Gallwch ddefnyddio ein gwasanaeth ar-lein i newid y manylion sydd gennym ar gyfer eich elusen. Dangosir peth o'r wybodaeth ar gofnod yr elusen ar y Gofrestr, felly mae'n bwysig eich bod yn ei diweddaru. Y manylion y gallwch eu diweddaru yw:
- manylion cyswllt yr elusen;
- cyfeiriadau e-bost y gall y Comisiwn eu defnyddio ac i'w dangos i'r cyhoedd;
- diwedd y flwyddyn ariannol;
- manylion yr ymddiriedolwyr;
- cyfeiriad gwefan eich elusen;
- ble mae'ch elusen yn gweithredu;
- dosbarthiadau o elusennau;
- disgrifiad o weithgareddau; a
- manylion cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu
I ddiweddaru manylion ar-lein eich elusen nawr
Rhaid i chi gael cyfrinair unigryw yr elusen i ddefnyddio'r gwasanaeth ar-lein. Os nad yw'r cyfrinair gennych neu os oes angen un newydd arnoch, mae'n hawdd archebu cyfrinair arall.
Caiff y cyfrinair newydd ei e-bostio atoch os oes cyfeiriad e-bost gennych y gall y Comisiwn ei ddefnyddio ar gyfer yr elusen. Fel arall, caiff ei bostio i gyswllt yr elusen a dylech ganiatáu hyd at 7 diwrnod i'w dderbyn. Bydd archebu cyfrinair newydd yn annilysu unrhyw gyfrinair blaenorol ar unwaith.
Os yw'r manylion cyswllt neu e-bost wedi dyddio ac ni allwch ddefnyddio cyfrifiadur gallwch gysylltu â ni i'w diweddaru.
Am resymau diogelwch, bydd unrhyw newid cyswllt neu fanylion e-bost yn destun proses ddilysu.
Mae rhai o nodweddion pwysig y system ar-lein yn cynnwys:
- fel rheol bydd manylion wedi'u diweddaru yn cael eu cynnwys ar gofnod yr elusen yn y Gofrestr ar y we dros nos;
- mae'n ddiogel ac nid oes modd ymyrryd â'r manylion rydych yn eu hanfon;
- mae'r system ar gael ar adeg sy'n gyfleus i chi.