Ein hymagwedd reoleiddio tuag at ddiogelu budd y cyhoedd mewn elusennau - sut rydym yn asesu a rheoli risgiau
Ein rôl
Y Comisiwn Elusennau yw rheoleiddiwr elusennau yng Nghymru a Lloegr. Rydym hefyd yn gyfrifol am gynnal y Gofrestr Elusennau sy'n cynnwys penderfynu a yw sefydliadau'n elusennol ac a ddylid eu hychwanegu at y Gofrestr.
Mae'r Senedd wedi rhoi pum amcan statudol i ni1, sef:
- cynyddu ymddiriedaeth a ffydd y cyhoedd mewn elusennau
- hyrwyddo ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o weithredu'r gofyniad budd cyhoeddus
- annog ymddiriedolwyr elusennau i gydymffurfio â'u rhwymedigaethau cyfreithiol wrth reoli eu helusennau
- hyrwyddo'r defnydd effeithiol o adnoddau elusennol
- gwella atebolrwydd elusennau i roddwyr, buddiolwyr a'r cyhoedd
Mae disgresiwn cyffredinol gennym o ran penderfynu sut i gyflawni ein hamcanion a'n swyddogaethau.
Ffeithiau allweddol am elusennau
Mae'r sector elusennol yng Nghymru a Lloegr yn un amrywiol iawn. Mae elusennau'n chwarae rôl fawr a rôl hanfodol yn ein cymdeithas ac yn mwynhau lefel uchel o ymddiriedaeth gan y cyhoedd.
Mae tua 180,000 o elusennau cofrestredig sy'n amrywio o grwpiau cymunedol lleol bach i enwau cyffredin mwy. Mae tua 13,000 o'r elusennau hyn yn gweithio'n rhyngwladol. Gall fod 80,000 o elusennau bach eraill nad oes rhaid iddynt gofrestru.
- mae elusennau cofrestredig yn berchen ar asedau net sy'n werth tua £125 biliwn
- mae elusennau'n cyflogi dros 820,000 o staff cyflogedig
- mae tua 950,000 o swyddi ymddiriedolwyr - mae'r rhan fwyaf ohonynt yn cael eu llenwi gan wirfoddolwyr di-dâl (mae nifer mwy o bobl yn gwirfoddoli ar gyfer elusennau mewn ffyrdd eraill neu'n eu cefnogi drwy roddion)
- mae elusennau'n cael manteision ariannol sylweddol - roedd ad-daliadau treth i elusennau gan gynnwys Cymorth Rhodd, gostyngiad treth, TAW, gostyngiad stampdoll yn werth £2.56 biliwn yn 2010/11.
Brig y dudalen
Manteision ein gwaith
Mae gan y cyhoedd fudd mewn elusennau, yn enwedig fel buddiolwyr, rhoddwyr, gwirfoddolwyr a threthdalwyr.
Mae ein gwaith yn ceisio diogelu budd y cyhoedd mewn elusennau a sicrhau, fel y bo'n ofynnol gan y gyfraith, bod elusennau:
- yn canolbwyntio'n gyson ar y dibenion hynny er budd y cyhoedd sy'n rhoi iddynt eu statws elusennol
- gweithredu'n annibynnol ar unrhyw fuddiannau preifat, llywodraethol neu wleidyddol
Rydym yn ceisio:
- rhoi sicrwydd i'r cyhoedd bod arian a fwriedir ar gyfer dibenion elusennol yn cael ei ddefnyddio gan elusennau yn unol â'r gyfraith elusennau
- rhoi sicrwydd i'r cyhoedd bod sefydliadau sydd â statws 'elusen' yn gyfreithlon, yn gweithredu'n annibynnol, ac yn dilyn eu dibenion elusennol yn unig
- sicrhau bod y cyhoedd yn cael cymaint o fynediad am ddim â phosibl i wybodaeth briodol am elusennau a'u gweithgareddau
- sicrhau bod ymddiriedolwyr elusen yn ymgymryd â'u dyletswyddau a'u cyfrifoldebau fel y bo'n ofynnol gan y gyfraith
- hyrwyddo safonau uchel o lywodraethu ac atebolrwydd gan elusennau
Brig y dudalen
Beth rydym yn ei wneud
Ein man cychwyn yw bod:
- elusennau yn atebol yn gyhoeddus am yr arian y maent yn ei dderbyn a'r breintiau a gânt oherwydd eu statws elusennol
- yr ymddiriedolwyr sy'n gyfrifol am weinyddu a rheoli elusennau
- mae'r rhan fwyaf o ymddiriedolwyr yn gwneud gwaith da o ran hyrwyddo a sicrhau bod gwaith eu helusen yn effeithiol, ac ateb anghenion eu buddiolwyr, a bod lefelau camddefnydd yn weddol isel
Fodd bynnag, bydd sefyllfaoedd pan fydd rhaid i ni gydweithio ag elusennau neu'r sector elusennol os ystyrir bod gweithredoedd ymddiriedolwyr yn creu risgiau difrifol neu os oes risgiau sy'n effeithio ar y sector neu rannau o'r sector, neu os yw'n briodol i ni arfer ein pwerau cyfreithiol.
Wrth ymgymryd â'n gwaith byddwn yn dilyn y gofynion rheoleiddio gwell yn Neddf Elusennau 1993. Mae hyn yn golygu y byddwn yn gymesur, yn atebol, yn gyson, yn dryloyw ac yn targedu achosion dim ond pan fydd angen i ni weithredu.
Mae'r Ddeddf hefyd yn ei gwneud hi'n ofynnol i ni ystyried yr angen i ddefnyddio ein hadnoddau yn y ffordd fwyaf effeithlon, effeithiol ac economaidd2. Byddwn yn blaenoriaethu ein gweithredoedd er mwyn sicrhau bod ein hadnoddau'n cael eu defnyddio yn y ffordd fwyaf effeithiol. Ni fyddwn yn ymyrryd mewn achosion unigol os oes camau eraill y gallwn ni neu eraill eu cymryd a fydd yn cael mwy o effaith ac yn cynrychioli gwerth gwell am arian.
Fel rheoleiddiwr elusennau rydym yn:
Mynd ati'n rhagweithiol i asesu risg
Rydym yn asesu'n rhagweithiol y math o risgiau a natur y risgiau sy'n effeithio ar
- y sector
- is-sector arbennig
- nifer sylweddol o elusennau
- ffydd y cyhoedd mewn unplygrwydd elusennau yn fwy cyffredinol
Rhown bwyslais ar atal problemau. Gwnawn hyn drwy
- roi pwyslais ar waith rhagweithiol, yn hytrach na gwaith adweithiol, er mwyn adnabod a rheoli risgiau
- defnyddio'r wybodaeth a gawn o amryw o ffynonellau (gan gynnwys, er enghraifft, gwaith rheoleiddio, gwaith gydag asiantaethau eraill, ac ymwybyddiaeth o newidiadau i'r amgylchedd y mae elusennau'n gweithredu ynddo) er mwyn deall y risgiau i eiddo elusen a buddiolwyr ac i ffydd a hyder y cyhoedd yn y sector. Adolygwn y risgiau hyn yn gyson a'u defnyddio i benderfynu ar ein blaenoriaethau
- adnabod risgiau'n gynnar a darparu canllawiau priodol, hawdd eu defnyddio i fynd i'r afael â risgiau o'r fath
|
Enghraifft
Roedd newid yn yr amgylchedd economaidd yn cael effaith fawr ar ffynonellau incwm elusennau. Roedd posibilrwydd y byddai rhai elusennau'n cau a bod hyn yn peri risg i asedau a buddiolwyr elusennol. Roeddem wedi ystyried y ffordd fwyaf cost-effeithiol o ymateb. Datblygwyd canllawiau byr, hygyrch ar ansolfedd a rheoli adnoddau yn ystod cyfnodau anodd. Lansiwyd ymgyrch ymwybyddiaeth i sicrhau ein bod yn cyrraedd y nifer mwyaf posibl.
Enghraifft
Roedd y rhaglen seneddol wedi tynnu sylw at fesur arfaethedig a fyddai'n cael goblygiadau ar gyfer annibyniaeth rhai elusennau a'u gallu i gyflawni eu dibenion. Roeddem wedi gweithio gyda thîm o'r llywodraeth oedd yn datblygu'r mesur i sicrhau ei fod yn unol â fframwaith y gyfraith elusennau.
|
Cofrestru elusennau
Adeg cofrestru rydym yn disgwyl i'r ymddiriedolwyr fod yn glir ynghylch dibenion a gallu eu helusen i gydymffurfio â holl ofynion bod yn elusen. Mae hyn yn golygu bod
- y baich ar sefydliad i ddangos ei statws elusennol a byddwn yn darparu canllawiau cyffredinol ar y we i gynorthwyo yn hyn o beth
- disgwylir i'r ymddiriedolwyr fodloni eu hunain bod y sefydliad yn gymwys i gael statws elusennol a'i fod wedi deall eu rôl a'u cyfrifoldebau
- byddwn yn defnyddio llai o adnoddau i asesu elusennau sydd â dogfennau llywodraethol enghreifftiol neu safonol a byddwn yn sicrhau bod cofrestru'n gyflymach yn yr achosion hyn
- byddwn yn canolbwyntio ein hadnoddau ar y ceisiadau newydd a chymhleth hyn sy'n cynnwys materion a allai effeithio ar statws elusennol neu sy'n profi neu'n datblygu'r fframwaith elusennol.
|
Enghraifft
Derbyniwyd cais cofrestru gan gymdeithas rhieni athrawon oedd wedi defnyddio dogfen lywodraethol enghreifftiol a gytunwyd â ni gan y corff mantell i gymdeithasau rhieni athrawon. Dangosodd y cais fod gweithgareddau'r sefydliad yn seiliedig at ddibenion elusennol er budd y cyhoedd ac roedd yr holl wybodaeth oedd ei hangen arnom, gan gynnwys am yr ymddiriedolwyr, yn gyflawn. Byddem yn prosesu'r math hwn o gais cofrestru yn gyflym.
|
|
Enghraifft
Derbyniwyd cais cofrestru gan glwb bridge lleol gyda'r diben o hyrwyddo chwaraeon amatur trwy hyrwyddo'r gêm bridge. Er mwyn bod yn elusennol roedd rhaid i'r ymgeisydd ddangos bod chwarae bridge yn gallu hyrwyddo iechyd rhywun. Roeddem wedi ystyried y dystiolaeth a roddwyd i ni gan y ceisydd ac yn fodlon bod hyn wedi cael ei ddangos a bod yr holl agweddau eraill ar statws elusennol a budd cyhoeddus wedi cael eu bodloni. Cafodd y clwb ei gofrestru fel elusen, y cyntaf o'i fath i gael ei gofrestru.
|
Darparu gwybodaeth gyhoeddus am elusennau
Fel ffordd allweddol o fod yn atebol mae'n ofynnol i elusennau ddarparu gwybodaeth gyhoeddus allweddol, a gwneud hynny'n brydlon. Byddwn yn:
- sicrhau bod y Gofrestr Elusennau wedi'i diweddaru ar gael ar-lein am ddim
- tynnu sylw at yr elusennau hynny sydd heb gydymffurfio â'r gofynion am wybodaeth sylfaenol
- rhoi'r baich ar ymddiriedolwyr i gyflenwi gwybodaeth gywir
- gwirio sampl o gyfrifon fel mater o arfer bob blwyddyn a chymryd camau dilynol
- monitro tueddiadau yn y data a gawn gan elusennau
|
Enghraifft
Mae gwybodaeth gyhoeddus am yr holl elusennau cofrestredig ar gael gan gynnwys manylion am incwm, gwariant, gweithgareddau a chyfrifon trwy ein Cofrestr Elusennau ar-lein. Mae hyn yn sicrhau bod elusennau cofrestredig yn dryloyw a bod manylion amdanynt ar gael yn hawdd i'r cyhoedd. Rydym hefyd yn tynnu sylw at yr elusennau hynny a'u hymddiriedolwyr sy'n cyflwyno eu cyfrifon yn hwyr.
|
Rhoi cyngor ac arweiniad
Disgwylir i bob elusen gofrestredig weithredu yn unol â'r gyfraith elusennau ac ystyried ein canllawiau rheoleiddio cyhoeddedig. Byddwn yn:
- amlinellu'r egwyddorion y mae'n rhaid i ymddiriedolwyr eu dilyn wrth reoli a gweinyddu eu helusen, y gall elusennau unigol eu dehongli yn ôl eu hamgylchiadau
- darparu ystod o gyngor a chanllawiau ar y we sy'n gymwys i'r rhan fwyaf o elusennau
- cyfeirio elusennau at y cyngor a'r canllawiau sydd ar gael gan sefydliadau eraill a chymeradwyo safonau proffesiynol perthnasol
- amlinellu'r gofynion cyfreithiol allweddol o ran cydymffurfio â'r gyfraith elusennau
- gweithio gyda chyrff sector i gynhyrchu cyngor generig neu gyngor sy'n gymwys i gategorïau arbennig o elusennau
- rhoi cyngor unigol i elusennau mewn amgylchiadau lle y gallwn ni yn unig (ar wahân i'r llys) roi cyngor awdurdodol, naill ai o dan adran 29 o Ddeddf Elusennau 1993 neu yn gyffredinol, a lle byddai methu â gwneud hynny'n cael effaith ddifrifol ar allu ymddiriedolwyr i gydymffurfio â'u dyletswyddau cyfreithiol
- rhoi cyngor mewn achosion cymhleth o uno ac ad-drefnu elusennau
- rhoi cyngor rheoleiddio os oes pryderon difrifol o ran gweinyddu elusen i helpu ymddiriedolwyr i gyflawni eu dyletswyddau'n briodol neu lle mae risg difrifol o beidio â chydymffurfio â gofynion cyfreithiol
|
Enghraifft
Mae elusen yn rhedeg ymgyrch yn erbyn profi cynhyrchion harddwch ar anifeiliaid. Mae'n defnyddio ein canllaw ar-lein i sicrhau ei bod yn cyd-fynd â fframwaith y gyfraith elusennau a'i bod yn cynnal eu dibenion elusennol. Fodd bynnag, mae rhai cwestiynau ganddynt am y delweddau y maent yn cynnig eu defnyddio ar gyfer yr ymgyrch ac maent yn cysylltu â ni am gyngor. Rydym yn eu cyfeirio at yr Awdurdod Safonau Hysbysebu sy'n gyfrifol am reoleiddio hysbysebion cyhoeddus.
|
Caniatâd grant neu gymeradwyo defnyddio pwerau elusen
Os oes rhaid i'r Comisiwn roi caniatâd cyfreithiol neu ddefnyddio ei bwerau3 bydd y Comisiwn yn
- egluro'r fframwaith cyfreithiol a'r egwyddorion sy'n gymwys ar gyfer pob caniatâd
- lle y bo'n bosib darparu prosesau symlach ar gyfer rhoi caniatâd, gan ofyn am yr wybodaeth sydd ei hangen i sicrhau'r caniatâd
- os yw'n briodol, galluogi elusennau i 'hunanardystio' neu hunanwasanaethu eu newidiadau gofynnol - er enghraifft, drwy wneud mwy o ddefnydd o ddatganiadau ymddiriedolwyr
- rhoi caniatâd o dan adran 26 o Ddeddf Elusennau 1993 dim ond mewn amgylchiadau lle mae'r mater y tu hwnt i bwerau'r ymddiriedolwyr (ac ni all yr ymddiriedolwyr roi pŵer i'w hunain o dan adran 74D o Ddeddf Elusennau 1993) ac eithrio mewn achosion o fudd ymddiriedolwyr, dadl eithafol, gwrthdaro buddiannau neu os yw materion arwyddocaol neu bwysig iawn eraill yn codi
- creu cynlluniau cy-près i newid amcanion elusen o dan adrannau 16 ac 13 o Ddeddf Elusennau 1993 dim ond os na all yr ymddiriedolwyr newid eu dibenion o dan eu pwerau eu hunain (gyda neu heb gydsyniad y Comisiwn), neu newid eu dibenion o dan adran 74C o Ddeddf Elusennau 1993
- gwrthod unrhyw gais am ganiatâd cyfreithiol os nad oes unrhyw faterion difrifol a fyddai'n cyfiawnhau arfer ein pwerau ac mae'n cael ei geisio dim ond er mwyn rhoi sicrwydd
|
Enghraifft
Roedd cwmni elusennol wedi cysylltu â ni i ofyn am gydsyniad cyfreithiol i newid ei herthyglau cymdeithasu er mwyn iddo allu cyflogi ymddiriedolwr. Roeddem wedi ei gyfeirio at ein gwefan lle roedd y cwmni wedi cwblhau ffurflen ar-lein yn esbonio'r rhesymau am y newid a rhoddwyd y cydsyniad o dan adran 64 o Ddeddf Elusennau 1993.
|
Ymyrryd mewn achosion difrifol neu mewn achosion o ddiffyg cydymffurfio neu gamddefnydd
Rydym yn delio â phroblemau mewn elusennau mewn nifer o ffyrdd gwahanol yn dibynnu ar
- beth yw'r broblem
- difrifoldeb y broblem
- y dystiolaeth i'w chefnogi
- effaith y broblem
- beth sydd ei angen i'w datrys
Byddwn yn defnyddio ein pwerau'n gymesur yn ôl natur a lefel y risg a'n heffaith phosibl. Hyd yn oed os oes pryderon rheoleiddio gennym ac rydym yn cymryd camau pellach, efallai na fydd, mewn rhai achosion, yn gymesur i ni ymchwilio i'r elusen. Weithiau bydd y defnydd gorau o'n hadnoddau, a'r effaith orau, yn cael ei gwireddu trwy ganolbwyntio ar ddarparu cyngor ac arweiniad rheoleiddio cywirol i roi'r elusen yn ôl ar sail gadarn.
Mae ein rôl reoleiddio yn canolbwyntio ar ymddiriedolwyr elusen. Gall fod achosion o gamddefnydd neu drosedd o fewn elusennau, ac rydym yn teimlo bod ymddiriedolwyr elusen yn eu trin yn effeithiol eu hunain, ac felly mae llai o alw i ni ymyrryd. Os yw rhywbeth yn mynd o'i le mewn elusen disgwyliwn i'r ymddiriedolwyr fod yn gyfrifol am unioni pethau. Os yw'n fater difrifol rydym hefyd yn disgwyl i'r ymddiriedolwyr ein hysbysu drwy baratoi 'adroddiad digwyddiad difrifol'. Os oes rhaid i ni ymyrryd, disgwylir i'r ymddiriedolwyr gydweithio â ni i ddatrys y broblem.
Ni fyddwn yn ymwneud ag anghydfodau mewnol. Os yw anghydfod mewnol yn codi rydym yn disgwyl i elusennau wneud ymdrechion difrifol i ddatrys y mater drwy gyfryngu. Efallai y byddwn yn ymyrryd os oes rhaid egluro pwy yw'r ymddiriedolwr, neu os yw ymyrraeth reoleiddio arall yn briodol.
Os oes pryderon difrifol o gamddefnyddio elusen, gallwn ymchwilio a chychwyn ymchwiliad statudol o dan Adran 8 o Ddeddf Elusennau 1993. Mae ystod o bwerau statudol gennym y gallwn eu defnyddio i rwystro camddefnydd a diogelu asedau elusennol a buddiolwyr, gan gynnwys:
- pwerau casglu gwybodaeth sy'n gofyn i ni gael gwybodaeth neu ddogfennau neu sy'n gofyn i unigolion a enwir gwrdd â ni i ateb cwestiynau
- pwerau diogelu dros dro sy'n ein galluogi i ddiogelu eiddo elusen am gyfnod dros dro tra ein bod yn parhau i ymchwilio
- pwerau adfer sy'n ein galluogi i weithredu atebion hirdymor i broblemau sy'n codi'n aml mewn ymchwiliad
Nid ydym yn awdurdod erlyn ac mae ymchwilio i droseddau honedig yn gyfrifoldeb asiantaethau gorfodi'r gyfraith. Rydym yn gweithio gydag asiantaethau, rheoleiddwyr ac adrannau eraill o'r Llywodraeth i'n helpu i wireddu ein hamcanion, neu ategu eu gwaith ac osgoi rheoleiddio deuol. Os oes problem o fewn elusen sy'n cael sylw digonol gan asiantaeth arall (neu asiantaethau eraill) ni fyddwn yn ymgysylltu i raddau helaeth ac eithrio os gallwn ychwanegu gwerth, neu gael effaith gadarnhaol benodol ar weinyddu'r elusen, neu'r sector, sydd y tu allan i gylch gwaith yr asiantaeth arall.
|
Enghraifft
Roedd ymddiriedolwyr elusen wedi rhoi gwybod i ni am ddigwyddiad difrifol yn ymwneud â thwyll honedig a gyflawnwyd gan drysorydd yr elusen. Roedd yr heddlu yn gyfrifol am yr ymchwiliad troseddol i'r achos o dwyll ac roeddem wedi cyfnewid gwybodaeth â nhw o dan ein porth cyfreithiol a pharhau i gydweithio â nhw trwy gydol yr ymchwiliad. Fodd bynnag, roedd rhaid i ni gydweithio'n uniongyrchol hefyd â'r ymddiriedolwyr i fynd i'r afael â phryderon rheoleiddio am ddiffyg rheolaethau ariannol a gweithdrefnau monitro'r elusen. Roeddem wedi sicrhau bod yr ymddiriedolwyr yn deall eu dyletswyddau cyfreithiol, wedi rhoi cyngor cywirol iddynt ynghylch sut i gryfhau eu polisïau a'u gweithdrefnau ariannol mewnol i atal y digwyddiad rhag codi eto a sicrhau eu bod yn cymryd camau i adfer cronfeydd a gamddefnyddiwyd.
|
|
Enghraifft
Codwyd pryderon am ansawdd gofal mewn cartref gofal, gan gynnwys bod y rhain wedi codi o ganlyniad i lywodraethu a rheoli gwael gan yr ymddiriedolwyr. Roedd asiantaethau eraill wedi bod yn bennaf gyfrifol am benderfynu a oedd problem ynghylch ansawdd addysg neu ofal, nid y Comisiwn. Er y byddai caniatáu safon isel o ofal yn golygu bod yr ymddiriedolwyr heb gyflawni yn eu dyletswyddau, roedd yr asiantaeth arall wedi arwain yr ymchwiliad i'r mater. Roedd penderfynu a oedd angen i ni gymryd camau i ddatrys y llywodraethu a'r rheolaeth wael yn dibynnu ar yr ymddiriedolwyr, ac a oeddent yn gwrthod derbyn y casgliadau a chymryd camau cywirol. Mae'n bosib y bydd rhaid i ni ymyrryd a sicrhau bod yr ymddiriedolwyr yn rheoli materion llywodraethu yn well yn y dyfodol ac os oes angen penodi ymddiriedolwyr newydd a fyddai'n gwneud hynny.
|
Brig y dudalen
Sut rydym yn penderfynu pryd a sut i weithredu
Mae peth o'n gwaith yn effeithio ar bob elusen, peth ohono'n effeithio ar grŵp arbennig o elusennau ac mae peth ohono wedi'i dargedu ar elusennau unigol. Mae fframwaith cyffredin gennym ar gyfer penderfynu pryd a sut i ymwneud â rhaglenni gwaith rhagweithiol yn ogystal â phryd a sut i ymateb i achosion unigol.
Byddwn yn seilio ein hasesiadau ar ein dadansoddiad o'r wybodaeth y byddwn yn eu casglu, eu dal neu'n eu derbyn.
Cam un - Pryd mae angen i'r Comisiwn weithredu?
Ein man cychwyn yw gofyn:
- A yw'r broblem wedi'i chynnwys yn gyfan gwbl neu'n rhannol o fewn ein cylch gwaith4?
- A yw'n cynnwys defnyddio pŵer rheoleiddio y gallwn ni yn unig ei ddefnyddio?
- Ydy'r ymddiriedolwyr yn gallu datrys y broblem eu hunain?
- Ydy asiantaethau cyhoeddus eraill mewn sefyllfa well i weithredu?
- A oes gan y Comisiwn ganllawiau cyhoeddus a fydd yn datrys y broblem?
- Ydy'r broblem yn un sydd mor ddifrifol ac felly mae er lles y cyhoedd i ni weithredu?
Cam dau - os ydyw, beth yw natur a lefel y risg dan sylw?
Pan fyddwn yn gweithredu, bydd natur ein camau rheoleiddio yn cael eu llywio gan:
- natur y risg sy'n codi gan y broblem - rydym yn ymwneud yn bennaf â mynd i'r afael â'r risgiau hynny sydd:
- yn cael effaith ar hygrededd statws elusennol a'i freintiau
- yn herio diogelu asedau elusennol, gwasanaethau neu fuddiolwyr neu bob un o'r rhain
- effeithio'n sylweddol ar ymddiriedaeth a ffydd gyhoeddus mewn elusennau ac enw da elusennau'n gyffredinol
- lefel y risg, fel y'i heffeithir gan:
- y gallu i'r ymddiriedolwyr ddatrys y broblem eu hunain
- y risg gweddilliol os na wnânt hynny
- proffil a maint yr elusen
- hanes cydymffurfio'r elusen
- yr effaith ar fuddiolwyr neu asedau elusennol
- unrhyw effaith neu oblygiadau ehangach i elusennau'n gyffredinol neu i grŵp arbennig o elusennau
- y broblem ac a yw'n rhan o duedd ehangach, boed ar gyfer yr elusen neu'r is-sector neu elusennau'n gyffredinol
- cymhlethdod y broblem, ac a allai osod cynsail
- unrhyw ystyriaethau budd cyhoeddus ehangach
- materion eraill lle mae ein profiad neu wybodaeth yn dweud wrthym y dylem weithredu er budd y cyhoedd
Cam tri - beth yw'r ymateb mwyaf effeithiol yn yr amgylchiadau?
Byddwn yn ystyried y ffordd orau o ddatrys yr achos neu'r broblem dan sylw
- pa ganllawiau sydd eisoes yn bodoli
- a fydd gweithredu yn cael effaith arwyddocaol ar ddatrys y broblem
- i ba raddau y bydd unrhyw effaith negyddol a ddaw o weithredu yn ei chael ar yr elusen
- y risgiau a'r effaith o beidio â gweithredu
- y goblygiadau o ran adnoddau
Nid yw lefel gynyddol o ymwneud ag elusen neu broblem o reidrwydd yn golygu bod rhywbeth wedi mynd o'i le. Yn syml gall olygu bod yr asesiad risg wedi adnabod effaith bosibl ac mae hynny'n gofyn am fwy o weithredu neu graffu rheoleiddio.
Byddwn yn adolygu lefel ein gweithredu'n achlysurol ar gyfer achosion arbennig neu ddarnau arbennig o waith. Hefyd byddwn yn adolygu'n gyson a yw eraill mewn sefyllfa well i weithredu neu ddelio â'r broblem.
Yn yr achosion mwyaf difrifol o bryder rheoleiddio byddwn yn penderfynu p'un ai i ddefnyddio ein pwerau ymchwilio ffurfiol a chychwyn ymchwiliadau statudol. Oherwydd y goblygiadau posibl o ran adnoddau i ni, ac i'r elusen, byddwn yn gweithredu fel hyn dim ond os oes angen gwneud hynny, ac mewn nifer cyfyngedig o achosion.
Ymchwiliadau statudol i elusennau: Canllawiau i elusennau a'u cynghorwyr (CC46)
Ein hymagwedd reoleiddio tuag at ddiogelu budd y cyhoedd mewn elusennau - sut rydym yn asesu risgiau a rheoli adnoddau
Darllen y ddelwedd Fframwaith Risg fel testun
Brig y dudalen
Cwynion a phryderon am elusennau
Byddwn yn asesu cwynion a phryderon am elusennau y cawn wybod amdanynt yn erbyn y fframwaith uchod, er mwyn penderfynu pa achosion i ddelio â nhw a pha fath o weithredu fydd ei angen.
Nid ydym yn gweithredu fel gwasanaeth cwyno sy'n ystyried pob cwyn ar ran yr achwynwyr. Rydym yn asesu ac yn penderfynu a oes problem neu bryder rheoleiddio ac os yw'n bodloni'r prawf uchod mae'n bosib y byddwn yn gweithredu. Efallai y byddwn yn gwrthod delio â phryder os ydym o'r farn nad yw er lles y cyhoedd i ddefnyddio ein hadnoddau i ymchwilio neu ddatrys y mater.
Mae modd apelio yn erbyn ein penderfyniadau cyfreithiol i'r Tribiwnlys Haen Gyntaf (Elusen) a'r Llysoedd.
Fel corff cyhoeddus, rydym yn gweithredu yn ôl egwyddorion cyfraith gyhoeddus sy'n gosod safonau ar gyfer gwneud penderfyniadau gweinyddol, hawliau dynol, cydraddoldeb a'r gyfraith wahaniaethu, a Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000. Rydym hefyd yn dilyn Deddf Diogelu Data 1998 wrth drin data personol.
Mae ein gwefan yn esbonio sut y byddwn yn delio â chwynion am y Comisiwn Elusennau.
Brig y dudalen
Beth nad ydym yn ei wneud
Nid ydym yn:
- rhoi cyngor i elusennau unigol mewn sefyllfaoedd lle y gallant gael yr wybodaeth y mae ei hangen arnynt o'r canllawiau ar ein gwefan neu o fan arall
- gweithredu os yw aelod o'r cyhoedd yn anghytuno â'r penderfyniadau a wnaed yn gyfreithlon gan yr ymddiriedolwyr elusen, waeth pa mor amhoblogaidd y gallai'r penderfyniadau hynny fod
- ymwneud ag anghydfodau mewnol neu allanol y mae'r ymddiriedolwyr yn gyfrifol am eu datrys
- ymwneud â materion nad ydynt yn peri risg difrifol i statws, asedau, gwasanaethau neu fuddiolwyr yr elusen
- deilio ag achosion o wasanaeth gwael gan elusen os nad oes unrhyw risg cyffredinol i'w gwasanaethau, ei buddiolwyr neu ei hadnoddau
- ymwneud â materion sy'n gyfrifoldeb corff statudol neu gorff goruchwylio arall
- delio â materion sy'n ymwneud ag anghytundeb ynghylch telerau cyflenwi contract neu lefel neu ansawdd gwasanaeth a ddarperir gan elusennau
- gweithredu os yw camau cyfreithiol yn cael eu cymryd gan barti arall yn erbyn elusen ac eithrio mewn amgylchiadau lle mae angen i ni ystyried rhoi caniatâd cyfreithiol neu gyngor ffurfiol i'r ymddiriedolwyr
|
Enghraifft
Mae achwynydd yn cysylltu â ni gyda phroblem am elusen y maent yn credu sy'n torri rheoliadau cynllunio. Mae'r gŵyn yn ymwneud â materion cynllunio ac nid y gyfraith elusennau neu risg i asedau elusennau. Rydym yn cyfeirio'r elusen at ganllawiau ar y we sy'n esbonio nad yw'n fater y gall y Comisiwn Elusennau ddelio ag ef, a mater i'r awdurdod cynllunio perthnasol yw hwn.
|
Troednodiadau
1. Adran 1B Deddf Elusennau 1993
2. Adran 1D (2)3 Deddf Elusennau 1993
3. Mae'r pwerau yn cynnwys adrannau 26, 16 a 36 o Ddeddf Elusennau 1993
4. A yw'n broblem sydd wedi'i chynnwys o fewn ein hawdurdodaeth fel y rheoleiddiwr elusennau sy'n gweithredu yng Nghymru a Lloegr? A yw'n broblem sy'n uniongyrchol berthnasol i hyrwyddo ein hamcanion statudol? A yw o fewn ein swyddogaeth a'n dyletswyddau i weithredu?
Brig y dudalen