Casgliadau sy'n dod i'r amlwg ar gyfer ymddiriedolwyr elusennau o waith asesu budd cyhoeddus y Comisiwn Elusennau: 2008-09
(Gorffennaf 2009)
Gallwch weld y fersiwn PDF lliw o Casgliadau sy'n dod i'r amlwg ar gyfer ymddiriedolwyr elusennau o waith asesu budd cyhoeddus y Comisiwn Elusennau: 2008-09 yma.
Y Comisiwn Elusennau yw rheolydd annibynnol elusennau yng Nghymru a Lloegr. Ei nod yw darparu'r dull rheoleiddio gorau posibl ar gyfer yr elusennau hynny er mwyn cynyddu eu heffeithiolrwydd a ffydd a hyder y cyhoedd. Mae'n rhaid i'r rhan fwyaf o elusennau gofrestru gyda'r Comisiwn, ond nid oes rhaid i rai mathau arbennig o elusennau gofrestru. Mae rhyw 190,000 o elusennau cofrestredig yng Nghymru a Lloegr.
Mae'r Comisiwn yn darparu ystod eang o gyngor ac arweiniad i elusennau a'u hymddiriedolwyr, a gall helpu gyda phroblemau yn aml. Rhaid i elusennau cofrestredig sydd ag incwm neu wariant blynyddol o fwy na £10,000 ddarparu gwybodaeth a chyfrifon blynyddol i'r Comisiwn. Mae pwerau eang gan y Comisiwn i ymyrryd mewn materion elusen os yw pethau wedi mynd o'i le.
Mae mwy o wybodaeth am y Comisiwn Elusennau ynghyd ag ystod o ganllawiau i elusennau i'w gweld ar ei gwefan www.charitycommission.gov.uk, neu drwy gysylltu â'r Comisiwn Elusennau Uniongyrchol:
Ffôn:: 0845 300 0218
Typetalk: 0845 300 0219
Trwy'r post:
Comisiwn Elusennau Uniongyrchol
Blwch SP 1227
Lerpwl
L69 3UG
Cynnwys
|
Adroddiad gan y Comisiwn Elusennau ar y casgliadau sy'n dod i'r amlwg ar gyfer ymddiriedolwyr elusennau o'i waith asesu budd cyhoeddus.
Mae'r adroddiad hwn yn bwriadu helpu elusennau gyda'u hadroddiadau budd cyhoeddus ond nid yw'n ganllaw budd cyhoeddus statudol.
|
A. Rhagair
Rydym wedi cyhoeddi ar ein gwefan adroddiadau manwl ar gasgliadau deuddeg asesiad budd cyhoeddus o elusennau unigol. Mae'r adroddiadau hyn yn rhoi manylion am y materion sydd wedi codi mewn achosion unigol a'n casgliadau a'n hargymhellion.
Mae'n rhy gynnar i dynnu unrhyw gasgliadau pendant o'n cyfres gyntaf o asesiadau budd cyhoeddus ynghylch gallu elusennau yn gyffredinol, neu rai mathau o elusennau, i fodloni'r gofyniad budd cyhoeddus. Fodd bynnag, teimlwn y gallai fod yn ddefnyddiol i elusennau pe byddwn yn nodi rhai pwyntiau cyffredinol o ddiddordeb ac arsylwadau cychwynnol am yr hyn rydym wedi'i ddysgu o'r ymarfer hwn hyd yma, ochr yn ochr â'n casgliadau sy'n dod i'r amlwg o gynnal yr asesiadau.
Wrth gwrs mae hon yn broses ddysgu i bawb, elusennau a'r Comisiwn Elusennau fel ei gilydd, ac nid dim ond i'r elusennau unigol sy'n ymwneud â'n cyfres gyntaf o asesiadau, ond ar gyfer y sector elusennau cyfan. Roedd nifer o enghreifftiau da o agweddau a aeth yn dda, a rhai meysydd lle y gellid gwella sut rydym yn asesu budd cyhoeddus a'r ffordd y mae elusennau'n dangos eu bod yn bodloni'r egwyddorion budd cyhoeddus. Ar y cyfan roedd dealltwriaeth yr elusennau a aseswyd o'r gofyniad budd cyhoeddus yn galonogol, gyda llawer o enghreifftiau ardderchog o sut y maent yn bodloni egwyddorion budd cyhoeddus. Hefyd rydym yn hyderus bod ein hymagwedd fesul achos o asesu budd cyhoeddus, sy'n ystyried amgylchiadau gwahanol elusennau, yn gywir.
Credwn po fwyaf y bydd ymddiriedolwyr elusennau yn ystyried y gofyniad budd cyhoeddus fel cyfle i adolygu'n weithredol, a bod yn agored ac yn dryloyw ynghylch sut y maent yn cyflawni nodau eu helusen er budd y cyhoedd, yn hytrach na'i ystyried yn faich neu'n rhwystr i'w orchfygu, y mwyaf y bydd yn helpu eu helusen i ddatblygu a chadw i fyny â'r amgylchiadau cymdeithasol ac economaidd y mae'n gweithredu ynddynt. Mae ein profiad o'r asesiadau budd cyhoeddus a gwblhawyd hyd yma wedi cryfhau ein cred y bydd codi ymwybyddiaeth o'r gofyniad budd cyhoeddus, ac annog elusennau i barhau i gael hyd i ffyrdd o sicrhau eu budd cyhoeddus mwyaf a chyfleu hynny'n dda, yn beth da o ran iechyd, cryfder ac enw da'r sector elusennau cyfan.
Rydym yn ddiolchgar i'r holl elusennau a gymerodd ran yn ein cyfres gyntaf o asesiadau budd cyhoeddus. Gobeithio y bydd yr hyn yr ydym ni, ac y maen nhw, wedi'i ddysgu o'r broses, yn helpu pob elusen i gael dealltwriaeth well o'r hyn y mae'n ei olygu yn ymarferol i gael nodau sydd er budd y cyhoedd a bydd yn helpu'r cyhoedd i weld beth y mae elusennau yn ei wneud i adlewyrchu buddion eu statws arbennig.
 |
Y Fonesig Suzi Leather
Cadeirydd
Andrew Hind
Prif Weithredwr
|
B. Cefndir a methodoleg
B1. Pwrpas yr adroddiad hwn
Yn yr adroddiad hwn, gan ddefnyddio arsylwadau cyffredinol ac astudiaethau achos enghreifftiol o'n cyfres gyntaf o asesiadau budd cyhoeddus, ceisiwn ddarparu'r canlynol i ymddiriedolwyr pob elusen:
- enghreifftiau arfer da o sut y mae elusennau wedi dangos eu bod yn bodloni'r egwyddorion budd cyhoeddus;
- enghreifftiau o ble na chafodd egwyddorion budd cyhoeddus eu bodloni, a pham;
- enghreifftiau o'r hyn sy'n helpu ein hasesiadau budd cyhoeddus; a
- manylion am yr hyn rydym wedi'i ddysgu o'r broses o asesu budd cyhoeddus.
B2. Cyd-destun
O dan Ddeddf Elusennau 2006, gall sefydliad fod yn elusen dim ond os oes ganddi nodau sydd:
- wedi'u cynnwys o fewn y disgrifiadau o ddibenion a restrir yn y Ddeddf; ac
- er budd y cyhoedd.
Nid yw'r gofyniad budd cyhoeddus yn ofyniad newydd i elusennau. Fodd bynnag, mae'r Ddeddf Elusennau yn tynnu sylw at y gofyniad hwn trwy gynnwys budd cyhoeddus yn benodol yn y diffiniad o ddiben elusennol. Yn ogystal, mae'r rhagdybiaeth bod rhai mathau o elusennau er budd y cyhoedd wedi cael ei dileu.
Mae gan y Comisiwn Elusennau, fel rheolydd annibynnol elusennau yng Nghymru a Lloegr, amcan statudol penodol i hybu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o weithrediad y gofyniad budd cyhoeddus a chyhoeddi canllawiau er mwyn cyflawni'r amcan hwn. Mae'n rhaid i ymddiriedolwyr ystyried ein canllawiau budd cyhoeddus wrth ymarfer unrhyw bwerau neu ddyletswyddau os yw'r canllawiau hynny yn berthnasol. Hefyd mae'n rhaid i ni sicrhau bod elusennau cofrestredig wedi'u sefydlu'n briodol ar gyfer nodau elusennol, a nodwedd angenrheidiol yn hyn o beth yw bod y nodau er budd y cyhoedd.
Mae ein rhaglen asesu budd cyhoeddus yn rhan o'r gwaith a wnawn i fodloni ein hamcan budd cyhoeddus statudol.
B3. Ein rôl wrth asesu budd cyhoeddus
I helpu esbonio'r gofynion a gyflwynwyd gan Ddeddf Elusennau 2006, rydym wedi cyhoeddi'r canllawiau canlynol, sydd ar gael ar ein gwefan.
Hefyd, ar gyfer pob cyhoeddiad, rydym wedi cyhoeddi dadansoddiad o'r gyfraith sy'n sail i'r canllaw hwnnw.
Mae'r Comisiwn Elusennau yn gyfrifol am gofrestru elusennau a hybu eu cydymffurfiaeth a'u hatebolrwydd. Wrth ymgymryd â'r rôl hon, pan fydd elusennau'n cofrestru ac wrth ddelio ag elusennau sydd eisoes wedi cofrestru, mae'n rhaid i ni ddehongli a chymhwyso'r gyfraith ar statws elusennol. Mae hyn yn cynnwys asesu budd cyhoeddus elusennau unigol. Mae Budd Cyhoeddus: Datganiad o'r sail ar gyfer rôl a gweithredoedd y Comisiwn Elusennau, sydd ar gael ar ein gwefan, yn esbonio ein hymagwedd at asesu budd cyhoeddus.
B4. Beth mae asesiad budd cyhoeddus yn ei gwmpasu
Rydym yn asesu:
- a yw nodau'r sefydliad wedi'u cynnwys o fewn y disgrifiadau o ddibenion yn Nedd Elusennau 2006 - sef dibenion sydd wedi cael eu cydnabod gan y Llysoedd neu'r Comisiwn Elusennau fel dibenion elusennol posibl ac sydd bellach wedi'u corffori mewn statud;
- a yw'r elusen yn gallu cael ei gweithredu yn unol â'r nodau hynny (a allai fod yn elusennol);
- a yw nodau'r elusen yn gallu cael eu cyflawni er budd y cyhoedd;
- a yw ymddiriedolwyr yr elusen yn cyflawni'r nodau hynny er budd y cyhoedd.
Mae adran F Elusennau a Budd Cyhoeddus yn nodi'n fwy manwl y meini prawf a ddefnyddiwn.
B5. Sut roeddem wedi dewis elusennau ar gyfer y rhaglen gyntaf o asesiadau
Yn ein rhaglen gyntaf o asesiadau roeddem wedi ystyried deuddeg elusen unigol:
- elusennau sy'n hyrwyddo crefydd (4 elusen); ac
- elusennau sy'n codi ffioedd, sy'n cynnwys:
- ysgolion annibynnol (5 elusen); a
- chartrefi gofal preswyl (3 elusen).
Roeddem wedi cynnwys yn fwriadol fath o elusen y cymerwyd ei bod er budd y cyhoedd, cyn y newidiadau a wnaed gan Ddeddf Elusennau 2006, ac oherwydd y lefel uchel o ddiddordeb cyhoeddus mewn sut y gallai'r gofyniad budd cyhoeddus effeithio arnynt, roeddem hefyd wedi cynnwys elusennau sy'n codi ffioedd.
Wrth ddewis yr elusennau unigol i'w hasesu o fewn y grwpiau hyn, defnyddiwyd y meini prawf dethol canlynol:
- elusennau o fewn pob grwp sy'n ddigon gwahanol o ran cymeriad, er enghraifft natur amcanion yr elusen a'r dulliau a ddefnyddir i hyrwyddo'r nodau;
- lledaeniad daearyddol ar draws Cymru a Lloegr;
- amrywiaeth o lefelau incwm;
- (yn achos elusennau sy'n codi ffioedd) amrywiaeth o ran nifer y defnyddwyr, dulliau mynediad a'r ffioedd a godir.
Mewn rhai achosion roedd yr elusennau a ddewiswyd wedi gwirfoddoli'n benodol i gymryd rhan yn y rhaglen asesu.
B6. Y casgliadau o'n hasesiadau unigol
Rydym wedi cynhyrchu adroddiad o'n casgliadau ar gyfer pob un o'r elusennau unigol a gafodd eu hasesu, ac mae pob un ar gael ar ein gwefan.
Mae'r adroddiadau hyn yn ymwneud â'r elusennau canlynol (mae'r rhifau cofrestredig wedi'u nodi mewn cromfachau ar ôl enw'r elusen):
Elusennau sy'n hyrwyddo crefydd:
Ysgolion annibynnol:
Cartrefi gofal preswyl:
C. All nodau'r elusen fod yn elusennol?
Yn yr adran hon rydym wedi nodi rhai materion mwy cyffredinol ac ehangach sy'n ymwneud â nodau elusennau ac a allant fod yn elusennol. Mae rhai o'r materion hyn yn cael eu hystyried yn fwy manwl yn adrannau C2 ac C3.
C1. Materion ehangach
O'r asesiadau a gynhaliwyd gwelwyd bod:
- adolygu nodau a dogfen lywodraethol elusen yn barhaus yn gallu helpu i osgoi 'gwyro o'r genhadaeth';
- gallai fod angen newid neu ehangu nodau elusen er mwyn sicrhau bod elusen yn parhau i ateb anghenion ei buddiolwyr ac ymateb i amgylchiadau cymdeithasol ac economaidd sy'n newid;
- os yw amgylchiadau cymdeithasol ac economaidd (gan gynnwys, er enghraifft, newidiadau mewn gofynion statudol) yn newid gallu elusen i hybu ei nodau, a hyfywedd economaidd yr elusen, gall fod o gymorth i'r ymddiriedolwyr ymgymryd ag adolygiad llawn o sefyllfa eu helusen (megis addasrwydd unrhyw adeiladau, ac oes modd cyflawni amcanion yr elusen yn well trwy ddulliau eraill);
- mae'n bwysig bod ymddiriedolwyr elusennau sydd ag amcanion lluosog yn gallu dangos sut y maent yn cyflawni pob un o'r nodau hyn er budd y cyhoedd.
C2. Gwyro o'r genhadaeth
Mae 'gwyro o'r genhadaeth' yn digwydd pan fydd elusen yn gwyro o'i nodau gwreiddiol neu benodedig. Mae nodau elusen yn bwysig wrth asesu budd cyhoeddus, oherwydd mae'n ofynnol bod y nodau er budd y cyhoedd. Felly, os yw elusen yn gwyro yn rhy bell o'i nodau penodedig, heb adolygu a newid y nodau hynny, mewn rhai achosion gall fod yn anodd iawn i asesu budd cyhoeddus yr elusen yn erbyn y nodau hynny.
Cydnabyddwn, dros amser, fod elusennau yn datblygu ac yn newid wrth i anghenion eu buddiolwyr, ac amgylchiadau cymdeithasol ac economaidd y maent yn gweithredu ynddynt, yn newid. Felly mae'n bwysig bod ymddiriedolwyr elusen yn adolygu nodau eu helusen yn gyson, er mwyn gwerthuso a ydynt yn parhau i fod yn ddefnyddiol ac er budd y cyhoedd.
|
Astudiaeth achos: The Rest Bay Convalescent Hotel
Yn yr achos hwn, sefydlwyd yr elusen yn wreiddiol gyda nodau i wella iechyd cleifion a lleddfu anabledd neu salwch cronig. Dros amser, roedd newid yn yr amgylchiadau cymdeithasol ac economaidd yn golygu nad oedd yr elusen yn darparu gofal preswyl mwyach, dirywiad sylweddol yn nifer y cleifion (neu bobl oedd yn anabl neu'n dioddef salwch cronig) o'r diwydiannau mwyngloddio a thrwm eraill a oedd wedi cyfeirio nifer sylweddol o breswylwyr i'r cartref cyn hyn, a dirywiad graddol yn nifer y bobl oedd yn aros yn y cartref.
Ar adeg ein hasesiad budd cyhoeddus, roedd yn ymddangos mai ffocws yr elusen oedd darparu gwyliau yn bennaf (ond nid yn unig) i bobl oedrannus neu anabl. Nid yw darparu gwyliau i'r cyhoedd yn nod elusennol, na darparu gwyliau i bobl oedrannus, ac eithrio os yw hynny'n benodol er mwyn darparu ar gyfer angen elusennol sy'n gysylltiedig â henaint. O ganlyniad i'r gostyngiad yn nifer y preswylwyr yn y cartref ac angen sicrhau bod y gwesty yn parhau i fod yn sefydlog yn ariannol, roedd yr ymddiriedolwyr yn cyfeirio gweithrediadau'r elusen tuag at ddarparu gwyliau. Er bod hynny'n cynnwys darparu gwyliau i bobl oedd ag angen elusennol trwy rinwedd eu henaint neu anabledd, nid oedd y polisi derbyn wedi'i gyfyngu'n benodol yn y ffordd hon a gallai pobl heb unrhyw angen elusennol o'r fath aros yn y gwesty.
Mae'n rhaid i fudd cyhoeddus unrhyw elusen fod yn gysylltiedig â hyrwyddo ei hamcanion penodedig, felly daethom i'r casgliad na allem benderfynu i ba raddau yr oedd yr elusen yn gweithredu er budd y cyhoedd oni bai a hyd nes bod yr elusen yn gweithredu o fewn ei nodau. Felly cynghorwyd ymddiriedolwyr yr elusen i ailystyried nodau'r elusen ac ystyried a ydynt yn parhau i allu cael eu hyrwyddo yn yr amgylchiadau economaidd a chymdeithasol sydd ohoni ac er budd yr elusen.
|
I gael gwybodaeth bellach gweler y canllawiau canlynol ein gwefan:
C3. Elusennau gydag amcanion lluosog
Gall fod mwy nag un nod gan nifer o elusennau. Os mai dyma yw'r achos, mae'n rhaid i ni sicrhau bod pob nod yn bodloni'r holl egwyddorion budd cyhoeddus.
|
Astudiaeth achos: United Christian Broadcasters Limited ('UCB')
Mae UCB yn elusen cyfryngau Cristnogol sy'n gweithredu o fewn y Deyrnas Unedig ac Iwerddon. Mae hefyd yn hybu gwaith mudiadau dyngarol y mae eu nodau a'u gweithgareddau yn seiliedig ar egwyddorion Cristnogol. Mae amcanion lluosog ganddi, sef:
- hyrwyddo'r Grefydd Gristnogol naill ai yn y Deyrnas Unedig neu dramor;
- hyrwyddo crefydd neu addysg arall; a
- chynorthwyo'r henoed, y tlawd, y sâl neu'r anabl.
Mae enghreifftiau o sut y mae UCB yn cyflawni pob un o'r amcanion hyn er budd y cyhoedd yn cynnwys:
Hyrwyddo'r grefydd Gristnogol
- darlledu ar bum sianel radio Cristnogol ac un sianel teledu sy'n darlledu 24 awr y dydd.
- cyhoeddi a dosbarthu llyfrynnau sy'n cynnwys darlleniadau dyddiol o'r Beibl a deunyddiau ar gyfer ystod oedran ysgolion a cholegau;
- cynnig gwasanaeth 'llinell gweddïo' i unrhyw un sydd angen rhywun i weddïo â nhw.
Hyrwyddo crefydd neu addysg arall:
- darparu hyfforddiant mewn arweinyddiaeth a rheolaeth wedi'i achredu gan yr Institute of Leadership & Management;
- gwerthu adnoddau Cristnogol.
Cynorthwyo'r henoed, y tlawd, y sâl neu'r anabl:
- hybu gwaith mudiadau dyngarol y mae eu nodau a'u gweithgareddau yn seiliedig ar egwyddorion Cristnogol a lleddfu angen;
- codi arian a rhoi grantiau i gartref plant amddifaid yn Rwmania.
|
Ch. Asesu budd
Is-egwyddorion 1a (rhaid bod yn glir beth yw'r buddion) ac 1b (rhaid i'r buddion fod yn gysylltiedig â'r nodau)
Yn yr adran hon rydym wedi amlinellu rhai materion cyffredinol, ehangach sy'n ymwneud ag asesu budd. Mae rhai o'r materion hyn yn cael eu hystyried yn fwy manwl yn adrannau Ch2 - Ch4.
Ch1. Materion ehangach
O'r asesiadau a wnaed gwelwyd y canlynol:
- wrth ddarparu tystiolaeth o fudd cyhoeddus, mae'n ddefnyddiol os yw'r ymddiriedolwyr yn darparu neu'n cyfeirio at:
- enghreifftiau diweddar, perthnasol, go iawn o'r hyn y mae'r elusen wedi'i wneud i gyflawni ei nodau sy'n dangos amlder, cysondeb, a graddfa argaeledd yr hyn y mae'r elusen yn ei wneud;
- os yw ar gael, adroddiadau diweddar gan drydydd parti annibynnol, megis aseswr neu reolydd o'r sector annibynnol;
- cyfrifon wedi'u harchwilio ac Adroddiadau Blynyddol Ymddiriedolwyr;
- gwybodaeth wedi'i darparu ar wefan yr elusen neu ddeunyddiau cyhoeddedig eraill;
- wrth ddarparu tystiolaeth o fudd cyhoeddus, neu adrodd ar fudd cyhoeddus, mae'n ddefnyddiol os yw'r ymddiriedolwyr yn osgoi:
- gwneud datganiadau cyffredinol ynghylch yr hyn y mae'r elusen yn ei wneud sydd heb ei gefnogi gan enghreifftiau penodol;
- enghreifftiau nad ydynt yn rhoi llawer o syniad o ba mor aml y maent yn digwydd, neu i ba raddau y maent yn agwedd arwyddocaol neu ddibwys ar waith yr elusen;
- enghreifftiau o'r buddion sy'n ddamweiniol neu heb eu cynllunio, sy'n digwydd trwy hap, neu sydd heb eu cysylltu â nodau'r elusen.
Ch2. Asesu tystiolaeth o fudd
Yn y cyd-destun hwn, mae 'tystiolaeth' yn cyfeirio at wybodaeth a ddarperir gan elusen sy'n dangos sut y mae'n cyflawni ei nodau er budd y cyhoedd. Gallai'r dystiolaeth hon fod ar sawl ffurf.
Yn ein hasesiadau budd cyhoeddus roeddem wedi ystyried:
- gwybodaeth wedi'i darparu gan yr elusennau yn ysgrifenedig ac mewn cyfarfodydd yn eu safle;
- adroddiadau gan reolyddion neu aseswyr annibynnol eraill;
- gwybodaeth sy'n cael ei dal gan y Comisiwn Elusennau mewn perthynas â deliadau blaenorol â'r elusen;
- cyfrifon wedi'u harchwilio yr elusen ac Adroddiadau Blynyddol Ymddiriedolwyr; a
- gwybodaeth berthnasol a dibynadwy arall sydd ar gael i'r cyhoedd.
Wrth ystyried tystiolaeth o fudd cyhoeddus, gwelwyd bod argaeledd adroddiadau diweddar, annibynnol sy'n dangos yr hyn y mae elusen wedi'i wneud i gyflawni ei nodau, a pha mor dda y mae wedi gwneud hynny, yn arbennig o ddefnyddiol. Roedd hyn yn gwella'r wybodaeth a ddarparwyd gan yr elusen, a hefyd yn darparu dilysiad trydydd parti o'r wybodaeth honno.
|
Er enghraifft, gwelwyd bod yr wybodaeth a ddarparwyd mewn adroddiadau Arolygiaeth Ysgolion Annibynnol ar ysgolion ac mewn adroddiadau y Comisiwn Arolygu Gofal Cymdeithasol (y Comisiwn Ansawdd Gofal erbyn hyn) ac Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru ar gartrefi gofal preswyl yn ddefnyddiol o ran darparu tystiolaeth o fudd.
|
Fodd bynnag, nid oes rhaid i elusennau ddarparu dilysiad trydydd parti o'r wybodaeth y maent yn ei darparu ac, i nifer o elusennau, nid oes unrhyw reolydd neu aseswr annibynnol arall sy'n bodoli i ddarparu tystiolaeth o'r fath. Os mai dyma oedd yr achos, roedd yn fwy pwysig bod yr elusen yn darparu enghreifftiau perthnasol, diweddar, go iawn o'r hyn y mae wedi'i wneud i gyflawni ei nodau sy'n dangos buddion ei gwaith.
| Er enghraifft, yn achos elusennau sy'n hyrwyddo crefydd fel arfer nid oes unrhyw aseswr annibynnol i ddarparu tystiolaeth o fudd, ac yn aml mae'r buddion yn rhai sy'n anodd eu meintioli neu eu mesur. Fodd bynnag, mae sawl ffordd y gall elusennau o'r fath ddarparu tystiolaeth o fudd, a gellir gweld enghreifftiau o hyn yn ein hadroddiadau asesu. |
Wrth asesu tystiolaeth o fudd cyhoeddus ein hymagwedd yw ystyried egwyddorion Rheoleiddio Gwell, sy'n ei gwneud hi'n ofynnol i'n gweithgareddau rheoleiddio fod yn gymesur, yn atebol, yn gyson, yn dryloyw ac wedi'u targedu dim ond ar achosion lle mae angen gweithredu.
|
Er enghraifft, os oeddem yn fodlon bod yr elusen wedi darparu tystiolaeth ddigonol o fudd, nid oeddem wedi ceisio tystiolaeth bellach, er y gallai fod ar gael. Nid oeddem wedi ystyried ychwaith ei fod yn gost-effeithiol i ni chwilio am dystiolaeth o fudd os oedd tystiolaeth annigonol wedi'i darparu gan yr elusen. Yr ymddiriedolwyr elusen sy'n gyfrifol am ddangos tystiolaeth o fudd os nad yw hynny'n amlwg neu'n glir.
|
Yng nghyd-destun ein hasesiadau budd cyhoeddus, mabwysiadwyd ymagwedd gymesur, seiliedig ar risg a thystiolaeth, sy'n golygu ein bod:
- wedi ystyried yr wybodaeth a gawsom gan yr elusen;
- os yw'n briodol, wedi profi unrhyw dystiolaeth arbennig a oedd yn hanfodol i benderfyniad arbennig; a
- cheisio tystiolaeth bellach os oedd yr wybodaeth a darparwyd gan yr elusen wedi codi unrhyw bryderon perthnasol ynghylch ei chywirdeb neu ei ddigonolrwydd.
Ch3. Asesu buddion annirweddol
Mewn rhai achosion roedd y buddion yn adnabyddadwy ond nid oeddent yn hawdd eu meintioli neu eu mesur. Ar yr amod bod y buddion yn glir, roeddem wedi ystyried buddion annirweddol neu nad oes modd eu meintioli .
|
Astudiaeth achos: The Church Mission Society ('CMS')
Nod CMS yw hyrwyddo crefydd trwy gyhoeddi'r efengyl a dwyn pawb i'r gymrodoriaeth gyda'r Arglwydd Iesu Grist.
Roedd ymddiriedolwyr CMS wedi adnabod buddion sy'n llai diriaethol neu fesuradwy ond sy'n codi o ganlyniad i gredoau ac arferion sy'n cael eu hybu gan yr elusen. Roed y rhain yn cynnwys buddion sy'n codi o gyfrannu at ddatblygu cymdeithas wâr trwy gyfleu gwerthoedd, ymagweddau a sgiliau cadarnhaol, megis cyfyngu mewn cyfnodau o aflonyddwch sifil; annog eglwysi ym Mhrydain i chwarae rhan weithredol mewn datblygiad cymunedol, annog allgaredd a gwirfoddoli; ac annog pobl i fyw'n syml ac ymroddiad i wasanaethu pobl eraill. Roedd hefyd yn cynnwys darparu cyfleoedd ar gyfer cyfoethogi rhyng-ddiwylliannaol a dealltwriaeth ryngwladol.
Er ei fod yn fuddiol i'r cyhoedd, roedd yn anodd i fesur effaith y buddion hyn o ran cyflawni nodau'r elusen. Serch hynny, rydym yn ystyried eu bod yn cynnwys buddion arwyddocaol y gellir eu cydnabod a'u disgrifio ac sy'n gysylltiedig â nod yr elusen.
|
Ch4. Gweithgareddau ac ymgyrchu gwleidyddol
Ni all elusen fodoli ar gyfer nod gwleidyddol, sef unrhyw nod sy'n ceisio hyrwyddo buddion unrhyw blaid wleidyddol, neu ddiogelu neu wrthwynebu newid yn y gyfraith, polisi neu benderfyniadau naill ai yng Nghymru neu Loegr neu mewn gwledydd eraill. Fodd bynnag, gall ymgyrchu a gweithgareddau gwleidyddol fod yn weithgareddau cyfreithlon a gwerthfawr i elusennau ymgymryd â nhw. Gall elusen ymgymryd â'r rhain dim ond pe byddai gwneud hynny yn hyrwyddo neu'n cefnogi cyflawni ei nodau elusennol.
|
Astudiaeth achos: The Church Mission Society ('CMS')
Yn ein hasesiad budd cyhoeddus o CMS roedd yr ymddiriedolwyr wedi ein hysbysu bod yr elusen yn ymgymryd â rhywfaint o weithgareddau gwleidyddol wrth hyrwyddo ei nodau. Mae'n gwneud hyn trwy hyrwyddo hawliau dynol, er enghraifft, trwy wrthwynebu masnachu mewn menywod am ryw mewn gwahanol ddinasoedd yn Asia.
Roedd hon yn enghraifft dda o ymddiriedolwyr yn cymryd camau i sicrhau bod unrhyw weithgaredd gwleidyddol yn cael ei gyflawni yn unol â'n canllaw Dweud eich Dweud: Ymgyrchu a Gweithgareddau Gwleidyddol gan Elusennau (CC9).
|
D. Asesu anfantais neu niwed
Is-egwyddor 1c (rhaid pwyso a mesur y buddion yn erbyn unrhyw anfantais neu niwed)
Yn yr adran hon rydym wedi amlinellu rhai materion cyffredinol, ehangach sy'n ymwneud ag asesu anfantais neu niwed. Mae rhai o'r materion hyn yn cael eu hystyried yn fwy manwl yn adrannau D2 - D4.
D1. Materion ehangach
O'r asesiadau a gynhaliwyd gwelwyd:
- wrth asesu budd cyhoeddus elusen sy'n delio â buddiolwyr agored i niwed, mae'n ddefnyddiol pe gallai'r ymddiriedolwyr ddarparu tystiolaeth, yn enwedig tystiolaeth annibynnol gan drydydd parti o sut y maent yn rheoli'r risgiau o anfantais neu niwed i'r buddiolwyr hynny;
- wrth asesu budd cyhoeddus elusen sy'n ymgymryd â gweithgaredd i hyrwyddo nodau'r elusen a allai achosi anfantais neu niwed, mae'n ddefnyddiol pe gallai'r ymddiriedolwyr ddarparu gwybodaeth a thystiolaeth ynghylch sut y maent yn ymgymryd â'r gweithgaredd hwnnw mewn ffordd nad yw'n creu anfantais neu niwed.
D2. Sut oeddem wedi mynd ati i asesu anfantais neu niwed
Roeddem wedi mabwysiadu ymagwedd debyg wrth asesu tystiolaeth o anfantais neu niwed â phan oeddem wedi asesu tystiolaeth o fudd.
Gan gyfateb â'n hymagwedd gyffredinol at waith achos, yn ein hasesiadau budd cyhoeddus roedd yr wybodaeth yr oeddem wedi'i hystyried wrth asesu i ba raddau yr oedd unrhyw dystiolaeth o anfantais neu niwed yn cynnwys:
- adolygiad rhagarweiniol o ddata a ffeiliau achos y Comisiwn Elusennau;
- adroddiadau arolygu perthnasol, diweddar gan drydydd parti;
- adolygiad lefel uchel o'r wybodaeth sydd ar gael yn gyhoeddus, fel unrhyw adroddiadau diweddar yn y cyfryngau sy'n ymwneud â'r elusen;
- a yw'r cyhoeddusrwydd cyffredinol a roddir i'n hasesiadau budd cyhoeddus wedi ysgogi unrhyw gwynion wedi'u profi am elusen unigol.
Yn amlwg os yw'r wybodaeth sydd ar gael i ni yn awgrymu y gall fod tystiolaeth o anfantais neu niwed go iawn, neu dystiolaeth bod y risgiau o anfantais neu niwed heb gael eu rheoli'n briodol neu'n ddigonol, byddem yn ymchwilio i hyn ymhellach. Yn ein hasesiadau budd cyhoeddus, os yw'r wybodaeth hon, o'i chymryd gyda'i gilydd, yn awgrymu nad oedd unrhyw sail resymol dros gynnal ymchwiliad mwy manwl o faterion anfantais neu niwed, nid oeddem wedi mynd ati i chwilio am dystiolaeth ategol bellach. Ni fyddai hynny'n ddefnydd cymesur o'n hadnoddau.
Roedd tystiolaeth a ddarparwyd gan adroddiadau ymchwiliad gan drydydd parti yn ffordd ddefnyddiol o roi sicrwydd nad yw unrhyw anfantais neu niwed yn cael ei achosi a bod risgiau o'r fath yn cael eu rheoli'n briodol.
Nid oeddem wedi ystyried dadleuon ehangach am anfantais neu niwed honedig o fathau arbennig o elusennau, neu'r ffordd y mae rhai elusennau yn cyflawni eu nodau, fel tystiolaeth o anfantais neu newid yn yr achosion unigol a aseswyd. Mae hyn yn cyfateb â'n harweiniad yn adran D4 Elusennau a Budd Cyhoeddus.
D3. Diogelu buddiolwyr agored i niwed
Wrth asesu budd cyhoeddus elusen sy'n darparu gwasanaethau neu gyfleusterau i fuddiolwyr agored i niwed (megis plant a phobl ifanc, pobl oedrannus neu bobl ag anabledd) roedd yn arbennig o bwysig y gallai ymddiriedolwyr ddangos nad oes unrhyw anfantais neu niwed i'r buddiolwyr hynny a'u bod yn cymryd camau rhesymol i ddiogelu'r buddiolwyr hynny rhag anfantais neu niwed. Gallai hyn gynnwys, er enghraifft, sicrhau bod gwiriadau'r Swyddfa Cofnodion Troseddol (CRB) yn cael eu cynnal yn briodol i bobl os oes gofyniad neu hawl gyfreithiol i'w cyflawni.
|
Astudiaeth achos: S. Anselm's School Trust Limited
Mae S. Anselm's School yn darparu ar gyfer plant 3 - 13 oed. Mae'r ymddiriedolwyr wedi dangos eu bod yn arbennig o ymwybodol o faterion amddiffyn plant. Er enghraifft, roeddent yn cymryd gofal arbennig i ystyried materion amddiffyn plant wrth gynnig y cyfleusterau yn yr ysgol i ddefnyddwyr allanol.
Roedd hon yn enghraifft dda o sut y gall elusen ddangos ei bod yn rheoli'r risgiau o anfantais neu niwed i'w buddiolwyr.
|
I gael gwybodaeth bellach gweler y canllawiau canlynol ar ein gwefan:
D4. Elusennau sy'n ymgymryd â gweithgareddau rhyngwladol
Wrth asesu elusennau sy'n ymgymryd â gweithgareddau rhyngwladol mae'n ddefnyddiol pe gallai elusennau ddangos eu bod yn dilyn ein canllaw Elusennau sy'n Gweithio'n Rhyngwladol. Mae hynny'n cynnwys asesu graddfa'r risgiau y byddai'r elusen yn eu hwynebu ac i ba raddau y gellid dileu, lleihau neu reoli'r risgiau hynny.
|
Astudiaeth achos: The Church Mission Society ('CMS')
Yn ein hasesiad budd cyhoeddus o CMS, roedd yr ymddiriedolwyr wedi dangos eu bod yn cydnabod y risg posibl o anfantais neu niwed sy'n codi o rai mathau o weithgareddau, megis:
- mewn llefydd lle mae llywodraethau yn gwrthwynebu cenhadaeth Gristnogol, gan gynnwys lle y gallai fod yn anghyfreithlon; ac
- mewn perthynas â staff a'r rhai sy'n ymgymryd â gwaith cenhadaeth.
Yn ei gwaith rhyngwladol, mae'r elusen yn asesu graddfa unrhyw risg sy'n codi i'r elusen neu ei weithwyr cenhadaeth ac mae wedi datblygu systemau priodol i reoli'r risgiau hynny.
|
I gael gwybodaeth bellach gweler y canllawiau canlynol ar ein gwefan:
Dd. Asesu pwy yw'r buddiolwyr ac unrhyw gyfyngiadau ar bwy all gael budd
Is-egwyddorion 2a (rhaid i'r buddiolwyr fod yn briodol i'r nodau) a 2b (os yw'r budd yn cael ei ddarparu i adran o'r cyhoedd, rhaid i'r cyfle i gael budd beidio â chael ei gyfyngu'n afresymol)
Yn yr adran hon rydym wedi amlinellu rhai materion cyffredinol, ehangach sy'n ymwneud ag asesu pwy yw'r buddiolwyr ac unrhyw gyfyngiadau ar bwy all gael budd. Mae rhai o'r materion hyn yn cael eu hystyried yn fwy manwl yn adrannau Dd2 ac Dd3.
Dd1. Materion ehangach
O'r asesiadau a gynhaliwyd gwelwyd:
- os, dros amser, bu'n arferol i dynnu buddiolwyr o'r ardal leol (er nad oes unrhyw gyfyngiadau daearyddol wedi'u pennu yn nodau'r elusen) mae'n berthnasol i ystyried i ba raddau y mae'r cyfle i gael budd yn hysbys i bobl y tu allan i'r ardal leol. Os nad yw'r cyfle i gael budd yn cael ei hysbysebu'n eang (megis ar wefan yr elusen) gall, mewn gwirionedd, gyfyngu'r cyfle i gael budd mewn ffordd nad yw'n gyson â nodau'r elusen.
Dd2. Adnabod pwy yw'r buddiolwyr o nodau'r elusen.
Mewn rhai achosion gallai nodau elusen bennu pwy all gael budd o'r elusen, ond mae hefyd yn cyflawni gweithgareddau elusennol atodol eraill sy'n cynnig budd i bobl y tu allan i'r grwp penodedig hwnnw. Os mai dyma yw'r achos, byddwn yn ystyried y buddion i'r bobl sydd wedi'u diffinio yn nodau'r elusen yn unig.
Os yw elusen yn gwneud swm sylweddol o weithgareddau sy'n cynnig budd i bobl y tu allan i'w grwp penodedig o fuddiolwyr, byddai angen i ni ystyried a yw'n ganlyniad i'r 'gwyro o'r genhadaeth', ehangu cyfreithlon ac angenrheidiol o nodau'r elusen mewn ymateb i amgylchiadau cymdeithasol ac economaidd sy'n newid sy'n gofyn am newid nodau'r elusen, neu a yw'r ymddiriedolwyr yn gweithredu'n groes i ymddiriedolaethau'r elusen. Yn yr achosion hynny, byddwn yn cynghori ymddiriedolwyr os ydynt yn cynnig newid y diffiniad yn amcanion yr elusen o bwy all gael budd.
|
Astudiaeth achos: The Manchester Grammar School Foundation
Yn yr achos hwn, nodau penodedig yr elusen yw hyrwyddo addysg bechgyn mewn ysgol neu yn neu yng nghyffiniau Dinas Manceinion.
Mae'r ysgol yn ymgymryd ag ystod eang o weithgareddau elusennol, ac mae rhai ohonynt hefyd yn darparu buddion addysgol i ferched.
Yn yr achos hwn y buddion clir a oedd yn gysylltiedig â nodau'r elusen oedd y rhai sy'n codi i fechgyn yn bennaf sy'n mynychu'r ysgol ac, yn eilaidd i hynny, i fechgyn eraill sydd heb fod yn ddisgyblion yn yr ysgol.
Mae'r gweithgareddau addysgol ehangach a wneir gan yr elusen sy'n darparu buddion i ferched yn agwedd gyfreithlon ac atodol o weinyddiad cyffredinol yr ysgol, ac nid oedd rhaid i'r elusen ystyried ehangu ei nodau er mwyn cyfeirio'n benodol at addysg merched.
Fodd bynnag, pe byddai hyn yn ganlyniad i newid mewn amgylchiadau'r ysgol, oedd yn golygu ei fod yn darparu addysg ar y cyd er enghraifft, yna byddai wedi bod yn briodol i ystyried newid amcanion yr elusen i addysg bechgyn a merched.
|
Os yw'r elusen wedi bod yn gweithredu ers sawl blwyddyn weithiau mae angen newid ei nodau i ystyried amgylchiadau cymdeithasol ac economaidd sy'n newid, megis demograffeg leol sy'n newid.
|
Astudiaeth achos: Penylan House, Jewish Retirement and Nursing Home
Yn yr achos hwn, amcanion gwreiddiol yr elusen oedd darparu cartref gofal Iddewig Uniongred, wedi'i leoli yng Nghaerdydd, i bobl oedrannus o'r ffydd Iddewig. O ganlyniad i ddirywiad arwyddocaol a pharhaus ym maint y gymuned Iddewig yng Nghaerdydd a'r cyffiniau, a thuedd i bobl barhau i fyw yn eu cartrefi am gyfnod hwy, bu'n gynyddol anodd i'r ymddiriedolwyr lenwi llefydd gwag.
Roedd yr ymddiriedolwyr wedi cael ein sêl bendith i ehangu amcanion yr elusen i ganiatáu i rai pobl heb fod yn Iddewon sy'n oedrannus ac sydd angen gofal i gael eu hystyried fel buddiolwyr. Polisi'r elusen yw bod rhaid i fuddiolwyr sydd heb fod o'r ffydd Iddewig fod yn barod i fyw o fewn amgylchedd sy'n dilyn cyfraith ac arferion crefyddol Iddewig er mwyn i'r cartref barhau i fod yn gartref Iddewig Uniongred yn bennaf.
|
Dd3. Cyfyngiadau rhesymol ar bwy all gael budd
Mewn rhai achosion mae nodau elusen yn bwriadu cynnig budd i bobl sydd wedi'u diffinio ar sail rhyw angen elusennol cyffredin. Fel arfer gall cyfyngu buddion i grwp o'r fath gael ei ystyried yn rhesymol oherwydd bod angen elusennol ganddynt sy'n cael ei leddfu neu ei drin.
|
Astudiaeth achos: Cornwall Old People's Housing Society
Yn yr achos hwn, mae buddiolwyr wedi'u cyfyngu i bobl sy'n 65 oed neu'n hyn ac sydd angen gofal preswyl, seibiant neu ddydd am resymau iechyd neu henaint. Mae preswylwyr yn cael eu derbyn i'r cartref gofal dim ond yn dilyn asesiad o'u hanghenion i sicrhau y gall y cartref ddarparu gofal priodol. Nid yw'r elusen yn darparu mynediad i bobl sydd angen gofal meddygol neu nyrsio llawn, oherwydd nid yw'r elusen wedi'i chofrestru i ddarparu gofal nyrsio.
Mae'r cyfyngiadau ar bwy all gael budd neu beidio yn cael eu hystyried yn rhesymol oherwydd mae'r cyfyngiadau yn seiliedig ar angen elusennol ac ar lefel y gofal y mae'r elusen wedi'i chofrestru i'w darparu.
|
Mewn rhai achosion, mae nodau elusen yn bwriadu cynnig budd i bobl sydd wedi'u diffinio trwy gyfeirio at ryw nodwedd bersonol, megis eu rhyw, eu hil, eu tras ethnig, eu crefydd, eu cyfeiriadedd rhywiol, neu nodwedd ddiffiniol arall. Gall cyfyngu'r buddiannau fel hyn gael eu hystyried yn rhesymol neu beidio. Mae'n dibynnu ar y nodau sydd i'w cyflawni.
|
Astudiaeth achos: Penylan House, Jewish Retirement and Nursing Home
Yn yr achos hwn, nod yr elusen yw darparu cartref gofal preswyl Iddewig Uniongred. O fewn y nod hwnnw, wrth benderfynu pwy all gael budd, rhoddir blaenoriaeth i bobl oedrannus o'r ffydd Iddewig.
Rydym yn ystyried y blaenoriaethau a fynegir (ac felly'r cyfyngiadau ar bwy all gael budd) fel rhai sy'n rhesymol ac yn briodol i nod yr elusen. Mae buddiolwyr yr elusen yn bobl sydd, oherwydd eu credoau crefyddol, yn rhaid dilyn ffordd o fyw arbennig. Mae'r elusen yn cynnig amgylchedd addas i'r ffordd o fyw penodol honno gael ei chynnal trwy ddarparu cartref gofal lle y gall preswylwyr barhau i fyw yn ôl daliadau a thraddodiadau arbennig y grefydd Iddewig. Mae'r daliadau a'r traddodiadau hyn yn golygu na allai cartref gofal Iddewig Uniongred gael ei gynnal oni bai fod y mwyafrif o'r preswylwyr yn dilyn cyfreithiau, arferion a thraddodiadau Iddewig,
|
Weithiau, nid yw nodau elusen (fel y'u mynegir yn ei chymal amcanion) yn diffinio ardal ddaearyddol benodol lle mae'n rhaid i'r buddiolwyr arfaethedig fyw, ond maent yn mynegi blaenoriaeth i bobl sy'n byw mewn ardal arbennig. Weithiau, nid yw'r nodau yn mynegi blaenoriaeth i bobl sy'n byw mewn ardal arbennig ond, yn ymarferol, mae'r buddion yn cael eu cynnig mewn cyfleuster penodol sydd yn aml yn golygu bod y buddiolwyr yn dod yn bennaf o'r gymdogaeth lle y lleolir y cyfleuster hwnnw.
|
Astudiaethau achos: Penylan Jewish Retirement & Nursing Home Caerdydd a Cornwall Old People's Housing Society
Yn y ddau achos, nid yw nodau'r elusennau yn cynnwys unrhyw gyfyngiad daearyddol ar bwy all gael y cyfle i gael budd. Fodd bynnag, yn ymarferol, mae lleoliad pob cartref gofal preswyl yn golygu bod y rhan fwyaf o'r buddiolwyr yn dod o'r ardaloedd lleol, oherwydd mae nifer o breswylwyr yn awyddus i barhau i fyw'n agos i'r cymunedau y maent wedi byw ynddynt am gynifer o fynyddoedd a'u teuluoedd sy'n byw'n lleol; er bod rhai preswylwyr yn y cartrefi oedd yn dod o ardaloedd eraill.
Yn ein hasesiadau budd cyhoeddus o'r elusennau hyn, roeddem wedi ystyried bod y math hwn o gyfyngiad yn rhesymol oherwydd mae'n digwydd yn naturiol o ganlyniad i ymarferoldeb a blaenoriaethau personol, ac oherwydd nid yw'n gwahardd pobl o'r tu allan i'r ardal leol rhag gwneud cais i fod yn breswylydd.
Fodd bynnag, roeddem hefyd wedi archwilio gyda'r ymddiriedolwyr sut mae pobl y tu allan i'r ardal leol yn cael gwybod am y cyfle i gael budd.
|
E. Asesu effeithiau codi ffioedd
Is-egwyddorion 2b (ni all y cyfle i gael budd gael ei gyfyngu'n afresymol gan allu i dalu unrhyw ffioedd a godir) a 2c (ni all pobl sy'n byw mewn tlodi gael eu gwahardd o'r cyfle i gael budd)
Yn yr adran hon rydym wedi amlinellu rhai materion cyffredinol, ehangach sy'n ymwneud ag asesu effeithiau codi ffioedd ar fudd cyhoeddus. Mae rhai o'r materion hyn yn cael eu hystyried yn fwy manwl yn adrannau E2 - E8.
E1. Materion ehangach
O'r asesiadau a gynhaliwyd gwelwyd:
- er bod darparu mynediad am ddim neu â chymhorthdal yn ffordd amlwg o ddarparu cyfleoedd i gynnig budd i bobl na allant fforddio'r ffioedd, nid oes unrhyw fformiwla sy'n pennu faint o fynediad am ddim neu â chymhorthdal y dylid ei ddarparu. Yr hyn sy'n bwysig yw bod y cyfle i gynnig budd i bobl na allant fforddio'r ffioedd, at ei gilydd, (o'i gymryd gydag unrhyw gyfleoedd arwyddocaol eraill i gynnig budd nad ydynt yn cynnwys darparu mynediad am ddim neu â chymhorthdal) yn fwy na rhywbeth minimal neu symbolaidd neu'n rhywbeth sy'n digwydd ar hap;
- mae sicrhau ymwybyddiaeth ymysg buddiolwyr posibl neu gyfeirio asiantaethau o'r cymorth ffioedd sydd ar gael neu gyfleoedd arwyddocaol eraill i gael budd yn ddefnyddiol er mwyn sicrhau bod unrhyw wasanaethau neu gyfleusterau y codir tâl amdanynt yn debygol o fod ar gael i bobl na allant fforddio'r ffioedd. Mae hwn yn fater pwysig o ran ein helpu i bennu a yw'r cyfle i gael budd yn 'sylweddol'. (Mae ein hadroddiadau asesu budd cyhoeddus yn cynnwys llawer o enghreifftiau wedi'u darparu gan yr elusennau a aseswyd ynghylch sut y gall pobl na allant fforddio'r ffioedd gael budd o wasanaethau neu gyfleusterau'r elusennau hynny);
- mae nodweddion rhaglen cymorth ffioedd y gellir ei modelu fel arfer da yn cynnwys:
- ymgyrchoedd codi arian bwriadol ac wedi'u cynllunio i greu cronfeydd ar gyfer cymorth ffioedd;
- cael cronfeydd penodedig ar gyfer cymorth ffioedd;
- gosod cyllidebau neu dargedau ar gyfer y nifer neu swm y cymorth ffioedd y gellir ei gynnig;
- cael cynllun cymorth ffioedd prawf modd sy'n pennu lefel incwm ac o dan y lefel honno y gellir cynnig cyllid llawn, a graddfa symudol y ceir cymorth gyda chyllid rhannol yn uwch na'r raddfa honno;
- cael strategaeth hysbysebu sy'n bwriadu cyrraedd y rhai nad ydynt efallai'n gallu fforddio'r ffioedd sydd yn amlwg yn awgrymu bod y cyfleoedd i gael budd ar gael;
- mae mwy o bwyslais ar ddefnyddio cymorth prawf modd yn helpu i ddangos bod yr elusen yn ceisio sicrhau bod mynediad i'r gwasanaethau neu'r cyfleusterau y mae'n eu darparu heb ei gyfyngu'n afresymol gan dalu ffioedd;
- mae amgylchiadau ariannol ac eraill elusen yn rhan bwysig o asesu i ba raddau y gall fodloni egwyddorion 2b a 2c;
- gall argaeledd cyllid awdurdod lleol i helpu talu costau buddiolwyr gynorthwyo elusennau i fodloni egwyddor 2b ac, os yw'n cwmpasu'r costau llawn, egwyddor 2c;
- ar gyfer cartrefi gofal, gall cyllidebu i ddarparu cymorth gyda ffioedd atodol, ac adolygu argaeledd unrhyw gronfeydd wrth gefn at y diben hwn yn rheolaidd, helpu elusen i ddangos sut y mae'n bodloni egwyddorion 2b a 2c;
- gall cynnwys yr wybodaeth ganlynol mewn Adroddiad Blynyddol yr Ymddiriedolwyr helpu i ddangos yn glir bod egwyddorion 2b a 2c wedi'u bodloni:
- cyhoeddi'n agored bod y cyfle ar gael i gael budd i'r rhai na allant fforddio'r ffioedd llawn (er enghraifft ar wefan yr elusen), yn arbennig gwneud datganiad clir bod lleoedd wedi'u cyllido ar gael;
- adnabod yn ffurfiol y cronfeydd penodol yng nghyllideb yr elusen ar gyfer cymorthdalu costau ffioedd, naill ai trwy gymorthdalu'r gwir gost o ddarparu gwasanaeth neu gyfleuster i'r rhai sy'n cael eu cyllido gan awdurdod lleol, neu fel arall;
- sefydlu'n ffurfiol brotocol clir ar gyfer darparu lleoedd â chymhorthdal, lle nad yw cyllid yr awdurdod lleol yn talu'r gost lawn ac mewn achosion eraill lle nad oes unrhyw gymhwysedd ar gyfer cyllid yr awdurdod lleol;
- adolygu'n achlysurol nifer y buddiolwyr gyda lleoedd wedi'u cyllido; ar ddiwedd y flwyddyn ariannol adnabod unrhyw gronfeydd sydd heb eu defnyddio a ddyrannwyd mewn lleoedd wedi'u cyllido â chymhorthdal; ac ystyried cadw unrhyw gronfeydd sydd heb eu defnyddio ar gyfer y dyfodol. Os yw nifer y lleoedd a gyllidir yn is na'r swm a gyllidebwyd, gallai'r ymddiriedolwyr ystyried cadw gweddill y symiau sydd heb eu gwario ar gyfer y dyfodol at ddiben lleoedd â chymhorthdal.
E2. Ein hymagwedd at asesu effeithiau codi ffioedd ar fudd cyhoeddus
Mae'r ffactorau canlynol yn nodi i ba raddau y mae gwasanaethau a chyfleusterau'r elusen y codir tâl amdanynt ar gael i'r bobl na allant fforddio eu talu yn bodloni'r gofyniad budd cyhoeddus:
- nodau'r elusen a'r angen am y gwasanaethau neu'r cyfleusterau a ddarperir, a'u natur;
- graddfa a lefel y ffioedd y mae angen i bobl eu talu i gael mynediad i'r gwasanaethau neu'r cyfleusterau hynny (ac o ganlyniad natur waharddol y ffioedd hynny);
- i ba raddau y mae'r elusen yn cymedroli'r ffioedd hynny, yn llwyr neu'n rhannol, i bobl na allant eu fforddio, neu'n darparu cyfleoedd eraill i gynnig budd i'r bobl hynny;
- natur y budd (gan gynnwys a yw'n fudd unigol neu dymor hir) yn ogystal â'r amgylchiadau cyffredinol, gan gynnwys yr amgylchiadau cymdeithasol ac economaidd cyfredol, y mae'r elusen yn gweithredu ynddynt.
Wrth ystyried y ffactorau hyn, os yw elusen yn codi ffioedd uchel na allai nifer o bobl eu fforddio mae'n rhaid i'r ymddiriedolwyr ddangos bod digon o gyfle i bobl na allant fforddio'r ffioedd i gael budd mewn ffordd sylweddol sy'n gysylltiedig â nodau'r elusen. Mae cyfleoedd sylweddol i gael budd yn golygu eu bod yn fwy na rhywbeth minimal neu symbolaidd neu'n rhywbeth sy'n digwydd ar hap.
E3. Asesu ffioedd mewn cyd-destun
Roeddem wedi ystyried effaith codi ffioedd ar fudd cyhoeddus mewn cyd-destun. Nid yw'n bosibl yn gyffredinol i wneud cymariaethau perthnasol rhwng gwahanol fathau o elusennau sy'n codi ffioedd oherwydd yr ystod eang o nodau y mae elusennau'n eu cyflawni, y gwahanol fathau o linynnau cyllido a'r gwahanol amgylchiadau (daearyddol, cymdeithasol, economaidd) y mae'r elusennau yn gweithredu ynddynt.
|
Er enghraifft, nid yw'n ddefnyddiol i gymharu lefelau ffioedd a chymorth ffioedd a ddarperir gan ysgolion annibynnol elusennol a chartrefi gofal preswyl elusennol. Mae'r gost o ddarparu llety a'r gofal ar gyfer preswylydd mewn cartref gofal yn cael ei chyllido'n aml, o leiaf yn rhannol, gan awdurdod lleol. Mewn rhai achosion gall y cyllid gwmpasu'r ffioedd cyfan; mewn achosion eraill gallai'r elusen gynnig neu ofyn am gyllid 'atodol' os yw'r awdurdod lleol dim ond yn darparu cyllid rhannol.
Fodd bynnag, yn achos ysgolion annibynnol, nid yw'r un lefel o gyllid allanol ar gael i helpu darparu cyfleoedd i gynnig budd i bobl na allant fforddio'r ffioedd; felly fel arfer bydd rhaid i ysgolion gael hyd i'r cyllid ar gyfer bwrsariaethau a chymorth ffioedd arall o'u hadnoddau eu hunain.
Felly nid oeddem yn disgwyl i ysgolion a chartrefi gofal preswyl allu cynnig yr un lefel neu'r un fath o gymorth â'i gilydd.
|
Felly, nid oedd modd cynhyrchu fformiwla syml y gallai pob elusen, neu elusennau o fewn sector penodol, ei ddilyn yn seiliedig ar swm neu ganran ddelfrydol neu a gytunwyd o gymorth ffioedd y dylid ei gynnig. Roedd rhaid i ni ystyried sawl ffactor gwahanol; ni fydd yr hyn sy'n iawn ar gyfer un elusen o reidrwydd yn iawn ar gyfer elusen arall, hyd yn oed un gyda nodau tebyg.
E4. Elusennau sy'n codi ffioedd isel
Bydd nifer o elusennau yn codi ffioedd am y gwasanaethau neu'r cyfleusterau y maent yn eu darparu ond mae'r taliadau yn weddol isel. Yn ein hasesiadau budd cyhoeddus, os mai dyma oedd yr achos nid oedd codi ffioedd yn peri unrhyw anawsterau o ran budd cyhoeddus. Mae'r astudiaethau achos canlynol yn helpu i ddangos hyn.
|
Astudiaeth achos 1: The London Sri Murugan Temple
Yn achos London Sri Murugan Temple, roedd mynediad i'r Deml a chymryd rhan mewn gwasanaethau crefyddol yn rhad ac am ddim, ond mae canllawiau gan yr elusen ar gostau ar gyfer rhai gwasanaethau, wedi'u cyfrifo ar sail y gost i'r elusen. Mae'r costau hyn yn amrywio o £1 ar gyfer archana (sef puja wedi'i dalfyrru a'i bersonoli gan offeiriaid y Deml) i £200 ar gyfer gwasanaeth priodas syml, a gellir eu talu yn ôl disgresiwn yr unigol. Yn gyffredinol bydd pobl yn cyfrannu'r swm a argymhellir ond nid oes rhaid iddynt wneud hynny, ac ni fydd y rhai na allant dalu yn cael eu gwrthod ar y sail honno. Mae'r Deml ar agor i ymwelwyr achlysurol a'r rheiny sy'n addoli'n gyson.
Gan fod y ffioedd yn yr achos hwn (os cânt eu talu) yn rhai y gallai'r rhan fwyaf o bobl eu fforddio maent yn unol â'r diffiniad o 'ffioedd isel' yn Budd Cyhoeddus a Chodi Ffioedd. Mae hyn yn golygu nad yw'r ffioedd yn atal pobl rhag cael y cyfle i gael budd o wasanaethau'r elusen.
Astudiaeth achos 2: The Tara Mahayana Buddhist Centre
Mae'r Tara Mahayana Buddhist Centre yn cynnig ei fuddion mewn sawl ffordd, gan gynnwys rhai na chodir unrhyw ffioedd amdanynt. Mae'r rhain yn cynnwys y cyfle i fynychu gweddïau siantio bob dydd, ymweld â'r Ganolfan a defnyddio'r ystafelloedd myfyrio, a chymryd rhan mewn 'gwyliau gweithio' sy'n cynnig modd i'r unigol gael mynediad at yr ystod lawn o ddosbarthiadau sy'n cael eu cynnig, yn gyfnewid am eu hamser a'u gwasanaethau gwirfoddol.
Mae'r taliadau neu'r ffioedd a godir yn ymwneud â'r rhaglenni astudio a addysgir gan yr elusen ond mae disgowntiau ar gael i'r rhai na allant eu fforddio.
Ar adeg ein hasesiad ffioedd neu daliadau'r elusen oedd:
- £5 yr wythnos am ddosbarthiadau myfyrio wythnosol;
- £30 y mis am raglenni sylfaen a hyfforddi athrawon;
- £25 y dydd am gyrsiau dydd; a
- £40 am gyrsiau penwythnos.
Yn ogystal â'r taliadau hyn, mae'n rhaid i fyfyrwyr brynu llyfrau i gefnogi eu cyrsiau astudio. Mae hyn tua un llyfr y flwyddyn am gost o tua £15; mae unrhyw un na allant fforddio prynu'r llyfr astudio gofynnol yn debygol o gael un gan fyfyrwyr eraill. Mae Polisi Taliadau a Disgownt gan y Ganolfan sy'n gosod cyfraddau disgownt i fyfyrwyr, gofalwyr anabl a'r di-waith. Dywedodd yr ymddiriedolwyr na fyddent eisiau i'r rhai na allent fforddio eu costau gael eu gwahardd rhag cael dysgeidiaeth Bwdhaeth oherwydd byddai hynny'n groes i'w hegwyddorion crefyddol.
|
E5. Elusennau sy'n codi ffioedd uchel
Os yw elusen yn codi ffioedd uchel, na all nifer o bobl eu fforddio, rhaid i'r ymddiriedolwyr elusen allu dangos bod yr elusen yn darparu digon o gyfle i gael budd mewn ffordd sylweddol sy'n gysylltiedig â nodau'r elusen i bobl na allant fforddio'r ffioedd.
Rydym wedi nodi isod rhai o'r materion allweddol a gododd yn ein hasesiad budd cyhoeddus o elusennau sy'n codi ffioedd uchel.
E6. Darparu mynediad am ddim neu â chymhorthdal
Wrth asesu'r cyfle i gael budd a ddarparwyd gan fynediad am ddim neu â chymhorthdal a gynigir gan elusen, roeddem wedi ystyried y ffactorau canlynol:
- Iechyd ac amgylchiadau ariannol yr elusen
Yn ein hasesiadau, os oedd codi ffioedd yn fater, roeddem wedi ystyried yr hyn oedd yn rhesymol ac yn briodol i elusen ei wneud yn ei amgylchiadau ariannol arbennig i ddarparu cyfleoedd i gynnig budd i bobl na allant fforddio'r ffioedd. Roeddem wedi ystyried:
- lefel yr incwm o ffioedd;
- graddfa cronfeydd wrth gefn a gwaddolion yr elusen;
- a oedd cronfeydd wrth gefn a gwaddolion yr elusen ar ffurf cynilion a buddsoddiadau neu eiddo (ac felly i ba raddau y gellid eu defnyddio i gymorthdalu cymorth ffioedd); a
- gallu'r elusen i wneud unrhyw newidiadau angenrheidiol o fewn amserlen resymol i ddarparu cyfleoedd digonol i gael budd.
- Graddfa'r cymorth ffioedd a gynigir
Ffactor pwysig yma oedd a yw'r elusen yn darparu mynediad â chymhorthdal o hyd at 100% o dalu ffioedd. Os yw lefel y ffioedd a godir yn uchel iawn gall hyn fod yn arbennig o bwysig o ran dangos nad yw pobl dlawd wedi'u gwahardd o'r cyfle i gael budd.
Fodd bynnag, nid yw'n golygu y byddai'n rhaid i'r holl ffioedd y mae elusen yn cynnig eu talu fod yn ffioedd 100%; dim ond bod talu ffioedd 100% ar gael lle y bo angen.
- Argaeledd cymorth gyda chostau eraill (nid yn unig ffioedd)
Mae costau ychwanegol sylweddol yn aml yn gysylltiedig â defnyddio gwasanaeth neu gyfleuster y codir tâl amdano.
|
Er enghraifft, gallai addysgu plentyn mewn ysgol annibynnol hefyd gynnwys costau ychwanegol, fel costau gwisg ysgol, offer a dillad chwaraeon, prydau ysgol, costau teithio ar gyfer disgyblion dydd, teithiau ysgol, gwersi cerddoriaeth, neu anghenion dysgu arbennig o bosib.
|
Os oedd y mathau hyn o gostau ychwanegol yn rhan annatod o'r gwasanaeth a ddarparwyd gan yr elusen (ac nid yn ddewisol) roedd y cymorth ariannol oedd ar gael gyda'r costau hyn yn ystyriaeth berthnasol wrth asesu i ba raddau y mae gan bobl na allant fforddio'r ffioedd y cyfle i gael budd.
- Sut mae cymorth ffioedd yn cael ei hysbysebu
Mae'n bwysig yn ein barn ni bod y cymorth ffioedd sydd ar gael yn cael ei hysbysebu'n eang, megis ar wefan yr elusen, neu'n ddelfrydol trwy amrywiaeth o gyfryngau sy'n cyrraedd cynulleidfa sy'n gymdeithasol amrywiol. Er y gall elusen weithredu cynllun cymorth ffioedd, os nad yw'n hysbysebu manylion y cynllun hwnnw yn ddigon eang, bydd pobl na allant fforddio'r ffioedd yn debygol o gael eu hatal rhag gwneud cais i gael budd o wasanaethau'r elusen. Felly gall fod yn anodd i'r elusen ddangos ei bod wedi cynnig cyfle sylweddol i'r bobl hyn gael budd.
|
Astudiaeth achos: The Manchester Grammar School Foundation
Yn achos Ysgol Ramadeg Manceinion, mae'r cymorth ffioedd sydd ar gael yn cael ei hysbysebu'n eang trwy'r wasg leol, gwefan yr elusen, trwy ysgolion eraill ac ar fysiau ac mewn canolfannau siopa.
|
Fodd bynnag, rydym hefyd yn cydnabod y gall hysbysebu'r cymorth ffioedd sydd ar gael yn fwy eang gynyddu'n sylweddol nifer yr ymgeiswyr ar gyfer cymorth y gallai elusen eu derbyn. Gall hyn olygu costau gweinyddol cynyddol i elusennau o ran prosesu mwy o geisiadau. Felly gallai elusennau ddymuno rheoli hyn trwy fod yn dryloyw ynghylch y cymorth ffioedd y maent yn ei gynnig a chael meini prawf tynn ar gyfer prosesu ceisiadau am gymorth.
Roedd yn ddefnyddiol i ni wybod pa broses y mae angen i ymgeiswyr ei dilyn wrth geisio cymorth gyda ffioedd er mwyn ystyried i ba raddau y gallai'r broses honno (er yn anfwriadol) atal pobl rhag gwneud cais am gymorth. Felly rydym wedi gweld ei bod yn ddefnyddiol pe gallai elusennau roi copïau i ni o enghreifftiau o'r ffurflenni cais perthnasol ac unrhyw bolisïau ysgrifenedig ar sut y caiff ceisiadau eu hasesu.
- Swm neu ganran y cymorth ffioedd a gynigir
Nid oes unrhyw isafswm neu swm optimaidd o gymorth ffioedd (naill ai fel canran o gyfanswm buddiolwyr yr elusen neu fel canran o gyfanswm incwm yr elusen) y dylai elusennau ei gynnig. Bydd llawer yn dibynnu, er enghraifft, ar amgylchiadau elusennau unigol, megis eu maint, eu hadnoddau a'r cyllid sydd ar gael o ffynonellau eraill.
Mewn asesiadau budd cyhoeddus unigol, rydym wedi dod i gasgliadau ynghylch a yw'r swm neu'r canran arbennig o gymorth ffioedd (naill ai ar ei ben ei hun neu gyda chyfleoedd eraill i gael budd a gynigir) yn darparu cyfle sylweddol i gynnig budd i bobl na allant fforddio'r ffioedd. Fodd bynnag, oherwydd yr ystod eang o amgylchiadau sy'n effeithio ar elusennau nid yw'n bosibl i ni bennu'n bendant a yw, neu byddai'r swm neu'r canran arbennig hwnnw o gymorth ffioedd yn cael ei ystyried fel cyfle sylweddol neu beidio i gael budd ym mhob achos.
Yr hyn sy'n glir, fe yr esbonia Budd Cyhoeddus a Chodi Ffioedd, yw ein bod wedi ystyried pob achos ar ei deilyngdod ei hun ac wedi mabwysiadu ymagwedd gyson at bob achos. Ym mhob achos, yr hyn oedd yn bwysig yn gyffredinol oedd bod y cyfleoedd i gynnig budd i bobl na allant fforddio'r ffioedd yn fwy na rhywbeth minimal neu'n symbolaeth neu'n rhywbeth sydd wedi digwydd ar hap.
Er nad yw ein rhaglen gyntaf o asesiadau budd cyhoeddus yn darparu gofynion lleiaf cyffredinol, mae'n darparu enghreifftiau defnyddiol o'r hyn yr ydym a'r hyn nad ydym wedi ystyried i fod yn gyfle sylweddol i gael budd mewn amgylchiadau arbennig, a'r sail ar gyfer ein casgliadau. Gobeithio y bydd yn ddefnyddiol i elusennau.
- Sut mae cymorth ffioedd yn cael ei gyllido
Mae sawl ffordd y gallai elusennau gyllido cymorth ffioedd, gan gynnwys:
- incwm o ffioedd;
- cronfeydd wrth gefn neu gronfeydd cyfyngedig: os oes cronfeydd penodol gan yr elusen sydd wedi'u neilltuo i gyllido cymorth ffioedd;
- cyllido trydydd parti megis elusen waddoledig ar wahân neu gyllid awdurdod lleol: os nad yw'r elusen yn cyllido cymorth ffioedd o'i chronfeydd ei hun, ond mae trefniadau mewn lle gyda thrydydd parti a all ddarparu cymorth ffioedd i bobl sy'n dymuno cael budd o wasanaethau'r elusen;
- gosod ffioedd ar lefel i helpu cyllido cymorth ffioedd: os yw'r lefelau ffioedd, yn lle cadw'r holl ffioedd mor isel â phosibl, yn cael eu gosod ar lefel ychydig yn uwch er mwyn, dros amser, greu cronfa i gynorthwyo pobl na allant fforddio'r ffioedd llawn.
Ymddiriedolwyr yr elusen fydd yn penderfynu p'un ai i ddarparu cymorth ffioedd, yn ogystal â chymorth trydydd parti, a faint o gymorth i'w ddarparu. Fodd bynnag, roedd y ffordd y cafodd cymorth ffioedd ei gyllido yn berthnasol o ran asesu i ba raddau y mae elusen yn cymryd camau rhesymol i sicrhau bod pobl na allant fforddio'r ffioedd yn cael cyfle i gael budd. Nid oeddem yn disgwyl i elusennau llai allu gwneud cymaint ag elusennau mwy; yr hyn oedd yn bwysig oedd i ba raddau y mae gan elusen fesurau bwriadol i'w galluogi i gyllido cymorth ffioedd, mewn ffordd wedi'i chynllunio trwy ei phrosesau cyllidebu a thrwy gael cronfeydd sydd wedi'u neilltuo ar gyfer y diben o gefnogi cymorth ffioedd. Yn ein hasesiadau, roeddem wedi ystyried pa ddewisiadau y mae elusen wedi'u hystyried, a beth sy'n rhesymol iddi ei ystyried, er mwyn sicrhau ei bod yn darparu cyfle sylweddol i gael budd.
Roedd yn bwysig gwybod a yw'r cymorth ffioedd a gynigir neu beidio yn destun prawf modd. Mae cymorth prawf modd yn gallu dangos yn well bod y cymorth wedi'i dargedu tuag at bobl na allant fforddio'r ffioedd.
|
Astudiaeth achos: The Joint Educational Trust ('JET')
Mae'r Joint Educational Trust (a elwir fel arfer yn JET) yn elusen sy'n galluogi plant rhwng 7 ac 13 oed sydd wedi dioddef yn ddifrifol gartref, neu sydd mewn perygl mewn rhyw ffordd, i fynychu ysgolion preswyl neu ddydd annibynnol, neu ysgolion preswyl gwladol, trwy drefnu cyllid rhannol neu llawn ar gyfer eu haddysg. Mae cynllun JET wedi'i gyfeirio'n benodol at ddarparu cymorth i bobl na allant fforddio ffioedd yr ysgol ac felly os yw ysgolion yn derbyn plant y mae eu haddysg wedi'i chyllido'n llawn neu'n rhannol gan gynllun JET, gall hyn helpu i fodloni egwyddorion 2b a 2c.
Nid oes gan ysgolion unrhyw reolaeth dros sawl cyfeiriad y mae cynllun JET yn ei wneud iddynt ac felly efallai na fydd y ffaith y bydd yr ysgol yn cymryd cyfeiriadau yn ddigon ynddo'i hun i fodloni'r egwyddorion hynny - fodd bynnag, byddwn yn ystyried lefelau cyfeiriadau o'r fath.
|
- Cymorth ffioedd heb brawf modd
Ni ellid dibynnu ar argaeledd cymorth ffioedd heb brawf modd ynddo'i hun gan elusen fel ffordd o ddangos ei bod yn bodloni egwyddorion 2b a 2c, er gellid ystyried hyn ynghyd â ffurfiau eraill o gymorth ffioedd.
Mae'r math hwn o gymorth yn cael ei ddyfarnu ar sail meini prawf (megis gallu academaidd neu allu arall) sydd heb fod yn seiliedig ar angen ariannol, neu sydd ar gael i unrhyw un waeth beth fo'i amgylchiadau ariannol. Mae'r raddfa y mae pobl na allant fforddio'r ffioedd yn cael ei helpu gan gymorth ffioedd prawf modd felly yn llai sicr, ac yn fwy tebygol o ddigwydd trwy hap na bwriad. Nid yw cyfle i gael budd sy'n digwydd trwy hap yn gyfle 'sylweddol' i gael budd.
Yn ein hasesiadau, roeddem wedi ystyried unrhyw gymorth ariannol a gynigiwyd gan elusen i alluogi rhywun sydd wedi cael cynnig cymorth ffioedd heb brawf modd i dalu unrhyw gostau ychwanegol sydd heb eu cwmpasu gan y cymorth hwnnw (megis costau gwisg ysgol ychwanegol i blentyn mewn ysgol annibynnol).
|
Astudiaeth achos: Cynllun talebau meithrin Lwfans Parhad Addysg ac Addysg y Blynyddoedd Cynnar
Mae Lwfans Parhad Addysg yn gynllun cyllido sy'n cael ei weinyddu gan y Weinidogaeth Amddiffyn i gynorthwyo teuluoedd yn y lluoedd arfog gyda chost addysgu eu plant os cânt eu lleoli dramor. Mae'r cynllun ar gael i bob rheng ac nid yw'n destun prawf modd.
Yn yr un modd, mae cynllun talebau Addysg y Blynyddoedd Cynnar yn gynllun wedi'i gyllido gan y wladwriaeth sy'n darparu ffynhonnell cyllid heb brawf modd i deuluoedd, waeth beth fo'u hincwm, i helpu gyda'r gost o anfon eu plant i unrhyw feithrinfa gofrestredig.
Yn y ddau achos, nid yw'r cyllid yn destun prawf modd felly mae ar gael i bobl sydd yn gallu ac na allant fforddio'r ffioedd. Mae'r cynlluniau hyn yn cynnig cyfle i gynnig budd i bobl na allant fforddio'r ffioedd, felly gallant fod yn ffactor perthnasol wrth ystyried a yw ysgol yn bodloni egwyddorion 2b a 2c. Fodd bynnag, gan fod y cyfle i gael budd hefyd ar gael i bobl sy'n gallu fforddio'r ffioedd, ni all ysgolion ddibynnu ar hyn fel ffordd o ddangos bod pobl na allant fforddio'r ffioedd yn cael budd o reidrwydd o ganlyniad i'r cynlluniau hyn.
Fodd bynnag, os yw ysgol yn darparu cymorth prawf modd pellach i bontio'r gwahaniaeth rhwng y cynlluniau hyn a'r ffioedd, byddem yn ystyried hyn fel cymorth ffioedd prawf modd i bobl na allant fforddio'r ffioedd.
|
- Argaeledd cyllid yr awdurdod lleol
Mewn rhai achosion, mae cyllid statudol neu awdurdod lleol ar gael i bobl sydd angen gwasanaethau'r elusen. Fel arfer mae'r cymorth ariannol a gynigir gan yr awdurdod lleol yn destun prawf modd. Yn ein hasesiadau budd cyhoeddus, os yw'n berthnasol, rydym wedi ystyried argaeledd cyllid awdurdod lleol wrth ystyried i ba raddau y mae gan bobl na allant fforddio'r ffioedd gyfle i gael budd.
Mewn rhai achosion, hyd yn oed gydag argaeledd cyllid awdurdod lleol, roedd y ffioedd 'atodol' yn parhau i fod yn uchel. Er bod argaeledd cyllid awdurdod lleol yn helpu elusennau yn aml i fodloni egwyddor 2b, nid oedd yn cynorthwyo i fodloni egwyddor 2c o reidrwydd.
Mewn rhai achosion, nid yw swm y cyllid a ddarperir gan awdurdod lleol yn ddigonol i dalu costau llawn gwasanaeth a ddarperir gan elusen. Yn yr achosion hynny gall yr awdurdod lleol neu'r elusen geisio taliadau 'atodol' gan drydydd parti (megis aelodau'r teulu). Wrth ystyried i ba raddau y mae'r elusen yn darparu cyfleoedd i gynnig budd i bobl na allant fforddio'r ffioedd llawn, roeddem wedi ystyried lefel y taliadau 'atodol' a allai fod yn ofynnol, ac o dan ba amgylchiadau y mae'r elusen yn cytuno i hepgor neu gymorthdalu'r taliadau 'atodol'.
Mae cronfeydd caledi gan rai elusennau sydd ar gael i ddarparu cymorth ariannol mewn achosion lle mae amgylchiadau ariannol buddiolwr presennol yn newid, felly ni allant fforddio talu'r holl ffioedd neu ran o'r ffioedd mwyach.
Mae argaeledd cronfa galedi yn berthnasol wrth asesu i ba raddau y mae'r elusen yn bodloni egwyddorion 2b a 2c, oherwydd mae'n ffordd o ddarparu cyfle i gael budd i bobl na allant fforddio'r ffioedd.
Fodd bynnag, mae'r cyfle hwnnw dim ond ar gael i bobl sydd eisoes yn fuddiolwyr ac nad oeddent yn gallu fforddio'r ffioedd cyn hynny. Felly fel arfer byddem yn edrych i weld a yw'r math hwn o gymorth ar gael ynghyd â chymorth ffioedd mwy cyffredinol i'r dosbarth cyfan o fuddiolwyr. Yn ein hasesiadau, roeddem wedi ystyried yr effaith gyfunedig hon o gronfeydd caledi gyda ffurfiau eraill o gymorth ariannol wrth asesu i ba raddau y mae'r elusen yn bodloni egwyddorion 2b a 2c.
- Disgowntiau i frodyr neu chwiorydd neu aelodau eraill o'r teulu
Mae rhai elusennau yn cynnig disgowntiau i frodyr a chwiorydd neu aelodau eraill o'r teulu os yw'r teulu yn talu am fwy nag un aelod teulu i gael budd o'r elusen.
Roeddem wedi ystyried disgowntiau i frodyr a chwiorydd ac aelodau eraill o'r teulu yn berthnasol, o'u cymryd gyda mathau eraill o gymorth ariannol oherwydd mae'n mynd cam bach tuag at alluogi pobl na fyddent yn gallu fforddio'r ffioedd fel arall i sicrhau bod holl aelodau eu teulu sy'n gymwys i gael budd yn cael cyfle i wneud hynny. Fodd bynnag, mae hyn dim ond yn ymestyn y cyfle i gynnig budd ychydig iawn i bobl na allant fforddio'r ffioedd, ac yn ymarferol, nid yw'n debygol o fod yn ffactor wrth ddangos bod cyfle gan bobl sy'n byw mewn tlodi i gael budd. Er y gall fod yn berthnasol wrth ddangos bod elusen yn bodloni egwyddorion 2b, nid yw'n debygol o fod yn berthnasol, o leiaf ar ei ben ei hun, o ran dangos bod yr elusen yn bodloni egwyddor 2c.
Mae rhai elusennau yn cynnig cynlluniau cynilo sy'n galluogi teuluoedd i ledaenu cost ffioedd dros flwyddyn (mewn symiau wythnosol neu fisol) os ydynt yn ei chael hi'n anodd i dalu ffioedd blwyddyn gyfan ymlaen llaw.
Roeddem wedi ystyried bod argaeledd y math hwn o gynllun cynilo yn berthnasol wrth asesu i ba raddau y mae elusen yn bodloni egwyddorion 2b a 2c oherwydd mae'n gam tuag at wneud y ffioedd yn fwy fforddiadwy, ond nid oes ganddo lawer o effaith ar asesiad budd cyhoeddus yn gyffredinol os oedd y costau wythnosol neu fisol yn parhau'n uchel.
Mae rhai elusennau'n cynnig disgowntiau ar ffioedd i aelodau staff.
Er bod rhai o'r aelodau staff sy'n gallu cael budd o hyn yn bobl na fyddai'n gallu fforddio'r ffioedd fel arall, gan fod y cyfle i gael budd yn yr achos hwn yn ganlyniad i hawl gytundebol (fel rhan o becyn tâl staff) ac nid yn fudd fel buddiolwr elusennol, nid yw'n rhywbeth roeddem wedi'i ystyried wrth asesu egwyddorion 2b a 2c.
Hefyd mae'n rhaid i ni ystyried disgowntiau staff yng nghyd-destun asesu egwyddor 2ch (rhaid i unrhyw fudd preifat fod yn atodol). Fel arfer mae'n cael ei ystyried yn fudd preifat cyfreithlon ac atodol. Am ganllawiau pellach ar yr egwyddor hon gweler adran Dd12 Elusennau a Budd Cyhoeddus.
E7. Cynnig cyfleoedd arwyddocaol eraill i gael budd
Mae darparu mynediad am ddim neu â chymhorthdal i wasanaethau neu gyfleusterau'r elusen yn un ffordd amlwg o ddangos bod pob na allant fforddio'r ffioedd yn cael cyfle i gael budd, ond gall elusennau hefyd ddangos cyfleoedd arwyddocaol eraill i gael budd.
Mae ein hadroddiadau asesu budd cyhoeddus yn cynnwys nifer o enghreifftiau wedi'u darparu gan elusennau sy'n codi ffioedd o gyfleoedd arwyddocaol eraill i gael budd y maent yn eu darparu i bobl na allant fforddio'r ffioedd.
|
Astudiaeth achos: cartrefi gofal preswyl elusennol
Yn ein hasesiadau budd cyhoeddus, roeddem wedi ystyried bod modd defnyddio darparu gofal dydd a chyfleusterau seibiant fel ffordd berthnasol o ddangos bod elusen yn ehangu mynediad i'w gwasanaethau a chynnig cyfleoedd arwyddocaol eraill i gynnig budd i bobl na allant fforddio'r ffioedd, yn arbennig os oedd gofal dydd wedi'i nodi'n benodol yn amcanion yr elusen.
|
Nid oedd cyfleoedd eraill i gael budd eraill mewn unrhyw un o'r asesiadau yn ddigon arwyddocaol ar eu pennau eu hunain i fodloni egwyddorion 2b a 2c. Fodd bynnag, roeddem wedi ystyried y cyfleoedd hyn i gael budd, os oedd yn briodol, ynghyd ag unrhyw gymorth ffioedd a gynigiwyd gan yr elusen.
E8. Asesu'r cyfleoedd cyfan i gael budd
Wrth asesu'r cyfleoedd cyfan i gael budd a ddarperir gan elusen, yr hyn oedd yn bwysig oedd i ba raddau y mae'r elusen yn targedu cymorth am ddim a chyfleoedd eraill i gynnig budd mewn ffordd wedi'i chynllunio a bwriadol i ddarparu cyfleoedd i gynnig budd i bobl na allant fforddio'r ffioedd.
Yr hyn oedd yn fwyaf pwysig oedd pa gyfleoedd i gael budd oedd yn cael eu cynnig, yn hytrach nag i ba raddau yr oedd pobl yn dewis achub ar y cyfle. Fodd bynnag, os nad oedd llawer yn manteisio ar y cyfleoedd hyn, roeddem wedi archwilio gyda'r ymddiriedolwyr a oedd rhwystrau i bobl achub ar y cyfleoedd hynny. Er enghraifft, a oedd y cyfle i gael budd yn cael ei hysbysebu'n ddigon eang neu'n ddigon clir, ac felly nid oedd pobl yn ymwybodol o'r cyfle, neu oherwydd ffactorau eraill, megis yr angen i allu fforddio costau eraill sydd heb eu cwmpasu gan y cymorth ffioedd a gynigir.
Byddem yn annog elusennau (a chawsom ein calonogi gan yr elusennau hynny oedd yn amlwg yn gwneud hyn) i ystyried y mater hwn mewn ffordd sy'n cofleidio ysbryd budd 'cyhoeddus', yn hytrach na rhwystr i'w orchfygu. Hyd yn oed yn yr achosion hynny lle y daethom i'r casgliad fod angen i'r ymddiriedolwyr wneud mwy i fodloni egwyddorion 2b a 2c yn llwyr, cydnabyddwn os yw'r ymddiriedolwyr wrthi'n gweithio tuag at wneud gwelliannau, cydnabyddwn y gall fod angen cyfnod o addasu.
|
Astudiaeth achos: The Manchester Grammar School Foundation
Mae Ysgol Ramadeg Manceinion yn enghraifft dda o ysgol fawr gydag adnoddau sy'n gallu cael ac sy'n cael eu defnyddio i ddarparu ystod eang o gyfleoedd i gynnig budd i bobl na allant fforddio'r ffioedd a godir.
Mae'r amrywiaeth o gymorth ffioedd prawf modd a hysbysebir gan yr elusen yn cynnwys cynllun bwrsariaeth sylweddol, sy'n darparu bwrsariaethau hyd at 100% o ffioedd i bobl sy'n is na throthwy incwm penodedig, prydau ysgol am ddim, teithio ysgol am ddim neu â chymhorthdal a gwobrau caledi.
Mae hefyd yn darparu ystod helaeth o gyfleoedd arwyddocaol eraill i gael budd sy'n ymestyn allan i'r gymuned ehangach. Mae'r rhain wedi'u cynnwys o fewn y categorïau canlynol:
- mynediad i wersi neu ddigwyddiadau addysgol eraill;
- cymorth ar gyfer myfyrwyr Safon Uwch mewn ysgolion gwladol i'w helpu i baratoi i gael mynediad i brifysgolion;
- cydweithredu ag ysgolion gwladol;
- cydweithio ag ysgolion dramor;
- cynnal digwyddiadau gydag ysgolion eraill;
- defnyddio cyfleusterau gan ysgolion gwladol ac annibynnol a grwpiau o bobl ifanc; a
- rhannu arbenigedd.
|
F. Asesu buddion preifat
Is-egwyddor 2ch (rhaid i unrhyw fuddion preifat fod yn atodol)
Yn yr adran hon rydym wedi amlinellu rhai materion cyffredinol, ehangach sy'n ymwneud ag asesu buddion preifat. Mae rhai o'r materion hyn yn cael eu hystyried yn fwy manwl yn adran F2.
F1. Materion ehangach
O'r asesiadau a gynhaliwyd gwelwyd y canlynol:
- mae'n ddefnyddiol os yw ymddiriedolwyr yn agored ac yn dryloyw am unrhyw drafodion parti cysylltiedig yn eu cyfrifon a'u hadroddiadau blynyddol;
- mae'n ddefnyddiol i ymddiriedolwyr elusennau sefydlu polisi gwrthdaro buddiannau ffurfiol;
- mae'n bwysig i ymddiriedolwyr elusennau ymgyfarwyddo â thelerau dogfen lywodraethol eu helusen o ran talu ymddiriedolwyr a darpariaethau gwrthdaro buddiannau eraill;
- mae'n ddefnyddiol i ymddiriedolwyr adolygu'n barhaus unrhyw fuddion preifat i unigolion, er mwyn sicrhau nad ydynt yn fwy atodol i nodau'r elusen, neu'n drech na'r buddion cyhoeddus a ddarperir.
F2. Rheoli gwrthdaro buddiannau
Ni ddylai ymddiriedolwyr wynebu unrhyw wrthdaro rhwng eu dyletswyddau i'w hymddiriedolaeth elusennol a'u buddion personol, oni bai fod y posibilrwydd o fudd personol sy'n creu'r gwrthdaro hwnnw wedi'i awdurdodi a'i reoli.
Wrth asesu budd cyhoeddus, os yw gwrthdaro buddiannau heb ei reoli'n ddigonol ni all yr ymddiriedolwyr ddangos yn wrthrychol bod eu holl benderfyniadau wedi cael eu gwneud, a byddant yn cael eu gwneud, er lles yr elusen a'i buddiolwyr gan eithrio pob budd preifat. O ganlyniad, ni allwn feirniadu i ba raddau y mae buddion preifat heb eu rheoli, a'r posibilrwydd o fudd preifat heb ei awdurdodi, yn gallu cael ei ystyried yn atodol. Os yw gofynion cyfansoddiadol elusen yn golygu nad yw'n bosibl ar hyn o bryd i'r ymddiriedolwyr ddangos bod unrhyw wrthdaro buddiannau yn gallu cael eu hawdurdodi a'i reoli'n briodol, bydd angen iddynt weithredu darpariaethau effeithiol er mwyn i'w penderfyniadau sy'n effeithio ar fudd cyhoeddus yr elusen fod yn dryloyw a chydymffurfio â'r gyfraith.
|
Astudiaeth achos: Cornwall Old People's Housing Society
Yn achos Cornwall Old People's Housing Society, mae'r ymddiriedolwyr wedi dangos eu bod yn rheoli gwrthdaro buddiannau, er enghraifft trwy gael polisi sy'n datgan na all unrhyw ymddiriedolwyr a allai wynebu gwrthdaro buddiannau posibl (megis os oes perthynas gan ymddiriedolwr sy'n breswylydd yn y cartref) yn cymryd rhan mewn unrhyw drafodaethau sy'n ymwneud â'r ffioedd a godir ar y preswylwyr.
|
I gael gwybodaeth bellach gweler y canllawiau canlynol ein gwefan:
Ff. Y broses asesu
Yn yr adran hon rydym wedi nodi rhai arsylwadau cychwynnol o'r hyn rydym wedi'i ddysgu o'r broses a ddefnyddiwyd ar gyfer y rhaglen gyntaf hon o asesiadau budd cyhoeddus.
Ff1. Casglu gwybodaeth
Holiadur asesu budd cyhoeddus
Gofynnwyd i bob un o'r deuddeg elusen sydd wedi'u cynnwys yn ein rhaglen asesu budd cyhoeddus i gwblhau holiadur. Roedd y cwestiynau yn adlewyrchu egwyddorion budd cyhoeddus a nodwyd yn Elusennau a Budd Cyhoeddus. Roedd pob un o'r cwestiynau yr un fath a rhoddwyd canllawiau i helpu' r elusennau i'w cwblhau. Ein hymagwedd gyffredinol oedd rhoi'r rhyddid i'r elusennau ei gwblhau fel y gwelant orau a rhoi cyfle iddynt roi unrhyw wybodaeth i ni y teimlent fyddai'n berthnasol i'r asesiad. Er bod yr ymagwedd gyffredinol hon wedi gweithio'n dda, mewn rhai achosion roedd rhaid gofyn i elusennau am wybodaeth ychwanegol, naill ai i egluro'r wybodaeth a ddarparwyd neu sicrhau y gallem asesu elusennau tebyg yn yr un modd.
|
Er enghraifft, roedd rhaid i ni ofyn i rai ysgolion am wybodaeth ychwanegol am fwrsariaethau a gofyn i rai cartrefi gofal preswyl am wybodaeth ychwanegol am gyllid awdurdod lleol er mwyn bod yn sicr ein bod yn asesu'r agweddau hynny o waith elusennau mewn ffordd gyson a theg.
|
O'r asesiadau a gynhaliwyd mewn perthynas â'r holiadur asesu gwelwyd y canlynol:
- roedd rhaid i ni gysylltu ag elusennau eto weithiau i gael gwybodaeth ychwanegol. Yn y dyfodol gallai hyn olygu y bydd angen i ni ofyn rhai cwestiynau mewn ffordd fwy uniongyrchol, neu ddarparu mwy o arweiniad ynghylch pa wybodaeth fyddai'n helpu ein hasesiad, yn arbennig o ran gwybodaeth ariannol;
- mae elusennau tebyg yn darparu amrywiaeth eang a symiau gwahanol o wybodaeth. Credwn fod syniad gwell gennym bellach o'r math o wybodaeth sydd ei hangen ac yn berthnasol i'n galluogi i ddod i gasgliad;
- mae angen i ni esbonio'n well i elusennau pa dystiolaeth rydym yn chwilio amdani yn yr wybodaeth ganolbwyntiedig, ansawdd, seiliedig ar dystiolaeth sy'n ein helpu i ddod i gasgliad;
- bydd y crynodeb o'r wybodaeth allweddol a darparwyd gan yr elusen rydym yn ei gynhyrchu ar gyfer pob asesiad yn ddefnyddiol o ran llywio ein datblygiad o holiaduron asesu budd cyhoeddus yn y dyfodol.
Yr ymweliad â'r elusen
Ym mhob achos roedd ein hasesiad budd cyhoeddus yn cynnwys ymweliad â safle'r elusen.
Pwrpas yr ymweliad oedd cwrdd â chynrychiolwyr yr elusen a'n helpu i ddeall ym mha gyd-destun y mae'r elusen yn gweithredu. Ni fwriadwyd ac nid oedd angen gweld pob agwedd ar weithrediadau'r elusen oherwydd nid yw'r ymweliad asesu yn arolygiad o safle'r elusen neu ei gweithrediadau cyffredinol.
O'r asesiadau a gynhaliwyd, o ran yr ymweliadau â'r elusen gwelwyd y canlynol:
- er bod yr ymweliadau yn ddefnyddiol yn y rownd gyntaf hon o asesiadau i gael dealltwriaeth well o sut y mae elusen yn gweithredu, efallai na fydd angen cynnwys ymweliad ag elusen ym mhob asesiad yn y dyfodol. Byddwn yn gwneud hynny dim ond os yw'n briodol ac yn gymesur;
- roedd yr ymweliadau wedi ein galluogi i archwilio rhai meysydd yn fwy manwl lle roedd angen gwneud hyn i helpu egluro'r wybodaeth a ddarparwyd gan yr elusen;
- gofynnodd sawl elusen i ni beth fyddai'r cymysgedd gorau o bobl sy'n cynrychioli'r elusen i fod yn bresennol yn yr ymweliad. Mae ein profiad o'r rownd gyntaf hon o asesiadau wedi rhoi syniadau cliriach i ni ynghylch hyn ar gyfer asesiadau yn y dyfodol.
Ymchwil yn y swyddfa cyn ymweld
Ym mhob achos cynhaliwyd ymchwil yn y swyddfa i adolygu'r wybodaeth yr oedd gennym eisoes am bob elusen, hanes yr elusen, gwybodaeth ariannol o'r tair blynedd ddiwethaf ac unrhyw wybodaeth gyhoeddus megis gwefannau a thaflenni. Hefyd adolygwyd adroddiadau o reolyddion eraill.
O'r asesiadau a gynhaliwyd mewn perthynas â'n hymchwil yn y swyddfa gwelwyd y canlynol:
- roedd gwefannau elusennau a llenyddiaeth gyhoeddedig, gwefannau cysylltiedig (megis rhai rheolyddion statudol perthnasol) a chwiliadau rhyngrwyd cyffredinol yn ddefnyddiol, yn enwedig os oedd hyn yn dangos pa wybodaeth y gallai aelod o'r cyhoedd ddod o hyd iddi yn hawdd am elusen. Fodd bynnag, wrth gyrraedd ein casgliadau roeddem wedi ystyried gwybodaeth berthnasol o ffynonellau credadwy yn unig;
- roedd gwybodaeth ariannol, yn enwedig cyfrifon diweddar a drafft elusen, yn ddefnyddiol o ran deall ei hamgylchiadau economaidd cyfredol ac asesu codi ffioedd;
- roedd manylion unrhyw bolisïau, gweithdrefnau a ffurflenni ysgrifenedig (megis polisïau ac arferion ar ddarparu cymorth ariannol) yn ddefnyddiol. Yn aml iawn gwelwyd bod polisïau neu weithdrefnau gan elusennau yr oeddent yn eu gweithredu'n ymarferol ond oedd heb gael eu hysgrifennu ar bapur ac felly gellid eu camddeall neu gael eu gweithredu'n anghyson;
- roedd gwybodaeth o achosion blaenorol y Comisiwn Elusennau yn ddefnyddiol ar y cyfan o ran deall hanes yr elusen (megis rhesymau dros newid ei hamcanion).
Ff2. Gwneud argymhellion a dod i gasgliadau
Ar gyfer pob un o'n hasesiadau budd cyhoeddus rhoddwyd ein casgliadau ynghylch i ba raddau y mae'r elusen wedi dangos bod ganddi nodau sy'n gallu bod yn elusennol, a bod y nodau hynny yn cael eu cyflawni er budd y cyhoedd. Gwnaethpwyd hyn trwy asesu nodau'r elusen yn erbyn egwyddorion ac is-egwyddorion budd cyhoeddus a bennwyd yn ein canllaw cyffredinol, Elusennau a Budd Cyhoeddus.
Os ydym wedi dod i'r casgliad na all nodau elusen fod yn elusennol, neu nid ydynt yn cael eu cyflawni mewn ffordd sy'n bodloni is-egwyddorion budd cyhoeddus, nodwn unrhyw gamau gofynnol neu a argymhellir y bydd yr ymddiriedolwyr yn eu cymryd er mwyn mynd i'r afael â'r materion hynny.
Mewn rhai achosion daethom i'r casgliad nad yw nodau'r elusen yn cael eu cyflawni er budd y cyhoedd, ar y sail bod y sefydliad yn elusen ond mae'r ymddiriedolwyr elusen yn gweithredu'n groes i'w hymddiriedolaethau elusen.
Mewn achosion eithriadol, gallwn ddod i'r casgliad bod effaith peidio â gweithredu er budd y cyhoedd yn golygu nad yw'r sefydliad, yn ei hanfod, yn elusen. Fodd bynnag, prin iawn y bydd hyn yn digwydd ac nid oedd yn rhywbeth a welwyd yn y deuddeg achos asesu. Ym mhob achos byddwn yn cydweithio ag ymddiriedolwyr yr elusen i'w helpu i ddatrys unrhyw anawsterau budd cyhoeddus os yw hynny'n bosibl.
Ff3. Yr adroddiad asesu budd cyhoeddus
Rydym wedi cynhyrchu adroddiad o'r casgliadau o bob un o'r deuddeg asesiad budd cyhoeddus cyntaf. Ar gyfer pob elusen, mae'r adroddiad yn disgrifio'r elusen, yn archwilio a yw ei nodau yn gallu bod yn elusennol er budd y cyhoedd ac yn crynhoi i ba raddau y mae'n bodloni'r gofyniad hwnnw ar hyn o bryd.
Mae pob asesiad yn cael ei gynnal yn erbyn egwyddorion budd cyhoeddus a nodwyd yn Elusennau a Budd Cyhoeddus, felly mae'r adroddiadau'n dilyn yr un fformat. Mae'r adroddiad hefyd yn amlinellu ein casgliadau ac unrhyw gamau rydym yn eu hargymell i'r ymddiriedolwyr neu'n gofyn iddynt eu cymryd.
Roedd pob elusen wedi derbyn copi o'i hadroddiad cyn ei gyhoeddi ar ein gwefan. Roedd hyn yn creu cyfle i'r ymddiriedolwyr wybod beth oedd ein casgliadau a'n hargymhellion, a chynnig sylwadau ar gywirdeb ffeithiol yr adroddiad, cyn i'r casgliadau gael eu cyhoeddi.
Ff4. Adborth o'r holiadur
Rydym wedi gwahodd pob elusen a fu trwy'r broses asesu budd cyhoeddus i gwblhau holiadur adborth ar eu profiad nhw o'r broses er mwyn i ni allu ei gwella yn y dyfodol.
Byddwn yn cyhoeddi rhywbeth pellach ar hyn maes o law.
Ff5. Rheoli'r broses
Bydd darlun mwy cyflawn gennym o'r gwersi a ddysgwyd o'r broses pan fydd yr holiaduron adborth wedi'u cwblhau a'u dychwelyd atom. Ein teimladau cychwynnol yw y byddwn eisiau ystyried:
- sut i wella'r holiadur cychwynnol a chanllawiau am y broses - er enghraifft, derbyniwyd nifer o gwestiynau am gyfrinachedd a byddai'n ddefnyddiol i esbonio ar y cychwyn sut mae'r Deddfau Rhyddid Gwybodaeth a Diogelu Data yn gymwys;
- y dewis o elusennau a gwerth gwahodd elusennau i wirfoddoli;
- beth fydd yn amserlen resymol ar gyfer asesiadau yn y dyfodol;
- pa gamau pellach y gallwn eu cymryd i leihau'r baich rheoleiddio ar elusennau sy'n cael eu hasesu - trwy gydweithio ag ysgolion, er enghraifft, datblygwyd ein harferion gweithio i ystyried cyfnodau gwyliau;
- pa mor effeithiol yr oeddem o ran rhoi gwybodaeth i'r elusennau yn gyson trwy'r broses asesu;
- pa gyngor a chefnogaeth y gallai fod ei angen ar ymddiriedolwyr os yw'r asesiadau yn denu sylw'r cyfryngau a'r cyhoedd; a'r
- ffactorau y gallai elusennau ddymuno eu hystyried wrth benderfynu pwy ddylai ymwneud â'r broses asesu.
Ff6. Y camau nesaf
Er bod ystyried materion budd cyhoeddus yn rhan arferol o'n gwaith achos ac yn elfen hanfodol o'r holl achosion cofrestru, byddwn yn parhau i gynnal rhaglen ar wahân o asesiadau budd cyhoeddus i elusennau presennol pe byddai hynny'n helpu i ddatblygu dealltwriaeth o'r gofyniad budd cyhoeddus, a chydymffurfiaeth â'r gofyniad hwnnw.
Disgwyliwn ddechrau cam nesaf y rhaglen asesu yn nes ymlaen y flwyddyn hon, yn dilyn adolygiad o gostau'r rhaglen, y buddiannau a gyflawnwyd a sut y gallai'r rhain effeithio ar raglenni yn y dyfodol. Yn y rhaglen nesaf bwriadwn gynnwys mathau eraill o elusennau sy'n codi ffioedd, rhai elusennau bach ac elusennau y gallai is-egwyddor 2ch (rhaid i unrhyw fuddion preifat fod yn atodol) fod yn fater i'w ystyried.
Fel y nodwn yn adran F Elusennau a Budd Cyhoeddus, byddwn yn datblygu asesiadau budd cyhoeddus yn fwy cyffredinol trwy ein gwaith achos cyffredinol, trwy gydweithio â chyrff proffesiynol a mantell a thrwy gynnal ein hastudiaethau ymchwil budd cyhoeddus.