Erbyn hyn mae mwy a mwy o elusennau yn defnyddio ein gwasanaeth ar-lein diogelu i anfon eu Ffurflenni Blynyddol a chyfrifon.
i gwblhau eich Ffurflen Flynyddol a/neu anfon eich TAR a chyfrifon.
Rhaid i chi gael cyfrinair unigryw yr elusen i ddefnyddio'r gwasanaeth ar-lein. Os nad yw'r cyfrinair gennych neu os oes angen un newydd arnoch, mae'n hawdd archebu cyfrinair arall.
Caiff eich cyfrinair newydd ei e-bostio atoch os oes cyfeiriad e-bost gennym y gall y Comisiwn ei ddefnyddio ar gyfer yr elusen. Fel arall, caiff ei bostio i gyswllt yr elusen a dylech ganiatáu hyd at 7 diwrnod i'w dderbyn. Bydd archebu cyfrinair newydd yn annilysu unrhyw gyfrinair blaenorol ar unwaith.
Os yw'ch manylion cyswllt neu e-bost wedi dyddio, ac nid oes cyfrinair gennych neu ni allwch ddefnyddio ein gwasanaethau ar-lein, gallwch gysylltu â ni i'w diweddaru.
Am resymau diogelwch, bydd unrhyw newid cyswllt neu fanylion e-bost yn amodol ar drefn ddilysu. Fel rheol bydd unrhyw newidiadau sy'n cael eu gwneud i'r manylion yn cael eu cynnwys ar gofnod Cofrestr yr elusen ar y we dros nos.
Os ydych yn anfon eich Adroddiad Blynyddol yr Ymddiriedolwyr a chyfrifon, gallwch naill ai eu hatodi pan fyddwch yn cwblhau'ch Ffurflen Flynyddol neu gallwch eu hanfon ar wahân. Gall y copi o Adroddiad Blynyddol yr Ymddiriedolwyr a chyfrifon, ac adroddiad yr archwiliwr annibynnol neu'r archwiliwr ariannol gael ei gyflwyno heb ei lofnodi ar yr amod bod yr ymddiriedolwyr yn cadw'r dogfennau gwreiddiol wedi'u llofnodi. Fodd bynnag, rhaid i ddogfennau cyfrifon gael eu cyflwyno mewn Fformat Dogfen Gludadwy (PDF). Os nad ydych wedi eu paratoi yn y fformat hwn eisoes, ond gallwch ddefnyddio sganiwr, gall y meddalwedd sganio gynnig modd i chi gadw'r cyfrifon wedi'u sganio fel dogfen PDF. Mae ffynonellau amrywiol o feddalwedd ar gael hefyd ar y rhyngrwyd i drosi dogfennau i chi, ac mae nifer ohonynt yn rhad ac am ddim.
Mae rhai o nodweddion pwysig y system ar-lein yn cynnwys:
- mae'n eich atgoffa ei bod yn bryd i chi anfon eich Ffurflen Flynyddol a phan fydd eich dyddiad cau yn agosáu mae'n cyfrif i lawr y diwrnodau;
- gallwch gadw, gweld ac argraffu drafft o'r Ffurflen Flynyddol unrhyw bryd, er mwyn i chi allu rhannu gwybodaeth a'i dilysu gyda'r ymddiriedolwyr cyn cyflwyno'r fersiwn terfynol;
- fel rheol bydd dogfennau a gyflwynir a diweddariadau i fanylion yn cael eu cynnwys ar gofnod Cofrestr yr elusen ar y we dros nos;
- mae'n ddiogel ac nid oes modd ymyrryd â'r negeseuon neu'r dogfennau rydych wedi'u hanfon;
- cydnabyddwn drwy'r e-bost yr holl ffurflenni, Adroddiadau Blynyddol yr Ymddiriedolwyr a chyfrifon a anfonir ar yr amod bod cyfeiriad e-bost gennym y gall y Comisiwn ei ddefnyddio;
- mae'r system ar gael ar adeg sy'n gyfleus i chi.