Yn yr adran hon...

Beth sy'n newdd?

CYFANSODDIAD ENGHREIFFTIOL AR GYFER SEFYDLU ELUSEN FACH INCWM O DAN £5,000

(Hydref 2009)

Cynnwys

I bwy mae hwn?

Mae'r dudalen hon wedi'i pharatoi'n arbennig ar gyfer elusennau sy'n disgwyl parhau i fod yn fach, a chael incwm blynyddol o dan £5,000. Nid yw'r cyfansoddiad wedi'i anelu at elusennau sy'n berchen ar adeilad, yn cyflogi pobl neu sy'n bwriadu cofrestru gyda'r Comisiwn Elusennau. Mae croeso i grwpiau bach sydd heb fod yn elusennau ddefnyddio'r cyfansoddiad enghreifftiol hwn hefyd, ond ni fyddent wedi'u cynnwys o dan y gyfraith elusennau.

Mae nifer o elusennau cenedlaethol yn cynhyrchu eu cyfansoddiadau enghreifftiol eu hunain, gan gynnwys Cymdeithasau Rhieni Athrawon, Pre-School Learning Alliance, Sefydliadau'r Merched, Sgowtiaid a Geidiaid. Gweler Dogfennau Llywodraethol Cymeradwy. Os ydych yn sefydlu un o'r elusennau hyn, cysylltwch â nhw am gyngor a defnyddiwch eu cyfansoddiad enghreifftiol yn hytrach na'r un yma.

Sefydlu elusen - y cyfansoddiad

Os ydych chi am sefydlu elusen fach, bydd angen cyfres o reolau arnoch sy'n esbonio beth mae'r elusen yn ei wneud a sut y caiff ei rhedeg. I'ch helpu, mae'r Comisiwn Elusennau wedi cydweithio â naw corff mantell a restrir ar ddiwedd y cyflwyniad i ysgrifennu a hybu ar y cyd gyfansoddiad ar gyfer elusen fach. Wrth gwrs, nid dyma'r unig gyfansoddiad fyddai'n briodol, a cheir cyfansoddiadau enghreifftiol eraill wedi'u cynhyrchu gan y Comisiwn a sefydliadau eraill.

Rydym wedi defnyddio profiadau ein gilydd i sicrhau bod y cyfansoddiad yn hawdd ei ddeall, yn fyr (dim ond 700 o eiriau) ac yn ateb anghenion elusennau bach. Y nod yw annog pobl i gymryd rhan yn y gwaith o redeg yr elusen a rhoi'r hyder iddynt trwy wybod yn union beth mae eu cyfansoddiad yn ei ddweud y dylai gael ei wneud er mwyn rhedeg yr elusen yn briodol.

Y bobl ar y pwyllgor fydd ymddiriedolwyr yr elusen. Byddant yn gyfrifol am yr arian y mae pobl eraill wedi'i roi a rhaid iddynt sicrhau ei fod yn cael ei wario'n briodol ac y cyfrifir amdano yn gywir. Gweler Yr Ymddiriedolwr Hanfodol: yr hyn y mae angen i chi wybod (CC3).

Sut gallwn ni gael cymorth a chyngor?

Mae bob amser yn syniad da i geisio cyngor a chefnogaeth - ac yn ffodus iawn mae digon ohono ar gael. Siaradwch â sefydliadau datblygu cymunedol lleol yn eich ardal a gofynnwch am eu cymorth. Byddai gwefan eich awdurdod lleol yn lle da hefyd ar gyfer gwybodaeth a chymorth. Mae gwefan gan bob un o'r sefydliadau a fu'n ymwneud â chynhyrchu'r cyfansoddiad hwn gyda chyfoeth o gyhoeddiadau a gwybodaeth. Mae ymrwymiad cyffredin gan bob un o'r sefydliadau hyn at helpu elusennau bach i redeg yn briodol, sicrhau eu bod yn cydymffurfio â'r gyfraith, yn agored i bobl o bob lliw a llun ac yn ffynnu ym mhob cymuned.

Sut ydym ni'n cwblhau ein cyfansoddiad?

Bydd rhaid i chi drafod y rheolau a gwneud yn siŵr bod pawb yn eu deall ac yn cytuno â nhw. Rhaid i chi nodi'r 'Dibenion' i ddisgrifio beth y cafodd yr elusen ei sefydlu i'w wneud. Efallai y bydd rhaid i chi ddweud ym mha ardal ddaearyddol y bydd yr elusen yn gweithio hefyd.

Mae'r cyfansoddiad hwn yn addas ar gyfer elusen fach, ond mae'n bwysig cydnabod nad yw ei fabwysiadu yn golygu bod y grŵp yn elusen o reidrwydd. Er mwyn bod yn elusen, rhaid i'r holl ddibenion fod yn elusennol a rhaid i'r sefydliad gael ei sefydlu er budd cyhoeddus. I'ch helpu gyda hyn, mae'r geiriad enghreifftiol ar gyfer dibenion elusennol wedi'i ddarparu gan y Comisiwn Elusennau.

Er mwyn mabwysiadu'r cyfansoddiad, rhaid i'r bobl sy'n sefydlu'r elusen ei lofnodi a'i ddyddio. Drwy wneud hyn nhw fydd ymddiriedolwyr yr elusen tan y cyfarfod cyffredinol blynyddol cyntaf.

Beth sy'n digwydd os ydym yn tyfu?

Nid oes rhaid i elusennau sydd â llai na £5,000 y flwyddyn gofrestru gyda'r Comisiwn Elusennau. Fodd bynnag, os yw'ch incwm yn fwy na hyn, rhaid i'r elusen gofrestru a dylech ddarllen ein canllaw.

Os yw'ch sefydliad yn mynd yn fwy, mae am gyflogi pobl neu brynu adeilad, neu os hoffai gofrestru gyda'r Comisiwn yn y dyfodol, bydd rhaid i chi gael dogfen lywodraethol enghreifftiol fwy cynhwysfawr yn lle'r cyfansoddiad hwn oherwydd ni fydd yn briodol mwyach.

Sut ydym ni'n dangos ein bod ni'n elusen os na allwn gael rhif elusen gofrestredig?

Nid yw'r Comisiwn yn cofrestru elusennau sydd ag incwm o lai na £5,000. Ond nid yw hynny’n golygu na all eich sefydliad fod yn elusen. Gall sefydliad elusennol bach gydag incwm nad yw'n fwy na £5,000 fwynhau manteision statws elusennol heb orfod bodloni gofynion rheoleiddio elusennau cofrestredig.

Gallwch wneud cais uniongyrchol i Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC) i gael gostyngiad treth. Yn debyg i rif elusen gofrestredig, dylai rhif elusen HMRC gael ei dderbyn gan fanciau a chyllidwyr grantiau fel tystiolaeth o'ch statws elusennol. Hefyd dylech ddarllen ein hadnoddau a gwybodaeth i elusennau bach.

Ffurflenni cyfansoddiad Elusennau Bach

Fformat Word (Saesneg) | (Cymraeg) | Fformat PDF (Saesneg) | (Cymraeg)

Rhestr o'r sefydliadau eraill sydd wedi helpi i gynhyrchu a hybu'r cyfansoddiad hwn

Cefnogi cymunedau bywiog a chynaliadwy trwy'r Rhwydwaith Gweithredu Cymunedau Gwledig.

Mae bassac yn gorff aelodaeth cenedlaethol sy'n cynrychioli ac yn cefnogi rhwydwaith o sefydliadau amlbwrpas, seiliedig yn y gymuned sy'n gweithio yn eu cymdogaethau ac sy'n ymrwymedig i egwyddorion a dibenion cyffredin.

 

Defnyddiwch ein gwefan i gael hyd i aelodau bassac yn eich ardal chi ac enw a manylion cyswllt eich rheolwr rhanbarthol agosaf, yn ogystal â rhagor o wybodaeth am y gwaith rydym yn ei wneud.

 

www.bassac.org.uk

Community Matters yw'r ffederasiwn cenedlaethol ar gyfer cymdeithasau cymunedol a sefydliadau cymunedol amlbwrpas. Rydym yn chwarae rôl allweddol wrth hybu a chefnogi gweithredu gan bobl gyffredin mewn ymateb i anghenion cymdeithasol, addysgol ac adloniadol yn eu cymdogaethau a'u cymunedau.

 

Rydym yn arbenigo ar reoli adeiladau cymunedol gan ddarparu ystod eang o wasanaethau gan gynnwys: cyngor a gwybodaeth, cyhoeddiadau, hyfforddiant, gwasanaethau ymgynghori, cymorth technegol a safonau gweithredu ar gyfer sefydliadau cymunedol.

 

www.communitymatters.org.uk

Charity Trustee Networks (CTN) yw'r elusen genedlaethol i ymddiriedolwyr elusennau a mudiadau gwirfoddol. Mae'n ceisio sicrhau y gall ymddiriedolwyr gael at fwy o wybodaeth, canllawiau a chymorth trwy rwydweithiau, ein gwefan, cyfeirio a gwasanaethau, yn ogystal â hybu gwaith ymddiriedolwr.

I ymuno â rhwydwaith cenedlaethol CTN o ymddiriedolwyr neu trusteenetplus, cofrestrwch ar wefan CTN yn www.trusteenet.org.uk

Mae Directory of Social Change (DSC) yn elusen annibynnol sydd â gweledigaeth o sector gwirfoddol annibynnol wrth wraidd newid cymdeithasol.

 

Cyflawnwn hyn trwy ddarparu gwybodaeth a hyfforddiant hanfodol i'r sector gwirfoddol er mwyn galluogi elusennol i gyflawni eu cenhadaeth. Ers i ni ddechrau yn 1974, buom yn rhedeg cyrsiau ac yn cyhoeddi llyfrau sector elusennau a gwirfoddol ar godi arian, rheoli, datblygiad sefydliadol a phersonol, cyfathrebu, cyllid a'r gyfraith.

 

Os oes gennych chi ddiddordeb yn ein cyrsiau hyfforddi a'n cyhoeddiadau, cysylltwch â ni am ganllawiau am ddim. Ewch i'n gwefan yn http://www.dsc.org.uk

NAVCA yw llais cenedlaethol sefydliadau cymorth a datblygu yn Lloegr. Rydym yn hyrwyddo ac yn cryfhau gweithredu gwirfoddol a chymunedol drwy helpu ein haelodau yn eu gwaith gyda mwy na 160,000 o elusennau a grwpiau cymunedol lleol. Cewch fwy o wybodaeth am y cymorth y gall aelodau NAVCA ei ddarparu yn: http://www.navca.org.uk/publications/smallcharityconst

 

I gael hyd i'ch aelod NAVCA lleol ewch i http://www.navca.org.uk/directory

Cyngor Cenedlaethol Mudiadau Gwirfoddol (NCVO) yw'r corff mantell mwyaf ar gyfer y sector gwirfoddol a chymunedol yn Lloegr gyda mwy na 7,400 o aelodau. Ers 90 o flynyddoedd buom yn gweithio i adeiladu amgylchedd lle y gall mudiadau gwirfoddol o bob lliw a llun ffynnu, o grwpiau cymunedol sy'n gweithio mewn cymdogaethau lleol i sefydliadau cenedlaethol mawr. Cred NCVO yn angerddol yn y sector gwirfoddol a chymunedol a'n gweledigaeth yw cael cymdeithas lle mae pobl yn cael eu hysbrydoli i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i'w cymunedau. Rhown lais a chymorth i gymdeithas wâr. Darparwn ystod eang o wybodaeth a gwasanaethau cymorth, ac rydym yn cynrychioli'r sector i'r llywodraeth a'r rhai sy'n llunio polisïau.

 

www.ncvo-vol.org.uk

Mae'r Small Charities Coalition yn bodoli i helpu elusennau bach i fanteisio ar y sgiliau, y profiad a'r adnoddau y mae eu hangen arnynt i gyflawni eu hamcanion.

 

www.smallcharities.org.uk

Mae Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA) yn cynrychioli buddiannau cyrff gwirfoddol, grwpiau cymunedol a gwirfoddolwyr yng Nghymru. Mae ganddo 2,100 o sefydliadau sydd ag aelodaeth uniongyrchol ac sydd mewn cysylltiad â nifer mwy trwy rwydweithiau cenedlaethol a rhanbarthol.

 

www.wcva.org.uk

© Hawlfraint y Goron

© 2011 Hawlfraint y Goron          Hysbysiad Hawlfraint, Ymwadiad a Datganiad Preifatrwydd