Canlyniadau ein gwaith cydymffurfio â'r gyfraith

Ein gwaith rheoleiddio yw hwn, sy'n ymwneud â sicrhau bod elusennau'n cydymffurfio â'u rhwymedigaethau cyfreithiol, a chynnal ymchwiliadau i achosion difrifol o gamddefnyddio neu gamreoli mewn elusennau. Yn yr adran hon cyhoeddwn ganlyniadau ein Hymchwiliadau ac Achosion Rheoleiddio.

Mae cyhoeddi'r canlyniadau a'r gwersi cyffredinol a ddysgwyd o'n gwaith cydymffurfio yn ffordd bwysig o annog ymddiriedolwyr i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â'u rhwymedigaethau cyfreithiol a'u helpu i ddiogelu eu helusennau rhag cael eu camddefnyddio. Mae Themâu a gwersi a ddysgwyd o'n gwaith cydymffurfio yn cynnwys ein hadroddiad Elusennau yn ôl ar y Trywydd Iawn sy'n crynhoi'r themâu a'r materion cyffredinol i elusennau sy'n codi o'n gwaith cydymffurfio. Gall yr astudiaethau achos helpu i wella ymwybyddiaeth ymddiriedolwyr o'r problemau cyffredin a all godi mewn elusennau, a rhoi canllawiau ar sut i osgoi sefyllfaoedd tebyg rhag digwydd yn eu helusennau.

Pan fydd pryderon a risgiau sy'n effeithio ar y sector yn dod i'r amlwg o'n gwaith cydymffurfio, rhown Rybuddion.

Pan fyddwn yn defnyddio ein pwerau cyfreithiol fel rheolydd, gwnawn ystod eang o benderfyniadau. Gall y penderfyniadau hyn amrywio o gofrestru sefydliad fel elusen neu beidio, i benderfyniadau ynghylch gwneud Cynlluniau cyfreithiol a defnyddio ein pwerau adfer ac amddiffyn wrth ddelio ag achosion o gamddefnyddio neu gamreoli honedig mewn elusennau. Gallwch weld manylion y penderfyniadau a gyhoeddwn oherwydd eu bod yn ymwneud ag agwedd arbennig ar y gyfraith, yn newydd, yn arwyddocaol neu o ddiddordeb cyffredinol fel arall.

© 2012 Hawlfraint y Goron          Hysbysiad Hawlfraint | Ymwadiad a Datganiad Preifatrwydd | Cwis