Comisiwn Elusennau yn cyhoeddi Fframwaith Risg newydd

(16 Ionawr 2012)

Logor Comisiwn Elusennau

Heddiw, mae'r Comisiwn Elusennau, rheoleiddiwr elusennau yng Nghymru a Lloegr, wedi cyhoeddi ei Fframwaith Risg newydd ynghyd â gwybodaeth sy'n esbonio sut y caiff y fframwaith ei weithredu.

Mae'r Fframwaith yn esbonio i ymddiriedolwyr, cynghorwyr elusennau a'r cyhoedd sut mae'r Comisiwn yn mynd ati i reoleiddio a sut y mae'n asesu'r risgiau sy'n effeithio ar elusennau, y sector elusennau ehangach a ffydd gyhoeddus.

Datblygwyd y Fframwaith Risg yn dilyn ymgynghoriad Adolygiad Strategol y Comisiwn a'r ad-drefnu yn dilyn torri cyllid y Comisiwn gan un rhan o dair mewn termau real dros gyfnod gwario o bedair blynedd. Mae'r Fframwaith yn cymryd lle'r cyhoeddiad "Y Comisiwn a Rheoleiddio" a fframweithiau Risg a Chymesuredd blaenorol y Comisiwn.

Bydd y Comisiwn yn defnyddio'r Fframwaith i gefnogi ei nodau sef, rhoi sicrwydd i'r cyhoedd bod arian elusennol yn cael ei ddefnyddio yn unol â'r gyfraith elusennau, bod elusennau yn gyfreithlon ac yn cael eu rhedeg yn unol â'u dibenion elusennol, yn ogystal â sicrhau bod ymddiriedolwyr yn cyflawni eu dyletswyddau a'u cyfrifoldebau ac yn hyrwyddo'r safonau uchaf o atebolrwydd a llywodraethu mewn elusennau.

Mae'r Fframwaith yn amlinellu sut mae'r Comisiwn yn mynd ati i ddiogelu budd y cyhoedd mewn elusennau, sef ffocws allweddol yn ei strategaeth bresennol. Mae'r Comisiwn yn rhoi pwyslais ar atal problemau, gan adnabod risgiau'n gynnar a darparu canllawiau seiliedig ar y we.

Mae'r Fframwaith hefyd yn esbonio sut a phryd y bydd y Comisiwn yn ymyrryd mewn achosion difrifol ac mewn achosion o ddiffyg cydymffurfio neu gamddefnydd, gan gynnwys ymchwilio i elusen. Mae'r Comisiwn wedi sefydlu proses tri cham newydd wrth benderfynu pryd a sut i weithredu, ac wedi paratoi siart llif hawdd ei dilyn er mwyn penderfynu ar yr ymateb mwyaf effeithiol. Defnyddir enghreifftiau yn y ddogfen i esbonio ymagwedd y Comisiwn.

Mae canllaw ychwanegol i staff y Comisiwn ar sut y mae'r Fframwaith Risg yn cael ei weithredu'n ymarferol yn cael ei gyhoeddi hefyd. Mae hyn yn cynnwys y meini prawf a ddefnyddir wrth benderfynu p'un ai i gychwyn ymchwiliad statudol neu beidio, a ddefnyddir yn yr achosion mwyaf difrifol.

Dywedodd Sam Younger, Prif Weithredwr y Comisiwn Elusennau:

"Yn ystod trafodaethau â'r sector ynghylch ein strategaeth, roedd pwyslais cryf ar reoli ac adnabod y meysydd lle roedd y risg mwyaf i elusennau a'r sector ehangach. Mae'r ymagwedd hon yn dangos sut y byddwn yn defnyddio ein hadnoddau a'n harbenigedd i dargedu'r meysydd lle mae'r risg mwyaf a lle bydd ymyrryd yn cael yr effaith fwyaf.

Byddwn yn parhau i ddelio ag achosion difrifol o gamddefnydd a diffyg cydymffurfio, ac yn gwneud hynny'n gadarn. Cydnabyddwn y gallai rhai ymddiriedolwyr, sy'n gweithredu'n onest ac yn rhesymol, wneud camgymeriadau. Fodd bynnag, mae camweithredu esgeulus a bwriadol yn niweidio'r elusen dan sylw a hefyd ffydd gyhoeddus yn y sector yn fwy cyffredinol. Os yw rhywbeth yn mynd o'i le, disgwylir i ymddiriedolwyr fod yn gyfrifol am unioni pethau. Bydd mwy o ddisgwyl hefyd i ymddiriedolwyr fynd i'r afael yn uniongyrchol â materion o risg posibl i'w helusennau."

Adeg cofrestru, mae'n rhaid i'r sefydliad ddangos ei fod yn elusennol tra bydd y Comisiwn yn canolbwyntio ar y ceisiadau mwy cymhleth. Bydd y Comisiwn hefyd yn gwirio sampl o gyfrifon bob blwyddyn ac yn gweithredu os oes angen, yn ogystal â monitro tueddiadau yn y data y mae'n eu cael gan elusennau, ac yn parhau i dynnu sylw at elusennau sydd heb ffeilio Ffurflenni Blynyddol a Chyfrifon mewn pryd.

Os oes rhaid i'r Comisiwn roi caniatâd cyfreithiol neu ddefnyddio ei bwerau, bydd yn dilyn prosesau symlach, os oes modd, gan alluogi elusennau i 'hunanardystio' eu newidiadau angenrheidiol drwy wneud mwy o ddefnydd o ddatganiadau ymddiriedolwyr. Bydd yn canolbwyntio ei hadnoddau ar ganiatâd cyfreithiol os oes ansicrwydd cyfreithiol ac mae'n fater o bwys.

Mae modd gweld y Fframwaith Risg newydd a gwybodaeth am ei weithredu ar wefan y Comisiwn. Bydd y Comisiwn hefyd yn cyhoeddi dogfennau strategaeth maes o law ar ei hymagwedd benodol at faterion sy'n ymwneud â therfysgaeth, twyll a diogelwch.

- diwedd -

I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â Swyddfa'r Wasg y Comisiwn Elusennau.

PR02/12

Nodiadau i Olygyddion

1. Y Comisiwn Elusennau yw rheoleiddiwr annibynnol a chofrestrydd elusennau. Gweler ein gwefan yn www.comisiwnelusennau.gov.uk

2. Ein cenhadaeth yw: sicrhau bod elusennau'n cydymffurfio â'r gyfraith, gwella atebolrwydd elusennau, hyrwyddo effeithiolrwydd ac effaith elusennau a hybu diddordeb cyhoeddus mewn elusennau.

3. Cewch ragor o wybodaeth ddefnyddiol i newyddiadurwyr yn ein Canolfan Wybodaeth i'r Cyfryngau ar-lein.

Brig y dudalen

 

© Hawlfraint y Goron

© 2012 Hawlfraint y Goron          Hysbysiad Hawlfraint, Ymwadiad a Datganiad Preifatrwydd