Cofrestr Ymddiriedolwyr Wedi'u Dileu

Ni all rhai pobl weithredu fel ymddiriedolwyr am resymau a nodwyd yn Neddf Elusennau 2011. Un o'r rhesymau yw oherwydd buont yn ymddiriedolwyr o'r blaen ond cawsant eu dileu ar sail camreoli neu gamymddygiad. Mae'r Gofrestr Ymddiriedolwyr Wedi'u Dileu yn rhoi manylion am unrhyw un sydd wedi cael ei ddileu fel ymddiriedolwr gan yr Uchel Lys neu'r Comisiwn. Nid yw'n rhoi manylion am y rhai sydd wedi'u hanghymhwyso am resymau eraill (er enghraifft, tramgwyddau troseddol neu ansolfedd).

Yn achos pob unigolyn sydd wedi'i anghymhwyso, rydym yn cadw ei enw, ei gyfeiriad pan gafodd ei ddileu, y dyddiad pan wnaethpwyd y gorchymyn ac enw'r elusen dan sylw. Bydd ei fanylion yn parhau oni bai ein bod ni wedi codi'r anghymhwysiad yn gyfan gwbl. Mae hyn yn golygu y bydd yn parhau ar y Gofrestr hyd yn oed os yw'r anghymhwysiad wedi'i godi'n rhannol, er enghraifft, caniatáu iddo fod yn ymddiriedolwr o dan amodau arbennig.

Oherwydd ei bod hi'n drosedd gweithredu fel ymddiriedolwr pan fyddwch wedi'ch anghymhwyso, dylai pob elusen gael gweithdrefn fetio i wirio bod ymddiriedolwyr newydd ac ymddiriedolwyr presennol yn gymwys i weithredu. Gwirio'r Gofrestr Ymddiriedolwyr Wedi'u Dileu yw un ffordd o wneud hyn. Mae hefyd yn arfer da i fyrddau ymddiriedolwyr ofyn i ddarpar ymddiriedolwyr roi cadarnhad ysgrifenedig nad ydyn nhw wedi'u hanghymhwyso. Gellir defnyddio ein ffurflen datganiad enghreifftiol (Saesneg yn unig) i wneud hyn.

Chwilio'r Gofrestr Ymddiriedolwyr Wedi'u Dileu

Gweler hefyd

Rydw i am gael hyd i ymddiriedolwyr newydd - pethau i'w hystyried cyn recriwtio, a dolenni i adnoddau defnyddiol ar recriwtio ymddiriedolwyr.

Cael hyd i ymddiriedolwyr newydd: yr hyn y mae angen i elusennau wybod - mae adran Dd yn rhoi rhagor o wybodaeth am anghymhwyso, hawlildiadau a'r cyfyngiadau cyfreithiol sy'n datgan pwy all weithredu fel ymddiriedolwr.

Datganiad ymddiriedolwr enghreifftiol (Saesneg yn unig) - ffurflen y gall ymddiriedolwyr ei llofnodi i gadarnhau eu bod nhw'n gymwys i weithredu fel ymddiriedolwr.

Adrodd am ddigwyddiadau difrifol - mae'n rhoi rhagor o wybodaeth am weithdrefnau fetio.

© Hawlfraint y Goron

© 2011 Hawlfraint y Goron          Hysbysiad Hawlfraint, Ymwadiad a Datganiad Preifatrwydd