Cynnwys
Safon ar gyfer Gohebiaeth
- Os ydych yn ysgrifennu atom byddwn yn ceisio rhoi ymateb llawn a chlir i chi cyn pen pymtheg diwrnod gwaith o'r dyddiad y derbyniwn eich llythyr. Byddwn yn sicrhau bod ein hymateb yn gywir ac yn briodol. Mae'r safon gwasanaeth hon yn gymwys i bob math o ohebiaeth gan gynnwys e-byst a ffacsys.
- Os na allwn roi ymateb llawn i chi cyn pen pymtheg diwrnod, byddwn yn cysylltu â chi ac yn rhoi gwybod i chi pam nad yw hyn yn bosib a nodi pryd y disgwyliwn fod mewn sefyllfa i roi ymateb llawn i chi. Byddwn hefyd yn rhoi enw a rhif cyswllt y sawl sy'n delio â'ch ymholiad i chi.
- Os ydych yn cysylltu â ni yn ganolog trwy'r e-bost byddwn yn cydnabod i gychwyn ein bod wedi derbyn eich ymholiad. Er y cydnabyddwn fod e-bost yn cynnig manteision mawr o ran cyflymdra, gall nifer o'r ymholiadau a dderbyniwn fod yn gymhleth a gofyn am ystyriaeth ofalus a chyngor o nifer o ffynonellau o fewn y Comisiwn Elusennau. Felly caiff eich neges ei chyfeirio at yr uned briodol a byddwn yn ymateb yn llawn o fewn y safon gwasanaeth gyhoeddedig ar gyfer gohebiaeth arall.
- Byddwn yn monitro ein perfformiad yn erbyn y safon gwasanaeth hon ac yn cyhoeddi'r canlyniadau.
Safon ar gyfer Ymwelwyr
- Os ydych yn ymweld ag un o'n swyddfeydd bydd y sawl y mae gennych apwyntiad ag ef/hi yn eich gweld chi o fewn deg munud o amser eich apwyntiad (neu o fewn deg munud o'r amser rydych yn cyrraedd os ydych yn hwyr).
- Os nad oes apwyntiad gennych, byddwn yn sicrhau eich bod yn gallu siarad â rhywun sy'n gallu trafod eich ymholiad o fewn deg munud. Os na all y person hwnnw ddelio â'ch ymholiad yn llawn, bydd yn gwneud trefniadau i sicrhau bod eich ymholiad yn cael ei drin o fewn y safon gyhoeddedig ar gyfer gohebiaeth cwsmeriaid er mwyn i chi gael ymateb llawn.
- Byddwn yn monitro ein perfformiad yn erbyn y safon hon ac yn cyhoeddi'r canlyniadau.
Safon ar gyfer Galwadau Ffôn
- Os ydych yn ffonio ni, byddwn yn ateb eich galwad yn brydlon, yn gwrtais ac yn gymwynasgar. Os nad yw'r sawl rydych yn dymuno siarad ag ef/hi ar gael, byddwn yn cymryd neges ac yn trefnu i'ch galwad gael ei ddychwelyd ganddo/ganddi neu gan rywun arall addas.
- Byddwn yn asesu ein perfformiad yn erbyn y safon hon er mwyn sicrhau bod camau'n cael eu cymryd i wella safonau os oes angen gwneud hyn.
- Rydym yn ymrwymedig i ddatblygu safon fwy manwl ar gyfer ein llinellau cymorth a byddwn yn corffori hyn yn ein hymrwymiad Gwasanaethau yn Gyntaf maes o law.
Safon Gwybodaeth
- Byddwn yn darparu gwybodaeth glir a syml ynghylch ein gwasanaethau i'n cwsmeriaid. Bydd y wybodaeth ar gael ar gais gan gynnwys trwy ein llinellau cymorth, taflenni arweiniad ac ar ein gwefan lle y byddwch yn cael hyd i'n cyfeiriadau e-bost canolog hefyd.
- Byddwn yn darparu'r wybodaeth hon mewn ystod eang o ieithoedd a fformatau er mwyn sicrhau ein bod yn ateb anghenion ein cwsmeriaid nad ydynt yn siarad Saesneg a'r rheiny sydd ag anghenion arbennig.
Ein Safon Cynnig Gwasanaeth
- Byddwn yn ceisio sicrhau bod ein gwasanaethau ar gael i bob un o'n cwsmeriaid gan gynnwys pobl ag anghenion arbennig megis y rheiny sydd ag anableddau, yr henoed, rhieni sydd â phlant ifanc a'r rheiny nad ydynt yn rhugl yn y Saesneg.
- Wrth gyflwyno ein gwasanaethau ac ystyried sut i'w mireinio, byddwn yn ymgynghori â chwsmeriaid a darpar gwsmeriaid ac yn rhoi gwybod i chi beth yw canlyniad y gwaith ymchwil hwn trwy gyhoeddi ein canlyniadau. Rydym wedi penodi Cefnogwr Defnyddwyr a fydd yn gweithredu fel llais ein cwsmeriaid.
- Trwy ymgynghori â chwsmeriaid byddwn yn defnyddio ystod eang o gyfryngau a fformatau cyfathrebu er mwyn sicrhau nad yw unrhyw un sydd eisiau cymryd rhan yn cael ei rwystro rhag gwneud hynny.
Cwynion
Os nad ydym yn bodloni ein safonau gwasanaeth cyhoeddedig neu os ydych yn anhapus mewn unrhyw ffordd arall â safon y gwasanaeth a gawsoch gennym, byddwn yn eich cysylltu ag un o'n Rheolwyr Gwasanaeth Cwsmeriaid a fydd yn dweud wrthych sut y gallwch wneud cŵyn swyddogol neu anfon gwybodaeth am y drefn ar gais.
Trin Ein Staff
Mae diogelwch a lles ei staff o'r pwys mwyaf i'r Comisiwn ac mae unrhyw gamdriniaeth, ymosodiad neu aflonyddwch - boed ar lafar, yn ysgrifenedig neu'n gorfforol, yn fygythiad neu'n wirioneddol - yn erbyn unrhyw aelod o'i staff, tra ei fod wrth ei waith, yn gwbl annerbyniol.
Bydd pob achos o gamdriniaeth, ymosodiad neu aflonyddwch yn cael ei ddwyn at sylw rheolwyr y Comisiwn ac yn cael ei ymchwilio'n llawn. Lle y bo'n briodol, byddwn yn dwyn achosion at sylw'r heddlu ac yn ystyried cychwyn achos cyfreithiol.