Mae Diogelu elusennau rhag niwed yn becyn cymorth ar-lein sy'n ceisio rhoi'r wybodaeth a'r adnoddau sydd eu hangen ar ymddiriedolwyr i reoli risgiau a diogelu eu helusen rhag niwed a rhag cael ei chamddefnyddio. Mae'n cynnwys y penodau canlynol, i'w cyhoeddi'n llawn erbyn Mai 2011:
Mae gan nifer o elusennau, gan gynnwys y rhai sy'n gweithio dramor mewn ardaloedd risg uchel, safonau da eisoes i geisio lleihau'r risg o derfysgaeth a chamddefnydd arall. Fodd bynnag, gwyddom mai llywodraethu a gweinyddu gwael, a mesurau rheoli risg annigonol yw'r ffactorau risg allweddol i elusennau. Bydd safonau uchel o lywodraethu ac atebolrwydd yn diogelu elusen rhag mathau gwahanol o gamddefnydd posibl, gan gynnwys camddefnydd gan derfysgwyr a gwneud y sefydliad yn llai agored i niwed.
Mae'r pecyn cymorth yn egluro'r gofynion cyfreithiol yn hytrach na chyflwyno rhai newydd. Bydd yn helpu ymddiriedolwyr i ddiogelu eu helusen rhag amryw o fathau o niwed a chamddefnydd, gan gynnwys camddefnydd gan derfysgwyr. Yn arbennig mae'n ceisio:
- codi ymwybyddiaeth o'r risgiau o gamddefnydd a wynebir gan elusennau
- esbonio rhannau perthnasol o'r fframwaith cyfreithiol y mae'n rhaid i elusennau weithredu ynddo
- esbonio dyletswyddau cyfreithiol a chyfrifoldebau ymddiriedolwyr elusen i ddiogelu eu helusen
- egluro pa gamau y mae'n rhaid i ymddiriedolwyr elusen eu cymryd fel mater o'r gyfraith, a'r camau y dylent eu cymryd fel arfer dda, er mwyn sicrhau bod eu helusen wedi'u diogelu'n dda rhag terfysgwyr, troseddwyr a chamddefnydd arall
- sicrhau bod ymddiriedolwyr yn delio'n briodol ac yn gyfrifol ag achosion pan fyddant yn codi
- tynnu sylw at enghreifftiau o arfer da wrth reoli'r risgiau ac adeiladu mesurau diogelu
- annog ymddiriedolwyr elusen i wella tryloywder ac atebolrwydd eu helusennau
- ychwanegu gwerth at waith elusennau a chynyddu dealltwriaeth gyhoeddus o'r materion
Canllawiau eraill y Comisiwn
Mae'r canllaw hwn yn cyd-fynd â'n canllawiau/cyhoeddiadau gweithredol presennol:
Cysylltu â ni
Os hoffech chi anfon eich sylwadau a'ch adborth atom neu os hoffech chi gael gwybodaeth bellach am y pecyn cymorth, anfonwch e-bost at ComplianceOutreach@charitycommission.gsi.gov.uk