Newid enw neu Ddogfen Lywodraethol elusen

Mae'r adran hon yn ateb cwestiynau cyffredin ynghylch sut i wneud newidiadau i fanylion neu reolau elusen, ac os oes angen ein cymeradwyaeth arnoch. Mae'n darparu dolenni i'n canllawiau a ffurflenni ar-lein os oes angen i chi gysylltu â ni.


 

Sut ydw i'n newid enw fy elusen?

Mae'r Gofrestr Elusennau ar-lein yn rhoi gwybodaeth am eich elusen i'r cyhoedd. Mae llawer o resymau pam y gall pobl ofyn i weld yr wybodaeth hon, ond yn aml byddant yn gofyn amdani os ydynt yn ystyried rhoi arian neu amser ac maent am wirio bod eich elusen yn un ddilys.

Mae hyn yn golygu ei bod yn bwysig iawn bod y Gofrestr yn cynnwys pob enw y mae'r elusen ei ddefnyddio - os na all pobl gael hyd i'ch elusen maent yn llai tebygol o roi. Dylech sicrhau bod prif enw sydd gennym ar gyfer eich elusen yn gywir, yn ogystal ag unrhyw enwau eraill y mae'n cael eu galw'n lleol (hefyd yn cael eu galw'n 'enwau gweithredol').

Os hoffech newid prif enw eich elusen dylech:

  • Wirio Dogfen Lywodraethol eich elusen i sicrhau ei bod yn caniatáu i chi newid ei henw.
  • Gwirio nad oes unrhyw elusennau eraill gydag enwau tebyg drwy chwilio'r Gofrestr Elusennau. Hefyd dylech geisio gwneud yr enw mor unigryw a phenodol â phosibl - er enghraifft, 'Neuadd Bentref Loughborough' yn hytrach na 'Neuadd Bentref'.
  • Os yw'ch elusen yn gwmni hefyd dylech roi gwybod i Dy'r Cwmnïau a fydd yn rhoi tystysgrif newid enw i chi.

Pan fyddwch wedi penderfynu ar enw, y cyfan y mae'n rhaid i chi ei wneud yw e-bostio ni i roi gwybod i ni beth yw'r enw newydd a'r dyddiad roeddech wedi'i gymeradwyo. Os yw'ch elusen yn gwmni hefyd dylech atodi copi o dystysgrif newid enw i'ch e-bost. Os yw'ch elusen yn ymddiriedolaeth hefyd efallai y bydd rhaid i chi gysylltu â'ch ymgynghorydd cyfreithiol i benderfynu a oes angen gweithred atodol ac, os oes, dylid ei llwytho i fyny a'i hanfon gyda'ch e-bost.

Brig y dudalen


 

Sut ydw i'n newid Dogfen Lywodraethol fy elusen?

Mae dogfen lywodraethol yn ddogfen ffurfiol sy'n sefydlu elusen. Fel arfer mae'n pennu:

  • beth yw nodau'r elusen a sut y bydd yn bodloni'r nodau hyn ('amcanion' a 'phwerau');
  • pwy fydd yn ei rhedeg a sut y caiff ei rhedeg ('ymddiriedolwyr' a 'darpariaethau gweinyddol');
  • beth sy'n digwydd os oes angen gwneud newidiadau ('darpariaeth ddiwygio'); a
  • beth sy'n digwydd os yw'r elusen am ddirwyn i ben ('darpariaeth ddiddymu').

Cewch wybodaeth ddefnyddiol am Ddogfennau Llywodraethol yn ein canllaw Dewis a pharatoi Dogfen Lywodraethol (CC22)

Weithiau bydd angen i ymddiriedolwyr newid Dogfen Lywodraethol eu helusen er mwyn sicrhau ei bod yn parhau i allu gweithredu'n effeithiol. Mewn rhai achosion mae'n rhaid i'r Comisiwn Elusennau gymeradwyo newidiadau o'r fath ond mewn achosion eraill mae darpariaethau diwygio yn rhoi pwer i ymddiriedolwyr wneud y newidiadau eu hunain. Fodd bynnag, ym mhob achos rhaid i ni gael gwybod am y newidiadau sy'n cael eu gwneud.

Os ydych yn meddwl newid Dogfen Lywodraethol eich elusen dylech ddarllen ein canllaw yn gyntaf Newid dogfen lywodraethol eich elusen CC36)

Mae'r canllaw hwn yn esbonio beth y mae angen i chi ei wneud, yn ôl:

  • eich math o elusen;
  • natur y newidiadau yr hoffech eu gwneud; a
  • beth y mae'n ei ddweud yn Nogfen Lywodraethol eich elusen.

Brig y dudalen


 

Oes angen cymeradwyaeth y Comisiwn Elusennau arnaf?

Bydd rhaid i chi gysylltu â ni os hoffech newid eich amcanion, cymal diddymu neu ychwanegu at gymalau neu ddiwygio cymalau sy'n rhoi buddion i ymddiriedolwyr neu aelodau. Mae mathau eraill o newid efallai y bydd angen ein cydsyniad ar eu cyfer - fe'u nodwyd yn ein canllaw Newid dogfen lywodraethol eich elusen (CC36).

Pan fyddwch wedi sefydlu'r hyn y mae angen i chi ei wneud, dewiswch yr un priodol isod. Bydd yn agor ffurflen sy'n ceisio eich helpu i roi'r wybodaeth angenrheidiol.

I elusennau heb fod yn gwmnïau:

  • Rydym wedi gwneud newidiadau nad oedd angen i'r Comisiwn Elusennau eu cymeradwyo
  • Rydym am wneud newidiadau sy'n gofyn am gymeradwyaeth y Comisiwn Elusennau
  • Rydym wedi gwneud newidiadau sydd eisoes wedi cael eu cymeradwyo gan y Comisiwn Elusennau
  • Rydym wedi gwneud newidiadau i enw ein helusen

I gwmnïau sydd hefyd yn elusennau:

  • Rydym wedi gwneud newidiadau nad oedd angen ein cymeradwyaeth
  • Rydym am wneud newidiadau sy'n gofyn am gymeradwyaeth y Comisiwn Elusennau
  • Rydym wedi gwneud newidiadau sydd eisoes wedi cael eu cymeradwyo gan y Comisiwn Elusennau
  • Rydym wedi gwneud newidiadau i enw ein helusen

Brig y dudalen

© Hawlfraint y Goron

© 2010 Hawlfraint y Goron          Hysbysiad Hawlfraint, Ymwadiad a Datganiad Preifatrwydd