Gwnewch gais amdani o'r Comisiwn Elusennau

Mae ein gwasanaethau ar-lein yn ei gwneud hi'n hawdd i chi:

Mae'r adran hon yn cynnwys ffurflenni PDF, taflenni gwybodaeth a chanllawiau ychwanegol:

Mae angen Adobe Reader® i weld neu argraffu dogfennau PDF. I gael gwybodaeth ar lwytho i lawr Adobe Reader®, gweler 'Cymorth gyda ffeiliau PDF'.

Brig y dudalen

 


Rhoi taliadau i ymddiriedolwyr eich elusen

Mae'r gyfraith yn dweud y gall ymddiriedolwr hawlio treuliau hanfodol am weithredu fel ymddiriedolwr ond ni all dderbyn unrhyw daliad arall gan eu helusen oni bai fod awdurdod penodol ar gyfer hyn. Er enghraifft, mae Deddf Elusennau 1993 (fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Elusennau 2006) yn darparu pwer penodol i dalu ymddiriedolwyr am y nwyddau neu'r gwasanaethau a ddarparant i'r elusen. Hefyd, mae'n bosibl bod awdurdod o'r fath yn bodoli yn nogfen lywodraethol eich elusen. Ym mhob achos, mae'n hanfodol bod unrhyw amodau sy'n gysylltiedig â'r awdurdod yn cael eu dilyn yn gaeth. Os nad yw unrhyw un o'r awdurdodau hyn yn addas, bydd angen cysylltu â ni os yw'r ymddiriedolwyr yn ystyried bod angen talu un neu fwy ohonyn nhw.

Mae canllawiau amrywiol gennym sy'n ymdrin â'r maes hwn. Fe gewch arweiniad cyffredinol yn ein cyhoeddiad Treuliau a thaliadau ymddiriedolwyr (CC11). Gallwch ddefnyddio'r ffurflen isod i wneud cais i ni am awdurdod, ac argymhellwn eich bod yn darllen y nodiadau canllaw yn gyntaf.

Brig y dudalen


Defnyddio gwaddol parhaol

Gall y rhan fwyaf o elusennau sydd â gwaddol parhaol ystyried defnyddio eiddo o'r fath. Gall penderfynu beth sydd a beth nad yw'n waddol parhaol fod yn faes cymhleth weithiau.


Trosglwyddo asedau o un elusen i'r llall o dan adran 74 o Ddeddf Elusennau 1993

  • Nodiadau canllawar Drosglwyddo eiddo elusennau llai. Sut y gall elusennau llai heb fod yn gwmnïau drosglwyddo eu hasedau i elusennau eraill
  • Datganiad ffurflen gais ar ran Ymddiriedolwyr elusen anghorfforedig fach sydd wedi pasio cynnig i drosglwyddo eiddo eu helusen i elusen arall neu elusennau eraill o dan adran 74

Brig y dudalen

© Hawlfraint y Goron

© 2011 Hawlfraint y Goron          Hysbysiad Hawlfraint, Ymwadiad a Datganiad Preifatrwydd