Croeso i'r Gofrestr Elusennau

Mae'r Gofrestr Elusennau yn cadw manylion sefydliadau sydd wedi cael eu cydnabod fel rhai elusennol yn ôl y gyfraith; ac

  • sy'n dal y rhan fwyaf o'u hasedau yng Nghymru a/neu Loegr, neu
  • y mae pob un o'u hymddiriedolwyr neu'r mwyafrif ohonynt yn byw yng Nghymru a/neu Loegr fel rheol, neu
  • sy'n gwmnïau wedi'u corffori yng Nghymru neu Loegr.

Mae'r Gofrestr yn cael ei ffurfio drwy ddefnyddio'r wybodaeth y mae elusennau yn ei rhoi ac mae'n darparu ffeithiau a ffigurau allweddol am eu gwaith a'u cyllid. Mae'r cofnodion ar gyfer elusennau mwy gydag incwm dros £500,000 yn cynnwys proffil ariannol.

Mae hefyd yn dangos manylion y rhai sy'n gyfrifol am waith yr elusen yn y dyfodol (ymddiriedolwyr) ac mae'n cofnodi a yw'r elusennau sy'n uwch na'r trothwy adrodd wedi ffeilio eu Ffurflen Flynyddol, Adroddiad yr Ymddiriedolwyr a chyfrifon neu beidio.


Elusennau nad yw'n ofynnol iddynt gofrestru


Mae rhai elusennau sy'n fach iawn neu nid yw'r Comisiwn Elusennau yn brif reoleiddiwr ar eu cyfer, wedi'u heithrio ar hyn o bryd o'r angen i gofrestru. I gael rhagor o wybodaeth am elusennau nad ydynt i'w gweld ar y Gofrestr gweler elusennau nad oes rhaid iddynt gofrestru.


Beth sydd ar gael?

Chwilio am elusennau. Defnyddiwch y chwiliad cyflym ar frig y sgrin os ydych chi'n gwybod enw neu rif yr elusen neu defnyddiwch chwiliad uwch gyda'r meini prawf eraill i gael hyd i'r elusen ac i weld ei phroffil.


Gweld ffigurau'r sector ar ffurf graff. Gweld y sector wedi'i ddadansoddi yn ôl maint incwm neu brif ffynhonnell incwm. Gallwch deilwra'r wybodaeth drwy ychwanegu a dileu categorïau.



10 uchaf. Gweld y deg elusen uchaf yn ôl incwm, gwariant a meini prawf eraill. Ychwanegu data ychwanegol at y rhestrau 10 uchaf.

          Hysbysiad Hawlfraint, Ymwadiad a Datganiad Preifatrwydd