Pwy ddylai baratoi Adroddiad Blynyddol yr Ymddiriedolwyr?

Rhaid i bob elusen gofrestredig baratoi Adroddiad Blynyddol yr Ymddiriedolwyr. Mae'n ddogfen allweddol oherwydd:

  • mae'n amlinellu cyraeddiadau'r elusen a'i gweithgareddau yn ystod y flwyddyn sydd er budd y cyhoedd
  • mae'n esbonio beth mae'r elusen yn ceisio ei wneud a sut y mae'n mynd ati i gyflawni hyn
  • gall ymddiriedolwyr ei ddefnyddio i esbonio materion nad oes modd eu hesbonio'n llawn gan y cyfrifon yn unig
  • mae'n ychwanegu at dryloywder a hygyrchedd yr wybodaeth ariannol a ddarperir gan y cyfrifon

Nid yw'r ymddiriedolwyr eu hunain bob amser yn ysgrifennu'r adroddiad. Er enghraifft:

  • mewn elusennau mwy byddant yn dirprwyo’r gwaith o ysgrifennu'r adroddiad i'r staff
  • gallant gael cymorth gan wirfoddolwyr a buddiolwyr yr elusen hefyd sydd am ysgrifennu am eu profiadau nhw
  • gall cynghorwyr proffesiynol yr elusen helpu gyda rhai o adrannau mwy technegol yr adroddiad.

Fodd bynnag, mae'n rhaid i'r ymddiriedolwyr gael perchnogaeth o'r adroddiad. Er enghraifft, os yw'r adroddiad yn datgan bod yr ymddiriedolwyr wedi ystyried canllawiau Budd Cyhoeddus y Comisiwn neu wedi datblygu eu polisi risg eu hunain, mae'n rhaid i bob ymddiriedolwyr fod yn ymwybodol o'r prosesau y mae'r bwrdd wedi'u mabwysiadu i wneud y pethau hynny. Hefyd dylent sicrhau eu bod yn hapus ei fod yn rhoi adroddiad da o'r hyn y mae'r elusen yn ei wneud a sut y mae'n gweithio.

© Hawlfraint y Goron

© 2012 Hawlfraint y Goron          Hysbysiad Hawlfraint, Ymwadiad a Datganiad Preifatrwydd