Pan fyddwn yn monitro elusennau

Fel rheoleiddiwr modern, mae arolygiaeth reoleiddio o bryderon sy'n ymwneud â chamddefnyddio a diffyg cydymffurfio yn y sector yn bwysig. Mae'n arf bwysig wrth adnabod a chanfod camddefnydd o fewn elusennau ac amharu ar weithgareddau'r rhai sy'n ceisio camddefnyddio elusennau.

Mae'r gwaith hwn yn cael ei gyflawni gan yr Uned Monitro Cydymffurfio a'i phrif bwrpas yw monitro elusennau os oes pryderon gennym fod diffyg cydymffurfio difrifol wedi digwydd, neu os credwn fod risg arwyddocaol o ddiffyg cydymffurfio difrifol o fewn yr elusen. Gwnawn hynny gan ddefnyddio'r wybodaeth sydd gennym am y sector a'r camddefnydd ohono a'n profiad o ddelio â'r pryderon hyn.

Mae arolygu a monitro rheoleiddio o elusennau yn gymesur ac wedi'i dargedu. Mae'n cynnwys archwilio cyfrifon yn briodol ac wedi'i dargedu, gan sicrhau bod yr ymddiriedolwyr wedi cymryd y camau y maen nhw wedi addo eu cymryd a chynnal ymweliadau cydymffurfio.

Hefyd, mae'n bosib y bydd angen i ni arolygu'n fanwl oherwydd na allwn gymryd camau ar unwaith er mwyn mynd i'r afael â phryderon sy'n cael eu codi gyda ni oherwydd bod ymchwiliad arall yn drech na'n hymchwiliad ni, neu geisio adnabod yn gynnar yn y broses yr elusennau hynny a allai fod â'r risg mwyaf, er mwyn i ni allu rhoi cyngor ac arweiniad rheoleiddio priodol a gweithredu fel rhwystr i'r rhai sy'n ceisio eu camddefnyddio.

Ymweliadau cydymffurfio

Yn 2008 dechreuwyd ar raglen o ymweliadau cydymffurfio ag elusennau. Mae'r ymweliadau yn ddull monitro pwysig sy'n rhoi cyfle i ni archwilio natur a difrifoldeb y pryderon sydd wedi dod at ein sylw ond sydd hefyd yn gweithredu fel rhwystr i'r rhai sydd am gamddefnyddio elusennau. Pwrpas yr ymweliadau hyn yw sicrhau bod yr elusen yn cydymffurfio â'r fframwaith cyfreithiol a rheoleiddio a sicrhau bod yr ymddiriedolwyr yn cyflawni eu dyletswyddau a'u cyfrifoldebau fel ymddiriedolwyr.

Cynhaliwyd 14 ymweliad yn 2008-09. Ar 31 Ionawr 2010, cynhaliwyd dros 14 o ymweliadau ers Ebrill 2009. Ar gyfer yr ymweliadau cynnar, roedd y materion allweddol yn delio â materion llywodraethu, pryderon cyfrifyddu ac adrodd am ddigwyddiadau difrifol. Bydd themâu allweddol a materion cyffredinol sydd wedi codi o'r ymweliadau a gynhaliwyd yn 2009-10 yn cael eu hadrodd yn Elusennau yn ôl ar y Trywydd Iawn 2009-10 a gaiff ei gyhoeddi yn ddiweddarach eleni.

Fel arfer bydd ymweliadau cydymffurfio yn canolbwyntio ar gydymffurfio er mwyn adnabod meysydd o bryder ac nid dim ond cynnal gwiriad cyffredinol o'r elusen. Er enghraifft, gall ymweliad gynnwys dilysu bod y camau oedd yn ofynnol cyn hyn gan y Comisiwn gan yr ymddiriedolwyr wedi cael eu cwblhau, neu gynnal ymchwiliad o gofnodion ariannol yr elusen, neu gynnal asesiad o arferion rheoli risg yr elusen.

Cyn cynnal ymweliad cydymffurfio, defnyddiwn Fframwaith Risg a Chymesuredd ar gyfer gwaith Cydymffurfio'r Comisiwn i asesu a yw'n ffordd briodol y gellir ei chyfiawnhau o ddelio â'r achos. Hefyd defnyddiwn feini prawf penodol i'n helpu i benderfynu pa elusennau i ymweld â nhw.

© Hawlfraint y Goron

© 2011 Hawlfraint y Goron          Hysbysiad Hawlfraint, Ymwadiad a Datganiad Preifatrwydd