Yn yr adran hon...

Beth sy'n newdd?

Hafan Ffurflenni Blynyddol 2008 - 2007

Mae'r wybodaeth a'r dolenni ar y dudalen hon yn cyfeirio at Ffurflenni Blynyddol 2008 a 2007. Os hoffech gael gwybodaeth am Ffurflen Flynyddol 2009, gweler Hafan Ffurflenni Blynyddol -2009.

Fel y llynedd, bydd y cyswllt elusen a enwir ar ein cofnodion yn derbyn hysbysiad Ffurflen Flynyddol gan y Comisiwn. Bydd yn wahoddiad i gwblhau Ffurflen ei elusen ar-lein neu wneud cais am ffurflen bapur yn lle hynny.

Dros y blynyddoedd diwethaf rydym wedi cyflwyno Ffurflen Flynyddol symlach i nifer o elusennau er mwyn helpu i leihau baich 'tâp coch' a helpu ymddiriedolwyr i ganolbwyntio ar eu cyfrifoldebau bob dydd. Gofynnwyd am fwy o wybodaeth gan yr elusennau mwyaf ac am wybodaeth hanfodol yn unig gan yr elusennau lleiaf. Mae'r ymagwedd gymesur hon yn parhau y flwyddyn hon.

Yma fe welwch ddolenni i nifer o dudalennau gyda gwybodaeth am Ffurflenni Blynyddol y Comisiwn Elusennau 2008 a 2007.

Erbyn hyn gallwch gwblhau eich Ffurflen Flynyddol ar-lein. Dilynwch y ddolen i'n Hafan Gwasanaethau Ar-lein, mewngofnodwch drwy ddefnyddio eich cyfrinair diogel a chliciwch i gwblhau'ch ffurflen.

Cewch gyngor pellach ar sut i gwblhau Ffurflen Flynyddol neu Ddiweddariad Blynyddol drwy ffonio'r Comisiwn Elusennau Uniongyrchol ar 0845 3000 218. Mae cynghorwyr ar gael i ateb eich ymholiadau rhwng 8am - 8pm, Llun - Gwener a rhwng 9am - 1pm ar ddydd Sadwrn (ac eithrio gwyliau banc). Mae gwasanaeth Ffôn Testun gennym hefyd ar 0845 3000 219 i alwyr sydd â nam ar y clyw neu'r lleferydd. Os na allwch ddod o hyd i'r wybodaeth y mae ei hangen arnoch ar y tudalennau hyn cysylltwch â ni drwy'r e-bost.

© Hawlfraint y Goron

© 2012 Hawlfraint y Goron          Hysbysiad Hawlfraint, Ymwadiad a Datganiad Preifatrwydd