Sut gall elusennau fasnachu'n gyfreithiol
(Fersiwn Ebrill 2007)
Gallwch hefyd weld fersiwn PDF lliw llawn o'r Ymddiriedolwyr, masnachu a threth (CC35)
Cynnwys
A. Cyflwyniad
A1. Y canllaw hwn
Mae'r canllaw hwn yn esbonio pryd a sut y gall elusennau fasnachu. Mae'n ymwneud yn bennaf â masnachu at ddiben codi arian, yn hytrach na masnachu i gyflawni amcanion yr elusen. Hefyd, mae'n esbonio pryd y dylid sefydlu cwmni masnachu ar wahân i ddelio â gweithgarwch o'r fath. Fe gewch wybodaeth am godi arian drwy ddulliau eraill heblaw masnachu yng nghanllaw'r Comisiwn Elusennau a Chodi Arian (CC20).
Mae'r canllaw presennol hefyd yn cynnwys ychydig o wybodaeth sylfaenol am dreth incwm a threth gorfforaeth ac elw masnachu, oherwydd mae hyn yn ffactor arwyddocaol wrth bennu'r math o strwythurau sefydliadol y dylai elusennau eu mabwysiadu er mwyn masnachu at ddibenion codi arian.
Cewch wybodaeth fanwl am drethu elw masnachu a enillir gan elusennau yn www.hmrc.gov.uk, gwefan Cyllid a Thollau EM ('HMRC') - gweler yr arweiniad Masnachu a gweithgareddau busnes o fewn yr adran Nodiadau Arweiniad Manwl i Elusennau sy'n delio ag elusennau. Cyfeiriwn at yr wybodaeth hon drwy gydol y canllaw hwn.
A2. 'Rhaid' a 'dylai': beth ydym yn ei olygu?
Yn y canllaw hwn, pan ddefnyddiwn y gair 'rhaid', golygwn fod y Comisiwn yn deall fod gofyniad cyfreithiol neu reoleiddiol penodol sy'n effeithio ar ymddiriedolwyr neu elusen. Er mwyn eich helpu i adnabod yr adrannau hynny sy'n cynnwys gofyniad cyfreithiol neu reoleiddiol rydym wedi defnyddio'r symbol
wrth ochr yr ateb byr yn yr adran honno.
Defnyddiwn 'dylai' am eitemau y mae'r Comisiwn yn eu hystyried yn arfer da lleiaf, ond nid oes gofyniad cyfreithiol penodol ar eu cyfer. Dylai ymddiriedolwyr ddilyn yr arweiniad arfer da oni bai fod rheswm da dros beidio â gwneud hynny.
A3. Canllawiau blaenorol
Mae'r canllaw hwn a'i fersiwn gryno yn cymryd lle neu bydd yn cymryd lle'r canllaw blaenorol Elusennau a Masnachu (CC35), a gyhoeddwyd yng Ngorffennaf 2001. Yn ogystal â chael ei ysgrifennu mewn arddull gliriach, mae'r canllaw hwn yn rhoi cyngor mwy ymarferol ar elusennau sy'n buddsoddi mewn is-gwmnïau masnachu ac yn eu defnyddio, ac mae'n adlewyrchu datblygiadau yn y gyfraith a'n profiad o gynghori ar y materion.
A4. Defnyddio'r canllaw hwn
Mae dwy brif ran i'r canllaw hwn. Y cyntaf yw Rhan C, sy'n delio â sefyllfa elusennau sy'n ymgymryd â gweithgareddau masnachu eu hunain yn uniongyrchol, neu sy'n ystyried gwneud hynny. Dilynir hyn gan Ran Ch, sy'n ymwneud ag elusennau sydd wedi sefydlu is-gwmni masnachu, neu mae angen iddynt wneud hynny.
Rhennir pob adran yn nifer o adrannau, mae pob un yn dechrau gyda chwestiwn, a rhoddir ateb cryno i'r cwestiwn ac yna esboniad mwy manwl.
A5. Termau a Diffiniadau
Mae'r termau canlynol yn cael eu defnyddio trwy'r ddogfen hon, a dylid ystyried bod ganddynt yr ystyron penodol fel y nodir isod.
Adnoddau a dderbynnir o weithgareddau amrywiol. Incwm heb fod yn incwm masnachu elusen sy'n drethadwy, ac nid yw wedi'i gynnwys gan unrhyw un o'r eithriadau treth elusen, neu nid yw wedi'i gynnwys gan unrhyw un o'r eithriadau treth ar wahân i'r eithriad ar raddfa fach.
(Y) Comisiwn. Y Comisiwn Elusennau.
(Y) Comisiwn Hapchwarae. Sefydlwyd y Comisiwn Hapchwarae o dan Ddeddf Hapchwarae 2005. Mae'r Comisiwn wedi cymryd rôl cyn Fwrdd Hapchwarae Prydain Fawr ac yn rheoleiddio casinos, bingo, peiriannau hapchwarae a lotrïau.
Cyfnod trethadwy. Blwyddyn dreth at ddibenion treth incwm, a chyfnod cyfrifyddu at ddibenion treth gorfforaeth. Mae ymddiriedolwyr ymddiriedolaeth elusennol (yn amodol ar eithriadau elusennau) yn atebol i dalu treth incwm. Mae elusennau corfforedig a sefydliadau anghorfforedig elusennol (yn amodol ar yr eithriadau) yn atebol i dalu treth gorfforaeth.
Deddf 1988. Deddf Trethi Incwm a Chorfforaeth 1988.
Deddf 1993. Deddf Elusennau 1993.
Dogfen lywodraethol. Unrhyw ddogfen sy'n pennu dibenion yr elusen ac, fel arfer, y dull o'i gweinyddu. Gall fod yn Siartr Frenhinol, yn weithred ymddiriedolaeth, yn gyfansoddiad, yn femorandwm ac erthyglau cwmni, yn ewyllys, yn drawsgludiad neu'n Gynllun y Comisiwn Elusennau.
(Yr) eithriad ar raddfa fach. Y ddarpariaeth yn adran 46 Deddf Gyllid 2000 sy'n eithrio elw masnachu elusennau o dreth incwm a threth gorfforaeth, a hefyd peth o incwm arall elusennau, fyddai'n rhaid talu treth arno fel arall, ar yr amod nad yw'r trosiant masnachu, ynghyd ag incwm perthnasol arall, yn fwy na throthwy penodol.
Elusen anghorfforedig. Elusen sydd heb unrhyw fath o gorfforiad cyfreithiol. Mae'r ymddiriedolwyr eu hunain yn cynrychioli'r elusen.
Elusen gorfforedig. Elusen sydd wedi'i sefydlu fel cwmni, Cymdeithas Ddiwydiannol a Darbodus, neu fel math arall o gorfforaeth gorfforedig.
Grŵp TAW. Grŵp o sefydliadau (sy'n cynnwys is-gwmnïau a rhiant gwmnïau yn gyffredinol) sy'n cael ei drin fel un endid at ddibenion TAW.
Gwariant anelusennol. Gwariant gan elusen nad yw'n wariant elusennol o fewn ystyr adran 506 Deddf 1988, hy nid yw'n wariant at ddibenion elusennol yn unig. Nid yw gwneud buddsoddiadau (gan gynnwys benthyciadau, boed yn fuddsoddiadau neu beidio) yn 'wariant' fel arfer. Ond, mewn rhai amgylchiadau, mae adran 506 yn trin gwneud benthyciadau/buddsoddiadau fel gwariant anelusennol. Hefyd, gall taliadau i gorff a leolir y tu allan i'r Deyrnas Unedig gael eu trin yn awtomatig fel gwariant anelusennol, os yw'r elusen sy'n gwneud y taliad heb gymryd camau sy'n rhesymol yn yr amgylchiadau i sicrhau y bydd y taliad yn cael ei ddefnyddio at ddibenion elusennol.
Gwariant elusennol. Fe'i diffinnir yn adran 506 Deddf 1988. Mewn gwirionedd, gwariant ar ddibenion elusennol yn unig.
HMRC. Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi.
Is-gwmni masnachu. Unrhyw gwmni masnachu anelusennol y mae elusen neu elusennau yn berchen arno i fasnachu ar ran yr elusen (neu elusennau). Drwy'r canllaw hwn ystyrir bod unrhyw gwmni o'r fath wedi'i sefydlu mewn un o wledydd y DU - Cymru, Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon. Yn y canllaw hwn mae 'is-gwmni masnachu' yn cynnwys cwmni sydd ym mherchnogaeth lwyr mwy nag un elusen, hyd yn oed os nad yw'n 'is-gwmni' unrhyw un o'r elusennau sy'n berchen arno yn dechnegol.
Masnachu ategol. Masnachu sy'n ategol i brif ddiben elusen, ac sy'n rhan gyfreithiol o 'fasnachu prif ddiben' yr elusen.
Masnachu heb fod yn brif ddiben. Masnachu nad yw'n fasnachu prif ddiben. Yn ymarferol bydd yn golygu bod masnachu'n mynd rhagddo gyda'r prif neu'r unig nod o godi arian i'r elusen.
Masnachu prif ddiben. Gweithgareddau masnachu y bydd elusen yn ymgymryd â nhw wrth gyflawni prif ddiben yr elusen. At ddibenion presennol, mae'n cynnwys masnachu lle mae'r gwaith sy'n gysylltiedig â'r masnachu yn cael ei gyflawni gan fuddiolwyr yr elusen yn bennaf. Fel rheol, bydd y math hwn o fasnachu, mewn unrhyw achos, yn mynd rhagddo wrth gyflawni prif ddiben yr elusen, ond, os mai dyma yw'r achos neu beidio, bydd y ddau fath o fasnachu yn cael ei drin mewn ffordd debyg.
Rhiant elusen. Yr elusen neu'r elusennau sy'n berchen ar is-gwmni masnachu.
Rhodd Cymorth. Mae'r cynllun hwn yn rhoi rhyddhad treth i gwmnïau ac unigolion sy'n cyfrannu at elusennau. Os yw rhodd wedi cael ei roi gan unigolyn sy'n talu treth y DU, gall yr elusen hawlio ad-daliad o'r dreth (ac os yw'n atebol i dalu treth cyfradd uwch, mae'r rhoddwr yn cael rhyddhad treth ychwanegol). Os yw cwmni yn gwneud cyfraniad, mae swm y cyfraniad rhodd yn lleihau incwm trethadwy y cwmni.
Ymddiriedolwyr. Mae ymddiriedolwyr yn golygu ymddiriedolwyr elusen. Ymddiriedolwyr elusen yw'r bobl sy'n gyfrifol am reoli gweinyddiad yr elusen yn gyffredinol. Yn nogfen lywodraethol yr elusen gallant gael eu galw'n ymddiriedolwyr, yn ymddiriedolwyr rheoli, yn aelodau pwyllgor, yn llywodraethwyr neu'n gyfarwyddwyr, neu gall fod enw arall ganddynt.
B. Crynodeb
O dan gyfraith Cymru a Lloegr, gall elusennau ymgymryd â rhai mathau o fasnachu.
O'i gymharu â chwmnïau masnachol arferol, mae elusennau yn mwynhau manteision sylweddol o ran treth ar gyfer masnachu ac elw masnachu. Er enghraifft, o ran TAW, mae rhai gwerthiannau a phryniannau wedi'u heithrio neu â chyfradd sero. O ran treth uniongyrchol, mae nifer o fanteision - er enghraifft:
- mae elw masnachu elusen, mewn rhai amgylchiadau, wedi'i eithrio rhag talu treth. Mae hyn yn cynnwys elw o fasnachu prif ddiben, ac elw o lotrïau a rhai mathau o ddigwyddiadau codi arian. Mae eithrio yn destun amodau sy'n ymwneud â defnyddio'r elw a dderbynnir gan yr elusen;
- nid yw incwm a dderbynnir gan elusen o werthu nwyddau sydd wedi cael eu rhoi iddi yn cael ei ystyried yn elw masnachu fel arfer, ac nid yw'n drethadwy.
Fodd bynnag, mae cost i'w thalu am y driniaeth ffafriol hon. Er bod rhwydd hynt mwy neu lai gan elusennau i fasnachu er mwyn cyflawni eu hamcanion elusennol, mae cyfyngiadau ar fasnachu gyda'r nod o gynhyrchu arian i'r elusen. Yn arbennig, ni all elusennau ymgymryd â gweithgareddau masnachu masnachol eu natur pe byddai risg sylweddol i'w hasedau.
Os yw masnachu (heblaw masnachu i gyflawni ei hamcanion elusennol) yn cynnwys risg sylweddol i asedau'r elusen, rhaid defnyddio is-gwmni masnachu. Ond hyd yn oed os nad yw'n hanfodol i is-gwmni masnachu ymgymryd â'r masnachu, gall defnyddio is-gwmnïau masnachu gynnig manteision, er enghraifft lleihau rhwymedigaethau treth. Yn arbennig, gall is-gwmnïau masnachu roi cyfraniadau i'w rhiant elusen fel 'Rhodd Cymorth', gan felly lleihau neu ddileu elw'r is-gwmni sy'n atebol i dalu treth.
Ond nid yw defnyddio is-gwmnïau masnachu os nad yw'n hanfodol i wneud hynny bob amser yn fuddiol, oherwydd gall gynnwys costau rheoli a chostau ychwanegol eraill. Gall fod anfanteision ariannol hefyd i'w pwyso a mesur yn erbyn y manteision, er mae'n bosibl nad ystyriaethau ariannol uniongyrchol yw'r unig ystyriaethau sy'n berthnasol. Gall gweithrediadau masnachu elwa o ddefnyddio is-gwmni masnachu oherwydd yr eglurder sefydliadol ac ariannol a ddaw drwy wahaniaethu rhwng gweithgaredd masnachu a phrif waith yr elusen.
Mae angen i ymddiriedolwyr elusennau sydd ag un neu ragor o is-gwmnïau masnachu fod yn ymwybodol o'u cyfrifoldebau. Yn arbennig, rhaid iddynt gofio, gyda phob penderfyniad sy'n cael ei wneud mewn perthynas ag is-gwmni masnachu, bod buddiannau’r elusen o'r pwys mwyaf. Rhaid i fuddiannau is-gwmni masnachu, ei gyfarwyddwyr, ei gredydwyr neu ei weithwyr i gyd ddod yn ail i fuddiannau'r elusen.
Pwrpas defnyddio is-gwmni masnachu yw cynnig budd i'r elusen mewn rhyw ffordd, er enghraifft diogelu asedau'r elusen rhag risgiau masnachu, neu gynyddu lefel yr adenillion ariannol i'r elusen drwy arbed treth. Os yw asedau'r elusen yn cael eu defnyddio neu'n cael eu peryglu er budd yr is-gwmni, neu ei gyfarwyddwyr, ei gredydwyr neu ei weithwyr, effeithir ar y pwrpas hwnnw. Mewn achosion o'r fath, gall ymddiriedolwyr yr elusen fod yn atebol yn bersonol am unrhyw golled, neu leihad mewn gwerth asedau'r elusen.
Mae'r canllaw hwn yn disgrifio'r prif egwyddorion ac ystyriaethau sy'n berthnasol i fasnachu gan elusennau eu hunain, ac i fasnachu drwy is-gwmnïau masnachu. Fodd bynnag, oherwydd cymhlethdod y gyfraith yn y maes hwn, a graddfa bosibl canlyniadau niweidiol os yw camgymeriadau'n cael eu gwneud, dylai elusennau ac ymddiriedolwyr elusennau sy'n ymgymryd â gweithrediadau masnachu sylweddol geisio cyngor annibynnol gan bobl broffesiynol gymwysedig briodol.