Fersiwn Mai 2009
Fersiwn testun o'r Siart Penderfyniad Cryno.
Bydd y siart/rhestr gyfeirio ganlynol yn eich helpu i benderfynu a oes angen i chi gysylltu â ni i gael Gorchymyn neu a allwch symud ymlaen trwy gydymffurfio â'r gofynion a bennwyd yn adrannau C ac Ch.
1. Allwch chi ddibynnu ar y pŵer statudol neu'r pŵer mewn deddfwriaeth arall neu yn y ddogfen lywodraethol ar gyfer y gwarediad? - gweler B2
Os 'Na allwch' - ewch i 1A
Os 'Gallwch' - ewch i 2
1A. Mae angen Gorchymyn y Comisiwn arnoch. Cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth
Pam? Os oes cyfyngiadau yn y ddogfen lywodraethol neu os oes rhyw reswm arall pam na allwch ddibynnu ar y pŵer statudol neu'r pŵer yn y ddogfen lywodraethol, bydd angen Gorchymyn arnoch i awdurdodi'r gwarediad.
2. Ydy'ch gwarediad i unigolyn cysylltiedig?
Mae'n golygu rhywun sydd â chysylltiad agos â'r elusen - rhoddwr tir i'r elusen, ymddiriedolwr neu weithiwr neu rywun sy'n berthynas neu fusnes sy'n gysylltiedig mewn rhyw ffordd - gweler Atodiad Ng1.
Os 'Ydy' - ewch i 2A
Os 'Nac ydy' - ewch i 3
2A. Mae angen Gorchymyn y Comisiwn arnoch.
Ewch i'r tudalen 'Gwneud cais amdani' ar ein gwefan a llwythwch i lawr y pecyn cais ar gyfer gwarediadau i unigolion cysylltiedig - gweler hefyd adran D1 y canllaw hwn.
Pam? Trafodion gyda risg gweddol uchel yw'r rhain sy'n cynnwys gwrthdaro buddiannau. Mae'r wybodaeth a rowch ar y ffurflen gais yn cynnig modd i ni asesu eich rheolaeth o'r agwedd hon ynghyd â manylion eraill y trafodiad i weld a allwn wneud y Gorchymyn.
3. Ydy'r tir yn cael ei ddal gan yr elusen at ddiben arbennig yr elusen (tir dynodedig) ac nid ydych yn bwriadu cael tir arall yn ei le?
Os 'Ydy' - ewch i 3A
Os 'Nac ydy' - ewch i 4
3A. Mae'n bosib y bydd angen i chi gysylltu â ni i gael Cynllun oherwydd mae bron yn sicr y bydd angen newid dibenion eich elusen - gweler adran D8 y canllaw hwn.
Pam? Rydych yn gwaredu tir sy'n cael ei ddefnyddio at ddibenion eich elusen. Os nad ydych yn bwriadu cael tir yn ei le yna mae'n debyg na fyddwch yn gallu cyflawni’r dibenion fel y cânt eu datgan ar hyn o bryd. Gall amcanion elusen gael eu newid gan Gynllun yn unig. Hefyd…Mae'n rhaid i chi hysbysebu'r gwarediad ac ystyried unrhyw sylwadau a gewch (mae hyn yn ofyniad gwahanol i hysbysebu'r gwarediad i geisio cael y cynigion gorau ar gyfer yr eiddo).
4. Ydy'r gwarediad yn brydles am 7 mlynedd neu lai heb unrhyw ddirwy neu bremiwm?
Os 'Ydy' - ewch i 4A
Os 'Nac ydy' - ewch i 5
4A. Rhaid i chi: gael ac ystyried cyngor gan rywun sydd â'r gallu a'r profiad i'ch cynghori - gwerthwr tir neu syrfëwr, er enghraifft;
- penderfynu a ydych yn fodlon mai'r telerau ar gyfer y gwarediad yw'r rhai gorau y gellid yn rhesymol eu cael; a
- rhoi datganiadau a thystysgrifau penodol.
Gweler adran C y canllaw hwn
Pam? Mae'r rhain yn ofynion cyfreithiol, ond trwy gydymffurfio â nhw bydd:
- syniad da gennych o werth y tir rydych yn bwriadu gwaredu ag ef;
- dangos eich bod wedi deall yr argymhellion a'ch bod yn gweithio er lles gorau'r elusen; a
- rhoi sicrwydd i'r prynwr eich bod yn gwaredu'r tir mewn ffordd ddilys.
5. Ydy'r gwarediad yn
- Werthiant, trosglwyddiad neu drawsgludiad o dir rhydd-ddaliad?
- Prydles am fwy na 7 mlynedd?
- Rhoi neu ryddhau hawl, hawddfraint neu gyfamod cyfyngol?
- Prydles am 7 mlynedd neu lai gyda dirwy neu bremiwm?
- Unrhyw fath arall o warediad o dir sydd heb ei eithrio'n benodol?
Os 'Ydy' - ewch i 5A
Os 'Nac ydy' - ewch i 6
5A. Rhaid i chi:
- geisio ac ystyried adroddiad ysgrifenedig gan syrfëwr cymwysedig;
- hysbysebu'r gwarediad oni bai fod eich syrfëwr yn argymell na ddylech wneud hynny;
- penderfynu a ydych yn fodlon mai'r telerau ar gyfer y gwarediad yw'r rhai gorau y gellid yn rhesymol eu cael; a
- rhoi datganiadau a thystysgrifau penodol.
Gweler adran Ch y canllaw hwn.
Pam? Mae'r rhain yn ofynion cyfreithiol, ond trwy gydymffurfio â nhw bydd:
- syniad da gennych o werth y tir rydych yn bwriadu gwaredu ag ef;
- dangos eich bod wedi deall yr argymhellion a'ch bod yn gweithio er lles gorau'r elusen; a
- rhoi sicrwydd i'r prynwr eich bod yn gwaredu'r tir mewn ffordd ddilys.
6. Ni ddylai eich trafodiad gael ei ddosbarthu fel gwarediad yn ôl y diffiniad yn y cyd-destun hwn, neu gall fod amgylchiadau arbennig lle y gallwch waredu'ch tir heb Orchymyn y Comisiwn a heb yr angen i gydymffurfio â'r gofynion a nodwyd - gweler adran E y canllaw hwn.