Cwyno am elusen

Derbyniwn nifer o fathau gwahanol o gwynion am elusennau, ond gallwn ddelio â rhai mathau o gwynion yn unig. Yn y bôn, rydym am wybod a oes risg difrifol o niwed arwyddocaol i elusen neu gamddefnyddio elusen, ei hasedau, ei buddiolwyr neu ei henw da a byddwn yn gweithredu os ydym o'r farn bod ein hymyrraeth yn angenrheidiol ac yn ymateb cymesur i'w diogelu.

Fodd bynnag, yn ein profiad ni, dylai'r mwyafrif o'r cwynion a dderbyniwn gael eu cyfeirio'n uniongyrchol at yr elusen ei hun yn hytrach na'r Comisiwn Elusennau. Mae'r cwynion hyn yn cynnwys cwynion am y gwasanaethau y mae elusen yn eu darparu, materion cyflogaeth, dulliau codi arian ac anghydfodau mewnol.

Cyn cysylltu â ni dylech benderfynu a yw'ch problem yn un lle y gallwn eich helpu chi.

Mae ein cyhoeddiad Cwynion Am Elusennau (CC47) yn esbonio'n fanwl pa broblemau y gallwn eu hystyried a sut i roi gwybod i ni amdanyn nhw. Mae canllawiau wedi'u teilwra'n arbennig ar gyfer ymddiriedolwyr, gweithwyr a gwirfoddolwyr elusen ac archwilwyr ac archwilwyr annibynnol ar gael hefyd.

Os nad ydych yn gallu datrys problem gyda'r elusen ac mae'n rhaid i ni ymyrryd, dylech ddefnyddio ein ffurflen gwyno ar-lein a fydd yn eich helpu i ddarparu'r wybodaeth angenrheidiol.

© Hawlfraint y Goron

© 2011 Hawlfraint y Goron          Hysbysiad Hawlfraint, Ymwadiad a Datganiad Preifatrwydd