Yn yr adran hon...

Beth sy'n newdd?

Adroddiadau Asesu Budd Cyhoeddus

(Ionawr 2012)

Welsh logo

Mae'r adran hon o'r wefan yn cynnwys adroddiadau'r asesiadau budd cyhoeddus a gynhaliwyd. Yma cewch wybod:

Am beth mae'r adroddiadau?

Rydym wedi cynhyrchu adroddiad o gasgliadau pob un o'r ugain asesiad a gynhaliwyd hyd yma. Mae'r rhain yn disgrifio'r elusen, yn archwilio a yw ei nodau yn gallu bod yn elusennol ac yn crynhoi i ba raddau y mae'n cael ei gweinyddu er budd cyhoeddus. Mae pob asesiad yn cael ei gynnal yn erbyn yr egwyddorion a nodwyd yn ein canllawiau cyffredinol. Hefyd rhown ein casgliadau ac unrhyw gamau rydym yn eu hargymell i'r ymddiriedolwyr neu'n gofyn iddynt eu cymryd.

Adroddiadau asesu budd cyhoeddus

Mae'r canlynol yn rhestr o'r adroddiadau asesu budd cyhoeddus fesul sefydliad, gyda dolen i'r cofnod ar gyfer pob elusen yn y Gofrestr Elusennau.

Elusennau adloniant a hamdden (Chwefror 2011)

Adroddiad

Cofnod yn y Gofrestr Elusennau

Tintagel Memorial Playing Fields Association
Wigan Leisure and Culture Trust
Birmingham City Football Club Community Trust
The Radlett Lawn Tennis Club

Elusennau'r Celfyddydau (Gorffennaf 2010)

Adroddiad

Cofnod yn y Gofrestr Elusennau

Royal Opera House, Covent Garden Limited
The Castle Players
Gwent Ballet Theatre Limited
Young Concert Artists Trust

Elusennau sy'n hyrwyddo crefydd (Gorffennaf 2009)

Adroddiad

Cofnod yn y Gofrestr Elusennau

United Christian Broadcasters Limited
Church Mission Society
London Sri Murugan Temple
Tara Mahayana Buddhist Centre

Ysgolion Annibynnol (Gorffennaf 2009 / Gorffennaf 2010)

Yng Ngorffennaf 2009, canfuwyd nad oedd dwy o'r ysgolion a gafodd eu hasesu gennym yn cael eu gweinyddu er budd cyhoeddus. Ers hynny mae'r ddwy wedi llunio cynlluniau budd cyhoeddus ac ym Mehefin 2010 daethom i'r casgliad fod yr ysgolion hyn wedi mynd i'r afael â chasgliadau'r asesiadau gwreiddiol. Mae crynodeb o'r casgliadau hyn wedi'u cynnwys yn y cofnodion isod ar gyfer y ddwy ysgol dan sylw.

Adroddiad

Cofnod yn y Gofrestr Elusennau

The Manchester Grammar School Foundation
Highfield Priory School Limited
Pangbourne College Limited
Manor House School Trust Ltd
S. Anselm's School Trust Limited

Elusennau cartref gofal (Gorffennaf 2009 / Mehefin 2010 /Ionawr 2012)

Yng Ngorffennaf 2009, canfuwyd nad oedd dau o'r cartrefi gofal a gafodd eu hasesu gennym yn cael eu gweinyddu er budd cyhoeddus. Ers hynny mae'r ddau wedi llunio cynlluniau budd cyhoeddus ac ym Mehefin 2010 daethom i'r casgliad fod y cartrefi gofal hyn wedi mynd i'r afael â chasgliadau'r asesiadau gwreiddiol. Mae crynodeb o'r casgliadau hyn wedi'u cynnwys yn y cofnodion isod ar gyfer y ddau gartref gofal dan sylw.

Adroddiad

Cofnod yn y Gofrestr Elusennau

Cornwall Old People's Housing Society (hefyd yn cael ei alw Perran Bay Home for the Elderly)
Penylan House Jewish Retirement & Nursing Home Caerdydd
The Rest Bay Convalescent Hotel

Beth ellir ei ddysgu o'r adroddiadau?

Yng Ngorffennaf 2009 cyhoeddwyd Asesiadau Budd Cyhoeddus- Casgliadau sy'n dod i'r amlwg ar gyfer Ymddiriedolwyr Elusennau. Gan ddefnyddio arsylwadau cyffredinol ac astudiaethau achos enghreifftiol o'r asesiadau a gwblhawyd yng Ngorffennaf 2009, mae'r adroddiad hwn yn rhoi'r canlynol i ymddiriedolwyr:

  • enghreifftiau arfer da o sut y mae elusennau wedi dangos eu bod yn bodloni'r egwyddorion budd cyhoeddus;

  • enghreifftiau o ble na chafodd egwyddorion budd cyhoeddus eu bodloni, a pham;

  • enghreifftiau o beth sydd wedi helpu ein hasesiadau budd cyhoeddus a beth oedd heb helpu;

  • manylion ynghylch pa newidiadau rydym yn cynnig eu gwneud i wella'r broses o asesu budd cyhoeddus.

Ym mis Mawrth 2011 byddwn ni'n cyhoeddi adroddiad pellach yn seiliedig ar ein casgliadau o'r ail rownd a'r rownd derfynol o asesiadau budd cyhoeddus.

Gwybodaeth arall

Mewn mannau eraill yn yr adran hon o'r wefan fe gewch yr wybodaeth ganlynol:

  • Cyflwyniad i asesiadau budd cyhoeddus

  • Geirfa o'r termau technegol neu arbenigol a ddefnyddir yn yr adroddiadau

Manylion cyswllt

Os oes unrhyw gwestiynau neu sylwadau gennych am ein gwaith asesu budd cyhoeddus cysylltwch â ni.

Dylid cyfeirio ymholiadau'r wasg a'r cyfryngau i swyddfa'r wasg.

Brig y dudalen

© Hawlfraint y Goron

© 2011 Hawlfraint y Goron          Hysbysiad Hawlfraint, Ymwadiad a Datganiad Preifatrwydd