Diweddaru manylion eich elusen

Gallwch ddefnyddio ein gwasanaeth ar-lein i newid y manylion sydd gennym ar gyfer eich elusen. Dangosir peth o'r wybodaeth ar gofnod yr elusen ar y Gofrestr, felly mae'n bwysig eich bod yn ei diweddaru.

Gallwch ddiweddaru'r canlynol:

  • manylion cyswllt yr elusen
  • cyfeiriadau e-bost (ar ddefnydd y Comisiwn ac i'w dangos i'r cyhoedd)
  • diwedd y flwyddyn ariannol
  • manylion yr ymddiriedolwyr
  • cyfeiriad gwefan eich elusen
  • ble mae'ch elusen yn gweithredu
  • dosbarthiadau o elusennau
  • disgrifiad o weithgareddau
  • manylion cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu

Rhaid i chi gael cyfrinair unigryw yr elusen i ddefnyddio'r gwasanaeth ar-lein. Os nad yw'r cyfrinair gennych neu os oes angen un newydd arnoch, gallwch archebu cyfrinair arall.

Byddwn yn anfon y cyfrinair newydd atoch:

  • drwy'r e-bost os oes cyfeiriad e-bost gennym y gall y Comisiwn ei ddefnyddio ar gyfer yr elusen
  • drwy'r post (i gyfeiriad cyswllt yr elusen) os nad oes un gennym - caniatewch hyd at saith diwrnod i'w anfon

Fodd bynnag, dylech fod yn ymwybodol o'r canlynol:

  • mae archebu cyfrinair newydd yn golygu nad oes modd defnyddio unrhyw gyfrinair blaenorol a anfonwyd i'r elusen
  • gall cyfrineiriau gael eu harchebu drwy ein gwefan yn unig, felly peidiwch â ffonio neu ysgrifennu yn gofyn i ni anfon un atoch

Os yw'r manylion cyswllt neu e-bost sydd gennym ar gyfer eich elusen yn anghywir - ac ni allwch gyrchu ein gwasanaethau ar-lein am unrhyw reswm - dylech gysylltu â ni i'w diweddaru.

Gweler hefyd:

© Hawlfraint y Goron

© 2011 Hawlfraint y Goron          Hysbysiad Hawlfraint, Ymwadiad a Datganiad Preifatrwydd