Yn yr adran hon...

Beth sy'n newdd?

Dolenni gwe defnyddiol yn ôl pwnc

Nid yw'r Comisiwn Elusennau yn gyfrifol am gynnwys unrhyw wefannau a restrir yma, ac nid yw'n cymeradwyo'r safbwyntiau a fynegir ynddynt o reidrwydd. Ni all y Comisiwn Elusennau warantu y bydd y dolenni hyn yn gweithio trwy'r amser ac nid oes ganddo unrhyw reolaeth dros argaeledd unrhyw un o'r safleoedd hyn.

Mae pob safle a restrir isod yn agor mewn ffenestr newydd.

Pa fath o sefydliad ydych chi'n chwilio amdano?

Brig y dudalen


Adnoddau

Community Accountancy National Network
www.communityaccounting.org/

Mae'r safle hwn yn darparu gwybodaeth ar wasanaethau cyfrifyddu cymunedol lleol. Mae gwybodaeth, hyfforddiant a gwasanaethau ar gael, weithiau'n rhad ac am ddim, drwy'r gwasanaethau cymorth lleol hyn. Maent yn rhoi cymorth gyda chadw llyfrau, cynllunio, gweithdrefnau ariannol, y gyflogres, cyfrifon blynyddol a materion rheoli ariannol eraill.

Counselling Directory
www.counselling-directory.org.uk

Pwrpas y safle yw cynnig rhwydwaith cymorth cwnsela mawr i'r DU, gan alluogi'r rhai sydd mewn gofid i gael hyd i gwnselydd sy'n agosach iddynt ac sy'n briodol i'w anghenion. Mae'n wasanaeth rhad ac am ddim, cyfrinachol a fydd yn annog y rhai sydd mewn gofid i geisio cymorth. Mae'r wefan hefyd yn cynnwys nifer o adrannau ar anhwylderau emosiynol (yr adran mathau o ofid) ac yn rhoi ychydig o ystadegau defnyddiol. Mae pob cwnselydd ar y safle sydd wedi cyflwyno ei broffil naill ai wedi anfon copi o'i gymwysterau a'i yswiriant atom, neu wedi'i gofrestru gyda chorff proffesiynol ar-lein gyda chodau moeseg ac arfer cymeradwy sy'n sicrhau ei broffesiynoldeb.

The Cranfield Trust
http://www.cranfieldtrust.org/

The Cranfield Trust yw un o brif ddarparwyr cymorth rheoli rhad ac am ddim i'r sector gwirfoddol yn y DU. Gan weithio gyda chofrestr o wirfoddolwyr medrus o'r byd masnachol, mae'r Ymddiriedolaeth yn cynnig prosiectau ymgynghori ar draws ystod eang o feysydd rheoli.

Charities Safety Group
http://www.csg.org.uk/

Mae'r Charities Safety Group yn bodoli i helpu elusennau a mudiadau gwirfoddol i fodloni eu gofynion cyfreithiol o ran iechyd a diogelwch. Mae'r aelodau yn bobl sy'n gweithio yn y sector ac yn wynebu'r her hon. Mae'r Grŵp yn darparu cyfarfodydd ar bynciau allweddol, cymorth, gwybodaeth, dysgu ar y cyd ac yn gweithio gyda rheoleiddwyr i sicrhau bod y sector yn cael ei gydnabod.

Charity Logistics
http://www.charitylogistics.org/

Mae'n darparu cymorth i elusennau ar faterion sy'n ymwneud â logisteg / cyfleusterau gan geisio helpu elusennau i arbed arian pan fyddant yn prynu offer TG, lle swyddfa a dosbarthu parseli.

Charity Trustee Networks (ctn)
http://www.trusteenet.org.uk/

Charity Trustee Networks yw'r elusen genedlaethol sy'n cefnogi ymddiriedolwyr elusennau a mudiadau gwirfoddol. Mae ctn yn ceisio gwella'r wybodaeth, canllawiau a chymorth sydd ar gael i ymddiriedolwyr trwy rwydweithiau, gwefan, cyfeirio a gwasanaethau.

Investing in Volunteers
www.investinginvolunteers.org.uk

Investing in Volunteers yw safon ansawdd y DU ar gyfer pob sefydliad sy'n cynnwys gwirfoddolwyr yn eu gwaith. Mae'r Safon yn galluogi sefydliadau i gynnal adolygiad cynhwysfawr o'u dulliau rheoli gwirfoddolwyr, a hefyd dangos yn gyhoeddus eu hymrwymiad at wirfoddoli.

LawWorks
http://www.lawworks.org.uk/

Law Works - the Solicitors Pro Bono Group - mae'n cynnig dull o gysylltu elusennau ac eraill gyda chyngor cyfreithiol pro bono.

PFRA (Public Fundraising Regulatory Association)
http://www.pfra.org.uk/

Mae PFRA yn gweithio i sicrhau bod codi arian ar y stryd ac o ddrws i ddrws o'r safon orau bosibl.

Small Charities Coalition
www.smallcharities.org.uk/

Mae'r Small Charities Coalition yn bodoli i helpu elusennau bach i fanteisio ar y sgiliau, y profiad a'r adnoddau y mae eu hangen arnynt i gyflawni eu hamcanion. Mae'n debyg i wasanaeth paru sector gwirfoddol rhad ac am ddim, sy'n cynnig modd i elusennau bach helpu ei gilydd i gyflawni eu nodau a'u hamcanion trwy gyfenwid y sgiliau a'r adnoddau sydd ganddynt, a'r rhai sydd eu hangen arnynt.

ThirdSectorJobs
http://www.thirdsectorjobs.co.uk/

Safle swyddi arbenigol i bobl sy'n gweithio yn y sector elusennol a gwirfoddol neu a hoffai weithio yn y sectorau hynny. Mae'n ymestyn i'r gwasanaeth recriwtio llwyddiannus sydd eisoes yn cael ei ddarparu gan y cylchgrawn Third Sector i gynnig atebion o'r safon orau gan ymgeiswyr perthnasol o'r radd flaenaf.

Volunteering England
http://www.volunteering.org.uk/

Mae Volunteering England yn asiantaeth wirfoddol annibynnol sydd wedi ymrwymo i gefnogi, galluogi a dathlu gwirfoddoli yn ei holl amrywiaeth. Mae ein gwaith yn cysylltu ymchwil, arloesi ym maes polisi, arferion da a rhoi grantiau drwy gynnwys gwirfoddolwyr.

Brig y dudalen


Cronfeydd Elusennau Segur

Community Foundation Network
www.communityfoundations.org.uk

Mae Community Foundation Network wedi lansio prosiect o'r enw Boost. Prosiect arloesol yw hwn sy'n rhyddhau arian mewn cronfeydd ymddiriedolaeth segur ac anweithgar ac yn eu defnyddio i gyllido'r sector gwirfoddol a chymunedol mewn ardaloedd lleol. Efallai yr hoffai elusennau sy'n ei chael hi'n anodd i barhau neu sy'n wynebu cael eu dirwyn i ben gysylltu â Community Foundation Network i weld a allai'r Community Foundation lleol helpu.

Brig y dudalen


Cydraddoldeb

Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol
www.equalityhumanrights.com/en/Pages/default.aspx

Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn gorff cyhoeddus anadrannol. Mae'n ymgymryd â'r gwaith a arferai gael ei wneud gan y Comisiwn Cyfle Cyfartal, y Comisiwn dros Gydraddoldeb Hiliol a'r Comisiwn Hawliau Anabledd. Mae hefyd yn gyfrifol am agweddau eraill ar gydraddoldeb: oedran, cyfeiriadedd rhywiol a chrefydd neu gred, yn ogystal â hawliau dynol. Mae ei weithgareddau yn cynnwys gorfodi'r gyfraith, hyrwyddo arferion da a gwasanaeth cymodi i'r anabl.

Brig y dudalen


Cyrff Mantell

(Action with Communities in Rural England) ACRE
http://www.acre.org.uk/

Mae'n cefnogi datblygiad cymunedol gwledig cynaliadwy ac yn cynnwys gwybodaeth i neuaddau pentref a chysylltiadau i Gynghorau Cymunedol Gwledig.

Almshouse Association, The
http://www.almshouses.org/

Mae'n darparu cyngor a hyfforddiant i ymddiriedolwyr, clercod a wardeniaid elusennau elusendai.

Association of Charitable Foundations
http://www.acf.org.uk/

The Association of Charitable Foundations (ACF) yw'r corff mantell ar gyfer ymddiriedolaethau a sefydliadau rhoi grantiau yn y DU. Mae ACF yn cynnal Philanthropy UK sydd wedi cyhoeddi "A Guide to Giving" sy'n cynnig arweiniad a chyngor ar y dewisiadau sydd ar gael i roddwyr, gan gyflwyno syniadau ac ymagweddau newydd at roi. Mae ACF hefyd yn cyhoeddi gwybodaeth i'r rhai sy'n ceisio grantiau ar sut i wneud cais i ymddiriedolaethau a sefydliadau elusennol.

Association of Chief Executives of Voluntary Organisations (acevo)
http://www.acevo.org.uk/

ACEVO yw'r corff aelodaeth i brif weithredwyr mudiadau'r sector gwirfoddol. Mae ACEVO yn gweithio i gysylltu, datblygu a chynrychioli arweinwyr y sector.

Association of Children's Hospices (ACH)
http://www.childhospice.org.uk/

The Association of Children's Hospices (ACH) yw'r llais cenedlaethol ar gyfer gwasanaethau hosbis plant, a thrwyddynt y plant a'r teuluoedd sy'n eu defnyddio. Mae ACH yn cydweithio â sefydliadau eraill i gefnogi datblygu arferion gorau a darparu gwasanaethau hosbis plant ar draws y DU.

Association of Medical Research Charities (AMRC)
www.amrc.org.uk/

Mae AMRC yn sefydliad aelodaeth sy'n cynnwys prif elusennau y DU sy'n cyllido ymchwil meddygol ac iechyd. Mae'n darparu gwybodaeth, arweiniad a llais cynrychioliadol cryf i'w aelodau a'r sector elusennol ehangach sy'n ymwneud ag ymchwil meddygol ac iechyd.

Community Matters
http://www.communitymatters.org.uk/

Community Matters yw'r Ffederasiwn Cenedlaethol o Sefydliadau Cymunedol. Mae'n darparu ystod eang o wasanaethau a chymorth i adeiladu gallu'r sector cymunedol ledled y DU. Mae Community Matters hefyd yn cynhyrchu ac yn achredu'r safonau cenedlaethol cymeradwy ar gyfer sefydliadau sy'n gweithio yn y gymuned - VISIBLE Communities(tm).

Community Transport Association
http://www.communitytransport.com/

Mae'r Community Transport Association yn elusen genedlaethol sy'n tyfu'n gyflym gan roi llais ac arweinyddiaeth, dysgu a chymorth menter i ystod eang o sefydliadau sy'n cynnig atebion cludiant arloesol a hyblyg i gyflawni newid cymdeithasol yn eu cymunedau.

Cyngor Cenedlaethol Mudiadau Gwirfoddol
http://www.ncvo-vol.org.uk/

Gwefan y corff mantell i fudiadau gwirfoddol yn Lloegr, sy'n cynnwys porth ar-lein i wybodaeth am y sector gwirfoddol ac 'ask NCVO', ffynhonnell arweiniad i ymddiriedolwyr ar ystod eang o faterion ymarferol a chyfreithiol.

www.ncvo-vol.org.uk/asp/search/main.aspx

Cyngor Cenedlaethol Mudiadau Gwirfoddol Gogledd Iwerddon (NICVA)
http://www.nicva.org/

NICVA yw Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Gogledd Iwerddon, sef corff mantell i grwpiau gwirfoddol, cymunedol ac elusennol yng Ngogledd Iwerddon. Mae'n darparu gwybodaeth, cyngor a hyfforddiant i dros 1000 o aelodau cyswllt ar ystod eang o faterion o ymgynghoriaeth reoli a chyllid, i ddatblygu polisi a lobïo.

Cyngor Cenedlaethol Mudiadau Gwirfoddol yr Alban (SCVO)
http://www.scvo.org.uk/

Cyngor Cenedlaethol Mudiadau Gwirfoddol yr Alban (SCVO) yw'r corff mantell i fudiadau gwirfoddol yn yr Alban.

Cyngor Cenedlaethol Sefydliadau Gofal Plant Gwirfoddol (NCVCCO)
http://www.ncvcco.org/

Grŵp mantell sy'n cynrychioli elusennau gofal plant. Mae'n darparu cyhoeddiadau, briffio ac ymgynghoriadau i aelodau ar faterion gofal plant a theulu ac yn cynrychioli barn aelodau i'r llywodraeth ganol, ranbarthol a lleol.

Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru
http://www.wcva.org.uk/

Safle rhyngweithiol sy'n cynnig gwybodaeth i'r sector gwirfoddol yng Nghymru ac am y sector hwnnw.

Cymdeithas Genedlaethol Gweithredu Gwirfoddol a Chymunedol (NAVCA)
http://www.navca.org.uk/

Gall sefydliadau gwirfoddol a chymunedol lleol ddefnyddio gwefan NAVCA i gael hyd i'w sefydliad seilwaith lleol agosaf yn Lloegr. Yng Nghymru, gweler Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru uchod. Mae'r cynghorau hyn yn darparu cymorth a hyfforddiant i fudiadau gwirfoddol lleol a grwpiau cymunedol ar nifer o faterion ymarferol, gan gynnwys materion rheoli, TG a gwirfoddoli.

Cymdeithas Siopau Elusennol
http://www.charityshops.org.uk/

Cymdeithas Siopau Elusennol yw'r unig sefydliad aelodaeth sydd wedi ymrwymo i gefnogi elusennau sy'n rhedeg siopau fel rhan o'u gweithgareddau codi arian. Drwy ddod ag arbenigedd ynghyd ac ymuno i hyrwyddo buddiannau cyffredin, mae'r Gymdeithas yn helpu aelodau i weithredu eu siopau yn y modd mwyaf effeithiol posibl. Mae aelodau'n amrywio o'r elusennau cenedlaethol mwyaf i hosbisau lleol.

Charity Finance Directors' Group (CFDG)
http://www.cfdg.org.uk/

Y sefydliad aelodaeth i'r rhai sy'n gweithio ym maes elusennau ac sy'n gyfrifol am reolaeth ariannol.

Charity Logistics
http://www.charitylogistics.org/

Mae'n darparu cymorth i elusennau ar faterion sy'n ymwneud â logisteg / cyfleusterau gan geisio helpu elusennau i arbed arian pan fyddant yn prynu offer TG, lle swyddfa a dosbarthu parseli.

Charity Trustee Networks (ctn)
http://www.trusteenet.org.uk/

Charity Trustee Networks yw'r elusen genedlaethol sy'n cefnogi ymddiriedolwyr elusennau a mudiadau gwirfoddol. Mae ctn yn ceisio gwella'r wybodaeth, canllawiau a chymorth sydd ar gael i ymddiriedolwyr trwy rwydweithiau, gwefan, cyfeirio a gwasanaethau.

Evangelical Alliance
http://www.eauk.org/

Corff mantell sy'n cynrychioli Cristnogion efengylaidd yn y DU wedi'i ffurfio o aelod-eglwysi o dros 30 o wahanol enwadau.

Cymorth i eglwysi annibynnol
Er mwyn helpu eglwysi annibynnol i'w sefydlu eu hunain yn effeithiol pan fyddant yn cofrestru fel elusen, rydym newydd gytuno ar Weithred Ymddiriedolaeth enghreifftiol a nodiadau canllaw ategol sy'n addas ar gyfer rhai eglwysi annibynnol sydd ag aelodaeth heb bleidlais, gyda'r Gynghrair Efengylaidd a'r Gynghrair Efengylaidd Affricanaidd a Charibïaidd. I gael y ddogfen, a gwybodaeth bellach, cliciwch ar y ddolen ganlynol: www.eauk.org/modeltrustdeed.

Hospital Broadcasting Association, The
www.hbauk.com/

Cefnogi a chynrychioli dros 250 o sefydliadau darlledu ysbyty annibynnol, y rhan fwyaf ohonynt yn elusennau cofrestredig.

Institute of Fundraising
www.institute-of-fundraising.org.uk/

Y corff proffesiynol sy'n cynrychioli ac yn cefnogi codwyr arian. Gweler hefyd Microsafle Institute of Fundrasing Tax-Effective Giving.

Mosques and Imams National Advisory Board, The (MINAB)
www.minab.org.uk/

Corff ymgynghorol a hwyluso dan arweiniad y gymuned sy'n gorff annibynnol. Mae'n cydweithio â holl draddodiadau ac ysgolion Mwslimaidd ac yn eu cynrychioli.

Small Charities Coalition
www.smallcharities.org.uk/

Mae'r Small Charities Coalition yn bodoli i helpu elusennau bach i fanteisio ar y sgiliau, y profiad a'r adnoddau y mae eu hangen arnynt i gyflawni eu hamcanion. Mae'n debyg i wasanaeth paru sector gwirfoddol rhad ac am ddim, sy'n cynnig modd i elusennau bach helpu ei gilydd i gyflawni eu nodau a'u hamcanion trwy gyfenwid y sgiliau a'r adnoddau sydd ganddynt, a'r rhai sydd eu hangen arnynt.

Brig y dudalen


Gwobrau Cyfrifon Elusennau

Gwobrau Adroddiadau Ariannol Ar-lein Elusennau

Mae'r gwobrau hyn, sy'n cael eu hyrwyddo gan ICAEW (Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig Cymru a Lloegr) yn cydnabod rhagoriaeth mewn adroddiadau ariannol ac yn annog arferion gorau mewn cyfrifon ariannol ar-lein gydag enghreifftiau o elusennau o bob lliw a llun.

Brig y dudalen


Gwybodaeth Gyfreithiol

Charity Law Association
www.charitylawassociation.org.uk

Mae'r Charity Law Association wedi'i sefydlu gyda'r nod o alluogi'r rhai sy'n cynghori ar y gyfraith elusennau neu'n ei defnyddio i ddod ynghyd, cyfnewid syniadau a deallusrwydd a defnyddio eu profiad a'u harbenigedd er budd y sector cyhoeddus.

Deddf Elusennau 1992
www.opsi.gov.uk/acts/acts1992/Ukpga_19920041_en_1.htm

Deddf Elusennau 1993
www.opsi.gov.uk/acts/acts1993/Ukpga_19930010_en_1.htm

Deddf Elusennau 2006
www.opsi.gov.uk/acts/acts2006/ukpga_20060050_en_1

In-House Charity Lawyers Group
www.cigroup.org.uk/charity.aspx

Mae'r In-House Charity Lawyers Group yn cael ei redeg gan gyfreithwyr mewn elusennau i gyfreithwyr mewn elusennau, gan gynnig modd i'w aelodau gwrdd, rhwydweithio a chyfenwid syniadau, profiadau ac adnoddau/arferion gorau.

Brig y dudalen


Gwybodaeth y Llywodraeth

info4local
http://www.info4local.gov.uk/

Mae info4local yn borthol y llywodraeth sy'n cynnig ffordd gyflym a hawdd i awdurdodau lleol gael hyd i'r wybodaeth berthnasol a chysylltu â gwefannau adrannau'r llywodraeth ganol, asiantaethau a chyrff cyhoeddus.

Llyfrfa Ei Mawrhydi (HMSO)
http://www.opsi.gov.uk/

Mae'n helpu i gael gafael ar wybodaeth ac ailddefnyddio gwybodaeth y llywodraeth, gan gynnwys deunyddiau Hawlfraint y Goron a deddfwriaeth seneddol.

Office of Civil Society
http://www.cabinetoffice.gov.uk/resource-library/charity-law-and-regulation

Adran Swyddfa'r Cabinet sy'n gyfrifol am hyrwyddo datblygiad y sector gwirfoddol a chymunedol ac yn annog pobl i fod yn weithgar yn eu cymunedau, yn enwedig mewn ardaloedd difreintiedig.

Swyddfa Cofnodion Cyhoeddus (PRO)
www.nationalarchives.gov.uk

Swyddfa Cofnodion Cyhoeddus yw archif cenedlaethol Cymru, Lloegr a'r Deyrnas Unedig. Mae'n dwyn ynghyd ac yn cadw cofnodion y llywodraeth ganol a'r llysoedd, ac yn sicrhau eu bod nhw ar gael i bawb sydd am ymgynghori â nhw.

Brig y dudalen


Hyfforddiant ac Arweiniad

ACIE (Association of Charity Independent Examiners)
http://www.acie.org.uk/

Mae ACIE yn gymdeithas aelodaeth i archwilwyr annibynnol cyfrifon elusennau trwy'r DU, gan gynnig hyfforddiant, cynadleddau a chymwysterau proffesiynol.

Cyngor Cenedlaethol Mudiadau Gwirfoddol
http://www.ncvo-vol.org.uk/

Gwefan y corff mantell i fudiadau gwirfoddol yn Lloegr, sy'n cynnwys porth ar-lein i wybodaeth am y sector gwirfoddol ac 'ask NCVO', ffynhonnell arweiniad i ymddiriedolwyr ar ystod eang o faterion ymarferol a chyfreithiol.

www.ncvo-vol.org.uk/asp/search/main.aspx

Charity Resource Network
www.cfdg.org.uk/crn/home.aspx

Gwasanaeth gwybodaeth ar-lein y Charity Finance Directors Group i gefnogi rheolwyr elusennau. Wedi'i ddarparu er mwyn i aelodau gael gafael ar amryw o ddogfennau ymarferol, canllawiau a dolenni i safleoedd cysylltiedig. Mae'r safle yn rhoi canllaw defnyddiol i wybodaeth ar-lein a thaflenni cymorth gan amryw o gyrff a sefydliadau arbenigol.

Directory of Social Change (DSC)
http://www.dsc.org.uk/

Mae DSC yn ffynhonnell wybodaeth a chymorth annibynnol i'r sector gwirfoddol. Mae'n

  • darparu cyrsiau hyfforddi ymarferol, cynadleddau, seminarau ac ymchwiliadau briffio ac
  • yn cyhoeddi canllawiau cyfeirio, llawlyfrau, cyfnodolion a CD-ROMs

Mae hefyd yn darparu cronfa ddata gynhwysfawr o ymddiriedolaethau rhoi grantiau yn http://www.trustfunding.org.uk/

The ICT Hub
http://www.icthub.org.uk/

Mae'r ICT Hub yn hybu technoleg gwybodaeth i elusennau. Mae ystod o adnoddau rhad ac am ddim ganddynt wedi'u paratoi'n benodol ar gyfer grwpiau newydd bach gan gynnwys: 'ICT Signposting Guide for Small Voluntary and Community Organisations' ac 'ICT briefings for organisations who are starting out on their ICT journey', sydd ar gael ar-lein a hefyd fel cyhoeddiadau copi caled 'How to cost and fund ICT publication' and 'A guide to managing ICT'.

Institute of Legacy Management (ILM)
http://www.ilmnet.org/

Mae'r ILM yn sefydliad di-elw sy'n hyrwyddo safonau proffesiynol mewn gweinyddu etifeddiaeth ac mae'n darparu gwasanaethau ymgynghori, hyfforddi a chymorth i'w aelodau.

Non-domestic Rates – guidance for charities
www.local.odpm.gov.uk/finance/busrats/nndr.pdf

Sefydliad y Cyfrifwyr Siartredig
http://www.icaew.co.uk/index.cfm?AUB=TB2I_7267,MNXI_7267&CFID=5876438&CFTOKEN=2569135

Cymorth ar faterion cyfrifyddu i elusennau, gan gynnwys dolenni i nifer o safleoedd defnyddiol eraill.

Sefydliad Ysgrifenyddion a Gweinyddwyr Siartredig (ICSA)
http://www.icsa.org.uk/

Cymorth i weinyddwyr elusennau drwy hyfforddiant a chymwysterau, cyhoeddiadau, recriwtio ymddiriedolwyr a fforwm i aelodau a'r rhai nad ydynt yn aelodau.

Mae gwefan ICSA hefyd yn cynnwys cyfres o nodiadau cyfarwyddyd a dogfennau enghreifftiol i ymddiriedolwyr a gweinyddwyr elusennau.

Brig y dudalen


Iechyd a Diogelwch

Charities Safety Group
http://www.csg.org.uk/

Mae'r Charities Safety Group yn bodoli i helpu elusennau a mudiadau gwirfoddol i fodloni eu gofynion cyfreithiol o ran iechyd a diogelwch. Mae'r aelodau yn bobl sy'n gweithio yn y sector sy'n wynebu'r her hon. Mae'r Grŵp yn darparu cyfarfodydd ar bynciau allweddol, cymorth, gwybodaeth, dysgu ar y cyd ac yn gweithio gyda rheoleiddwyr i sicrhau bod y sector yn cael ei gydnabod.

Brig y dudalen


Nawdd a Chyllid

CAF Bank
www.cafonline.org/Default.aspx?page=6880

CCLA Investment Management Ltd
http://www.ccla.co.uk/

Mae CCLA yn darparu'r ystod fwyaf eang o gronfeydd yn benodol i elusennau ac rydym yn buddsoddi arian i lawer mwy o elusennau nag unrhyw reolwr cyllid arall yn y DU. Ein cleientiaid, sef elusennau a sefydliadau di-elw, sy'n berchen arnom yn llwyr, ac rydym yn rheoli ein busnes er eu budd nhw.

CharityBank
http://www.charitybank.org/

Mae Charity Bank yn elusen lle y gall pobl adneuo arian i'w ddefnyddio dim ond ar gyfer elusennau a mentrau cymdeithasol - benthyca nid rhoi. Mae hefyd yn fanc di-elw a'i unig fusnes yw darparu cyllid fforddiadwy ar gyfer gwaith elusennol.

Funding Central
www.fundingcentral.org.uk/Default.aspx

Gwefan am ddim i elusennau, mudiadau gwirfoddol a mentrau cymdeithasol. Mae'r safle yn cynnig mynediad i filoedd o gyfleoedd nawdd a chyllid a hefyd stôr o offer ac adnoddau sy'n helpu sefydliadau i ddatblygu strategaeth incwm cynaliadwy sy'n briodol i'w hanghenion.

Grants for Listed Buildings used as Places of Worship
http://www.lpwscheme.org.uk/

Gwybodaeth am grantiau'r llywodraeth i helpu gyda chostau TAW sy'n codi wrth atgyweirio a chynnal a chadw adeiladau rhestredig a ddefnyddir fel lleoedd addoli yn bennaf.

ImpACT coalition
http://www.impactcoalition.org.uk/

Mae'r gynghrair ImpACT yn ceisio cynrychioli barn yr ystod lawn a'r amrywiaeth o sefydliadu sector gwirfoddol drwy wella Atebolrwydd, Eglurder a Thryloywder (ImpACT).

Improving financial relationships with the third sector: Guidance to funders and purchasers (Trysorlys EM, 2006)
www.hm-treasury.gov.uk/spend_ccr_guidance.htm

Canllawiau i adrannau'r llywodraeth a chyllidwyr eraill sy'n dosbarthu arian cyhoeddus i elusennau a sefydliadau trydydd sector. Bydd yn helpu elusennau a sefydliadau eraill sy'n gwneud cais am gyllid i ddeall yr ystyriaethau y mae'n rhaid i gyllidwyr eu cofio.

Y Loteri Genedlaethol
www.lotteryfunding.org.uk/

Mae'r tudalennau hyn yn rhoi gwybodaeth ar sut i wneud cais i gael arian o'r Loteri Genedlaethol.

Memorials Grant Scheme
http://www.memorialgrant.org.uk/

Cynllun grant interim sy'n dychwelyd ar ffurf cymorth grant swm y TAW a godir ar waith adeiladu, adnewyddu a chynnal a chadw cofebau cymwys. Disgwylir i'r cynllun bara tan 2011.

Trust funding
http://www.trustfunding.org.uk/

Mae'n cynnwys manylion cynhwysfawr a chyfoes am yr holl ymddiriedolaethau rhoi grantiau ym mhob cyfeirlyfr DSC neu CAF. Ar gael drwy danysgrifio, ewch i'r dudalen hafan am esboniad.

Brig y dudalen


Rheoleiddwyr Eraill

Yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol (FSA)
www.fsa.gov.uk/Pages/index.shtml

Yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol (FSA) yw'r corff gwarchod annibynnol a sefydlwyd gan y llywodraeth i reoleiddio gwasanaethau ariannol a gwarchod eich hawliau.

Cofrestrfa Tir
www.landreg.gov.uk/assets/library/documents/lrpg014.pdf

Cyngor ar arferion gan y Gofrestrfa Tir ar drafodion tir.

Cyllid a Thollau EM
www.hmrc.gov.uk/charities

Mae'n cynnwys canllawiau ar faterion treth i elusennau, a rhoddwyr, ac yn delio â chwestiynau am elusennau a TAW gyda dolenni i gyhoeddiadau cyhoeddedig defnyddiol.

Cymdeithas Genedlaethol Cymru - Tai
www.wales.gov.uk/subihousing/index.htm

Mae'n rheoleiddio cymdeithasau tai yng Nghymru.

Housing Corporation
http://www.housingcorp.gov.uk/

Mae'n rheoleiddio ac yn cyllido cymdeithasau tai yn Lloegr.

Office of the Scottish Charity Regulator (OSCR)
http://www.oscr.org.uk/

Rheoleiddiwr elusennau yn yr Alban.

Regulator of Community Interest Companies (CICs)
http://www.cicregulator.gov.uk/

Mae'n rhoi gwybodaeth, cyngor a gwasanaeth rheoleiddio ar gyfer y math hwn o gwmni wedi'i lunio'n benodol ar gyfer y rhai sydd am weithredu er budd y gymuned yn hytrach nag er budd perchnogion y cwmni.

Swyddfa Cofnodion Troseddol (CRB)
http://www.homeoffice.gov.uk/agencies-public-bodies/crb/

Mae'r Swyddfa Cofnodion Troseddol (CRB) yn helpu cyflogwyr yng Nghymru a Lloegr i wneud penderfyniadau recriwtio mwy diogel. Mae hawl gan nifer o rolau, yn enwedig rhai sy'n cynnwys plant neu oedolion agored i niwed, gael gwiriad cofnod troseddol.

Ein nod yw helpu i ddiogelu plant ac oedolion agored i niwed drwy ddarparu gwasanaeth o'r radd flaenaf i gynorthwyo sefydliadau sy'n recriwtio pobl sydd â swyddi cyfrifol.

Tŷ'r Cwmnïau
http://www.companieshouse.gov.uk/

Gwybodaeth am gwmnïau.

Brig y dudalen


Rhoi

Association of Charitable Foundations

Mae'r Association of Charitable Foundations yn cyhoeddi "A Guide to Giving". Wedi'i gynhyrchu gan Philanthropy UK, mae'r canllaw hwn yn rhoi cyngor ar bob agwedd ar roi i elusennau. Mae'n cynnwys gweithred enghreifftiol a ffurflen gais y gellir eu defnyddio i sefydlu a chofrestru elusen rhoi grantiau yn gyflym [gweler Atodiadau A a B]. Roedd Philanthropy UK yn brosiect arbennig Association of Charitable Foundations.

Charities Aid Foundation
http://www.cafonline.org/

Gall Charities Aid Foundation helpu pobl sydd am roi un rhodd neu gyfrannu at amryw o elusennau drwy eu gwasanaethau rhoi'n effeithiol. Cysylltwch â nhw i gael gwybod am eu gwasanaethau amrywiol.

CharityBank
http://www.charitybank.org/

Mae Charity Bank yn elusen lle y gall pobl adneuo arian i'w ddefnyddio dim ond ar gyfer elusennau a mentrau cymdeithasol - benthyca nid rhoi. Mae hefyd yn fanc di-elw a'i unig fusnes yw darparu cyllid fforddiadwy ar gyfer gwaith elusennol.

Brig y dudalen


Rhoi Cymorth i Elusennau

CEDR (Canolfan Datrys Anghydfodau Effeithiol)
www.cedr.co.uk/

Mae CEDR (Canolfan Datrys Anghydfodau Effeithiol) a'r NCVO (Cyngor Cenedlaethol Mudiadau Gwirfoddol) yn rhedeg cynllun ar y cyd sy'n cael ei gyllido gan y Swyddfa Gartref i godi ymwybyddiaeth o gyfryngu drwy ddigwyddiadau hyfforddi, seminarau ac ati, ac mae hefyd yn cynnig gwasanaeth cyfryngu am bris gostyngol i elusennau.

The Cranfield Trust
http://www.cranfieldtrust.org/

The Cranfield Trust yw un o brif ddarparwyr cymorth rheoli rhad ac am ddim i'r sector gwirfoddol yn y DU. Drwy weithio gyda chofrestr o wirfoddolwyr medrus o'r byd masnachol, mae'r Ymddiriedolaeth yn cynnig prosiectau ymgynghori ar draws ystod eang o feysydd rheoli.

Charity Logistics
http://www.charitylogistics.org/

Mae'n rhoi cymorth i elusennau ar faterion sy'n ymwneud â logisteg / cyfleusterau gan geisio helpu elusennau i arbed arian pan fyddant yn prynu offer TG, lle swyddfa a dosbarthu parseli.

Charity Skills
http://www.charityskills.org/

Mae'n rhoi cymorth busnes, gwasanaethau Rhyngrwyd a hyfforddiant i fudiadau gwirfoddol yng Nghymru a Lloegr.

Charity SRI
http://www.charitysri.org/

Mae'n rhoi gwybodaeth ac adnoddau i elusennau ar fuddsoddiadau cyfrifol.

Charity Trustee Networks (ctn)
http://www.trusteenet.org.uk/

Charity Trustee Networks yw'r elusen genedlaethol sy'n cefnogi ymddiriedolwyr elusennau a mudiadau gwirfoddol. Mae ctn yn ceisio gwella'r wybodaeth, canllawiau a chymorth sydd ar gael i ymddiriedolwyr trwy rwydweithiau, gwefan, cyfeirio a gwasanaethau.

Employee Volunteering
www.employeevolunteering.org.uk

Mae'n hyrwyddo gwirfoddoli drwy ddarparu cymorth i gyflogwyr, gweithwyr ac elusennau.

Getting on Board
http://www.gettingonboard.org/

Mae Getting on Board yn ceisio cryfhau dulliau llywodraethu elusennau, drwy annog gweithwyr proffesiynol a gweithwyr sydd â sgiliau i ymuno â'u byrddau. Mae ei wasanaeth brocera yn helpu unigolion i gael hyd i'r cyfleoedd mwyaf addas.

Gwirfoddol Cymru
http://www.volunteering-wales.net/

Cymorth i wirfoddolwyr yng Nghymru.

Professionals4Free
www.professionals4free.org.uk/

Mae'n helpu i gael hyd i wasanaethau proffesiynol rhad ac am ddim.

Small Charities Coalition
www.smallcharities.org.uk/

Mae'r Small Charities Coalition yn bodoli i helpu elusennau bach i fanteisio ar y sgiliau, y profiad a'r adnoddau y mae eu hangen arnynt i gyflawni eu hamcanion. Mae'n debyg i wasanaeth paru rhad ac am ddim i'r sector gwirfoddol, sy'n cynnig modd i elusennau bach helpu ei gilydd i gyflawni eu nodau a'u hamcanion trwy gyfenwid y sgiliau a'r adnoddau sydd ganddynt, a'r rhai y mae galw amdanynt.

Volunteering England
http://www.volunteering.org.uk/

Mae Volunteering England yn asiantaeth wirfoddol annibynnol sydd wedi ymrwymo i gefnogi, galluogi a dathlu gwirfoddoli yn ei holl amrywiaeth. Mae ein gwaith yn cysylltu ymchwil, arloesi ym maes polisi, arferion da a rhoi grantiau drwy gynnwys gwirfoddolwyr.

Work With Us
http://www.workwithus.org/

Workwithus.org yw'r unig borth i elusennau, grwpiau gwirfoddol a chymunedol yn yr Alban.

Brig y dudalen


Rhoi'n Effeithiol i Elusennau

Charities Aid Foundation
http://www.cafonline.org/

Gall Charities Aid Foundation helpu pobl sydd am roi un rhodd neu gyfrannu at amryw o elusennau drwy eu gwasanaethau rhoi'n effeithiol. Cysylltwch â nhw i gael gwybod am eu gwasanaethau amrywiol.

Brig y dudalen

© Hawlfraint y Goron

© 2012 Hawlfraint y Goron          Hysbysiad Hawlfraint, Ymwadiad a Datganiad Preifatrwydd