Ar gyfer blynyddoedd ariannol sy'n dod i ben ar neu ar ôl 1 Ebrill 2009, gall elusennau sydd heb fod yn gwmnïau gydag incwm gros o £250,000 neu lai baratoi cyfrifon derbyniadau a thaliadau symlach. Ar gyfer blynyddoedd ariannol yn dod i ben cyn 1 Ebrill 2009 ceir trothwy incwm gros is o £100,000 ac os yw'r incwm gros yn fwy na hyn mae'n rhaid paratoi cyfrifon croniadau.
I gynorthwyo elusennau cymwys sydd heb fod yn gwmnïau i baratoi adroddiad blynyddol yr ymddiriedolwyr a chyfrifon derbyniadau a thaliadau, rydym wedi cynhyrchu pecynnau sy'n darparu templedi ar gyfer y dogfennau hyn. Os ydych yn eu cwblhau'n gyflawn byddant yn bodloni gofynion y gyfraith a gellir eu defnyddio i'w cyflwyno i'r Comisiwn Elusennau.
Mae'r dogfennau yn yr adran hon ar gyfer yr elusennau hynny sy'n paratoi cyfrifon derbyniadau a thaliadau sy'n cynnwys cyfrif derbyniadau a thaliadau a datganiad o asedau a rhwymedigaethau.
Gall elusennau sy'n is na'r trothwy archwilio sy'n paratoi cyfrifon croniadau ddefnyddio ein pecynnau templed croniadau CC17.
Mae nodiadau cwblhau ar gael mewn fformat PDF.
Mae'r dogfennau pro forma ar gael:
- mewn ffurf ar gyfer eu hargraffu a'u cwblhau â llaw (fformat 'PDF') ac
- fel taenlenni Microsoft Excel (ar gyfer cyfrifon) neu ffeiliau prosesu geiriau (fformat Microsoft Word .doc) i'w lawrlwytho a'u cwblhau ar gyfrifiadur.
| Rhif |
Enw'r Ddogfen |
Fformatau ar gael |
| |
Adroddiad yr Archwiliwr Annibynnol |
Word |
PDF |
| |
Adroddiad Blynyddol yr Ymddiriedolwyr |
Word |
PDF |
| |
Nodiadau cwblhau ar gyfer Adroddiad Blynyddol yr Ymddiriedolwyr |
|
PDF |
| CC16a |
Cyfrifon Derbyniadau a Thaliadau |
Excel |
PDF |
| CC16b |
Nodiadau cwblhau ar gyfer Cyfrifon Derbyniadau a Thaliadau |
|
PDF |