Yn yr adran hon...

Beth sy'n newdd?

CC30 - Cael hyd i Ymddiriedolwyr Newydd - Yr hyn y mae angen i elusennau wybod

(Fersiwn Hydref 2007)

Cynnwys

A. Cyflwyniad

A1. Am beth mae'r canllawiau hŷn?

Gofynnwn i ni yn aml i gynghori elusennau ynghylch sut i recriwtio, dewis, penodi a sefydlu ymddiriedolwyr. Mae'r canllawiau hŷn yn ateb rhai o'r cwestiynau mwyaf cyffredin, ac yn rhoi fframwaith ar gyfer y broses recriwtio.

Gall recriwtio, dewis ac yna sefydlu un neu ragor o ymddiriedolwyr newydd i'r elusen ddylanwadu'n fawr ar ba mor effeithiol y mae'r elusen yn y dyfodol. Pan fydd popeth yn gweithio'n dda, gall arwain at fwrdd ymddiriedolwyr cytbwys ac effeithiol ac elusen effeithiol sy'n cael ei rheoli'n dda. Fodd bynnag, os yw'r prosesau hŷn yn wan, mae'n bosib y bydd gallu'r bwrdd ymddiriedolwyr i reoli'r elusen yn cael ei effeithio, ac yn yr achosion gwaethaf gall arwain at broblemau mawr i'r elusen a'i buddiolwyr.

A2. 'Rhaid' a 'dylai': beth ydym yn ei olygu

Yn y llyfryn hwn, pan ddefnyddiwn 'rhaid', golygwn ei fod yn ofyniad cyfreithiol neu reoleiddiol penodol sy'n effeithio ar ymddiriedolwyr neu elusen. Rhaid i ymddiriedolwyr gydymffurfio â'r gofynion hŷn. Er mwyn eich helpu i adnabod yr adrannau hynny sy'n cynnwys gofyniad cyfreithiol neu reoleiddiol rydym wedi defnyddio'r symbol Symbol yn dangos gofyniad cyfreithiol wrth ochr yr ateb byr yn yr adran honno.

Defnyddiwn 'dylai' ar gyfer eitemau y mae'r Comisiwn yn eu hystyried yn arfer da lleiaf, ond nid oes unrhyw ofyniad cyfreithiol penodol i'w cyflawni. Dylai ymddiriedolwyr ddilyn y canllawiau arfer da oni bai fod rheswm da dros beidio â gwneud hynny.

Cynigiwn gyngor llai ffurfiol hefyd ac argymhellion a all fod yn ddefnyddiol i ymddiriedolwyr wrth iddynt reoli eu helusen.

A3. Hyd a lled y canllawiau hŷn

Mae'r canllaw hwn yn cwmpasu ystod o feysydd allweddol ynghylch recriwtio a phenodi ymddiriedolwyr newydd. Mae rhai o'r materion yn gymhleth ac mae cyfreithiau a rheoliadau gwahanol sy'n ymwneud â mathau gwahanol o elusennau yn gymwys iddynt. Ni ddylech ddibynnu ar y canllaw hwn i fod yn ddisgrifiad cywir neu gyflawn o'r materion cyfreithiol sy'n effeithio ar eich elusen. Mae'n rhoi cyflwyniad cyffredinol a golwg gyffredinol, ac yn tynnu sylw at feysydd lle y gall fod angen cyngor pellach arnoch naill ai gennym ni, neu gan ymgynghorwyr cyfreithiol eich elusen.

A4. Defnyddio'r canllaw hwn

Mae patrwm y canllawiau hŷn yn dilyn y prif benawdau a ddefnyddir yn yr adran nesaf. O dan pob pennawd, gofynnwn gyfres o gwestiynau perthnasol y gall ymddiriedolwyr newydd neu ymddiriedolwyr cyfredol eu codi am y broses recriwtio a sefydlu. Yn gyffredinol rhown ateb cryno (Yr ateb byr), ac yna awn ymlaen i roi esboniad pellach a chefndir (Yn fwy manwl).

A5. Ffynonellau eraill o gymorth a chŷngor

Mae nifer o adnoddau y gall ymddiriedolwyr eu defnyddio i'w helpu. Ceisiwn annog ymddiriedolwyr i ddefnyddio arbenigedd sefydliadau perthnasol i'w cynorthwyo i weinyddu eu helusennau mor effeithiol â phosib.

Fe welwch fanylion cyswllt pob sefydliad y sonnir amdanynt yn y canllaw hwn, ynghyd â disgrifiad byr o'r hŷn a wnânt, yn adran F.

A6. Rhai termau technegol a ddefnyddir

Er ein bod wedi ceisio ysgrifennu'r llyfryn hwn mewn iaith bob dydd, mae'n rhaid i ni ddefnyddio rhai termau technegol mewn mannau. Mae'r rhestr hon yn esbonio rhai ohonynt:

Dogfen lywodraethol: Dogfen gyfreithiol sy'n pennu dibenion yr elusen ac, fel arfer, sut y caiff ei gweinyddu. Gall fod yn weithred ymddiriedolaeth, cyfansoddiad, memorandwm ac erthyglau cymdeithasu, ewyllys, trawsgludiad, Siarter Frenhinol, Cynllun y Comisiwn, neu'n ddogfen ffurfiol arall.

Elusen gorfforedig: Elusen sydd hefyd yn gwmni neu sydd â statws cyfreithiol tebyg i endid corfforedig yn ôl y gyfraith.

Mae ymddiriedolwr yn golygu ymddiriedolwr elusen. Ymddiriedolwyr elusen yw'r bobl sy'n gyfrifol am reoli gweinyddiad yr elusen yn gyffredinol. Yn nogfen lywodraethol yr elusen gallant gael eu galw'n ymddiriedolwyr, ymddiriedolwyr rheoli, aelodau pwyllgor, llywodraethwyr neu gyfarwyddwyr, neu gall fod rhyw deitl arall ganddynt.

Mae bwrdd ymddiriedolwyr yn golygu corff llywodraethu'r elusen. Gall gael ei alw'n bwyllgor rheoli, pwyllgor gweithredol neu fwrdd cyfarwyddwyr, neu gall fod rhyw deitl arall ganddo.

B. Cipolwg cyflym ar recriwtio ymddiriedolwyr

Mae'r ddwy dudalen yma yn crynhoi prif gamau recriwtio ymddiriedolwyr newydd ac mae'n disgrifio trefn digwyddiadau arferol.

Cychwyn arni

(1) Mae'r elusen yn adnabod bod angen ymddiriedolwyr newydd arni. Efallai bod swyddi gwag wedi codi ar ôl i ymddiriedolwyr ymddiswyddo, neu efallai bod yr ymddiriedolwyr cyfredol wedi penderfynu bod angen un neu ragor o ymddiriedolwyr newydd sy'n meddu ar sgiliau penodol i helpu gweinyddu'r elusen yn fwy effeithiol.

(2) Mae'r ymddiriedolwyr yn cytuno ar y sgiliau, profiad a gwybodaeth sydd eu hangen, ac yn nodi hŷn ar ffurf disgrifiad swydd byr a manyleb person.

(3) Mae'r ymddiriedolwyr yn cytuno ar y cyfrifoldebau a'r broses recriwtio, a thrwy wneud hynny, maent yn gofalu eu bod yn cydymffurfio ag unrhyw ofynion penodol a bennir yn nogfen lywodraethol yr elusen. Gall peth o'r gwaith gael ei ddirprwyo i is-grŵp o ymddiriedolwyr, ond y bwrdd ymddiriedolwyr cyfan sy'n parhau i reoli'r broses a'r penderfyniadau.

Cael hyd i ymddiriedolwyr posib

(4) Mae'r ymddiriedolwyr yn ystyried y dulliau gorau o ddenu amrywiaeth eang o ymgeiswyr sy'n meddu ar y sgiliau y mae eu hangen ar yr elusen. Gall hŷn gynnwys hysbysebu yn y wasg leol a/neu arbenigol a defnyddio gwasanaethau broceriaeth ymddiriedolwyr.

(5) Mae rhestr fer yn cael ei pharatoi ac mae cyfweliadau'n cael eu cynnal yn erbyn meini prawf a gytunwyd. Mae panel bach o ymddiriedolwyr yn cynnal y cyfweliadau, a gofynnir cwestiynau tebyg i bob ymgeisydd er mwyn sicrhau agwedd deg a gwrthrychol. Cedwir nodiadau o bob cyfweliad.

(6) Mae'r ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu hadnabod a'u gwahodd i ymuno â'r ymddiriedolwyr, yn amodol ar eirdaon, archwiliad cefndir ffurfiol a chymeradwyaeth y bwrdd ymddiriedolwyr llawn. Rhoddir gwybod i ymgeiswyr aflwyddiannus ac estynnir diolch iddynt am fynegi diddordeb.

Archwilio cefndir ymddiriedolwyr posib

(7) Mae'r ymddiriedolwyr yn sicrhau bod yr ymgeiswyr heb gael eu hanghymhwyso rhag gweithredu fel ymddiriedolwr, a gofynnir i ymgeiswyr gadarnhau yn ysgrifenedig mai dyma yw'r achos.

(8) Gofynnir i ymgeiswyr ystyried a datgan unrhyw wrthdaro buddiannau sy'n bodoli neu a all godi.

(9) Os yw'r elusen yn gweithio gyda phobl ifanc neu bobl sy'n agored i niwed, bydd yr ymddiriedolwyr yn ceisio unrhyw Ddatgeliadau gofynnol gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol.

(10) Yn dilyn y gwiriadau, datganiadau a Datgeliadau, mae'r ymddiriedolwyr yn penderfynu bwrw ati a ffurfioli penodi'r ymddiriedolwyr newydd.

Penodi

(11) Mae'r ymddiriedolwyr yn edrych ar ddogfen lywodraethol yr elusen er mwyn sicrhau eu bod yn penodi'r ymddiriedolwyr newydd mewn ffordd briodol a chyfreithiol.

(12) Mae Cadeirydd yr elusen yn ysgrifennu at y darpar ymddiriedolwyr, gan nodi eu dyletswyddau a'r hŷn y mae'r elusen yn ei ddisgwyl ganddynt; gofynnir iddynt arwyddo a dychwelyd copi o'r llythyr.

(13) Mae pecyn gwybodaeth am yr elusen yn cael ei anfon i'r ymddiriedolwyr newydd, ac mae proses sefydlu lawn yn cael ei threfnu. Mae'r ymddiriedolwyr newydd yn cwrdd ag ymddiriedolwyr yr elusen ac eraill sy'n ymwneud â'r elusen, megis aelodau staff, gwirfoddolwyr a buddiolwyr.

(14) Mae'r ymddiriedolwyr newydd yn mynychu eu cyfarfod bwrdd cyntaf ac yn cael eu croesawu. Mae pob parti perthnasol, megis noddwyr a chyfreithwyr ac archwilwyr yr elusen, yn cael gwybod am y penodiadau newydd.

C. Cychwyn arni

Efallai eich bod chi'n ystyried gwahodd aelodau newydd i ymuno â'r bwrdd ymddiriedolwyr. Yn gyntaf, dylech sicrhau eich bod yn ymwybodol o unrhyw ofynion perthnasol yn nogfen lywodraethol yr elusen, megis:

  • Oes nifer mwyaf neu nifer lleiaf o ymddiriedolwyr?
  • Sut dylen nhw gael eu penodi?
  • Am faint allan nhw aros yn y swydd?

Dylech hefyd ystyried cwestiynau fel:

  • Pa sgiliau, gwybodaeth neu brofiad newydd sydd eu hangen ar y bwrdd?
  • Oes grŵpiau budd penodol y gallai'r ymddiriedolwr newydd eu cynrychioli?
  • Ddylai'r bwrdd ymddiriedolwyr fod yn fwy amrywiol na'r bwrdd presennol? Er enghraifft, cynnwys pobl o wahanol gefndiroedd cymdeithasol neu ethnig neu gynnwys pobl ag anableddau.
C1. Pa mor bwysig yw ymddiriedolwyr i elusen?
Yr ateb byr:

Mae ymddiriedolwyr yn holl bwysig. Mae'n bwysig iawn i unrhyw elusen gael ymddiriedolwyr sy'n ymroddedig i'w tasg ac sy'n meddu ar y sgiliau, yr wybodaeth a'r profiad y mae eu hangen ar yr elusen.

Yn fwy manwl:

Mae ymddiriedolwyr yn chwarae rôl hanfodol yn y gwaith o reoli elusennau. Mae ganddynt lawer i'w gyfrannu hefyd i'w llwyddiant. Er enghraifft, gallant:

  • fod yn gyfrwng cyfathrebu â chymunedau y mae elusen yn bodoli i'w gwasanaethu;
  • dod â phrofiad proffesiynol neu brofiad arall gwerthfawr i elusennau; a
  • helpu sicrhau bod elusennau'n cael eu rheoli'n dda trwy benodi uwch staff gweithredol.
C2. Pa fath o berson fydd yn gwneud ymddiriedolwr da?
Yr ateb byr:

Mae gan y rhan fwyaf o bobl rywfaint o sgiliau, gwybodaeth neu brofiad y gallant eu cynnig i elusen. Dylai ymddiriedolwyr ddangos ymrwymiad personol cryf i nodau ac amcanion yr elusen. Mae hefyd yn hanfodol nad oes unrhyw rwystrau cyfreithiol neu rwystrau eraill i benodi ymddiriedolwr.

Yn fwy manwl:

Pan fydd ymddiriedolwyr yn ystyried recriwtio ymddiriedolwr neu ymddiriedolwyr newydd, man cychwyn da yw edrych ar ba sgiliau, gwybodaeth a phrofiad y mae eu hangen er mwyn sicrhau bod yr elusen yn cael ei rheoli'n dda ac yn cael ei gweinyddu'n effeithiol, yn effeithlon ac yn briodol yn unol â maint a chymhlethdod yr elusen. Nid yw hŷn yn golygu y dylai byrddau ymddiriedolwyr gynnwys arbenigwyr i ymdrin â phob sefyllfa a all godi.

Mae'r broses hon yn werthfawr ynddi'i hun ac argymhellwn fod ymddiriedolwyr yn adolygu sgiliau'r bwrdd ymddiriedolwyr yn gyson yn hytrach nag aros nes bod swydd wag ymddiriedolwr yn codi. Gall sgiliau ymddiriedolwyr amrywio o ran natur o sgiliau ariannol, cadw llyfrau neu farchnata i gysylltiadau â chymunedau perthnasol neu ddefnyddwyr gwasanaeth. Mae hefyd yn bwysig bod yr amser a'r egni angenrheidiol gan yr ymddiriedolwr i'w neilltuo i'r elusen.

Mae asesu neu werthuso sgiliau'r ymddiriedolwyr cyfredol yn ffordd dda o adnabod unrhyw fylchau y mae angen eu llenwi. Bydd hyd a lled yr asesiad yn amrywio yn ôl maint a natur yr elusen. Ar gyfer elusennau llai a llai cymhleth gall yr asesiad fod yn eithaf syml, ond ar gyfer elusennau mwy a mwy cymhleth gall fod angen mabwysiadu dull gweithio mwy ffurfiol a strwythuredig.

Gall yr asesiad hwn, yn ogystal ag adnabod unrhyw fwlch sgiliau yn y bwrdd ymddiriedolwyr, helpu ffurfio'r sail ar gyfer 'disgrifiad swydd' i ymddiriedolwyr newydd. Gall fod yn ffordd ddefnyddiol o ddisgrifio'r rôl i ymddiriedolwyr newydd neu ddarpar ymddiriedolwyr, gan gynnwys faint o amser y bydd angen iddynt ei ymrwymo er mwyn cyflawni eu dyletswyddau newydd. Argymhellwn fod disgrifiadau swyddi yn cael eu paratoi ar gyfer pob ymddiriedolwr. Yn aml bydd elusen yn cael budd o ymddiriedolwyr sy'n adlewyrchu'r cymunedau a'r ardaloedd y mae'r elusen yn bodoli i'w gwasanaethu, ac sy'n adnabod y cymunedau a'r ardaloedd hynny.

Mae sicrhau nad oes unrhyw rwystrau cyfreithiol i benodi ymddiriedolwr yn hanfodol hefyd.

Gwybodaeth bellach:

Mae Sefydliad Ysgrifenyddion a Gweinyddwyr Siartredig (ICSA), Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA) a Chŷngor Cenedlaethol Cyrff Gwirfoddol (NCVO) i gyd yn cynhyrchu disgrifiadau swyddi enghreifftiol i ymddiriedolwyr elusennau. Mae ICSA hefyd yn cynhyrchu disgrifiadau swyddi penodol i gadeiryddion, ysgrifenyddion a thrysoryddion elusennau. Gall aelodau Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol i Ymddiriedolwyr ac Aelodau Pwyllgorau Rheoli hefyd fod yn arf defnyddiol wrth lunio disgrifiad swydd, ac mae modd llwytho'r rhain i lawr o wefan UK Workforce Hub http://www.ukworkforcehub.org.uk/. Cewch fwy o wybodaeth ynghylch pwy all a phwy na all fod yn ymddiriedolwr yn adran D.

C3. Ddylai elusen geisio gael bwrdd ymddiriedolwyr amrywiol?
Yr ateb byr:

Dylai. Mae bwrdd amrywiol yn fwy tebygol o gynnwys ystod ehangach o sgiliau, gwybodaeth a phrofiad nag un culach ei sail. Pan fydd yn paratoi i recriwtio ymddiriedolwyr newydd, dylai elusen, yn gyffredinol, geisio cynyddu neu o leiaf cynnal amrywiaeth ei bwrdd ymddiriedolwyr.

Yn fwy manwl:

Gall bwrdd ymddiriedolwyr amrywiol hefyd helpu sicrhau bod yr elusen yn deg ac yn agored ym mhob agwedd ar ei busnes, er enghraifft, rhoi grantiau neu gyflwyno gwasanaethau.

Credwn y bydd rheolaeth elusennau yn gwella os yw ymddiriedolwyr yn cael eu recriwtio o ystod ehangach o gefndiroedd. Mae hŷn yn cynnwys ymddiriedolwyr o rannau o'r gymuned sydd heb chwarae rhan fawr mewn elusennau yn draddodiadol, megis pobl ifanc, pobl o gymunedau lleiafrifoedd ethnig a phobl ag anableddau. Gall creu bwrdd amrywiol hefyd helpu cynyddu atebolrwydd a ffydd y cyhoedd.

Hefyd, mae rhai gofynion deddfwriaethol y mae'n rhaid i elusennau gydymffurfio â nhw; er enghraifft, mae Deddf Cysylltiadau Hiliol (Diwygiad) 2000 yn rhoi dyletswydd gyffredinol ar 'gyrff cyhoeddus' i hybu cydraddoldeb hiliol. Mae'r gwasanaethau a ddarperir gan rai elusennau wedi'u cynnwys o fewn y diffiniad hwn, ac mae'r ddeddfwriaeth yn rhywbeth y dylai elusen sy'n cael ei gweinyddu'n effeithiol geisio gweithio tuag ato. Mae'r un peth yn wir am Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995 a Rheoliadau Cydraddoldeb Cyflogaeth (Cyfeiriadedd Rhywiol) 2003.

Gwybodaeth bellach:

Cewch fwy o fanylion ynghylch sut i wneud bwrdd ymddiriedolwyr yn fwy amrywiol yn adran Ch6. Mae canllaw NCVO, 'Rheoli amrywiaeth yn y gweithle' yn rhoi mwy o wybodaeth am ofynion deddfwriaethol ynghylch amrywiaeth, ac mae WCVA yn ymdrin â nifer o'r rhain a gofynion cyfreithiol eraill yn y cyhoeddiad 'Canllaw cyflogaeth i adeiladau cymunedol (a grŵpiau gwirfoddol eraill)'.

C4. Pwy sy'n gyfrifol am recriwtio ymddiriedolwyr newydd?
Symbol yn dangos gfofyniad cyfreithiolYr ateb byr:

Yr ymddiriedolwyr cyfredol sy'n gyfrifol am recriwtio ymddiriedolwyr newydd. Mae'n rhaid iddynt arolygu rheoli proses agored ac effeithlon a gweithredu er lles gorau'r elusen bob amser.

Yn fwy manwl:

Mae ymddiriedolwyr cyfredol yn gyfrifol yn gyfreithiol am recriwtio ymddiriedolwyr newydd. Gall ymddiriedolwyr elusennau sy'n cyflogi staff ddirprwyo rhai agweddau ar recriwtio staff, ond mae'n rhaid iddynt sicrhau eu bod yn cadw cyfrifoldeb cyffredinol a rheolaeth dros y prosesau recriwtio, dewis a sefydlu.

Wrth recriwtio ymddiriedolwyr newydd, rhaid i'r ymddiriedolwyr cyfredol weithredu er lles gorau'r elusen. Er mwyn sicrhau mai dyma yw'r achos, a'u bod mewn sefyllfa i esbonio i'r ymddiriedolwyr newydd yr hŷn a ddisgwylir ganddynt, mae'n rhaid i'r ymddiriedolwyr cyfredol fod yn glir yn eu meddyliau eu hunain am ddibenion ac amcanion yr elusen, yn ogystal â'u dyletswyddau a'u cyfrifoldebau mwy cyffredinol fel ymddiriedolwyr.

Ch. Cael hyd i ymddiriedolwyr posib

Mae amrywiaeth o ddulliau y gall byrddau ymddiriedolwyr eu defnyddio i recriwtio ymddiriedolwyr newydd. Mae ein profiad a'n gwaith ymchwil yn dangos mai'r dulliau traddodiadol o recriwtio ymddiriedolwyr newydd - sef argymhelliad personol a chlywed ar lafar - yw'r rhai mwyaf poblogaidd o hyd. Fodd bynnag, mae ein gwaith ymchwil wedi dangos er bod y dulliau hŷn yn cael eu defnyddio'n gyffredinol o hyd, nid dyma'r ffyrdd mwyaf effeithiol o reidrwydd o gael hyd i'r bobl sy'n meddu ar y sgiliau y mae'r ymddiriedolwyr wedi'u hadnabod, oherwydd eu bod yn cyfyngu ar y maes y gellir tynnu ymddiriedolwyr ohono. Gall defnyddio dulliau ehangach a mwy cynhwysol o chwilio am ymddiriedolwyr newydd, megis hysbysebu a defnyddio gwasanaethau broceriaeth ymddiriedolwyr, agor y drws i ddewis ehangach o ymgeiswyr ac argymhellwn fod ymddiriedolwyr yn ystyried y dulliau hŷn.

Ch1. Ydy hysbysebu yn ffordd dda o ddenu ymddiriedolwyr?
Yr ateb byr:

Ydy. Trwy hysbysebu mae modd cyrraedd mwy o bobl nag y gellir trwy glywed ar lafar, a gall hŷn helpu elusen i ddenu ystod ehangach o ymgeiswyr gyda dewis ehangach o sgiliau a phrofiad.

Yn fwy manwl:

Gall hysbysebu fod yn ffordd effeithiol o gyrraedd grŵp ehangach o bobl, ac mae'n rhoi cyfle i'r elusen bennu'r sgiliau y mae'r bwrdd ymddiriedolwyr yn chwilio amdanynt. Gall hysbysebu yn y wasg fod yn ddrud, ac ni fydd yn briodol i bob elusen. Fodd bynnag, mae rhai atebion cost isel ar gael, megis hysbysiadau am ddim ar wefannau lleol, hysbysfyrddau lleol neu daflenni newyddion. Er mwyn gwneud y mwyaf o hysbysebu, dylai ymddiriedolwyr ystyried yn ofalus ble i hysbysebu, a gwneud yn siŵr bod yr hysbyseb yn adlewyrchu'r elusen yn fanwl gywir a'r sgiliau a'r profiad y mae'r ymddiriedolwyr yn chwilio amdanynt.

Ch2. All elusen recriwtio'n fewnol ar gyfer ymddiriedolwyr?
Symbol yn dangos gfofyniad cyfreithiolYr ateb byr:

Gall. Gall hŷn fod yn ffordd dda o gael hyd i ymddiriedolwyr sy'n meddu ar y rhinweddau a'r sgiliau y mae eu hangen ar yr elusen. Ond cofiwch fod gofynion cyfreithiol penodol os yw'r ymddiriedolwr hefyd yn weithiwr cyflogedig yr elusen.

Yn fwy manwl:

Efallai y bydd ymddiriedolwyr eisiau ystyried recriwtio ymddiriedolwyr newydd o'r tu mewn i'w helusen eu hunain. Gall fod gwirfoddolwyr o fewn yr elusen sy'n meddu ar y sgiliau y mae'r ymddiriedolwyr wedi'u hadnabod, neu a allai ddatblygu'r sgiliau hŷn gyda hyfforddiant a chymorth pellach. Os yw gweithiwr yr elusen, yn hytrach na gwirfoddolwr, yn dymuno bod yn ymddiriedolwr, mae gofynion arbennig y bydd angen i'r elusen gydymffurfio â nhw, gan fod y gyfraith yn atal rhoi taliadau diawdurdod i ymddiriedolwyr.

Gwybodaeth bellach:

Cewch fwy o wybodaeth yn Talu Ymddiriedolwyr Elusennau (CC11).

Ch3. All elusen recriwtio ymddiriedolwyr o'i defnyddwyr neu ei buddiolwyr?
Symbol yn dangos gfofyniad cyfreithiolYr ateb byr:

Gall. Mae ymddiriedolwyr sy'n defnyddio neu'n cael budd o wasanaethau'r elusen yn cael eu hadnabod fel ymddiriedolwyr sy'n ddefnyddwyr, a gallant wella rheolaeth effeithiol elusen, a gallant helpu sicrhau bwrdd ymddiriedolwyr mwy amrywiol a chŷnrychioliadol.

Yn fwy manwl:

Mae'r penderfyniad i gynnwys defnyddwyr fel ymddiriedolwyr neu beidio yn un y mae angen i'r bwrdd ymddiriedolwyr ei ystyried ar sail amgylchiadau ac anghenion yr elusen. Gall ymddiriedolwyr sy'n ddefnyddwyr gyfrannu profiad uniongyrchol at ddatblygu gwasanaethau'r elusen a helpu ymddiriedolwyr eraill i ddatblygu mwy o ddealltwriaeth o bersbectif y defnyddwyr.

Yn achos ymddiriedolwyr sy'n ddefnyddwyr ac ymddiriedolwyr yn gyffredinol, mae angen i fyrddau ymddiriedolwyr sicrhau bod gweithdrefnau ar gyfer rheoli unrhyw wrthdaro buddiannau rhwng buddiannau personol ymddiriedolwr a buddiannau'r elusen. Mae'n bwysig cofio bod gan ymddiriedolwyr sy'n ddefnyddwyr yr un dyletswyddau a chyfrifoldebau ag unrhyw ymddiriedolwr arall. Eu rôl yw gweithredu er lles gorau'r elusen, ac nid cynrychioli buddiannau defnyddwyr.

Gwybodaeth bellach:

Cewch fwy o wybodaeth am ymddiriedolwyr sy'n ddefnyddwyr yn Cynnwys Defnyddwyr: Buddiolwyr sy'n dod yn ymddiriedolwyr (CC24). Cewch fwy o wybodaeth am wrthdaro buddiannau yn adran D5.

Ch4. All pobl ag anawsterau dysgu fod yn ymddiriedolwyr?
Yr ateb byr:

Gallant, mewn sawl achos gall pobl ag anawsterau dysgu neu faterion iechyd meddwl eraill (trwy anabledd neu salwch) weithredu'n llawn fel ymddiriedolwyr elusen.

Yn fwy manwl:

Un o'r gofynion cymhwyster i ymddiriedolwyr (gweler hefyd D1) yw bod rhaid i ymddiriedolwyr allu rheoli eu materion eu hunain er mwyn bod yn gymwys i reoli elusen. Er y gall hŷn wahardd rhai pobl sydd ag anawsterau dysgu mwy difrifol, bydd nifer o bobl ag anawsterau dysgu yn gallu ateb y maen prawf hwn a chwarae rôl weithgar a chyfrifol yn y gwaith o reoli eu helusen, gan ddod â phrofiad a phersbectif defnyddiol i'r bwrdd ymddiriedolwyr. Mae hŷn yr un mor berthnasol i'r bobl niferus hynny sydd â materion iechyd meddwl eraill, boed yn barhaol neu dros dro ac a achoswyd gan naill ai anaf neu afiechyd.

Ch5. All elusennau gael cymorth i gael hyd i ymddiriedolwyr?
Yr ateb byr:

Gallant, mae nifer o sefydliadau yn cadw cofrestri o ymddiriedolwyr posib, neu'n cynnig gwasanaeth broceriaeth ymddiriedolwyr, gan gyfateb ymddiriedolwyr posib â swyddi gwag ar fyrddau elusennau.

Yn fwy manwl:

Mae Cyngor Cenedlaethol Cyrff Gwirfoddol (NCVO) yn gweithredu grŵp Rhwydwaith Broceriaeth Ymddiriedolwyr ac yn cynhyrchu llyfryn am ddim, 'Banc Ymddiriedolwyr: Cyfeirlyfr o wasanaethau broceriaeth ymddiriedolwyr'. Mae sawl sefydliad, ee Sefydliad Ysgrifenyddion a Gweinyddwyr Siartredig (ICSA), a Sefydliad Lleiafrifoedd Ethnig hefyd yn darparu cofrestri ymddiriedolwyr.

Mae nifer o ffynonellau eraill y gallwch eu defnyddio i gael hyd i gyfleoedd gwirfoddoli, gan gynnwys Do-it, sy'n gronfa ddata genedlaethol o gyfleoedd gwirfoddoli yn y Deyrnas Unedig: http://www.do-it.org.uk/.

Mae cylchgronau, cyfnodolion a phapurau newydd arbenigol hefyd yn rhestru gwasanaethau broceriaeth ymddiriedolwyr a gall Cynghorau Gwasanaeth Gwirfoddol (CVS) lleol yn Lloegr, a Chŷnghorau Gwirfoddol Sirol (CVC) yng Nghymru, fod yn ffynhonnell gwybodaeth bellach. Cewch fanylion am rai o'r cyfnodolion a'r cylchgronau a all fod o gymorth yn adran F.

Gall rhwydweithio ag elusennau eraill, naill ai o'r un ardal leol neu sy'n cynnig gwasanaethau tebyg, fod yn ffordd arall o gael hyd i ymddiriedolwyr newydd. Gall hŷn fod yn ffordd ddefnyddiol o rannu gwybodaeth ac arfer gorau. Mae Charity Trustee Networks (CTN) yn elusen sy'n helpu sefydlu a chefnogi rhwydweithiau o ymddiriedolwyr elusen ac mae hefyd yn rhedeg trusteenet, rhwydwaith cenedlaethol am ddim o ymddiriedolwyr ac aelodau pwyllgor rheoli.

Ch6. Sut gall elusen wneud ei bwrdd ymddiriedolwyr yn fwy amrywiol?
Yr ateb byr:

Gallwch gael mwy o amrywiaeth trwy estyn allan i gymunedau sydd heb eu cynrychioli ar hŷn o bryd, er enghraifft trwy hysbysebu a gwneud ymdrechion penodol i gynorthwyo pobl a allai gael anhawster fel arall i fynychu cyfarfodydd bwrdd.

Yn fwy manwl:

Mae ffyrdd ymarferol o gynyddu amrywiaeth ar y bwrdd ymddiriedolwyr yn cynnwys:

  • defnyddio dulliau recriwtio mwy gweithgar, agored a chŷnhwysol, megis hysbysebu neu ddefnyddio gwasanaethau broceriaeth ymddiriedolwyr;
  • trefnu cyfarfodydd bwrdd ymddiriedolwyr ar yr amserau mwyaf cyfleus, neu ar amserau gwahanol er mwyn peidio â gwahardd pobl na all fod yn bresennol ar amser arbennig;
  • cynnal cyfarfodydd bwrdd ymddiriedolwyr mewn lleoliad sy'n darparu ar gyfer pobl ag anableddau;
  • mabwysiadu polisi ar gyfer talu costau gofal plant neu ddarparu trefniadau gofal plant;
  • ystyried anghenion pobl ar gyfer cyfieithwyr neu gyfieithwyr iaith arwyddion neu ddogfennau sydd ar gael mewn print mawr, ar dâp, CD neu Braille;
  • yng Nghymru, rhoi ystyriaeth lawn i'r gymdeithas ddwyieithog, a sicrhau bod pawb yn gallu defnyddio naill ai Cymraeg neu Saesneg fel eu dewis iaith, gan gynnwys derbyn gohebiaeth ysgrifenedig yn yr iaith honno.

D. Archwilio cefndir ymddiriedolwyr cyn eu penodi

Mae penodi ymddiriedolwr newydd i elusen yn fater pwysig. Cyn penodi ymddiriedolwr newydd mae'n rhaid i'r bwrdd ymddiriedolwyr sicrhau ei fod yn gweithredu o fewn y gyfraith, yn unol â dogfen lywodraethol yr elusen, a bod y darpar ymddiriedolwr heb ei anghymhwyso rhag bod yn ymddiriedolwr. Dylid ceisio datgeliadau ar gyfer ymddiriedolwyr elusennau sy'n gweithio gyda phlant neu oedolion sy'n agored i niwed. Dylai elusennau hefyd sicrhau bod darpar ymddiriedolwr yn deall y cyfrifoldebau y maent yn eu hysgwyddo ac y gellir dibynnu arnynt i'w cyflawni mewn modd cyfrifol.

D1. All unrhyw un gael ei benodi fel ymddiriedolwr?
Symbol yn dangos gfofyniad cyfreithiolYr ateb byr:

Na all. Mae cyfyngiadau cyfreithiol ar bwy all fod yn ymddiriedolwr elusen. Gall fod cyfyngiadau ychwanegol yn nogfen lywodraethol yr elusen. Cyn penodi ymddiriedolwr newydd, rhaid i'r bwrdd ymddiriedolwyr sicrhau bod y penodiad yn ateb gofynion dogfen lywodraethol yr elusen a'r gyfraith.

Yn fwy manwl:

Wrth baratoi i benodi ymddiriedolwr newydd, mae'n rhaid i'r bwrdd ymddiriedolwyr sicrhau bod y person yn gymwys i weithredu fel ymddiriedolwr. Ni all unrhyw un sy'n iau nag 18 oed fod yn ymddiriedolwr ymddiriedolaeth elusennol neu gymdeithas anghorfforedig. Fodd bynnag, gall person dan 18 oed fod yn gyfarwyddwr, ac felly'n ymddiriedolwr, cwmni elusennol. Fe welwch wybodaeth bellach ar bobl ifanc fel ymddiriedolwyr ar dudalen Cyhoeddiadau a Chanllawiau ar ein gwefan www.charitycommission.gov.uk

Mae rhai pobl wedi'u hanghymwyso rhag gweithredu fel ymddiriedolwyr dan y gyfraith, gan gynnwys unrhyw un a ddisgrifir yn adran 72(1) Deddf Elusennau 1993. Mae hŷn yn cynnwys:

  • unrhyw un sydd â chollfarn heb ei ddarfod am drosedd sy'n cynnwys twyll neu anonestrwydd;
  • unrhyw un sy'n fethdalwr heb ei ryddhau;
  • unrhyw un sydd wedi cael ei ddiswyddo o swydd ymddiriedolwr elusen gan y Llys neu'r Comisiynwyr am gamymddwyn neu gamreoli; ac
  • unrhyw un sydd dan orchymyn anghymhwyso dan Ddeddf Anghymwyso Cyfarwyddwyr Cwmnïau 1986.

Fel rheol mae'n drosedd i weithredu fel ymddiriedolwr tra rydych wedi'ch anghymhwyso oni bai ein bod ni wedi rhoi hepgoriad dan adran 72(4) Deddf Elusennau 1993 (fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Elusennau 2006) (mae rhai darpariaethau arbennig sy'n gymwys i weinyddu cwmnïau elusennol). Cewch fwy o wybodaeth am waharddiadau a hepgoriadau anghymwyso yn ein canllawiau staff OG41 ac OG42 sydd ar gael trwy'r dudalen Cyhoeddiadau a Chanllawiau ar ein gwefan.

Yn ogystal â'r gwaharddiadau a fanylir yn adran 72(1) Deddf 1993, sy'n gymwys i bob math o elusennau, mae Deddf Cyfiawnder Troseddol a Gwasanaethau'r Llysoedd 2000 yn anghymhwyso rhai unigolion rhag dal amrywiaeth o swyddi gydag elusennau plant, sy'n cynnwys ymddiriedolaeth elusen. Nid oes gennym yr awdurdod i roi hepgoriad ar gyfer y math hwn o waharddiad.

Rhaid i benodi ymddiriedolwr fod yn unol â dogfen lywodraethol yr elusen, a fydd yn amlinellu'r gweithdrefnau ar gyfer penodi ymddiriedolwyr newydd, gan gynnwys unrhyw gyfyngiadau, megis y nifer mwyaf o ymddiriedolwyr neu derfyn oedran. Mae'n bwysig bod ymddiriedolwyr yn dilyn y gweithdrefnau hŷn. Os nad ydynt, gallai olygu bod y penodiad yn annilys. Os yw'r ddogfen lywodraethol yn cynnwys darpariaethau sy'n atal rhai pobl rhag gweithredu fel ymddiriedolwyr elusen, ni allwn roi hepgoriad dan adran 72(4) y Ddeddf 1993, (fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Elusennau 2006), oherwydd ni allwn wrth-wneud y darpariaethau o fewn dogfen lywodraethol.

D2. Sut dylai elusennau archwilio darpar ymddiriedolwyr?
Yr ateb byr:

Cyn penodi ymddiriedolwr, dylai'r bwrdd ymddiriedolwyr geisio datganiad gan y darpar ymddiriedolwr sy'n cadarnhau nad ydynt yn anghymwys. Dylai hefyd edrych ar gofrestri swyddogol unigolion anghymwys. Argymhellwn yn gryf y dylai elusennau sy'n gweithio gyda phobl sy'n agored i niwed, mewn swyddi sy'n gymwys i gael Datgeliadau gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol (CRB), wneud hynny.

Yn fwy manwl:

Fan lleiaf, dylai'r bwrdd ymddiriedolwyr ofyn i ymddiriedolwyr newydd lofnodi datganiad i gadarnhau nad ydynt wedi'u hanghymhwyso rhag gweithredu fel ymddiriedolwr elusen.

Gall ymddiriedolwyr hefyd ddefnyddio cofrestri swyddogol sy'n cofnodi enwau pobl sydd wedi'u hanghymhwyso rhag gweithredu fel ymddiriedolwyr elusen. Mae'r rhain yn cynnwys:

(1) Y Gofrestr Ansolfedd Unigolion a gedwir gan y Gwasanaeth Ansolfedd, sy'n cynnwys manylion ynghylch:

  • methdaliadau sydd naill ai'n gyfredol neu sydd wedi dod i ben yn y tri mis diwethaf;
  • trefniadau gwirfoddol unigol cyfredol a threfniadau gwirfoddol llwybr cyflym; a
  • gorchmynion ac ymrwymiadau cyfyngu methdaliad cyfredol.

Gallwch chwilio'r Gofrestr ar wefan y Gwasanaeth Ansolfedd http://www.insolvency.gov.uk/, trwy ymweld â swyddfa leol eich Derbynnydd Swyddogol, neu drwy'r post neu'r ffacs. Fe welwch fanylion cyswllt ar gyfer y Gwasanaeth Ansolfedd yn adran F.

(2) Cofrestr cyfarwyddwyr anghymwys a gedwir gan Dŷ'r Cwmnïau. Gallwch chwilio'r gofrestr ar wefan Tŷ'r Cwmnïau, http://www.companieshouse.gov.uk/.

(3) Y gofrestr a gedwir gennym o'r holl bobl sydd wedi cael eu diswyddo fel ymddiriedolwr elusen naill ai gennym ni, trwy Orchmynion a wnaed o dan naill ai Ddeddf Elusennau 1960 neu Ddeddf Elusennau 1993 neu gan Orchymyn yr Uchel Lys ers 1 Ionawr 1993. Cedwir copi o'r gofrestr ym mhob swyddfa'r Comisiwn.

Dylai ymddiriedolwyr elusennau sy'n gweithio gyda phlant neu oedolion sy'n agored i niwed gynnal gwiriadau ychwanegol, manylach, drwy gael Datgeliad gan y CRB. Argymhellwn yn gryf fod ymddiriedolwyr elusen sy'n gallu cael gwiriadau CRB yn manteisio ar y dewis hwn, er mwyn sicrhau bod yr unigolyn y dymunant ei benodi fel ymddiriedolwr yn gymwys a hefyd er mwyn sicrhau diogelwch buddiolwyr yr elusen. Mae'n rhaid i rai elusennau gael y gwiriadau hŷn. Cewch fwy o wybodaeth yn adran Dd6.

Gwybodaeth bellach:

Mae ffurflen datganiad enghreifftiol i ddarpar ymddiriedolwyr ar gael ar ein gwefan ar y dudalen Am Elusennau. Mae ffurflenni datganiad cymhwyster enghreifftiol i ymddiriedolwyr hefyd yn cael eu cynhyrchu gan nifer o sefydliadau eraill, gan gynnwys Cyngor Cenedlaethol Cyrff Gwirfoddol (NCVO) http://www.askncvo.org.uk/. Cewch fwy o wybodaeth am y CRB a Datgeliadau'r CRB yn adran Dd.

D3. Beth os nad yw darpar ymddiriedolwyr wedi cael eu harchwilio?
Yr ateb byr:

Rydym yn debygol o gael gwybod oherwydd defnyddiwn sawl ffordd o fonitro a yw elusennau yn gwirio cymhwyster eu hymddiriedolwyr neu beidio.

Yn fwy manwl:

Byddwn yn monitro a yw elusennau yn archwilio cymhwyster eu hymddiriedolwyr neu beidio mewn sawl ffordd:

  • Pan fydd sefydliad yn gwneud cais i gofrestru fel elusen, gofynnwn i bob un o'r ymddiriedolwyr gwblhau datganiad sy'n cadarnhau nad ydynt wedi'u hanghymwyso rhag gweithredu fel ymddiriedolwr elusen.
  • O 1 Mehefin 2007 pan fydd sefydliad yn gwneud cais i gofrestru fel elusen sy'n gweithio gyda phlant neu oedolion sy'n agored i niwed, byddwn yn gofyn i weld y Datgeliadau a geisiwyd ar gyfer unrhyw ymddiriedolwr y mae'n ofynnol iddynt yn ôl y gyfraith neu y caniateir iddynt gael Datgeliad cyn ein bod yn cofrestru'r sefydliad. Cewch fwy o wybodaeth am gofrestru elusennau ar ein gwefan.
  • Cynhaliwn wiriadau blynyddol ar hapsampl o ymddiriedolwyr i sefydlu bod gwiriadau cymhwyster ymddiriedolwyr wedi cael eu cynnal.
  • Rydym yn monitro elusennau cofrestredig trwy adrodd am ddigwyddiadau difrifol ar y Ffurflen Flynyddol.
D4. Beth sy'n digwydd os yw unigolyn anghymwys yn ymddiriedolwr?
Symbol yn dangos gfofyniad cyfreithiolYr ateb byr:

Os yw unigolyn anghymwys yn cael ei benodi fel ymddiriedolwr elusen, bydd y penodiad yn annilys. Ni fydd yr unigolyn yn ymddiriedolwr, ac mae'n bosibl ei fod wedi cyflawni tramgwydd troseddol. Os nad oedd yr ymddiriedolwyr cyfredol wedi cynnal gwiriadau priodol cyn y penodiad, mae'n bosib eu bod nhw wedi gweithredu'n amhriodol.

Yn fwy manwl:

Os yw unigolyn sydd wedi'i anghymhwyso rhag bod yn ymddiriedolwr, naill ai yn ôl y gyfraith gyffredinol fel y bo'n gymwys i ymddiriedolwyr elusen, neu yn ôl dogfen lywodraethol yr elusen, yn cael ei benodi fel ymddiriedolwr, mae'r penodiad yn annilys. Hefyd, os yw problemau'n codi gydag ymddiriedolwr, ac mae'n ymddangos bod yr ymddiriedolwyr cyfredol heb ddilyn yr arweiniad hwn, byddai hwn yn ffactor pwysig wrth ystyried a yw'r ymddiriedolwyr wedi gweithredu'n amhriodol.

Dan ddarpariaethau'r Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Gwasanaethau'r Llysoedd 2000, bydd unrhyw unigolyn sydd wedi'i anghymhwyso rhag gweithio gyda phlant yn cyflawni trosedd os yw, o fwriad, yn gwneud cais, yn cynnig gwneud, neu'n derbyn gwaith gyda phlant, boed yn gyflogedig neu'n ddigyflog. Mae hefyd yn drosedd i gael gwaith ar gyfer rhywun, neu gynnig naill ai waith cyflogedig neu ddigyflog gyda phlant i rywun sydd wedi'i anghymhwyso rhag gweithio gyda phlant neu ganiatáu iddynt barhau i wneud gwaith o'r fath.

Dan ddarpariaethau Deddf Safonau Gofal 2000, mae'n dramgwydd troseddol i unigolyn sydd wedi'i gadarnhau ar restr POVA (Amddiffyn Oedolion sy'n Agored i Niwed) wneud cais bwriadol i dderbyn, neu gynnig gwneud unrhywwaith mewn swydd gofal, fel y diffinnir yn Neddf Safonau Gofal 2000. Ni all darparwr gofal, fel y diffinnir yn Neddf Safonau Gofal 2000, gyflogi unrhyw un mewn swydd gofal sydd wedi'i restru dros dro neu wedi'i gadarnhau ar restr POVA.

Gwybodaeth bellach:

Fe gewch fwy o wybodaeth am POVA ar wefan yr Adran Iechyd yn www.dh.gov.uk.

D5. Beth am wrthdaro buddiannau posib i ddarpar ymddiriedolwyr?
Yr ateb byr:

Mae'n syniad da ystyried gwrthdaro buddiannau posib cyn penodi. Os oes posibilrwydd cryf y gallai gwrthdaro buddiannau godi yn dilyn penodi darpar ymddiriedolwr, gallai hŷn awgrymu y dylai'r ymddiriedolwyr ailystyried y penodiad.

Yn fwy manwl:

Mae gwrthdaro buddiannau yn unrhyw sefyllfa lle mae buddiannau neu deyrngarwch personol ymddiriedolwr, a rheiny'r elusen yn codi yr un pryd neu'n ymddangos petaent yn gwrthdaro. Er enghraifft, os oedd elusen wedi dyfarnu contract i sefydliad arall yr oedd ymddiriedolwr yn berchen arno, gallai'r person dan sylw wynebu pwysau sy'n gwrthdaro rhwng sicrhau'r elw mwyaf i'w gwmni a chadw costau'n isel i'r elusen.

Mae bob amser yn well rhagweld unrhyw wrthdaro buddiannau cyn penodi ymddiriedolwr, na delio â gwrthdaro o'r fath os a phryd y bydd yn codi. Mae'n anochel y bydd gwrthdaro buddiannau'n codi o bryd i'w gilydd, yn enwedig mewn cymunedau lleol lle y gall buddiannau orgyffwrdd, felly mae'n bosib na fydd y potensial ar gyfer gwrthdaro buddiannau fod yn ddigonol i atal penodi ymddiriedolwr sydd fel arall yn gymwys iawn. Mae'n bwysig adnabod gwrthdaro buddiannau a gwneud yn siŵr ei fod yn cael ei reoli'n briodol.

Fodd bynnag, os yw gwrthdaro o'r fath yn debygol o godi'n aml, gall hŷn effeithio ar allu'r ymddiriedolwr i gyflawni eu dyletswyddau. Mae hŷn yn arbennig o bwysig pan fydd buddiannau personol yn ddigon arwyddocaol i'w gwneud hi'n ofynnol i'r ymddiriedolwr adael cyfarfodydd mor aml fel na all wneud cyfraniad defnyddiol. Os mai dyma yw'r achos dylent ystyried sefyll lawr neu beidio â sefyll yn y lle cyntaf.

Felly dylid gofyn i ddarpar ymddiriedolwyr ynghylch gwrthdaro buddiannau posib, a dylid datgan y rhain i'r rheiny a fydd yn penderfynu ar y penodiad. Er enghraifft, os yw ymddiriedolwyr newydd yn cael eu hethol gan aelodaeth yr elusen, dylai'r aelodaeth fod yn ymwybodol o unrhyw wrthdaro buddiannau posib, er mwyn iddynt allu ystyried hŷn pan fyddant yn pleidleisio.

Dylai elusen, fel mater o arfer gorau, gael trefniadau ar gyfer sylwi ar wrthdaro buddiannau posib sy'n cynnwys ymddiriedolwyr a delio â hŷn. Mae agwedd agored yn arfer da. Un ymarfer defnyddiol y dylai elusennau ei ystyried yw gofyn i ymddiriedolwyr gyflwyno datganiad blynyddol o wrthdaro buddiannau gwirioneddol neu bosib.

Gwybodaeth bellach:

Mae nifer o sefydliadau yn darparu polisïau gwrthdaro buddiannau a chofrestr buddiannau enghreifftiol, megis Sefydliad Ysgrifenyddion a Gweinyddwyr Siartredig (ICSA). Fe gewch fwy o fanylion am ddelio â gwrthdaro buddiannau trwy'r dudalen Cyhoeddiadau a Chanllawiau ar ein gwefan www.charitycommission.gov.uk.

Dd. Swyddfa Cofnodion Troseddol

Mae'r Swyddfa Cofnodion Troseddol (CRB) yn bodoli i helpu sefydliadau adnabod pobl sy'n anaddas ar gyfer rhai mathau o waith, yn enwedig gwaith sy'n cynnwys cael mynediad neu ddod i gysylltiad â phlant ac aelodau eraill o'r gymuned sy'n agored i niwed, trwy wneud 'Datgeliadau' o unrhyw gofnodion troseddol, cofnodion yr heddlu neu gofnodion tebyg. Mae hŷn yn cynnwys ymddiriedolwyr elusen sy'n cael mynediad neu gyswllt o'r fath. Mae'r adran hon yn berthnasol i elusennau o'r fath yn unig, sydd â dyletswydd i sicrhau nad ydynt yn recriwtio ymddiriedolwyr a allai fod yn berygl i unrhyw blant neu oedolion sy'n agored i niwed.

Dd1. Beth mae'r Swyddfa Cofnodion Troseddol yn ei wneud?
Yr ateb byr:

Mae'r CRB yn darparu gwasanaeth Datgeliad sy'n cynnig mynediad at gofnodion troseddol, cofnodion yr heddlu a chofnodion eraill. Y nod yw atal pobl anaddas neu beryglus rhag dod i gysylltiad â phlant neu oedolion sy'n agored i niwed.

Yn fwy manwl:

Mae'r CRB yn darparu gwasanaeth Datgeliad, sy'n cynnig mynediad at gofnodion a gedwir gan yr heddlu, ynghyd â gwybodaeth o'r rhestrau canlynol: Deddf Amddiffyn Plant (POCA), Amddiffyn Oedolion sy'n Agored i Niwed (POVA), os yw'n gymwys, a Rhestr 99. Codir tâl am gael Datgeliad ar gyfer swyddi cyflogedig, er bod Datgeliadau i wirfoddolwyr, a fydd yn cynnwys y rhan fwyaf o ymddiriedolwyr, am ddim.

Gwybodaeth bellach:

Mae gwefan CRB http://www.crb.gov.uk/ a llinell gais Datgeliadau ar 0870 90 90 844 yn darparu:

  • cyngor ar y drefn ar gyfer gwneud cais am Ddatgeliad;
  • ffurflenni cais a chanllawiau ar sut i'w cwblhau; a'r
  • costau cyfredol am Ddatgeliadau Safonol a Manylach, sy'n gymwys i swyddi cyflogedig.

Mae Rhestr 99 yn cynnwys enwau, dyddiadau geni a chyfeirnodau athro pobl y mae eu cyflogaeth wedi cael eu gwahardd neu eu cyfyngu, naill ai ar sail camymddwyn neu ar sail feddygol. Fe'i cedwir gan yr Adran Plant, Ysgolion a Theuluoedd (DCSF). Fe gewch fwy o wybodaeth am Restr 99 ar wefan DCSF www.dcsf.gov.uk.

Dd2. Pa lefelau o Ddatgeliad sydd, a phryd maen nhw'n gymwys?
Yr ateb byr:

Mae dwy lefel o Ddatgeliad: y Datgeliad Safonol, sy'n cynnwys pob collfarn, rhybuddiad, rhybudd a cherydd a gedwir ar Gyfrifiadur Cenedlaethol yr Heddlu, a'r Datgeliad Manylach, sy'n cynnwys lefel ychwanegol o wirio gyda chofnodion heddlu lleol. Hefyd, gyda'r naill ddatgeliad neu'r llall mae modd cael mynediad at yr wybodaeth a gedwir gan yr Adran Iechyd a'r Adran Plant, Ysgolion a Theuluoedd mewn rhai achosion ar bobl yr ystyrir eu bod yn anaddas i weithio gyda phlant neu oedolion sy'n agored i niwed, gan gynnwys:

  • Rhestr Deddf Amddiffyn Plant;
  • Rhestr 99;
  • Rhestr Amddiffyn Oedolion sy'n Agored i Niwed.
Yn fwy manwl:

Mae dwy lefel o Ddatgeliad, sef Safonol a Manylach.
Mae'r ddwy lefel o Ddatgeliad yn cynnwys:

  • pob collfarn, sydd wedi darfod a heb ddarfod;
  • manylion rhybuddiadau, ceryddau a rhybuddion a gedwir ar Gyfrifiadur Cenedlaethol yr Heddlu.

Maen nhw ar gael ar gyfer:

  • rhai swyddi lle mae cysylltiad rheolaidd â'r rheiny dan 18 oed;
  • ymddiriedolwyr elusennau plant (gweler adran Dd4);
  • rhai swyddi sy'n rhoi mynediad at oedolion sy'n agored i niwed, neu sy'n cynnwys cysylltiad rheolaidd â nhw.

Hefyd os yw meini prawf arbennig ynghylch cysylltiad rheolaidd wedi'u bodloni gellir gwirio yn y rhestrau amrywiol a gedwir gan yr Adran Iechyd a'r Adran Plant, Ysgolion a Theuluoedd ar gyfer pobl yr ystyrir eu bod yn anaddas i weithio gyda phlant neu oedolion sy'n agored i niwed.

Mae Datgeliadau Manylach hefyd yn cynnwys lefel ychwanegol o wirio gyda chofnodion heddlu lleol.

Dd3. Pa elusennau ddylai geisio Datgeliadau CRB ar gyfer eu hymddiriedolwyr?
Yr ateb byr:

Gall fod hawl gan elusennau sy'n gweithio gyda phlant a rhai elusennau sy'n gweithio gydag oedolion sy'n agored i niwed gael Datgeliadau CRB ar gyfer eu hymddiriedolwyr, ac os felly dylent eu ceisio. Rhaid i rai sefydliadau gysylltu â'r CRB cyn cyflogi unigolion a bydd hŷn yn cynnwys rhai ymddiriedolwyr elusen. Mae Adran Dd6 yn rhoi mwy o fanylion.

Yn fwy manwl:

Bydd hawl gan elusen geisio Datgeliadau CRB ar gyfer ei hymddiriedolwr os yw

(a) yn elusen blant (gweler adran Dd4) neu elusen sy'n gweithio mewn sefydliad addysg bellach ac mae dyletswyddau arferol swydd ymddiriedolwr yn cynnwys cyswllt rheolaidd â phobl dan 18 oed neu os yw'r swydd ymddiriedolwr wedi'i chŷnnwys o fewn y diffiniad o 'swydd reoledig' (gweler adran Dd4); neu

(b) yn ymwneud â darparu gwasanaethau gofal i oedolion sy'n agored i niwed (gweler adran Dd5) neu gynrychiolydd, neu wasanaethau eiriolaeth i oedolion sy'n agored i niwed gan wasanaeth a gafodd ei gymeradwyo gan yr Ysgrifennydd Gwladol neu a grëwyd o dan unrhyw ymddeddfiad AC mae'r swydd ymddiriedolwr yn cynnig modd i'r ymddiriedolwr gael mynediad at oedolion sy'n agored i niwed sy'n derbyn y gwasanaethau hynny.

Os teimlwch y gallai'ch elusen gael ei chŷnnwys o fewn y meini prawf hŷn, mae'n debyg bod hawl ganddi geisio Datgeliad Safonol CRB ar gyfer ei hymddiriedolwyr. Mae'n bosib na fydd hŷn yn orfodol, ond cynghorwn yn gryf y dylid ceisio Datgeliadau CRB lle bynnag y bo'n bosib.

Yn ogystal â datgeliad safonol mae chwiliad Rhestr POCA a Rhestr 99 ar gael pan fydd swydd ymddiriedolwr yn swydd reoledig neu os yw'r swydd ymddiriedolwr yn cynnwys:

  • darparu addysg mewn ysgol;
  • darparu addysg mewn sefydliad addysg bellach;
  • darparu addysg dan gontract cyflogaeth neu am wasanaethau lle mae'r parti arall yn awdurdod addysg lleol neu'n unigolyn sy'n ymarfer swyddogaeth sy'n ymwneud â darparu addysg ar ran awdurdod addysg lleol; neu
  • gymryd rhan mewn rheoli ysgol annibynnol.

Mae chwiliad Rhestr POCA a Rhestr 99 hefyd ar gael os yw'r swydd ymddiriedolwr yn dod â'r ymddiriedolwr i gysylltiad rheolaidd â phlant ac mae ei ddyletswyddau’n cael eu cyflawni ar gais neu gyda chydsyniad cyflogwr perthnasol (dan gontract neu beidio).

Ystyr 'cyflogwr perthnasol' yw:

(a) awdurdod addysg lleol;

(b) unigolyn sy'n ymarfer swyddogaeth sy'n ymwneud â darparu addysg ar ran awdurdod addysg lleol;

(c) perchennog ysgol; neu

(ch) corff llywodraethu sefydliad addysg bellach.

Mae chwiliad Rhestr POVA yn dibynnu ar y meini prawf perthnasol ar gyfer chwiliad o'r fath a nodir isod yn adran Dd5

Mae Datgeliadau Manylach ar gael pan fydd y swydd ymddiriedolwr naill ai:

(a) yn cynnwys gofalu'n rheolaidd am unigolion dan 18 oed, eu hyfforddi, eu goruchwylio neu fod yn llwyr gyfrifol amdanynt; neu

(b) yn galluogi ymddiriedolwr i gael cysylltiad rheolaidd yn ystod ei ddyletswyddau gydag oedolyn sy'n agored i niwed (gweler Dd5 am ddiffiniad o 'oedolyn sy'n agored i niwed') ac mae'r swydd ymddiriedolwr yn golygu gofalu'n rheolaidd am unigolion 18 oed neu'n hŷn, eu hyfforddi, eu goruchwylio neu fod yn llwyr gyfrifol amdanynt.

Bydd Datgeliad Manylach ar gael i swydd ymddiriedolwr sy'n bodloni'r meini prawf penodedig yn unig. Er enghraifft, gall ymddiriedolwyr elusen llai ymwneud yn weithgar â'i gweithgareddau bob dydd gyda buddiolwyr ac felly gallant fod yn gymwys i gael Datgeliad Manylach.

Gwybodaeth bellach:

Cewch fwy o wybodaeth i'ch helpu penderfynu a yw'ch elusen yn gymwys ar gyfer datgeliad CRB yn adrannau Dd4 ac Dd5.

Dd4. Beth yw 'swydd reoledig'?
Yr ateb byr:

Diffynir y term 'swydd reoledig' yn Neddf Cyfiawnder Troseddol a Gwasanaethau'r Llysoedd 2000. Mae'n bwysig deall y term yn gywir oherwydd mae ei ddehongliad yn effeithio ar allu elusen i gael Datgeliad neu beidio ar gyfer darpar ymddiriedolwr.

Yn fwy manwl:

Mae'r term 'swydd reoledig' wedi'i ddiffinio yn Neddf Cyfiawnder Troseddol a Gwasanaethau'r Llysoedd 2000 fel a ganlyn:

  • Cyflogaeth mewn ysgolion, cartrefi plant a sefydliadau tebyg - mae pob swydd yn swydd reoledig, gan gynnwys staff ategol, os yw'r dyletswyddau arferol yn cynnwys cysylltiad uniongyrchol â phlant neu beidio.
  • Cyflogaeth mewn adeilad gofal dydd - nid yw pob swydd o'r fath yn swydd reoledig, er enghraifft, os yw'r gwaith yn cael ei wneud yn yr adeilad pan na fydd unrhyw blant yno.
  • Gofalu am blant, eu hyfforddi, eu goruchwylio neu fod yn llwyr gyfrifol amdanynt - gyda rhai eithriadau, mae hŷn yn cynnwys swyddi lle mae'r gweithgareddau hŷn yn rhan o'r dyletswyddau arferol, beth bynnag fo'r sefydliad neu ei faes gwaith cyffredinol.
  • Cysylltiad heb arolygaeth - mae unrhyw swyddi lle mae'r dyletswyddau arferol yn cynnwys cael cysylltiad heb arolygaeth â phlant "dan drefniadau sydd wedi'u pennu gan berson cyfrifol (rhiant neu warcheidwad, er enghraifft)", er enghraifft gwarchodwr plant, yn swydd reoledig.
  • Cyflogaeth plant - fel arfer mae Deddf Cyfiawnder Troseddol a Gwasanaethau'r Llysoedd 2000 yn ystyried plant fel y rheiny sy'n iau nag 18 oed, fodd bynnag, yn y maes hwn mae'n cyfeirio at y rheiny sy'n iau nag 16 oed yn unig; felly, er enghraifft, ni fyddai rheolwr elusen mewn swydd reoledig dim ond oherwydd bod un o'i staff yn 16 oed;
  • Rhai swyddi penodedig gan gynnwys ymddiriedolwr elusen plant ac aelod o gorff llywodraethu sefydliad addysgol. (Mae elusen yn elusen plant os yw'r unigolion sy'n weithwyr yr elusen fel rheol yn cynnwys unigolion sy'n gweithio mewn swyddi rheoledig.)
  • Swyddi sy'n cynnwys goruchwylio neu reoli unigolion eraill mewn swyddi rheoledig. Gallai hŷn gynnwys ymddiriedolwyr elusen, megis llywodraethwyr ysgolion annibynnol elusennol.

I fod yn swydd reoledig, mae'r swyddi mewn rhai o'r categorïau wedi'u cyfyngu i ddyletswyddau arferol y swydd honno. Y bwriad yw eithrio gwaith 'untro'.

Mae'r canlynol yn rhai o'r mathau o sefydliadau y mae'n debygol y bydd angen iddynt gynnal gwiriadau CRB ar ymddiriedolwyr:

  • grŵpiau ieuenctid, megis Sgowtiaid a Geidiaid;
  • sefydliadau sy'n cynnal cyfleusterau a ddefnyddir gan blant ac sy'n trefnu gweithgareddau, megis hyfforddiant chwaraeon, i blant;
  • sefydliadau sy'n cynnig gwasanaeth cwnsela i blant; a
  • chlybiau tu allan i'r ysgol a grŵpiau chwarae.

Mewn rhai achosion nid yw dyletswyddau ymddiriedolwr elusen sy'n gweithio gyda phlant yn cynnwys y math o gysylltiad agos â phlant a chyfrifoldeb unigol drostynt a fyddai'n gofyn am Ddatgeliad Manylach. Yn yr achosion hŷn gall Datgeliad Safonol fod yn ddigonol.

Dd5. Beth mae'r term 'oedolyn sy'n agored i niwed' yn ei olygu?
Yr ateb byr:

Mae gan y termau 'oedolyn sy'n agored i niwed' ystyr cyfreithiol penodol dan Ddeddf Safonau Gofal 2000. Mae'n bwysig deall y term yn gywir oherwydd mae ei ddehongliad yn effeithio ar elusen a'i gallu i gael Datgeliad, a pha fath o Ddatgeliad, ar gyfer ymddiriedolwr posib.

Yn fwy manwl:

Os yw person yn 18 oed neu'n hŷn ac mae ganddo un o'r mathau canlynol o gyflyrau, ystyrir ei fod yn 'oedolyn sy'n agored i niwed' at ddibenion Deddf Safonau Gofal 2000:

  • anabledd dysgu neu gorfforol;
  • salwch corfforol neu feddyliol, cronig neu fel arall, gan gynnwys bod yn gaeth i alcohol neu gyffuriau; neu
  • leihad mewn gallu corfforol neu feddyliol.

Mae hawl gan elusen sy'n ymwneud â darparu gwasanaethau gofal i oedolion sy'n agored i niwed neu gynrychioli, neu wasanaethau eiriolaeth i oedolion sy'n agored i niwed gan wasanaeth a gafodd ei gymeradwyo gan yr Ysgrifennydd Gwladol neu a grëwyd o dan unrhyw ymddeddfiad, a lle mae'r swydd ymddiriedolwr yn cynnig modd i ymddiriedolwr gael mynediad at oedolion sy'n agored i niwed sy'n derbyn gwasanaethau o'r fath yn ystod ei dyletswyddau arferol, gael Datgeliad Safonol ar gyfer ei hymddiriedolwyr, ac unrhyw staff neu wirfoddolwyr sydd â mynediad tebyg.

Caniateir chwiliad yn Rhestr Amddiffyn Oedolion sy'n Agored i Niwed os yw'r swydd ymddiriedolwr yn 'swydd gofal'. Diffinnir hŷn yn Neddf Safonau Gofal 2000 fel:

  • swydd sy'n ei alluogi i gael cysylltiad rheolaidd yn ystod ei ddyletswyddau gydag oedolion y mae llety'n cael ei ddarparu ar ei gyfer mewn cartref gofal;
  • swydd sy'n ymwneud â darparu gofal personol yn eu cartrefi eu hunain i bersonau sydd oherwydd salwch, gwendid neu anabledd yn methu darparu ar gyfer eu hunain heb gymorth.

Mae'r gyfraith hefyd yn cydnabod bod is-set o oedolion sy'n agored i niwed yn ffurfio categori risg uwch. Mae person sy'n gallu cael cysylltiad rheolaidd yn ystod ei ddyletswyddau ac sy'n gofalu'n rheolaidd am yr oedolion sy'n agored i niwed risg uwch hŷn, yn eu hyfforddi, eu goruchwylio neu'n llwyr gyfrifol amdanynt yn gymwys i gael Datgeliad Manylach. Mae'r Datgeliad Manylach yn gymwys os yw'r oedolion sy'n agored i niwed yn derbyn unrhyw un o'r gwasanaethau gofal canlynol:

  • llety a gofal nyrsio neu bersonol mewn cartref gofal;
  • gofal personol neu gymorth i fyw'n annibynnol yn ei gartref ei hun;
  • unrhyw wasanaethau a ddarperir gan ysbyty annibynnol, clinig annibynnol, asiantaeth feddygol annibynnol neu gorff Gwasanaeth Iechyd Gwladol;
  • gwasanaethau gofal cymdeithasol; neu
  • unrhyw wasanaethau a ddarperir mewn sefydliad sy'n darparu ar gyfer unigolyn sydd ag anawsterau dysgu;

ac o ganlyniad i gyflwr, gan gynnwys unrhyw un o'r canlynol:

  • anabledd dysgu neu gorfforol;
  • salwch corfforol neu feddyliol, cronig neu fel arall, gan gynnwys bod yn gaeth i alcohol neu gyffuriau; neu
  • leihad mewn gallu corfforol neu feddyliol;

mae anableddau ganddynt, gan gynnwys unrhyw un o'r canlynol:

  • dibyniaeth ar eraill i berfformio, neu angen cymorth i berfformio, gweithrediadau corfforol sylfaenol;
  • nam difrifol o ran gallu cyfathrebu ag eraill; neu
  • nam yng ngallu person i amddiffyn ei hun rhag ymosodiad, camdriniaeth neu esgeulustod.

Yn y cyd-destun hwn, yr un ystyr sydd i 'ofal cartref', 'clinig annibynnol', 'ysbyty annibynnol', 'asiantaeth feddygol annibynnol' a 'chorff Gwasanaeth Iechyd Gwladol' ag yn Neddf Safonau Gofal 2000; ac mae 'Gwasanaethau gofal' yn golygu unrhyw un o'r canlynol:

  • llety a gofal nyrsio neu bersonol mewn cartref gofal;
  • gofal personol neu nyrsio neu gymorth i rywun allu byw'n annibynnol yn ei gartref ei hun;
  • gwasanaethau gofal cymdeithasol;
  • unrhyw wasanaethau a ddarperir mewn sefydliad sy'n darparu ar gyfer unigolyn sydd ag anawsterau dysgu.

Mewn sawl achos mae'n bosib na fydd dyletswyddau ymddiriedolwr elusen sy'n gweithio gydag oedolion sy'n agored i niwed yn cynnwys y math o gysylltiad agos gydag oedolion sy'n agored i niwed a chyfrifoldeb unigol drostynt a fyddai'n eu gwneud yn gymwys i wneud cais am Ddatgeliad. Fodd bynnag, os yw dyletswyddau ymddiriedolwr yn golygu ei fod yn gymwys i wneud cais am Ddatgeliad, dylid gwneud hynny.

Gwybodaeth bellach:

Nid oes rhestr derfynol o swyddi y mae gwiriadau cofnodion troseddol yn ofynnol ar eu cyfer, neu yr argymhellir gwiriadau ar eu cyfer, ond mae'r CRB yn darparu gwybodaeth ddefnyddiol sydd ar gael ar ei wefan http://www.crb.gov.uk/ neu trwy ffonio llinell gymorth CRB ar 0870 90 90 811.

Mae gwybodaeth i elusennau sy'n darparu gwasanaethau gofal hefyd ar gael o'r Comisiwn dros yr Arolygiaeth Gofal Cenedlaethol yn www.csci.org.uk, ac mae'r Adran Iechyd wedi cynhyrchu Canllaw Ymarferol sy'n delio ag amddiffyn oedolion sy'n agored i niwed ac mae'n cynnwys rhai enghreifftiau o ba fathau o swyddi fydd yn gymwys i gael gwiriad CRB (http://www.dh.gov.uk/).

Dd6. Ydy Datgeliadau CRB yn orfodol i ymddiriedolwyr elusennau sy'n gweithio gyda phlant neu oedolion sy'n agored i niwed?
Symbol yn dangos gfofyniad cyfreithiolYr ateb byr:

Yn achos rhai elusennau, sef y rheiny a ddosberthir fel 'sefydliadau gofal plant', mae gwiriadau yn orfodol. Mewn achosion eraill mae cynnal gwiriadau yn ôl disgresiwn yr ymddiriedolwyr. Ond argymhellwn yn gryf y dylai pob elusen sydd mewn sefyllfa i ddefnyddio gwasanaethau'r CRB i archwilio cefndir darpar ymddiriedolwyr yn gwneud hynny, er nad yw hŷn efallai yn orfodol.

Yn fwy manwl:

Nid yw deddfwriaeth CRB yn ei gwneud hi'n orfodol i elusennau (ac eraill) gynnal gwiriadau CRB ar gyfer pob swydd berthnasol. Fodd bynnag, er mwyn sicrhau cymhwyster unigolion i weithredu fel ymddiriedolwyr a gwarchod buddiannau buddiolwyr, dylai ymddiriedolwyr elusennau sy'n gallu defnyddio gwasanaethau'r CRB wneud hynny.

Rhaid i sefydliadau a ddiffinnir fel 'sefydliadau gofal plant' o fewn telerau Deddf Amddiffyn Plant 1999 wirio yn erbyn Rhestr Deddf Amddiffyn Plant, a gellir gwneud hŷn dim ond trwy'r CRB.

Gall awdurdodau eraill hefyd fynnu bod gwiriadau CRB yn cael eu cynnal. Er enghraifft, dan Reoliadau Addysg (Safonau Ysgolion annibynnol)(Lloegr) 2003, rhaid i'r Ysgrifennydd Gwladol Addysg gynnal gwiriad CRB ar berchennog ysgol annibynnol. Gall hŷn gynnwys unig berchennog ond hefyd gall olygu corff llywodraethu, ymddiriedolwyr neu gyfarwyddwyr.

Gwybodaeth bellach:

Cewch fwy o wybodaeth am y gwiriadau y mae'n rhaid eu cynnal ar berchnogion ysgolion annibynnol ar wefan yr Adran Plant, Ysgolion a Theuluoedd: www.dcsf.gov.uk.

Dd7. Nid yw'n ofynnol yn ôl y gyfraith i'n hymddiriedolwyr gael Datgeliadau CRB ond mae hawl ganddynt eu cael. A ddylem ni ofyn iddynt gael Datgeliad?
Yr Ateb Byr:

Dylem. Gwiriadau CRB yw'r ffordd orau ar hŷn o bryd i ymddiriedolwyr wirio a yw cyd-ymddiriedolwr wedi'i anghymhwyso rhag gweithio gyda buddiolwyr agored i niwed. Am y rheswm hwn mae polisi'r Comisiwn fel a ganlyn:

  • rhaid i ymddiriedolwyr geisio Datgeliad CRB os oes gofyniad cyfreithiol i wneud hynny; a
  • rhaid i ymddiriedolwyr geisio Datgeliad CRB os oes hawl gyfreithiol i wneud hynny.
Yn fwy manwl:

Mae dyletswydd gofal gan bob ymddiriedolwr elusen a dyletswydd i weithredu er lles yr elusen yn unig. Mae'r Comisiwn yn credu bod yr ymddiriedolwyr elusen mewn perygl o weithredu'n groes i'r dyletswyddau hŷn os ydynt, heb reswm da, yn methu â chŷnnal gwiriadau CRB priodol pan fydd hawl ganddynt wneud hynny. Mewn rhai amgylchiadau, gellir ystyried methiannau o'r fath yn dystiolaeth o gamymddygiad /neu gamreoli yng ngweinyddiad yr elusen.

Mae nifer o droseddau penodol sy'n ymwneud ag unigolion anghymwys yn gweithredu fel ymddiriedolwyr elusen, a ddisgrifir yn adran D4.

Dd8. Sut dylai elusen wneud cais am Ddatgeliad?
Yr ateb byr:

Rhaid i'r darpar ymddiriedolwr gyflwyno'r cais. Bydd angen i gorff sydd wedi'i gofrestru gyda'r CRB ei gydlofnodi, a all olygu'r elusen dan sylw neu 'gorff mantell CRB'. Bydd y CRB yn anfon y dystysgrif Datgeliad at yr unigolyn, a chopi i'r sawl sy'n ei chydlofnodi.

Yn fwy manwl:

Mae'n rhaid i'r unigolyn wneud cais am Ddatgeliad, yn hytrach na'r sefydliad y bydd yn gweithio neu'n gwirfoddoli iddo. Bydd rhaid i gorff sydd wedi'i gofrestru gyda'r CRB at y diben hwnnw gydlofnodi'r ffurflen gais.

Gall elusen gofrestru gyda'r CRB er mwyn iddo allu cydlofnodi ceisiadau am Ddatgeliadau sy'n ymwneud â swyddi cyflogedig neu wirfoddol o fewn yr elusen. Fel arall, gall ofyn i sefydliad arall sydd eisoes wedi cofrestru gyda'r CRB fel 'corff mantell CRB' i gydlofnodi'r ceisiadau ar ei ran.

Mae'r canlynol yn rhai enghreifftiau o sefydliadau sydd wedi cofrestru, neu sydd efallai yn gallu cofrestru, fel 'corff mantell CRB':

  • mae Cymdeithas y Sgowtiaid wedi cofrestru er mwyn i grŵpiau Sgowtiaid unigol ei ddefnyddio i gydlofnodi ceisiadau am Ddatgeliadau;
  • efallai y bydd Canolfan Gynghori yn gallu cofrestru er mwyn ychwanegu hwn at y rhestr o wasanaethau y mae'n eu cynnig;
  • gall cwmni o gyfreithwyr gofrestru, unwaith eto i ychwanegu at y gwasanaethau y mae'n eu cynnig.

Yng Nghymru yn unig, mae Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA) yn gweithredu fel corff mantell CRB ac yn gwasanaethu'r sector gwirfoddol cyfan yng Nghymru. Mae WCVA, gyda nawdd gan Gynulliad Cymru, wedi sefydlu Uned Cofnodion Troseddol sy'n darparu mynediad at wasanaeth Datgeliad y CRB. Gall yr Uned gydlofnodi ceisiadau am wiriadau i weithwyr a gwirfoddolwyr ar gyfer swyddi yng Nghymru. Nid yw'r Uned yn codi unrhyw dâl gweinyddol am brosesu'r gwiriad. Cewch fwy o wybodaeth ar wefan WCVA: http://www.wcva.org.uk/.

Gwybodaeth bellach:

Mae gwefan CRB http://www.crb.gov.uk/ yn darparu'r wybodaeth ganlynol:

  • manylion ynghylch sut i wneud cais am Ddatgeliad;
  • cyngor ar fod yn gorff cofrestredig CRB;
  • cyngor ar fod yn gorff mantell CRB, gan gynnwys manylion am y costau;
  • costau cael Datgeliadau; a
  • chyfleuster chwilio i adnabod cyrff mantell CRB sy'n bod.
Dd9. Am faint mae Datgeliad yn para?
Yr ateb byr:

Gellir gwarantu bod Datgeliad yn gyflawn dim ond ar y dyddiad y caiff ei gyhoeddi. Dylai elusennau geisio Datgeliadau CRB newydd bob hŷn a hŷn, os yw'n gymwys. Argymhellwn mai bob tair blynedd sy'n briodol fel rheol.

Yn fwy manwl:

Bydd pob Datgeliad yn cynnwys y dyddiad y cafodd y Datgeliad ei argraffu, ac mae'n adlewyrchu'r sefyllfa fel y mae ar y dyddiad cyhoeddi. Nid oes terfyn amser ar ddilysrwydd Datgeliad oherwydd gallai collfarn neu fater arall gael ei gofnodi yn erbyn deiliad y Datgeliad unrhyw bryd ar ôl iddo gael ei gyhoeddi. Felly, y mwyaf agos i ddyddiad cyhoeddi'r Datgeliad, mwyaf dibynadwy fydd ei gynnwys.

Dylai elusennau ailwirio ymddiriedolwyr, gan gynnwys ymddiriedolwyr a gafodd eu penodi'n wreiddiol gan y Comisiwn, ac eraill mewn swyddi perthnasol, bob tair blynedd. Os yw ymddiriedolwyr yn mabwysiadu'r polisi hwn o ailwirio bob tair blynedd, bydd hŷn yn golygu y bydd yr unigolion hynny a oedd eisoes yn ymddiriedolwyr neu'n weithwyr cyflogedig cyn i'r Swyddfa Cofnodion Troseddol gychwyn yn cael eu gwirio hefyd.

Gwybodaeth bellach:

Mae'r CRB yn darparu canllawiau ar ei wefan http://www.crb.gov.uk/ am y materion sy'n ymwneud ag ailddefnyddio gwiriadau CRB a geisiwyd ar gyfer swydd mewn un sefydliad ac yna eu defnyddio ar gyfer swydd mewn sefydliad arall.

Dd10. Beth os yw Datgeliad yn dangos achos pryder?
Yr ateb byr:

Nid bwriad Datgeliad yw gwrthod pob darpar ymddiriedolwr elusen sydd â chofnod troseddol neu gofnod o gamymddygiad yn y gorffennol. Fodd bynnag, dylai ymddiriedolwyr ddefnyddio gofal rhesymol.

Yn fwy manwl:

Gall fod amgylchiadau pan fydd Datgeliad yn dangos achos pryder am ddarpar ymddiriedolwr, ond nid yw'n ddigonol i'w anghymhwyso dan Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Gwasanaethau'r Llysoedd 2000 neu Ddeddf Safonau Gofal 2000.

Yn yr achosion hŷn dylai ymddiriedolwyr ddefnyddio gofal rhesymol, yn seiliedig ar:

  • natur a difrifoldeb y broblem a ddatgelir, a'i pherthnasedd i ddyletswyddau a chyfrifoldebau ymddiriedolwr elusen;
  • pryd gododd y broblem a ddatgelir;
  • a oes patrwm o ymddygiad troseddol ac i ba raddau y mae'r darpar ymddiriedolwr wedi gwella ac wedi'i ailsefydlu yn y cyfnod wedi hynny.

Mae'n bwysig cofio bod Datgeliad yn ceisio galluogi sefydliadau i wneud penderfyniad gwybodus gwell. Nid bwriad Datgeliad yw arwain cyflogwyr at wrthod ymgeiswyr sydd â chofnod troseddol fel mater o arfer, ac mae'r un peth yn wir wrth benodi ymddiriedolwyr. Fodd bynnag, mewn achosion o'r fath bydd angen i'r ymddiriedolwyr ystyried y penodiad arfaethedig yn ofalus.

Gwybodaeth bellach:

Mae'r CRB yn darparu canllaw i ddefnyddwyr ei wasanaethau ynghylch sut i gael y cydbwysedd iawn rhwng gwarchod ac ailsefydlu. Mae cyhoeddiadau defnyddiol a gymeradwyir gan y CRB yn cynnwys 'Recruiting Safely' gan NACRO a 'A Practical Guide to Employing Ex-Offenders' gan Sefydliad Siartredig Personél a Datblygiad. Mae'r ddau gyhoeddiad yma i'w gweld ar wefan CRB http://www.crb.gov.uk/

E. Penodi ymddiriedolwyr

Gall ymddiriedolwyr gael eu penodi mewn gwahanol ffyrdd, gan gynnwys cael eu henwebu gan ymddiriedolwyr cyfredol, cael eu hethol gan aelodau'r elusen, neu drwy rinwedd swydd arall sydd ganddynt (ymddiriedolwyr 'ex officio'). Mae'n bwysig bod darpar ymddiriedolwr yn deall y dyletswyddau a'r cyfrifoldebau y bydd ganddo. Pan fydd ymddiriedolwr wedi cael ei benodi, mae gwahanol gamau yn ofynnol i ffurfioli'r penodiad.

Wedi recriwtio ymddiriedolwr newydd, mae'n bwysig ei groesawu, datblygu ei sgiliau, gwneud yn siŵr ei fod yn gyfarwydd â gwaith yr elusen a'i fod yn cael ei gyflwyno i'r ymddiriedolwyr eraill ac aelodau staff allweddol. Mae'n syniad da gweithredu proses sefydlu ffurfiol.

E1. Sut mae ymddiriedolwyr yn cael eu penodi?
Yr ateb byr:

Gall ymddiriedolwyr gael eu hethol neu eu henwebu gan ymddiriedolwyr cyfredol, eu henwebu gan sefydliadau eraill, neu gallant fod yn ymddiriedolwyr trwy rinwedd swydd arall sydd ganddynt.

Yn fwy manwl:

Gall ymddiriedolwyr gael eu penodi mewn nifer o ffyrdd gwahanol. Er enghraifft:

  • gallant gael eu henwebu gan yr ymddiriedolwyr eraill, neu gan sefydliad arall, ee awdurdod lleol; neu
  • gallant gael eu hethol gan aelodau'r elusen; neu
  • gallant fod yn ymddiriedolwr trwy rinwedd swydd sydd ganddynt, ee maer neu faeres tref, prif weithredwr ymddiriedolaeth iechyd lleol neu bennaeth ysgol. Gelwir ymddiriedolwyr o'r fath yn ymddiriedolwyr 'ex officio'.

Os yw ymddiriedolwyr yn cael eu penodi neu eu henwebu gan gorff allanol, megis awdurdod lleol, mae'n bosib bod gan yr elusen ei hun lai o bwer i reoli'r penodiad. Fodd bynnag, gall ddylanwadu arno o hyd a gall y canllaw hwn fod yn ddefnyddiol. Fel pob penodiad ymddiriedolwr, mae rhwymedigaeth gyfreithiol ar unrhyw gorff allanol sy'n penodi ymddiriedolwr i elusen i wneud hŷn er lles gorau'r elusen yn hytrach nag er ei lles ei hun. Gall fod o gymorth i'r elusen amlinellu i'r corff penodi yr hŷn sy'n ofynnol gan ymddiriedolwr ac unrhyw sgiliau neu nodweddion arbennig y mae'r elusen yn eu ceisio. Er mwyn i ymddiriedolwyr gael mwy o reolaeth dros y penodiad, gallent ofyn i'r corff enwebu ddarparu enwau dau berson i'r elusen eu hystyried.

Heblaw yn achos ymddiriedolwr ex officio, mae penodi ymddiriedolwr yn effeithiol dim ond pan fydd darpar ymddiriedolwr wedi cytuno'n ffurfiol i dderbyn swydd ymddiriedolwr. Yna gall y swydd ddechrau ar unwaith, neu ar ddyddiad penodedig.

E2. Pa ystyriaethau eraill sy'n gymwys i benodi ymddiriedolwyr?
Yr ateb byr:

Dylai darpar ymddiriedolwr fod yn ymwybodol o'r cyfrifoldebau cyfreithiol a fydd ganddo. Dylai'r penodiad hefyd gael ei wneud mewn ffordd sy'n gwasanaethu buddiannau gorau'r elusen.

Yn fwy manwl:

Dylai darpar ymddiriedolwr ddeall y cyfrifoldebau cyfreithiol y bydd ganddo pan fydd yn ymddiriedolwr. Cewch fanylion am gyfrifoldebau ymddiriedolwyr yn ein canllaw Yr Ymddiriedolwr Elusen Hanfodol: Yr hŷn y mae angen i chi wybod (CC3). Dylid penodi ymddiriedolwr newydd mewn ffordd sy'n darparu ar gyfer buddiannau gorau'r elusen. Mae'r canlynol yn rhai o'r prif feysydd arfer da wrth recriwtio a phenodi ymddiriedolwyr sy'n cael sylw yn y canllawiau hŷn:

  • adnabod y sgiliau y mae eu hangen ar y bwrdd, a pharatoi 'disgrifiadau swyddi' ar gyfer ymddiriedolwyr - gweler adran C2;
  • defnyddio'r ffyrdd mwyaf priodol i gael hyd i ymddiriedolwyr newydd - gweler adran Ch;
  • sicrhau bod penodi ymddiriedolwr yn gyfreithiol ac yn mynd rhagddo yn ôl safonau arfer gorau - gweler adrannau D, Dd, ac E3; a
  • darparu rhaglen sefydlu a chymorth i ymddiriedolwyr newydd - gweler adrannau E4, E5 ac E6.
E3. Sut dylai penodi ymddiriedolwr newydd gael ei ffurfioli?
Yr ateb byr:

Yn dibynnu ar natur yr elusen, bydd angen i'r cyrff swyddogol amrywiol gael gwybod bod ymddiriedolwr newydd wedi cael ei benodi. Mae'n bosib y bydd angen i chi drosglwyddo eiddo hefyd a ddelir mewn ymddiriedolaeth gan yr ymddiriedolwyr, newid gorchmynion banc, a hysbysu buddgyfranogwyr eraill.

Yn fwy manwl:

Yn dilyn penodi ymddiriedolwr newydd, rhaid i ymddiriedolwyr sicrhau bod:

  • y Comisiwn Elusennau yn cael gwybod am y penodiad cyn gynted â phosib;
  • unrhyw eiddo y mae'r elusen yn berchen arno a ddelir yn enwau ymddiriedolwyr unigol sy'n gadael yn cael ei drosglwyddo i enw'r ymddiriedolwyr newydd;
  • os yw'r elusen yn gwmni elusennol, bod manylion y cyfarwyddwr sydd newydd ei benodi yn cael eu hanfon at Dŷ'r Cwmnïau.

Dylent hefyd sicrhau bod:

  • gorchmynion banc yn cael eu newid os yw'r ymddiriedolwr newydd yn llofnodwr cyfrif yr elusen;
  • pob parti perthnasol yn cael gwybod, er enghraifft, noddwyr, cyfreithwyr yr elusen, archwilwyr a chŷnghorwyr proffesiynol eraill.

Pan gaiff ei benodi, dylid cysylltu'n ffurfiol â'r ymddiriedolwr newydd i'w groesawu fel ymddiriedolwr ac i gadarnhau ei benodiad. Mae Sefydliad Ysgrifenyddion a Gweinyddwyr Siartredig (ICSA) yn cynhyrchu llythyrau enghreifftiol i'w hanfon at ymddiriedolwyr newydd pan gânt eu penodi.

E4. Pa ddogfennau ddylai ymddiriedolwyr newydd eu derbyn?
Yr ateb byr:

Dylai ymddiriedolwr newydd dderbyn copïau o bob dogfen allweddol sy'n ymwneud â gwaith yr elusen, a'i ddyletswyddau fel ymddiriedolwr.

Yn fwy manwl:

Dylai'r ymddiriedolwr newydd dderbyn dogfennau allweddol sy'n ymwneud â'r elusen, gydag esboniad o'u diben a'u heffaith. Drwy hŷn gall ymddiriedolwyr newydd wybod sut mae'r elusen yn gweithio a gallant wneud cyfraniad effeithiol at reolaeth yr elusen cyn gynted â phosib. Mae hŷn yn arfer da, ond gall hefyd fod yn ofynnol yn nogfen lywodraethol yr elusen.

Dylai dogfennau allweddol sydd i'w rhoi i'r ymddiriedolwyr newydd gynnwys:

Gall fod yn ddefnyddiol hefyd i roi copi i ymddiriedolwyr newydd o'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Ymddiriedolwyr ac Aelodau Pwyllgorau Rheoli. Mae'r Safonau hŷn wedi cael eu paratoi i ddarparu cyngor a disgrifio arfer gorau ar rôl ymddiriedolwr. Gallwch lwytho copi o'r Safonau i lawr o wefan UK Workforce Hub http://www.ukworkforcehub.org.uk/.

E5. Pa gymorth dylid ei roi i ymddiriedolwyr newydd?
Yr ateb byr:

Dylai elusennau fuddsoddi yn hyfforddiant, cymorth a datblygiad eu hymddiriedolwyr, fel aelodau staff, er mwyn cynyddu'r cyfraniad y gall y bwrdd ei wneud at reolaeth yr elusen. Bydd lefel y cymorth a roddir yn dibynnu ar faint a natur yr elusen.

Yn fwy manwl:

Mewn elusen a weinyddir yn effeithiol mae'r broses sefydlu yn nodi dechrau proses barhaus o hyfforddiant a datblygiad ymddiriedolwyr, er mwyn sicrhau y gall ymddiriedolwyr barhau i wneud cyfraniad effeithiol i'r elusen. Bydd lefel yr hyfforddiant a'r cymorth y bydd ei hangen ar ymddiriedolwyr yn amrywio yn ôl maint a natur yr elusen, ond mae'n bosib y bydd ymddiriedolwyr yn dymuno ystyried rhai o'r canlynol:

  • cyrsiau hyfforddi unigol;
  • diwrnodau cwrdd i ffwrdd i'r bwrdd ymddiriedolwr cyfan, gyda neu heb staff;
  • sesiynau briffio neu weithdai fel rhan o gyfarfodydd ymddiriedolwyr; ac
  • ymweld ag elusennau eraill sy'n gwneud gwaith tebyg.

Dylai ymddiriedolwyr adolygu'r gweithdrefnau bob hŷn a hŷn ar gyfer recriwtio, sefydlu a datblygiad parhaus ymddiriedolwyr er mwyn sicrhau bod y gweithdrefnau hŷn yn parhau i fod yn effeithiol.

Gwybodaeth bellach:

Cewch fanylion am ffynonellau gwybodaeth eraill, gan gynnwys gwybodaeth am gyfleoedd hyfforddi a datblygu i ymddiriedolwyr, ar hafan ein gwefan.

E6. Sut dylid sefydlu ymddiriedolwyr newydd?
Yr ateb byr:

Yn gyntaf gwnewch yn siŵr bod yr ymddiriedolwr newydd wedi derbyn yr holl ddogfennau allweddol a nodir yn adran E4. Dylai'r ymddiriedolwr newydd hefyd gwrdd â'r ymddiriedolwyr eraill a phobl allweddol o fewn yr elusen er mwyn deall ei gwaith yn well ac unrhyw sialensiau y bydd efallai yn eu hwynebu.

Yn fwy manwl:

Mae rhaglen sefydlu briodol yn hanfodol fel rhan o'r broses o sicrhau y gall ymddiriedolwyr fod yn aelodau gwerthfawr ac effeithiol o'r bwrdd mor gyflym â phosib. Dylai pob elusen, pa mor fawr neu fach y bônt, ystyried anghenion yr elusen ac ymddiriedolwyr newydd trwy ddarparu rhaglen sefydlu sy'n addas i'r ymddiriedolwyr newydd a maint a natur yr elusen, ac a fydd yn rhoi'r wybodaeth y bydd ei hangen ar yr ymddiriedolwr.

Ar gyfer ymddiriedolwyr newydd elusennau llai a symlach, efallai mai trafodaeth gyda'r ymddiriedolwyr presennol fydd y ffordd orau o ddysgu popeth y mae angen iddynt ei wybod i gychwyn er mwyn gwneud cyfraniad effeithiol at reolaeth yr elusen.

Gall fod yn ddefnyddiol hefyd i ymddiriedolwyr newydd siarad â phobl allweddol o fewn yr elusen er mwyn cael dealltwriaeth glir o sut mae'r elusen yn gweithredu.

Ar gyfer elusennau mwy a mwy cymhleth, gallai rhaglen sefydlu fwy strwythuredig helpu'r ymddiriedolwr newydd i ddeall gwaith yr elusen yn well, a gallai'r rhaglen hon gynnwys:

  • cyflwyniad i'r uwch reolwyr a'r staff;
  • cyflwyniad i unrhyw ymgynghorwyr proffesiynol y mae'r elusen yn eu defnyddio;
  • ymweliadau i weld y gwasanaethau a ddarperir gan yr elusen;
  • ymweliadau â chŷnlluniau a phrosiectau'r elusen;
  • cyfarfodydd gyda buddiolwyr yr elusen;
  • asesiad o unrhyw hyfforddiant y mae ei angen ar yr ymddiriedolwr newydd.
Gwybodaeth bellach:

Mae Sefydliad Ysgrifenyddion a Gweinyddwyr Siartredig (ICSA) yn cynhyrchu pecyn sefydlu enghreifftiol i ymddiriedolwyr. Mae'r Cyngor Cenedlaethol Cyrff Gwirfoddol (NCVO) yn cynhyrchu amrywiaeth o wybodaeth i ymddiriedolwyr, gan gynnwys 'The Good Trustee Guide'.

F. Gwybodaeth bellach a chŷngor

Mae nifer o adnoddau y gall ymddiriedolwyr elusen eu defnyddio i'w helpu pan fyddant yn recriwtio ymddiriedolwyr newydd. Nid yw hon yn rhestr derfynol o'r holl ffynonellau gwybodaeth sydd ar gael, ond mae'n cynnig golwg gyffredinol dda a man cychwyn defnyddiol. Ceisiwn annog ymddiriedolwyr i ddefnyddio'r ystod eang o sefydliadau sy'n gallu eu helpu eraill i weinyddu eu helusen mor effeithiol â phosib. Cewch fanylion am ffynonellau gwybodaeth pellach o dan Cysylltiadau Defnyddiol ar hafan ein gwefan.

F1. Sefydliadau allanol

Cyngor Cenedlaethol Sefydliadau Gwirfoddol (NCVO)
Mae NCVO yn cynhyrchu ystod eang o wybodaeth a gwasanaethau cynnal i'r rheiny sy'n gweithio yn y sector gwirfoddol. Mae NCVO yn cynhyrchu 'The Good Trustee Guide' sy'n cynnwys gwybodaeth ymarferol ar bob agwedd ar rôl ymddiriedolwr. Mae ei wefan hefyd yn cynnwys manylion grŵp Rhwydwaith Broceriaeth Ymddiriedolwyr sy'n rhwydwaith o wasanaethau lleoliad broceriaeth sy'n cyfateb ymddiriedolwyr â swyddi gwag ar fyrddau cyrff gwirfoddol (www.trusteebank.org)

Cyngor Cenedlaethol Sefydliadau Gwirfoddol (NCVO)
Regent's Wharf
8 All Saints Street
Llundain N1 9RL
Ffôn: 020 7713 6161
Ffacs: 020 7713 6300
Rhadffôn: 0800 2798 798
E-bost: helpdesk@ncvo-vol.org.uk
Gwefan: www.ncvo-vol.org.uk

Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA)
WCVA yw llais y sector gwirfoddol yng Nghymru. Mae'n cynrychioli buddiannau, ac yn ymgyrchu dros gyrff gwirfoddol, gwirfoddolwyr a chymunedau yng Nghymru. Mae'n darparu ystod gynhwysfawr o wybodaeth, gwasanaethau ymgynghori, cyllid, rheolaeth a hyfforddiant. Gall elusennau ddefnyddio gwefan WCVA i gael hyd i'w Cyngor Gwirfoddol Sirol (CVC) agosaf.

Mae Uned Cofnodion Troseddol WCVA yn gorff mantell cofrestredig gyda'r Swyddfa Cofnodion Troseddol ac mae'n gallu cydlofnodi ceisiadau Datgeliad ar ran cyrff gwirfoddol eraill yng Nghymru.

Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru
Ty Baltig,
Sgwâr Mount Stuart
Caerdydd, CF10 5FH
Ffôn: 029 2043 1700
Llinell gymorth: 0800 2888 329
E-bost: enquiries@wcva.org.uk
Gwefan: www.wcva.org.uk

Cynghorau Gwirfoddol Sirol Cymru (CVC)
Rôl y Cynghorau Gwirfoddol Sirol yw darparu cyngor a gwybodaeth i sefydliadau gwirfoddol lleol ar unrhyw fater a all effeithio arnynt. Maen nhw'n cefnogi gweithredu gwirfoddol trwy gynorthwyo gwirfoddolwyr, cynghori ar arfer da a darparu gwybodaeth ar ffynonellau nawdd ac amryw o faterion eraill. Maen nhw hefyd yn cynrychioli'r sector gwirfoddol ar bartneriaethau traws-sector. Cewch fanylion cyswllt pob Cyngor ar wefan Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA) (am fanylion gweler uchod).

Cymdeithas Genedlaethol Gweithredu Gwirfoddol a Chymunedol (NAVCA)

Y gymdeithas hon yw'r corff mantell cenedlaethol ar gyfer 250 o Gynghorau Gwasanaeth Gwirfoddol yn Lloegr. Mae Cyngor Gwasanaeth Gwirfoddol lleol yn darparu cyngor, cefnogaeth a gwybodaeth i gyrff gwirfoddol ac elusennau yn ei ardal, gan gynnwys cymorth gyda chofrestru. Os hoffech gael manylion am eich Cyngor Gwasanaeth Gwirfoddol lleol chi, cysylltwch â NAVCA uchod. Mae sefydliadau sy'n debyg i NAVCA yn bodoli ar gyfer cyrff gwirfoddol ac elusennau a leolir yng Nghymru. Cysylltwch â WCVA (gweler uchod).

NAVCA
The Tower
2 Furnival Square
Sheffield S1 4QL
Ffôn: 0114 278 6636
Ffacs: 0114 278 7004
E-bost: navca@navca.org.uk
Gwefan: www.navca.org.uk

Cymdeithas Prif Weithredwyr Cyrff Gwirfoddol (acevo)
Mae'r corff aelodaeth ar gyfer prif weithredwyr cyrff gwirfoddol acevo yn gweithio i gysylltu, datblygu a chŷnrychioli arweinwyr y sector.

Cymdeithas Prif Weithredwyr Cyrff Gwirfoddol
1 New Oxford Street
Llundain WC1A 1NU
Ffôn: 0845 345 8481
Ffacs: 0845 345 8482
E-bost: info@acevo.org.uk
Gwefan: www.acevo.org.uk

Charity Trustee Networks (CTN)
Mae'n cynnig cyd-gymorth i ymddiriedolwyr trwy annog a datblygu grŵpiau rhwydwaith Ymddiriedolwyr hunangymorth gan ddarparu gwasanaeth ymgynghorol a mentora.

Charity Trustee Networks
3-4 Frensham Suite
Friary Court
13 -21 High Street
Guildford
Surrey GU1 3DG
Ffôn: 01483 230280
Ffacs: 01483 303932
E-bost: info@trusteenet.org.uk
Gwefan: www.trusteenet.org.uk

Directory of Social Change (DSC)
Mae'n hybu newid cymdeithasol cadarnhaol ac yn darparu ystod eang o adnoddau ar gyfer ymddiriedolwyr.

Llundain
24 Stephenson Way
Llundain NW1 2DP
Ffôn: 020 7391 4800

Lerpwl
Federation House
Hope Street
Lerpwl
L1 9BW
Ffôn: 0151 708 0117

Ffôn: 08450 77 77 07
E-bost (Llundain): enquiries@dsc.org.uk
(Lerpwl): north@dsc.org.uk
Gwefan: www.dsc.org.uk

Ethnic Minority Foundation (EMF)
Mae EMF yn datblygu adnoddau i sefydliadau du a lleiafrif ethnig, sy'n cynnwys cyfleoedd rhwydweithio a chyfleoedd hyfforddi a chofrestr ymddiriedolwyr.

Ethnic Minority Foundation
Forbes House
9 Artillery Lane
Llundain E1 7LP
Ffôn: 020 7426 8950
E-bost: enquiries@ethnicminorityfund.org.uk
Gwefan: www.ethnicminorityfund.org.uk

Gwasanaeth Ansolfedd
Mae'n cynnal y Gofrestr Ansolfedd Unigolion. Gallwch chwilio'r gofrestr ar-lein, yn swyddfa leol eich Derbynnydd Swyddogol, neu trwy'r post. I chwilio trwy'r post, cysylltwch â:

The Insolvency Service
21 Bloomsbury Street
Llundain
WC1B 3QW
Ffôn: 0845 602 9848
Gwefan: www.insolvency.gov.uk

Institute of Chartered Secretaries and Administrators (ICSA)
ICSA yw'r corff proffesiynol ar gyfer ysgrifenyddion siartredig. Mae'n cynhyrchu nifer o ganllawiau arfer da a nodiadau cyfarwyddyd. Mae hefyd yn cadw cofrestr ymddiriedolwyr sydd ar gael i elusennau sy'n chwilio am ymddiriedolwyr newydd.

Institute of Chartered Secretaries and Administrators (ICSA)
16 Park Crescent
Llundain W1B 1AH
Ffôn: 020 7580 4741
Ffacs: 020 7323 1132
E-bost: info@icsa.co.uk
Gwefan: www.icsa.org.uk

REACH
Sefydliad sy'n cyfateb sgiliau pobl brofiadol i anghenion cyrff gwirfoddol.

REACH
89 Albert Embankment
Llundain SE1 7TP
Ffôn: 020 7582 6543
Ffacs: 020 7582 2423
E-bost: mail@reach-online.org.uk
Gwefan: www.reach-online.org.uk

Swyddfa Cofnodion Troseddol
Sefydlwyd y Swyddfa Cofnodion Troseddol (CRB fel asiantaeth weithredol o'r Swyddfa Gartref, i helpu sefydliadau i wneud penderfyniadau recriwtio mwy diogel. Gweler adran Dd am fanylion llawn.

Swyddfa Cofnodion Troseddol
Gwasanaethau Cwsmeriaid
Blwch SP 110
Lerpwl L69 3EF
Ffôn: 0870 90 90 811
Gwefan: www.crb.gov.uk
Llinell gais datgeliadau: 0870 90 90 844
Gwefan gwybodaeth datgeliadau: www.crb.gov.uk

Ty’r Cwmnïau
Yr awdurdod corfforedig i gwmnïau cyfyngedig. Mae hefyd yn cynnal seminarau i gyfarwyddwyr ac ysgrifenyddion cwmni newydd eu penodi.

Ty’r Cwmnïau
Ffordd y Goron
Maindy
Caerdydd CF14 3UZ
Ffôn: 0870 333 3636
Minicom: 02920 381245
E-bost: enquiries@companies-house.gov.uk
Gwefan: www.companieshouse.gov.uk

F2. Cyfnodolion, cylchgronau a phapurau newydd

Mae'r cyhoeddiadau canlynol yn aml yn ymdrin â materion sy'n berthnasol i recriwtio, dewis a sefydlu ymddiriedolwyr.

Charities Management
Mitre House Publishing
154 Graham Road
Wimbledon
Llundain
SW19 3SJ
Ffôn: 020 8542 7766
E-bost: charitiesman@btconnect.com
Gwefan: www.charitiesmanagement.com

Charity Finance
3 Rectory Grove
Llundain SW4 0DX
Ffôn: 020 7819 1200
Ffacs: 020 7819 1201
E-bost: katie@charityfinance.co.uk
Gwefan: www.charityfinance.co.uk

Charity Times
Ffôn: 020 7562 2402
Ffacs: 020 7374 2703
Gwefan: www.charitytimes.com

Governance: essential information for effective trustees
Ffôn: 020 7819 0391
E-bost: subs@chygovernance.co.uk
Gwefan: www.charitygovernance.co.uk

The Guardian
Mae adran The Society ar ddydd Mercher yn arbennig o ddefnyddiol.
Gwefan: www.SocietyGuardian.co.uk

Rhwydwaith Cymru
Cysylltwch â WCVA am fanylion.

Third Sector
Ffôn: 020 8606 7500
E-bost: subscriptions@haymarket.com
Gwefan: www.thirdsector.co.uk

Voluntary Sector
Cysylltwch â NCVO am fanylion

F3. Cyhoeddiadau Allweddol y Comisiwn Elusennau

Mae ein gwefan yn cynnig ystod eang o wasanaethau, offer, gwybodaeth a chanllawiau hygyrch ar-lein. Cyn cysylltu â ni am gyngor neu gymorth efallai yr hoffech chwilio ein cronfa ddata ar-lein o gwestiynau cyffredin. Bydd y rhan fwyaf o bobl yn cael hyd i'r ateb y mae ei angen arnynt heb ffonio neu ysgrifennu e-bost. Fel arall, ceir cyswllt i'n tudalen Cysylltu â ni o frig a gwaelod pob tudalen we.

Cyhoeddiadau'r Comisiwn Elusennau
Yr Ymddiriedolwr Hanfodol: Yr hŷn y mae angen i chi wybod CC3
Nodweddion Elusen Effeithiol CC10
Treuliau a thaliadau ymddiriedolwyr CC11
Cynnwys Defnyddwyr: Buddiolwyr sy'n dod yn ymddiriedolwyr CC24
Recriwtio, Dewis a Sefydlu Ymddiriedolwyr RS1
Rhwydd hŷnt trwy ddechrau da - Adroddiad Ymchwil Recriwtio a Sefydlu Ymddiriedolwyr RS10
Canllaw i wrthdaro buddiannau i ymddiriedolwyr elusennau  
Ffurflen datganiad enghreifftiol i ymddiriedolwyr newydd  
Datganiad ar ymddiriedolwyr sy'n iau nag 18 oed  

 

Y Comisiwn Elusennau

Y Comisiwn Elusennau yw rheolydd annibynnol elusennau yng Nghymru a Lloegr. Ei nod yw darparu'r dull rheoleiddio gorau posib ar gyfer elusennau yng Nghymru a Lloegr, er mwyn cynyddu effeithiolrwydd elusennau a ffydd ac ymddiriedaeth y cyhoedd. Mae'n rhaid i'r rhan fwyaf o elusennau gofrestru gyda'r Comisiwn, ond nid oes rhaid i rai mathau arbennig o elusen gofrestru. Mae rhyw 190,000 o elusennau cofrestredig yng Nghymru a Lloegr. Mae'r fframwaith yn wahanol yn yr Alban, ac nid yw'r Comisiwn yn rheoleiddio elusennau'r Alban.

Mae'r Comisiwn yn darparu ystod eang o gyngor ac arweiniad i elusennau a'u hymddiriedolwyr, a gall helpu gyda phroblemau yn aml. Rhaid i elusennau cofrestredig sydd ag incwm neu wariant blynyddol o fwy na £10,000 ddarparu gwybodaeth a chyfrifon blynyddol i'r Comisiwn. Mae pwerau eang gan y Comisiwn i ymyrryd mewn materion elusen os yw pethau wedi mynd o chwith.

Cewch fwy o wybodaeth am y Comisiwn ynghyd â'r canllawiau amrywiol i elusennau ar ein gwefan.

© Hawlfraint y Goron

© 2011 Hawlfraint y Goron          Hysbysiad Hawlfraint, Ymwadiad a Datganiad Preifatrwydd