Sut rydym yn sicrhau bod elusennau'n cydymffurfio â'u gofynion cyfreithiol

Ble rydym yn defnyddio Cynlluniau

Weithiau bydd angen i ymddiriedolwyr newid Dogfen Lywodraethol eu helusen er mwyn sicrhau bod yr elusen yn parhau i allu gweithredu'n effeithiol. Mewn rhai achosion ni all yr ymddiriedolwyr wneud y newidiadau hyn eu hunain ac mae'n rhaid i ni ymwneud â'r broses. Mae'r adran hon yn esbonio sut y byddwn yn ddefnyddio Cynlluniau i sicrhau bod yr elusen yn gallu parhau i weithredu o fewn fframwaith cyfreithiol, cyfrifyddu a llywodraethu effeithiol. Hefyd mae'n rhoi manylion am y Cynlluniau y cynigiwn eu gwneud, er mwyn rhoi gwybod i'r cyhoedd am y cynigion a gwahodd sylwadau arnynt.

Pryd y byddwn yn ymchwilio i elusennau

Mae amcanion statudol gan y Comisiwn i sicrhau bod ymddiriedolwyr yn cydymffurfio â'u rhwymedigaethau cyfreithiol wrth reoli elusennau a chynyddu ffydd a hyder y cyhoedd mewn elusennau. Mae swyddogaeth statudol gennym hefyd i adnabod ac ymchwilio i gamddefnyddio a chamreoli elusennau. Gwnawn hyn mewn sawl ffordd drwy ein gwaith cydymffurfio. Mae hyn yn cynnwys asesu'r pryderon drwy ein gwaith achos asesu, a all arwain at gynnal ymchwiliadau neu fonitro elusennau. Wrth gynnal asesiadau ac ymchwiliadau cydweithiwn, os yw'n briodol, â rheolyddion eraill, asiantaethau gorfodi'r gyfraith ac adrannau eraill o'r llywodraeth. Sicrhawn ein bod yn codi ymwybyddiaeth o ganlyniad y gwaith hwn er budd y sector ehangach.

Pryd y byddwn yn cymryd camau gorfodi

Byddwn yn cymryd camau gorfodi yn erbyn elusennau mewn sawl ffordd.

Mae hyn yn cynnwys cymryd camau rheoleiddio yn ystod ymchwiliadau i elusennau unigol, gan gynnwys pan oeddwn wedi defnyddio ein pwerau i benodi rheolwyr dros dro. Hefyd, rydym yn cadw rhestr o unigolion sydd wedi cael eu hanghymhwyso rhag gweithredu fel ymddiriedolwr elusen ar y Gofrestr o Ymddiriedolwyr Anghymwys.

Yn ogystal, esboniwn sut rydym yn delio ag elusennau sydd heb gyflwyno eu cyfrifon a'u ffurflenni blynyddol.

Ein gwaith atal gwrthderfysgaeth

Fel unrhyw fath arall o sefydliad, gall elusennau fod yn agored i gael eu camddefnyddio gan droseddwyr a therfysgwyr. Yn ein profiad ni, prin iawn yw'r achosion wedi'u profi o derfysgaeth neu gysylltiad â therfysgaeth yn y sector elusennol, ond mae unrhyw gamddefnyddio o'r fath yn hollol annerbyniol ac mae'n rhaid i elusennau sicrhau nad ydynt mewn perygl. Mae'r adran hon yn esbonio ein strategaeth gwrthderfysgaeth a sut y bwriadwn godi ymwybyddiaeth ymysg elusennau o sut i ddiogelu eu hunain rhag y math hwn o risg. Mae'n pennu pa gymorth sydd ar gael er mwyn i ymddiriedolwyr elusen sicrhau eu bod yn diogelu eu helusen eu hunain rhag cael eu camddefnyddio gan derfysgwyr ac eraill.

Pryd y byddwn yn monitro elusennau

Mae rheoleiddio unrhyw bryderon ynghylch camddefnyddio a diffyg cydymffurfio yn y sector yn rôl bwysig i unrhyw reolydd modern. Y prif bwrpas yw monitro elusennau lle mae pryderon gennym fod diffyg cydymffurfio difrifol, neu lle y credwn fod risg arwyddocaol o ddiffyg cydymffurfio difrifol o fewn elusen. Mae gwaith goruchwylio a monitro rheoleiddiol yn cynnwys archwilio cyfrifon yn briodol ac wedi'i dargedu, gan sicrhau bod yr ymddiriedolwyr wedi cymryd y camau y maent wedi addo eu cymryd, a chynnal ymweliadau cydymffurfio.

Pryd y byddwn yn penodi Rheolwyr Dros Dro ar gyfer elusennau

Ceisiwn gydweithio ag ymddiriedolwyr elusen i ddatrys problemau gyda'n gilydd. Fodd bynnag, weithiau bydd ymddiriedolwyr yn gwrthod gweithio gyda ni neu gall fod risg ariannol difrifol neu risg arall i elusen os yw'r bwrdd ymddiriedolwyr yn parhau yn ei le. Yn yr achosion eithriadol hyn, gallwn benodi rheolwr dros dro proffesiynol, annibynnol i redeg yr elusen yn lle'r ymddiriedolwyr nes bod y problemau wedi'u datrys. Esboniwn yma ble a sut y byddwn yn gwneud hyn.

Pryd y gallwn helpu i ddatrys gwrthdaro mewnol mewn elusen

Pan fydd grwpiau gwahanol o fewn elusen yn anghytuno byddant yn aml yn gofyn i ni gymryd un ochr a chynnig ateb. Fodd bynnag, yr ymddiriedolwyr elusen sy'n gyfrifol am redeg eu helusen a byddwn yn ymyrryd dim ond yn y mathau hyn o anghydfodau mewnol mewn achosion eithriadol. Mae'r adran hon yn esbonio pryd y gallwn a phryd na allwn ymyrryd. Mae hefyd yn rhoi cyngor i ymddiriedolwyr ar sut i ddatrys y mathau hyn o anghydfodau.

Top of page

© Hawlfraint y Goron

© 2010 Hawlfraint y Goron          Hysbysiad Hawlfraint, Ymwadiad a Datganiad Preifatrwydd