Bydd ein system cais ar-lein sy'n ystyriol o ddefnyddwyr yn eich tywys trwy'r broses o wneud cais i gofrestru. Pan fyddwch wedi cwblhau'r chwe sgrin gyntaf, yn dibynnu ar y math o ddogfen lywodraethol sydd gennych, byddwch yn cael cyfeirnod eich cais. Pan fyddwch wedi derbyn y rhif hwn gallwch gadw'r ffurflen unrhyw bryd a mynd yn ôl ati rywbryd arall.
I'ch helpu i lenwi eich cais ar-lein gallwch weld ffurflen gais wag a nodiadau cyfarwyddyd ategol.
Beth sydd ei angen arnaf cyn dechrau?
Gwnewch yn siŵr eich bod chi wedi darllen ein canllaw Pethau i'w hystyried cyn sefydlu elusen newydd. Bydd hyn yn eich helpu i benderfynu ai sefydlu elusen newydd yw'r peth iawn i'w wneud, ac a oes rhaid i chi gofrestru neu beidio.
Dylech ddarllen ein canllaw craidd ar gofrestru elusen newydd. Mae'n rhoi trosolwg cynhwysfawr o'r broses gofrestru gyfan.
Dylech ddarllen ein canllawiau eraill yn yr adran hon sy'n esbonio rhai o'r pethau eraill y bydd rhaid i chi eu hystyried cyn gwneud cais.
Cwestiynau cyffredin
Fydda i'n cael rhif cofrestru pan fydda i'n cyflwyno cais?
Na fyddwch - system gwneud cais ar-lein yw hon, nid system cofrestru ar-lein. Fe gewch gyfeirnod elusen y dylech ei ddyfynnu pan fyddwch yn cyflwyno unrhyw ddogfennau ychwanegol. Mae'n rhaid ystyried ceisiadau cyn cadarnhau cofrestru.
Faint fydd hi'n cymryd i gofrestru elusen?
Os ydych wedi defnyddio dogfen lywodraethol gymeradwy heb ei newid, ac nid oes unrhyw fudd preifat o bwys i unrhyw ymddiriedolwr neu barti cysylltiedig, fel rheol byddwn yn gallu cymeradwyo'ch cais a rhoi'r rhif cofrestru i chi o fewn 10 diwrnod gwaith.
Oes rhaid i mi wneud cais i gofrestru elusen newydd ar-lein?
Oes - mae ceisiadau elusennau yn cael eu gwneud ar-lein erbyn hyn. Ni chodir unrhyw ffi am wneud cais i gofrestru elusen. Hyd yn oes os nad oes gennych chi gyfrifiadur eich hun, gallwch ddefnyddio'r rhyngrwyd mewn llyfrgelloedd a chaffis rhyngrwyd - gallwch gadw'ch ffurflen a mynd yn ôl ati mewn sesiwn arall. Mae'r gwasanaeth ar-lein yn hawdd i'w ddefnyddio a bydd eich cais ar-lein yn cael ei brosesu'n llawer cyflymach na ffurflen bapur. Os na allwch wneud cais, cysylltwch â ni.
Beth ydw i'n ei wneud os yw fy incwm blynyddol o dan £5,000?
Nid yw'r Comisiwn yn cofrestru elusennau sydd ag incwm o lai na £5,000. Ond nid yw hynny'n golygu na all eich sefydliad fod yn elusen. Gall sefydliad elusennol bach gydag incwm nad yw'n fwy na £5,000 fwynhau manteision statws elusennol heb orfod bodloni gofynion rheoleiddio elusennau cofrestredig.
Gallwch wneud cais uniongyrchol i Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC) i gael gostyngiad treth. Yn debyg i rif elusen gofrestredig, dylai rhif elusen HMRC gael ei dderbyn gan fanciau a chyllidwyr grantiau fel tystiolaeth o'ch statws elusennol. Hefyd dylech ddarllen ein hadnoddau a gwybodaeth i elusennau bach.