Yn yr adran hon...

Beth sy'n newdd?

Am y Ffurflen Flynyddol/Diweddariad

Mae tair rhan i'r Ffurflen Flynyddol/Diweddariad (Rhan A - Gwybodaeth am yr Elusen, Rhan B - Gwybodaeth Ariannol a Rhan C - Ffurflen Gwybodaeth Gryno) a'r adran Adrodd am Ddigwyddiadau Difrifol. Mae faint o'r rhannau hyn y bydd gofyn i chi eu cwblhau yn dibynnu ar incwm eich elusen yn y cyfnod ariannol dan sylw. Gofynnwn i chi gwblhau'r hyn sy'n briodol i amgylchiadau'ch elusen yn unig. I gael mwy o wybodaeth am ofynion cyflwyno'ch elusen, gweler 'Beth y mae angen i elusennau ei gyflwyno i'r Comisiwn Elusennau y flwyddyn hon?'

Ar gyfer elusennau gydag incwm o £10,000 neu lai, mae'r Ffurflen Flynyddol/Diweddariad yn ffordd gyfleus i ymddiriedolwyr elusen gydymffurfio â'u dyletswydd i hysbysu'r Comisiwn am newidiadau i wybodaeth allweddol am eu helusen. Nid yw'n ofynnol i elusennau yn y categori hwn i anfon cyfrifon i'r Comisiwn ond rhaid iddynt eu paratoi a sicrhau eu bod ar gael ar gais.

Gall yr wybodaeth a rowch gael ei chofnodi ar y Gofrestr Elusennau, sydd ar gael i'r cyhoedd ei gweld yn ein swyddfeydd ac ar ein gwefan. Sylwch nid yw manylion banc, cyfeiriadau a rhifau ffôn ymddiriedolwyr, neu ddyddiadau geni ar gael i'r cyhoedd eu gweld.

Unwaith eto, rydym wedi rhannu manylion 'cyswllt yr elusen' yn ddwy ran. Rydym wedi gwahaniaethu rhwng elusennau sydd ag unigolyn fel cyswllt a'r rhai sydd â sefydliad fel cyswllt (ee, cwmni o gyfreithwyr neu'r elusen ei hun yng nghyfeiriad ei swyddfa). Roedd hyn yn ymateb i'r nifer cynyddol o elusennau oedd yn dymuno defnyddio sefydliad fel man cyswllt ar y Gofrestr Elusennau.

Cwestiynau Cyffredin

© Hawlfraint y Goron

© 2012 Hawlfraint y Goron          Hysbysiad Hawlfraint, Ymwadiad a Datganiad Preifatrwydd