Cau neu uno elusen

Cau elusen

Os yw'ch elusen yn cau, bydd rhaid i chi roi gwybod i ni er mwyn i ni allu ei dileu o'r Gofrestr Elusennau. Yn y rhan fwyaf o achosion dyma'r cyfan y mae'n rhaid i chi ei wneud, ac mae ein ffurflen gais ar-lein yn gwneud hyn yn gyflym ac yn hawdd. Nid oes rhaid i chi anfon unrhyw ddogfennau eraill atom oni bai ein bod yn gofyn amdanynt.

Fodd bynnag, os oes buddsoddiadau neu dir gan eich elusen bydd rhaid i chi sicrhau eich bod wedi ystyried beth fydd yn digwydd iddynt.

Delio â buddsoddiadau

Os oes buddsoddiadau gan eich elusen y gellir eu defnyddio mewn amgylchiadau arbennig yn unig ('gwaddol parhaol') bydd rhaid i chi naill ai symud y cyfyngiad hwn neu drosglwyddo'r gwaddol parhaol i elusen arall. Mae ein canllaw ar ddileu neu drosglwyddo gwaddol parhaol yn rhoi mwy o wybodaeth.

Delio â thir

Os yw'ch elusen yn berchen ar dir y gellir ei ddefnyddio at ddibenion yr elusen yn unig, dylech ddweud wrthym beth rydych yn bwriadu ei wneud gyda'r tir.

 


 

Uno ag elusen arall

Os ydych wedi penderfynu mai uno ag elusen arall yw'r ffordd orau o ateb anghenion eich buddiolwyr nawr ac yn y dyfodol, yn y rhan fwyaf o achosion os yw un o'r elusennau yn cau, cwblhewch y ffurflen ganlynol ar gyfer yr elusen honno er mwyn i ni allu diweddaru'r Gofrestr Elusennau.

Nid oes angen ein cydsyniadau ar gyfer y rhan fwyaf o uniadau oherwydd fel rheol bydd rheolau'r elusen (ei dogfen lywodraethol) yn rhoi'r pwer i ymddiriedolwyr uno ag elusennau eraill.

Mae'n rhaid i ni ymwneud â'r broses os nad oes gan eich elusen y pwer y mae ei angen arni neu os yw ei dogfen lywodraethol yn datgan bod angen ein cydsyniad. Dylech gysylltu â ni yn y lle cyntaf.

Os hoffech gofrestru uniad eich elusen yn wirfoddol er mwyn helpu sicrhau bod cymynroddion yn y dyfodol i elusen gaeedig yn mynd i'w holynydd, neu os oes rhaid i chi gofrestru'r uniad oherwydd eich bod wedi defnyddio 'Datganiad Breinio', gallwch roi gwybod i ni eich bod wedi uno drwy gwblhau ein ffurflen gais ar -lein.

Rydym wedi cynhyrchu'r cyhoeddiadau canlynol a fydd yn ddefnyddiol wrth reoli uniad:

© Hawlfraint y Goron

© 2010 Hawlfraint y Goron          Hysbysiad Hawlfraint, Ymwadiad a Datganiad Preifatrwydd