Cyhoeddwn adroddiadau ar ein hymchwiliadau a gwaith achos rheoleiddio er mwyn i elusennau eraill allu dysgu gwersi o'r hyn sydd wedi digwydd

Ein gwaith rheoleiddio

Ni fydd y rhan fwyaf o elusennau yn wynebu llawer o broblemau. Fodd bynnag, os oes bygythiad neu risg difrifol i fuddiolwyr, gwasanaethau, asedau neu enw da elusen, gallwn helpu i'w ddatrys drwy naill ai ddarparu cyngor a chanllawiau rheoleiddio i'r ymddiriedolwyr neu os oes angen, drwy ddefnyddio ein pwerau cyfreithiol i helpu'r elusen a'i hymddiriedolwyr i fynd yn ôl ar y trywydd iawn. Gall hyn gynnwys rhoi ein cydsyniad cyfreithiol i newidiadau arfaethedig.

Mae'r adran hon yn esbonio ein hymagwedd a phryd y dylech ddweud wrthym am broblem. Mae'n esbonio pa gamau y byddwn yn eu cymryd os yw'r broblem yn un ddifrifol, gan gynnwys pryd a sut i gynnal ymchwiliadau a pharatoi adroddiadau ar y camau rydym wedi'u cymryd mewn achosion o'r fath. Hefyd mae'n esbonio sut rydym yn helpu elusennau i ddiogelu eu hunain rhag cael eu camddefnyddio gan droseddwyr a therfysgwyr.

 

© Hawlfraint y Goron

© 2009 Hawlfraint y Goron          Hysbysiad Hawlfraint, Ymwadiad a Datganiad Preifatrwydd