Rôl graidd y Comisiwn Elusennau yw diogelu budd y cyhoedd mewn elusennau.
Rydym yn mabwysiadu ymagwedd seiliedig ar risg at reoleiddio elusennau. Rydym hefyd yn dilyn egwyddorion arferion rheoleiddio gorau yn ein gwaith, gan sicrhau bod ein gweithgareddau yn:
- gymesur
- atebol
- cyson
- tryloyw
- wedi'u targedu
Gall ein gwaith rheoleiddio effeithio ar:
- bob elusen
- grŵp arbennig o elusennau
- elusen unigol
Mae ein Fframwaith Risg yn esbonio ein dull rheoleiddio yn fwy manwl, gan gynnwys sut rydym yn asesu risg. Defnyddiwn y Fframwaith i bennu pryd a sut i gymryd rhan mewn rhaglenni gwaith rhagweithiol neu ymateb i achosion unigol.
- Fframwaith Risg y Comisiwn Elusennau HTML | PDF
Gweler hefyd: