Ai sefydlu elusen yw'r peth iawn i'w wneud?

Mae llawer o resymau da iawn pam y bydd pobl yn penderfynu sefydlu elusen newydd. Fodd bynnag, nid sefydlu elusen yw'r ffordd orau i weithredu bob amser, ac, mewn rhai achosion, efallai na fydd hyn yn bosibl yn gyfreithiol.

Mae elusen yn fath arbennig o fudiad gwirfoddol - un sydd â ffurf gyfreithiol unigryw a statws treth arbennig. Rhaid i elusennau ddarparu budd i'r cyhoedd, ac nid i unigolyn penodol. Rhaid i'w nodau, dibenion neu amcanion fod yn rhai y mae'r gyfraith yn eu cydnabod fel rhai elusennol yn unig.

Mae'n rhaid i elusennau cofrestredig ddilyn nifer o reolau a rheoliadau a bennwyd yn y gyfraith elusennau. Mae'n rhaid i'r rhai sydd wedi cofrestru fel cwmnïau gydymffurfio â'r gyfraith cwmnïau hefyd. Ni chaniateir i elusen gofrestredig gael amcanion gwleidyddol neu gymryd rhan mewn lobïo gwleidyddol (heblaw mewn ystyr addysgol cyffredinol).

Gall y pethau hyn gyfyngu ar yr hyn rydych am ei gyflawni, felly efallai nad sefydlu elusen fydd y ffordd orau i weithredu. Dylech ddarllen ein canllaw 'pethau i'w hystyried cyn sefydlu elusen newydd' cyn mynd ymhellach.

© Hawlfraint y Goron

© 2011 Hawlfraint y Goron          Hysbysiad Hawlfraint, Ymwadiad a Datganiad Preifatrwydd