyffredinol mae angen i'r Comisiwn ymyrryd dim ond os yw'r newidiadau yn cynnwys dibenion neu bwerau'r elusen a fydd yn creu budd i'r ymddiriedolwyr neu'r bobl sy'n gysylltiedig â nhw.
  • Gall ymddiriedolwyr elusennau anghorfforedig sydd ag incwm o fwy na £10,000 newid y pwerau sydd ganddynt i weinyddu'r elusen a gweithdrefnau cysylltiedig. Os yw'r ddogfen lywodraethol yn darparu pwerau penodol, gall yr ymddiriedolwyr newid dibenion yr elusen hefyd (gweler C3 a C5).

Os nad yw unrhyw un o'r dewisiadau hyn yn gymwys neu ar gael, bydd angen i'r ymddiriedolwyr wneud cais i ni am Gynllun (gweler adran Ch). Gall Cynlluniau gael eu gwneud gan yr Uchel Lys hefyd, ond mae hwn yn debygol o fod yn ddewis drud.

Beth bynnag fo'r drefn ar gyfer gwneud y newid, rhaid i ymddiriedolwyr elusennau cofrestredig roi gwybod i ni am yr holl newidiadau i ddogfen lywodraethol er mwyn i gofnod yr elusen ar y Gofrestr fod yn gyfoes. Hefyd mae'n hanfodol bod newidiadau yn cael eu gwneud yn ofalus ac ar ôl eu hystyried yn briodol: gall newidiadau annilys, neu newidiadau sydd heb gael yr effaith a ddymunir, greu dryswch ac mae'n bosibl y byddant yn niweidio'r elusen.

C. Y dewis iawn ar gyfer newid dogfen lywodraethol eich elusen

Mae'r adran hon yn nodi'r prif ffactorau sy'n berthnasol i newid dogfen lywodraethol, gan gynnwys ym mha amgylchiadau y gall ymddiriedolwyr ei newid eu hunain, a phryd y bydd angen gofyn am ein cymorth neu sêl bendith.

C1. Pam mae hi'n bwysig adolygu a diweddaru dogfen lywodraethol elusen?

Yr ateb byr

Mae adolygu'r ddogfen lywodraethol yn gyson yn helpu sicrhau ei bod yn gyfoes ac yn adlewyrchu'n briodol yr hyn a wna'r elusen a sut mae'n gweithredu. Mae ymddiriedolwyr yn atebol ar gyfer gweinyddu eu helusen yn unol â'i dogfen lywodraethol ac mae hyn yn anodd os yw ei darpariaethau wedi dyddio.

Yn fwy manwl

Os yw dibenion neu weithdrefnau gweinyddol yr elusen wedi dyddio neu'n annigonol, dylai'r ymddiriedolwyr eu newid. Yn ein hadroddiad ymchwil Cerrig Milltir: rheoli digwyddiadau allweddol ym mywyd elusen (RS6) rhown sawl enghraifft o'r anawsterau a all godi os nad yw dogfen lywodraethol yn addas i'r pwrpas. Er enghraifft:

  • gall fod yn anodd gwybod yn sicr pwy yw'r ymddiriedolwyr a benodwyd yn gywir;
  • gall fod yn fwy anodd i ddatrys anghydfodau os yw'r ddogfen lywodraethol yn annigonol; a
  • gall ymddiriedolwyr ganfod bod eu cynlluniau yn mynd y tu hwnt i'r hyn a ganiateir gan y ddogfen lywodraethol, a chanlyniad hyn yw eu bod mewn perygl o weithredu'n groes i'r ymddiriedolaeth.
C2. All dogfen lywodraethol gael ei newid?

Yr ateb byr

Gall dogfen lywodraethol elusen gael ei newid gan ei hymddiriedolwyr os oes pwer clir sy'n caniatáu hyn. Mae rhai pwerau ar gael yn Neddf Elusennau 1993 a'r Ddeddf Cwmnïau ac mae pwerau diwygio penodol hefyd gan sawl elusen yn eu dogfennau llywodraethol. Beth bynnag yw ffynhonnell y pwer, mae bron yn sicr y bydd amodau y mae'n rhaid eu bodloni pan fyddwch yn ei ddefnyddio. Os nad yw'r newid yr hoffai'r ymddiriedolwyr ei wneud wedi'i gwmpasu gan y pwerau hyn, gall yr ymddiriedolwyr wneud cais i ni am Gynllun.

Yn fwy manwl

Os yw ymddiriedolwyr o'r farn bod angen newid dogfen lywodraethol yr elusen, dylent ystyried a allant gyflwyno'r newid eu hunain.

Mae nifer o ddogfennau llywodraethol yn cynnwys pwer diwygio. Dylai ymddiriedolwyr edrych i weld a yw'r ddogfen lywodraethol yn cynnwys pwer o'r fath, a yw'r newid y dymunant ei wneud wedi'i ganiatáu gan y pwer hwnnw, ac a oes angen ein cydsyniad ni neu drydydd parti arall ar gyfer y newid.

Os na all yr ymddiriedolwyr wneud y newid o dan bŵer yn y ddogfen lywodraethol, mae'n bosibl y gallant ddefnyddio un o'r pwerau sydd ar gael yn y gyfraith. Mae pwerau gwahanol ar gael i elusennau anghorfforedig a chwmnïau elusennol. Y cam cyntaf yw sefydlu pa un o'r strwythurau hyn sy'n gymwys i'ch elusen chi. I elusennau anghorfforedig, mae gwahaniaethau pellach sy'n dibynnu ar eu hincwm, ac a yw'n fwy na £10,000 ac a oes tir dynodedig gan yr elusen.

Wedi sefydlu hyn, dyma'r dewisiadau mwyaf cyffredinol ar gyfer newid:

  • Mae pŵer gan ymddiriedolwyr elusennau anghorfforedig gydag incwm o ddim mwy na £10,000 y flwyddyn sydd heb dir dynodedig i newid eu darpariaethau gweinyddol a'u dibenion (gweler C3 a C4) eu hunain, ond rhaid cyfeirio newidiadau i ddibenion atom ni cyn y gallant ddod i rym. Nid yw'r pwer hwn yn galluogi ymddiriedolwyr i wneud newidiadau a fyddai'n cael yr effaith o gynnig budd iddynt hwy eu hunain neu bersonau cysylltiedig.
  • I elusennau anghorfforedig gydag incwm o fwy na £10,000 y flwyddyn, gall ymddiriedolwyr newid y darpariaethau gweinyddol eu hunain hefyd (gweler C3), ond bydd newidiadau i ddibenion yr elusen yn gofyn am naill ai bwer addas yn y ddogfen lywodraethol sy'n bod (gweler C5) neu Gynllun gennym ni (gweler Ch1). Byddai newidiadau sy'n cael yr effaith o gynnig budd i'r ymddiriedolwyr neu bersonau cysylltiedig yn golygu bod angen ein sêl bendith ni neu Gynllun.
  • Yn achos cwmnïau elusennol (gweler C6), mae pwer gan y cyfarwyddwyr i newid yr erthyglau eu hunain, ond bydd angen ein cydsyniad ni ymlaen llaw i wneud 'newidiadau rheoledig'.

Gwybodaeth bellach: edrychwch ar ein gwefan am ein ffurflen ar-lein rydym yn argymell bod ymddiriedolwyr yn ei defnyddio i ddweud wrthym am y newidiadau a gafodd eu gwneud i'r ddogfen lywodraethol drwy ddefnyddio'r pwerau sydd ar gael iddynt, neu i wneud cais i ni am ein hawdurdod i wneud newidiadau. Gweler hefyd y Canllaw Gweithredol OG47, 'Newidiadau i Ddogfennau Llywodraethol: Cwmnïau Elusennol.' Am ganllawiau sy'n ymwneud â buddiannau i ymddiriedolwyr a phersonau cysylltiedig gweler Treuliau a thaliadau ymddiriedolwyr (CC11).

C3. Elusennau anghorfforedig: all ymddiriedolwyr newid darpariaethau gweinyddol?

Yr ateb byr

Gallant. Mae rhyddid gan ymddiriedolwyr pob elusen anghorfforedig i wneud newidiadau i'w pwerau gweinyddol a gweithdrefnau er mwyn gwella'r ffordd y caiff eu helusen ei gweinyddu. Mae rhai cyfyngiadau ac amodau yn gymwys wrth ddefnyddio'r pwer hwn.

Yn fwy manwl

Mae 'pwer statudol' gan ymddiriedolwyr elusennau anghorfforedig - y pwer a roddwyd iddynt gan Ddeddf 1993 - i newid pwerau gweinyddol a gweithdrefnau eu helusen. Bydd y pwer hwn gan rai elusennau eisoes yn eu dogfen lywodraethol ond nid yw hyn yn eu hatal rhag defnyddio'r pwer statudol os yw'n rhoi mwy o hyblygrwydd iddynt.

Beth mae'r pwer yn ei ganiatáu. Yn fras, mae'n caniatáu i'r ymddiriedolwyr wneud newidiadau i'r pwerau a'r gweithdrefnau yn nogfen lywodraethol eu helusen sy'n ymwneud â gweinyddu eu helusen. Mae hyn yn cynnwys, er enghraifft, pwerau i newid enw elusen, benthyca neu fuddsoddi arian a chydweithredu ag elusennau eraill, yn ogystal â gweithdrefnau sy'n ymwneud ag aelodaeth, penodi swyddogion a rheoli cyfarfodydd.

Cyfyngiadau: Er bod y pŵer statudol hwn yn caniatáu gwneud newidiadau i sawl agwedd ar ddogfen lywodraethol, ni all ymddiriedolwyr ei ddefnyddio i newid dibenion eu helusen (neu roi pŵer iddynt newid y dibenion), gwario cyfalaf a ddelir fel gwaddol parhaol neu awdurdodi taliad i'w hunain neu i bartïon cysylltiedig. Ni ellir defnyddio'r pŵer i newid darpariaethau gan roi hawliau trydydd parti i ymddiriedolwyr enwebedig (oni bai bod y trydydd parti wedi peidio â bodoli neu wedi rhoi cydsyniad i'r newid). Gellir defnyddio'r pŵer mewn rhai amgylchiadau i newid pwerau eraill y mae'r ddogfen lywodraethol yn datgan y gall yr ymddiriedolwyr eu hymarfer dim ond gyda chydsyniad trydydd parti ond mae'n rhaid i'r ymddiriedolwyr gael cytundeb y trydydd parti i'r newid hwnnw neu mae'n rhaid bod y trydydd parti wedi peidio â bodoli. Os nad yw'r trydydd parti yn fodlon neu nid yw'n gallu caniatáu newid o'r fath i'r pwerau pan fydd hawliau ganddynt, mae'r Comisiwn yn fodlon, os yw'n hapus bod y newid er lles yr elusen, i wneud Cynllun er mwyn gweithredu'r newid.

Mesurau diogelu pwysig: Rhaid i'r ymddiriedolwyr basio cynnig i gymeradwyo newid o dan bwer statudol. Gall hyn ddigwydd mewn cyfarfod gyda chyfansoddiad priodol, neu gan unrhyw ddull arall a ganiateir gan y ddogfen lywodraethol ar gyfer cynigion o'r fath. Os oes aelodaeth gan yr elusen sydd ar wahân i'r ymddiriedolwyr, rhaid i aelodau'r elusen gymeradwyo cynnig pellach. Os yw'r ymddiriedolwyr yn defnyddio pwer diwygio sydd wedi'i gynnwys yn nogfen lywodraethol eu helusen, rhaid iddynt gydymffurfio ag unrhyw amodau a chyfyngiadau y mae'n eu gosod. Mae'n rhaid i ymddiriedolwyr elusennau cofrestredig roi gwybod i ni am unrhyw newidiadau a gafodd eu gwneud a phryd y cawsant eu gwneud ac anfon copi o'u dogfen lywodraethol wedi'i diweddaru atom. Argymhellwn eu bod nhw'n gwneud hyn drwy ddefnyddio ein ffurflen ar-lein. Gallant atodi copi o'u dogfen lywodraethol wedi'i diweddaru i'r ffurflen. Yna gallwn ni ddiweddaru cofnod yr elusen ar y Gofrestr.

Ceisio cyngor ac arweiniad: Mae dogfennau llywodraethol yn bodoli cyhyd â bod yr elusen yn bodoli, felly dylai ymddiriedolwyr fod yn ofalus wrth ddrafftio newidiadau. Gall fod o gymorth i edrych ar y dogfennau llywodraethol enghreifftiol ar ein gwefan i weld a ellir defnyddio unrhyw gymalau sydd ynddynt, o leiaf fel man cychwyn, wrth ddrafftio'r newidiadau ar gyfer dogfen lywodraethol yr elusen. Hefyd, mae'n bwysig nad yw'r ymddiriedolwyr yn gweithredu y tu hwnt i'w pwerau cyfreithiol. Gall niweidio elusen os yw'r newidiadau sy'n cael eu gwneud yn annilys yn ôl y gyfraith, neu nid ydynt yn cael yr effaith a ddymunir.

C4. Elusennau anghorfforedig bach: all ymddiriedolwyr newid eu dibenion?

Yr ateb byr

Gallant, gall ymddiriedolwyr elusennau anghorfforedig gydag incwm o £10,000 neu lai sydd heb dir dynodedig newid dibenion eu helusen. Gwnânt hynny trwy gyfrwng cynnig sy'n dod i rym 60 diwrnod ar ôl i ni dderbyn copi ohono, oni bai ein bod yn gwrthwynebu, yn gofyn am wybodaeth bellach neu'n gofyn am roi cyhoeddusrwydd. Dylai hwn fod yn gam sydd wedi cael ei ystyried yn fanwl y bydd ymddiriedolwyr yn ei gymryd i sicrhau effeithiolrwydd eu helusen. Mae'r pŵer i wneud hyn wedi'i gynnwys yn Neddf 1993: os yw dogfen lywodraethol yr elusen yn cynnwys pŵer sydd yn haws ei ddefnyddio (oherwydd, er enghraifft, gall ddod i rym heb fod angen aros 60 diwrnod) yna gall yr ymddiriedolwyr ddefnyddio'r pŵer hwnnw yn lle hynny.

Yn fwy manwl

Mae Deddf Elusennau 1993 yn ei gwneud hi'n haws i elusennau llai newid eu dogfennau llywodraethol. Mae'n cynnwys pŵer sy'n galluogi ymddiriedolwyr elusennau gydag incwm o £10,000 neu lai sydd heb dir dynodedig i newid dibenion eu helusen eu hunain.

Dylid ymarfer y pwer hwn yn ofalus, oherwydd mae dibenion elusen yn cyfleu gwir natur yr elusen a bwriedir iddynt bara: dim ond pan nad yw hynny'n wir bellach, efallai oherwydd bod cymdeithas wedi newid, y gallai ymddiriedolwyr ystyried a yw dibenion eu helusen yn apelio neu'n berthnasol. Er enghraifft, byddai angen i elusen a sefydlwyd i gynorthwyo dioddefwyr trychineb a ddigwyddodd hanner can mlynedd yn ôl ailystyried ei dibenion pan fydd nifer y bobl sydd angen cymorth yn lleihau. Gallai'r elusen (er enghraifft) ystyried ehangu ei gwaith i gynnwys pobl a effeithir gan drychinebau eraill yn yr un ardal neu wlad neu leddfu angen a dioddefaint beth bynnag fo'r achos.

Dylai unrhyw ddibenion newydd wasanaethu buddiannau'r elusen yn dda a rhaid iddynt fod mor debyg o ran cymeriad â'r hen ddibenion ag y bo'n ymarferol yn yr amgylchiadau. Hefyd, dylent fod yn elusennol yn unig o ran eu geiriad.

Er mwyn newid y dibenion, rhaid i'r ymddiriedolwyr basio cynnig gan o leiaf dwy ran o dair o'r rhai sy'n pleidleisio. Dylent ddefnyddio ein ffurflen ar-lein i ddweud wrthym am y dibenion diwygiedig, beth fyddant yn ei wneud i'w cyflawni a phryd roedden nhw wedi cytuno ar y newid. Oni bai ein bod yn gwrthwynebu neu'n gofyn am wybodaeth bellach neu gyhoeddusrwydd, bydd y cynnig yn dod i rym yn awtomatig 60 diwrnod ar ôl i ni ei dderbyn.

Am arweiniad pellach edrychwch ar ein gwefan neu gysylltwch â ni.

C5. Elusennau anghorfforedig mwy: all ymddiriedolwyr newid eu dibenion?

Yr ateb byr

Gall ymddiriedolwyr elusennau anghorfforedig gydag incwm o fwy na £10,000 newid dibenion eu helusen eu hunain dim ond os yw'r ddogfen lywodraethol yn rhoi'r pwer hwnnw iddynt. Bydd angen i ymddiriedolwyr elusennau anghorfforedig sydd heb bwer o'r fath ofyn i ni am Gynllun (gweler adran Ch).

Yn fwy manwl

Bydd angen i ymddiriedolwyr yr elusennau hyn ddarllen dogfen lywodraethol yr elusen er mwyn gweld a yw'n rhoi'r pwer iddynt wneud y newidiadau a ddymunir ac, os felly, y drefn y mae'n rhaid iddynt ei dilyn.

Fel arfer bydd newidiadau o'r fath yn gofyn am benderfyniad yr ymddiriedolwyr a / neu gynnig gan aelodau'r elusen, ond bydd y ddogfen lywodraethol ei hun yn pennu'r gofynion hyn.

Bydd hyd yn oed pwer eang i newid yn mynnu, boed yn benodol neu'n ymhlyg, bod rhaid i unrhyw amcan diwygiedig fod yn elusennol yn unig. Rhaid dilyn telerau pwer o'r fath yn fanwl gywir.

Gall y ddogfen lywodraethol ddangos bod angen i newid arfaethedig gael sêl bendith naill ai'r aelodau neu sefydliad arall fel y Comisiwn neu awdurdod lleol neu sylfaenydd. Os oes angen cydsyniad y Comisiwn, byddwn yn defnyddio prawf tebyg i'r hyn a ddefnyddir wrth ystyried p'un ai i roi cydsyniad i newid diben gan gwmni elusennol. Ym mhob achos, rhaid i ymddiriedolwyr elusen gofrestredig anfon copi o'r cynnig sy'n gwneud y newid a chopi o'r ddogfen lywodraethol ddiwygiedig atom a rhoi gwybod i ni am ddyddiad y newid er mwyn i ni gadw cofnod yr elusen ar y Gofrestr yn gyfoes.

Gwybodaeth bellach. Edrychwch ar ein gwefan i gael canllawiau ar y newidiadau i ddogfennau llywodraethol a ffurflenni i ddweud wrthym am y newidiadau.

C6. Cwmnïau elusennol: all cyfarwyddwyr newid yr erthyglau cymdeithasu?

Yr ateb byr

Gallant, er bydd angen ein cydsyniad ymlaen llaw fel arfer os yw'r erthyglau yn dweud bod newidiadau o unrhyw fath yn ei gwneud hi'n ofynnol, neu os yw'r newid yn 'newid rheoledig'.

Yn fwy manwl

Oni bai fod yr erthyglau cymdeithasu yn dweud bod angen ein cydsyniad ar gyfer yr holl newidiadau arfaethedig, gall cyfarwyddwyr cwmnïau elusennol, yn y rhan fwyaf o achosion, wneud unrhyw newidiadau nad ydynt yn newidiadau rheoledig.

(Mae achos eithriadol yn codi os yw'r newid yn cael yr effaith o ddileu gwaharddiad penodol i dalu ymddiriedolwr er mwyn i'r elusen allu defnyddio'r pwerau statudol o dan adran 73 o Ddeddf 1993. Er nad yw newid o'r fath yn newid rheoledig, bydd angen ceisio awdurdod ar wahân gennym ni mewn rhai achosion. Mae ein cyhoeddiad Treuliau a thaliadau ymddiriedolwyr (CC11) yn rhoi mwy o wybodaeth am hyn yn adran D.)

Mae 'newidiadau rheoledig' yn cyfeirio at newidiadau i'r erthyglau cymdeithasu mewn meysydd o bwysigrwydd sylfaenol sy'n gofyn am ein cydsyniad ymlaen llaw. Mae'r rhain wedi'u rhannu'n 3 chategori bras:

a) unrhyw newid i ddatganiad o amcanion yr elusen;
b) unrhyw newid i'r hyn sy'n digwydd i eiddo'r elusen pan fydd yr elusen yn dirwyn i ben;
c) unrhyw newid sy'n rhoi awdurdod i gronfeydd neu eiddo'r elusen gael eu defnyddio i gynnig budd i'r cyfarwyddwyr neu'r aelodau, neu i bobl neu sefydliadau sy'n gysylltiedig â nhw.

Mae newidiadau rheoledig yn gofyn am gydsyniad ysgrifenedig y Comisiwn cyn i'r cynnig sy'n gwneud y newid gael ei basio gan yr elusen.

Yn gyffredinol bydd newidiadau yn gofyn am gynnig arbennig er mwyn iddynt ddod i rym: yn ymarferol, fel rheol bydd hyn yn golygu ceisio caniatâd aelodau mewn Cyfarfod Cyffredinol. Os yw unrhyw newid yn cael ei gymeradwyo, rhaid i'r cwmni anfon copi wedi'i lofnodi o'r cynnig sy'n gweithredu'r newid a chopi o'r erthyglau wedi'u newid i'r Cofrestrydd Cwmnïau yn Nhŷ'r Cwmnïau cyn pen 15 diwrnod gwaith o'i wneud. Dylai'r cwmni roi gwybod i ni hefyd am y newid yr un pryd drwy ddefnyddio ein ffurflen ar-lein (y gellir atodi copi wedi'i ddiweddaru o'i erthyglau iddo) er mwyn i ni allu diweddaru ei gofnod ar y Gofrestr Elusennau.

Ac eithrio yn achos newidiadau i'r datganiad o amcanion, bydd diwygiad yn cael ei roi ar waith o'r dyddiad y pasiwyd y cynnig arbennig (ar yr amod y cafwyd ein caniatâd ysgrifenedig ymlaen llaw). Os yw cwmni elusennol yn newid ei ddatganiad o amcanion, daw'r newidiadau hyn i rym dim ond pan gânt eu cofrestru yn Nhy'r Cwmnïau. Gall cwmni elusennol ddechrau gweithredu o dan yr amcanion newydd dim ond ar ôl y dyddiad cofrestru hwn.

Gwybodaeth bellach. Mae Canllawiau Gweithredol ar ein gwefan yn rhoi canllawiau manwl ar yr amodau a'r gofynion - edrychwch ar 'Newidiadau i Ddogfennau Llywodraethol: Cwmnïau Elusennol' (OG47) a'r ffurflen gais y gellir ei defnyddio i wneud cais am ein sêl bendith ar gyfer newidiadau rheoledig. Am ganllawiau sy'n ymwneud â buddiannau i ymddiriedolwyr ac unigolion cysylltiedig gweler Treuliau a thaliadau ymddiriedolwyr (CC11).

C7. Oes rhaid i ymddiriedolwyr roi gwybod i'r Comisiwn am newidiadau i'r ddogfen lywodraethol?

Yr ateb byr

Oes, rhaid i'r ymddiriedolwyr roi gwybod i ni am newidiadau o'r fath os yw eu helusen wedi'i chofrestru.

Yn fwy manwl

Mae'r gyfraith yn mynnu bod ymddiriedolwyr elusennau cofrestredig yn dweud wrthym am newidiadau i ddogfen lywodraethol eu helusen er mwyn cadw'r Gofrestr Elusennau yn gyfoes.

Rhaid i ymddiriedolwyr anfon manylion am y newidiadau atom, a chynnwys:

  • beth oedd y newidiadau;
  • tystiolaeth bod y newidiadau wedi cael eu gwneud yn briodol;
  • y dyddiad y pasiwyd y cynnig arbennig; ac
  • os yw datganiad o amcanion yr elusen wedi newid, y dyddiad y cofrestrwyd y newidiadau hyn yn Nhy'r Cwmnïau.

Efallai y bydd yn ddefnyddiol i elusennau edrych ar ein gwefan, lle y darperir ffurflenni a chanllawiau i gynorthwyo gyda'r broses hon.

Ch. Defnyddio Cynllun i newid dogfen lywodraethol

Mae'r adran hon yn disgrifio sut y gellir gwneud newidiadau os nad oes unrhyw bwer ar gael yn y ddogfen lywodraethol neu yn y gyfraith. Mae'n golygu ceisio Cynllun gan y Comisiwn o dan Deddf 1993.

Ch1. Beth yw Cynllun?

Yr ateb byr

Mae Cynllun yn ddogfen gyfreithiol, yn y cyd-destun hwn a wnaed gennym ni, fel arfer o dan adran 16 Deddf 1993. Gall ychwanegu at, disodli neu ddiwygio unrhyw un neu bob un o'r darpariaethau yn nogfen lywodraethol elusen.

Yn fwy manwl

Mae ffyrdd symlach i wneud newidiadau i ddogfen lywodraethol na defnyddio Cynllun (gweler adran C). Rydym yn cynnig gwneud Cynllun dim ond os nad oes unrhyw ddull symlach a chyflymach o newid ymddiriedolaethau'r elusen.

Yn ymarferol mae Cynllun yn fwyaf tebygol o gael ei ddefnyddio os nad oes unrhyw bŵer gan yr ymddiriedolwyr i wneud y newidiadau eu hunain. Byddai hyn yn cwmpasu newidiadau sy'n cynnwys diweddaru dibenion elusen anghorfforedig gydag incwm o fwy na £10,000, neu os yw'n dal tir dynodedig neu gyflwyno newidiadau ar gyfer unrhyw elusen anghorfforedig a allai gynnig budd i ymddiriedolwyr neu fusnesau neu unigolion cysylltiedig.

Gydag eithriadau prin iawn gallwn ddefnyddio ein pwer i wneud Cynlluniau dim ond pan fydd ymddiriedolwyr yn gofyn i ni wneud hynny. Wrth wneud Cynllun byddwn bob amser yn cydweithio'n agos â'r ymddiriedolwyr a'u hymgynghorwyr i gytuno ar ei gwmpas a'i eiriad.

Mae Deddf 1993 yn nodi'r gofynion gweithdrefnol allweddol ar gyfer gwneud Cynllun ac fe'u disgrifir yn Ch4 - Ch5.

Gall Cynlluniau gael eu gwneud gan yr Uchel Lys ond fel arfer mae hwn yn ddewis drud.

Ch2. Pryd allai'r Comisiwn newid dibenion elusen trwy Gynllun?

Yr ateb byr

Mae Deddf 1993 (adran 13) yn disgrifio'r amgylchiadau pan fyddwn yn gallu newid amcanion yr elusen trwy Gynllun.

Yn fwy manwl

O dan Ddeddf 1993 gallwn wneud Cynllun i newid amcanion elusen os yw'r amcanion cyfredol:

  • yn anaddas i'w cyflawni mwyach, neu nid yn y ffordd a nodwyd yn y ddogfen lywodraethol;
  • wedi cael eu bodloni, neu eu darparu'n ddigonol ar eu cyfer mewn ffyrdd eraill (er enghraifft, o gronfeydd cyhoeddus);
  • heb ddarparu defnydd ar gyfer holl incwm neu eiddo'r elusen;
  • yn defnyddio hen ddiffiniadau o ardaloedd, lleoedd neu ddosbarthiadau o bobl;
  • wedi peidio â bod yn elusennol yn ôl y gyfraith;
  • wedi peidio â bod yn ffordd ddefnyddiol o ddefnyddio'r cronfeydd neu'r eiddo (er enghraifft, darparu ar gyfer taliadau bach iawn neu roddion o fwyd neu danwydd i fuddiolwyr); neu
  • os yw dwy elusen neu fwy sydd ag amcanion tebyg eisiau uno ond nid yw'r pwer cyfreithiol ganddynt i wneud hynny.

Wrth gytuno ar ddibenion newydd, rhaid i ni gymhwyso'r athrawiaeth gyfreithiol 'cy-près' - gair Ffrengig-Normanaidd ar gyfer 'agos at' - er mwyn sicrhau eu bod yn ystyried ysbryd (neu fwriad sylfaenol) yr amcanion sy'n bod ac amgylchiadau cymdeithasol ac economaidd y dydd.

Ch4. Beth yw'r drefn ar gyfer gwneud cais am Gynllun?

Yr ateb byr

Dylai ymddiriedolwyr drafod eu hanghenion gyda ni a gwneud cais am Gynllun pan gytunir mai dyma yw'r ateb gorau. Fel rheol bydd cais ffurfiol am Gynllun yn cael ei wneud gan ymddiriedolwyr sy'n gweithredu fel corff. Byddwn yn penderfynu ar delerau'r Cynllun trwy ymgynghori â'r ymddiriedolwyr ac, os yw'n briodol, pobl eraill a all gael eu heffeithio ganddo.

Yn fwy manwl

Fel rheol bydd yr angen am Gynllun yn deillio o drafodaethau rhwng ymddiriedolwyr elusen, ymgynghorwyr neu uwch swyddogion a'r Comisiwn ynghylch newidiadau arfaethedig i ddogfen lywodraethol. Mae'n bosibl y gallwn ddarparu enghraifft i'r ymddiriedolwyr o'r math o Gynllun y teimlwn fyddai'n addas. Os nad yw hyn yn bosibl byddwn yn esbonio nodweddion pwysicaf ein cynigion mewn llythyr neu, mewn achosion mwy cymhleth, mae'n bosibl y bydd angen i ni gwrdd â'r ymddiriedolwyr i drafod ein cynigion.

Pan fydd yr amlinelliad bras wedi'i gytuno, byddwn yn gwahodd yr ymddiriedolwyr i wneud cais ffurfiol am Gynllun. Fel rheol bydd y cais yn dod o'r ymddiriedolwyr yn gweithredu gyda'i gilydd fel corff mewn cyfarfod a gyfansoddwyd yn briodol. Gellir mabwysiadau un o'r trefniadau canlynol:

  • pob un o'r ymddiriedolwyr sy'n bresennol yn llofnodi'r cais; neu
  • pob un o'r ymddiriedolwyr sy'n bresennol yn penderfynu awdurdodi un neu fwy o bobl, nad oes rhaid iddynt fod yn ymddiriedolwyr, i lofnodi ar eu rhan.

Os na all ymddiriedolwyr gael cworwm, gallwn dderbyn cais am Gynllun gan y nifer arbennig o ymddiriedolwyr y teimlwn sy'n briodol yn yr amgylchiadau.

Pan fyddwn yn derbyn y cais ffurfiol byddwn yn paratoi drafft manwl o'r Cynllun ac yn anfon copïau at yr ymddiriedolwyr i geisio eu sylwadau a'u cydsyniad. Rydym yn gyfrifol am baratoi'r Cynllun ac am ei gynnwys.

Ch6. Sut mae Cynllun yn dod i rym?

Yr ateb byr

Yn gyffredinol, pan fyddwn wedi cytuno ar gynnwys y Cynllun gyda'r ymddiriedolwyr byddwn yn llofnodi ('awdurdodi') y Cynllun er mwyn iddo ddod i rym. Os teimlwn y byddai'n ddefnyddiol ceisio mwy o farn, sylwadau a gwrthwynebiadau byddwn yn mynnu bod y Cynllun yn cael cyhoeddusrwydd cyn penderfynu p'un ai i'w awdurdodi neu beidio.

Yn fwy manwl

Byddwn ni a'r ymddiriedolwyr yn teimlo bod nifer o'r Cynlluniau drafft yn annhebygol o fod yn destun dadlau neu herio, ac felly cânt eu hawdurdodi heb unrhyw ofynion cyhoeddusrwydd. Ymgynghorir â'r ymddiriedolwyr ar ddechrau'r broses gan ofyn a ydynt yn ymwybodol o unrhyw wrthwynebiad neu ddadlau sy'n debygol o godi. Ni fydd y rhan fwyaf o Gynlluniau yn ddadleuol.

Mewn achosion a all fod yn ddadleuol, disgwylir i'r ymddiriedolwyr fod wedi cynnal eu hymgynghoriad eu hunain (gyda nodwyr, buddiolwyr ac eraill sydd â diddordeb yn yr elusen yn ôl pob tebyg) cyn gwneud cais am Gynllun. Mewn sawl achos bydd hyn yn osgoi'r angen am gyhoeddusrwydd yn ddiweddarach.

Mewn rhai achosion - os disgwylir lefel uchel o ddadlau cyhoeddus, er enghraifft - gall rhybudd cyhoeddus fod yn angenrheidiol neu'n ddymunol. Os yw'n ofynnol i roi cyhoeddusrwydd iddo, gall y Comisiwn ddewis cyfnod y rhybudd a ble y dylid rhoi cyhoeddusrwydd. Pan fydd y cyfnod cyhoeddusrwydd wedi'i gwblhau, rhaid i ni ystyried unrhyw sylwadau a wnaed mewn ymateb iddo. Os penderfynwn fod angen gwneud newidiadau byddwn yn dweud wrth yr ymddiriedolwyr ac yn cytuno ar ddrafft terfynol o'r Cynllun. Os nad ydym yn gweld bod angen unrhyw newidiadau, bydd y Cynllun drafft yn mynd rhagddo yn ôl y drafft. Yna bydd y Cynllun yn dod i rym trwy gael ei lofnodi.

Ch5. Beth sy'n digwydd ar ôl i'r Cynllun gael ei awdurdodi?

Yr ateb byr

Dylai'r Cynllun wedi'i lofnodi gael ei gadw'n ddiogel gyda phapurau pwysig eraill yr elusen, a dylid rhoi copi i bob ymddiriedolwr. Rhaid i'r ymddiriedolwyr gyhoeddi unrhyw rybuddion a dderbynnir gennym ni yn unol â'n cyfarwyddiadau.

Yn fwy manwl

Pan fydd y Cynllun wedi'i awdurdodi, byddwn yn anfon y Cynllun wedi'i lofnodi at yr ymddiriedolwyr.

Rhaid i ni arddangos copi o'r Cynllun yn ein swyddfeydd am fis - yn ymarferol, gwnawn hyn trwy ei gyhoeddi ar ein gwefan. Os yw'r elusen yn gweithredu mewn ardal leol yn unig, gallwn hefyd fynnu bod y Cynllun yn cael ei arddangos yn gyhoeddus mewn lle cyfleus ond mae hyn yn debygol o ddigwydd dim ond os cafwyd gwrthwynebiadau sylweddol cyn i'r Cynllun gael ei wneud.

Yn dibynnu ar effaith y Cynllun, gall ystod eang o bartïon ddwyn apêl yn ei erbyn, gan gynnwys y Twrnai Gwladol ac unrhyw un sydd â diddordeb yn yr elusen. Ac eithrio'r Twrnai Gwladol, rhaid i unrhyw un o'r partïon hyn gyflwyno eu hapêl cyn pen tri mis, er bod apeliadau o'r fath yn anarferol iawn.

Dylai ymddiriedolwyr gadw'r Cynllun wedi'i lofnodi yn ddiogel gyda phapurau pwysig eraill yr elusen. Dylid rhoi copi o'r Cynllun i bob ymddiriedolwr.

Ch6. Faint o amser fydd hi'n cymryd i wneud Cynllun a beth yw'r gost?

Yr ateb byr

Yn aml iawn gall Cynllun gael ei gwblhau o fewn rhai wythnosau ar ôl adnabod bod angen am un. Os yw'n anodd cytuno a/neu os oes unrhyw wrthwynebiadau, gall y broses gymryd llawer yn hwy. Y prif gostau yw'r rhai a ddaw i'r elusen ei hun, er enghraifft amser staff neu ffioedd os yw'n dewis defnyddio ymgynghorydd proffesiynol. Nid ydym yn codi tâl am Gynllun.

Yn fwy manwl

Mae'n anodd dweud faint o amser y bydd hi'n cymryd i baratoi Cynllun oherwydd mae pob achos yn wahanol. Gall llawer ddibynnu ar y canlynol, er enghraifft:

  • pa mor gymhleth y mae'r Cynllun;
  • pa mor gyflym y gall ymddiriedolwyr gwrdd i ystyried y Cynllun drafft ar wahanol gyfnodau; ac
  • a yw unrhyw wrthwynebiadau mawr yn cael eu derbyn o ganlyniad i fynnu bod Cynllun drafft yn cael cyhoeddusrwydd.

Gall gymryd sawl mis i gwblhau Cynlluniau mwy cymhleth, ac yn arbennig y rhai sy'n denu gwrthwynebiadau.

Nid ydym yn codi unrhyw dâl ar gyfer ein gwaith o greu Cynllun. Felly, y prif gostau a allai godi i'r elusen yw:

  • yr amser y mae ei staff ei hun yn ei dreulio yn gweithio ar y Cynllun;
  • y cyngor proffesiynol a geisir mewn perthynas â'r Cynllun; neu
  • gost rhybuddion cyhoeddi os oes eu hangen (gweler Ch6).

Os yw'r elusen yn gofyn am gopïau pellach o Gynllun, efallai y byddwn yn codi tâl am gost llungopïo a phostio.

D. Gwybodaeth bellach

Cyhoeddiadau eraill y Comisiwn

Mae ein gwefan yn cynnig ystod eang o wasanaethau, offer, gwybodaeth a chanllawiau hygyrch ar-lein. Cyn cysylltu â ni am gyngor neu gymorth efallai yr hoffech chwilio ein cronfa ddata ar-lein o gwestiynau cyffredin. Bydd y rhan fwyaf o bobl yn cael hyd i'r ateb y mae ei angen arnynt heb ffonio neu ysgrifennu e-bost. Fel arall, ceir cyswllt i'n tudalen Cysylltu â ni o frig a gwaelod pob tudalen we.

Am wybodaeth bellach efallai yr hoffech gyfeirio at y cyhoeddiadau canlynol gan y Comisiwn Elusennau:

All of our publications are also available in English.

© Hawlfraint y Goron

© 2011 Hawlfraint y Goron          Hysbysiad Hawlfraint, Ymwadiad a Datganiad Preifatrwydd