Yn dibynnu ar eich rheswm dros sefydlu elusen newydd a'r hyn rydych am ei gyflawni, gall fod ffyrdd eraill, a gwell, o gyflawni eich nodau yr hoffem i chi eu hystyried.
Mae'r sefyllfaoedd arbennig canlynol ymysg y rhai lle nad sefydlu elusen newydd yw'r ffordd orau ymlaen o bosib. Yn y sefyllfaoedd hyn rhaid bod yn ofalus iawn a dylid ceisio cyngor cyn bwrw ymlaen â'ch cynlluniau:
Os yw'ch rhesymau dros sefydlu elusen newydd yn wahanol i'r rhain, dylech ystyried a oes elusennau sydd eisoes yn bod sydd â'r un dibenion a gweithgareddau â chi.
Rydw i am goffáu rhywun trwy sefydlu elusen yn ei enw
Yn lle sefydlu elusen newydd, beth am greu cronfa ar wahân, a enwir o fewn elusen sy'n bod; gall hyn fod yr un mor effeithiol â chreu elusen newydd.
Gallwch chwilio am elusennau sy'n bod ar y Gofrestr Elusennau.
Brig y dudalen
Rydw i am wneud rhywbeth mewn ymateb i drychineb cenedlaethol neu ryngwladol
Cyn sefydlu cronfa apêl elusennol newydd, fe'ch cynghorir i ddarllen ein canllaw Apeliadau adeg Trychineb. Yn lle sefydlu elusen newydd, beth am ystyried cynnig arian neu wasanaethau i elusen sy'n bod, fel y Pwyllgor Argyfyngau er enghraifft.
Brig y dudalen
Rydw i am wneud cais am arian loteri ac mae angen i mi sefydlu elusen gofrestredig newydd
Nid oes rhaid i sefydliadau fod yn elusennau cofrestredig i gael grant loteri. Mae sawl gwahanol ddosbarthwr grantiau loteri ac mae gofynion cymhwysedd eu hunain gan bob un ohonynt ar gyfer grantiau. I gael rhagor o wybodaeth ewch i:
Brig y dudalen
Rydw i am sefydlu elusen i helpu rhywun arbennig sy'n dioddef o glefyd/anhwylder [anghyffredin]
Yn gyffredinol, nid yw'n elusennol i sefydlu elusen er budd unigolyn neu unigolion arbennig a enwir. Er mwyn bod yn elusennol, byddai angen i chi ddiffinio'r bobl sy'n gallu elwa o'ch sefydliad yn llawer mwy cyffredinol.
Fel arall, gallwch sefydlu cronfa ymddiriedolaeth anelusennol i gynnig budd i'r unigolyn(unigolion) a enwir neu uno ag elusen sy'n bod sydd eisoes wedi'i sefydlu i helpu dioddefwyr, a/neu wneud gwaith ymchwil ar y clefyd/anhwylder arbennig [anghyffredin].
Brig y dudalen
Mae rhywbeth arbennig wedi cael effaith bersonol arna i yn fy mywyd ac rydw i am helpu eraill yn y sefyllfa honno
Yn lle sefydlu elusen newydd, beth am ystyried cynnig eich gwasanaethau i elusen sy'n bod, neu uno neu gydweithio ag elusen sy'n bod.
Gallwch chwilio am elusennau sy'n bod ac sy'n gwneud gwaith elusennol tebyg yn eich ardal ar y Gofrestr Elusennau.
Fel arall, yn lle sefydlu elusen newydd, beth am sefydlu Cyfrif Ymddiriedolaeth a Reolir trwy sefydliad fel Charities Aid Foundation (CAF) . Mae Cyfrif Ymddiriedolaeth CAF yn system syml sydd ychydig fel cael eich ymddiriedolaeth elusennol eich hun, ond mae'n gweithredu fel is-gronfa CAF. Gallwch roi arian yn y Cyfrif Ymddiriedolaeth, ei alw'n unrhyw beth a hoffwch a phennu pa ddibenion elusennol y gellir defnyddio'r arian ar eu cyfer.
Gan fod CAF yn elusen, mae'r un manteision treth elusennol yn gymwys i'r Cyfrif Ymddiriedolaeth. Mae ychydig fel cael eich ymddiriedolaeth annibynnol eich hun, ond mae ymddiriedolwyr CAF yn gyfrifol am gyflawni eich dymuniadau elusennol.
Brig y dudalen
Rydw i am wneud rhywbeth newydd neu gyflawni diben elusennol sy'n bod mewn ffordd wahanol
Rydym am annog arloesi. Felly rydym yn mabwysiadu ymagwedd adeiladol a chreadigol tuag at ystyried dibenion elusennol newydd a ffyrdd newydd o gyflawni nodau elusennol sy'n bod. Esbonnir ein polisi ar hyn yn ein canllaw Cydnabod Dibenion Elusennol Newydd.
Cyn sefydlu elusen newydd, ceisiwch ystyried a fydd yr hyn y dymunwch ei wneud yn gweithredu'n effeithiol o fewn cyfyngiadau'r gyfraith elusennau. Os na fydd, efallai y bydd angen i chi ystyried dewis arall i sefydlu elusen, megis ffurfio sefydliad anelusennol di-elw (gan ddefnyddio'r fformat Cwmni Corfforedig Elusennol newydd efallai).
Brig y dudalen
Rydw i am wneud gwahaniaeth yn y gymdeithas trwy ddilyn nod wleidyddol, megis ceisio newid y gyfraith yn y DU neu dramor
Gall elusennau ymgymryd â gweithgareddau neu ymgyrchu gwleidyddol i helpu i gyflawni diben elusennol, ond ni all elusen gael nodau gwleidyddol. Cynghorwn unrhyw un sy'n ystyried sefydlu elusen newydd i ymgymryd â gwaith sy'n debygol o fod o natur wleidyddol i ddarllen ein canllaw ar Ymgyrchu a Gweithgareddau Gwleidyddol.
Ni allwch sefydlu elusen sydd â diben gwleidyddol. Os ydych am ddilyn nod wleidyddol bydd rhaid i chi wneud rhywbeth arall heblaw sefydlu elusen, e.e. sefydlu corff ymgyrchu anelusennol neu grŵp pwyso.
Brig y dudalen