Canllawiau i'r cyhoedd

Mae elusennau'n ymwneud â rhai o'r agweddau pwysicaf ar ein bywydau ac mae pobl yn teimlo'n gryf am yr achosion y mae elusennau'n gysylltiedig â nhw. O ganlyniad, gall ystod eang o gwynion godi pan fydd pobl yn teimlo bod elusen yn gweithredu'n anghywir, neu os ydynt yn teimlo eu bod nhw wedi cael cam.

Os oes gennych chi gŵyn am elusen, darllenwch yr adran hon yn ofalus er mwyn i chi allu penderfynu at bwy y dylech chi ei hanfon. Yn ein profiad, dylai'r mwyafrif o'r cwynion a dderbyniwn gael eu cyfeirio'n uniongyrchol at yr elusen ei hun yn hytrach na'r Comisiwn Elusennau. Mae'r cwynion hyn yn cynnwys cwynion am y gwasanaethau y mae elusen yn ei darparu, materion cyflogaeth, dulliau codi arian ac anghydfodau mewnol.

Mae polisi'r Comisiwn Elusennau wedi'i amlinellu yn ein canllaw Cwynion am elusennau (CC47).

Pan fyddwn yn cael cwyn sydd heb fodloni ein meini prawf, byddwn yn gwneud cofnod o'r wybodaeth ac yn cydnabod eich cwyn, ond ni fyddwn yn gweithredu ymhellach.

© Hawlfraint y Goron

© 2011 Hawlfraint y Goron          Hysbysiad Hawlfraint, Ymwadiad a Datganiad Preifatrwydd