Deall sut mae'n rhaid i elusen weithredu
Yn olaf, cyn penderfynu sefydlu elusen newydd, mae'n bwysig eich bod chi'n deall y gofynion sylfaenol ynghylch sut y mae'n rhaid i elusen weithredu.
- Mae'n rhaid i bob elusen weithredu o fewn cyfyngiadau'r gyfraith elusennau.
- Mae'n rhaid i elusennau gael a chyflawni dibenion a gweithgareddau sy'n elusennol yn unig. Nid yw pob diben, hyd yn oed y rhai a all fod yn fuddiol neu'n ddyngarol, yn elusennol o reidrwydd.
- Mae'n rhaid i elusen gael ei sefydlu er budd y cyhoedd hefyd. Mae'n rhaid i chi ddarllen Elusennau a Budd Cyhoeddus i gael arweiniad ar y gofyniad cyfreithiol hwn.
- Mae pobl sy'n rhedeg elusennau yn cael eu galw'n ymddiriedolwyr elusen (hyd yn oed os yw eu grŵp yn cael ei alw'n bwyllgor rheoli, neu'n rhywbeth arall). Mae'n rhaid i chi fod yn ffyddiog bod y bobl a fydd yn rhedeg eich elusen (y corff ymddiriedolwyr arfaethedig) yn deall yr hyn a ddisgwylir ganddynt. Felly, cynghorwn unrhyw un sy'n ystyried sefydlu elusen newydd i ddarllen ein cyhoeddiad Yr Ymddiriedolwr Hanfodol: yr hyn y mae angen i chi wybod. Rydym hefyd yn cynhyrchu canllawiau ar lywodraethu da i ymddiriedolwyr elusen.
Rydw i wedi ystyried y dewisiadau eraill ac rydw i dal am sefydlu elusen newydd
Ar ôl ystyried yr holl ddewisiadau eraill, rydych yn teimlo mai sefydlu elusen newydd yw'r ffordd orau i wneud yr hyn rydych am ei gyflawni, neu os ydych eisoes wedi sefydlu elusen ac am ei chofrestru, dylech ddarllen ein canllaw ar gofrestru elusen newydd . Mae'n esbonio'r broses gofrestru a'r hyn y mae'n rhaid i chi ei wneud cyn gwneud cais i gofrestru.
Gwnawn bopeth a allwn i gynnig cymorth ac arweiniad i chi trwy'r broses.