Mae'r adran hon yn rhoi atebion byr i gwestiynau cyffredin ar waredu tir elusennau, gyda dolenni i'n canllawiau a ffurflenni ar-lein pan fyddwch am gysylltu â ni.
Prynu tir
All fy elusen brynu tir?
Yr ateb byr
Gall, yn gyffredinol, gall y rhan fwyaf o elusennau brynu tir at eu defnydd eu hunain neu at ddibenion buddsoddi.
Yn fwy manwl
Fel arfer bydd pŵer i brynu a dal tir wedi'i amlinellu yn rheolau'r elusen (ei dogfen lywodraethol). Os nad yw'ch rheolau yn cynnwys pŵer o'r fath gall eich elusen ddibynnu ar yr hyn a elwir 'y pŵer statudol'. Daeth y pŵer statudol i rym drwy Ddeddf Ymddiriedolaethau Tir a Phenodi Ymddiriedolwyr 1996. Hefyd mae pŵer i brynu tir yn Neddf Ymddiriedolwyr 2000.
Oes angen caniatâd y Comisiwn arnom i werthu tir?
Yr ateb byr
Nac oes, yn gyffredinol. Nid ydym yn eich cynghori a yw prynu tir yn addas i'ch elusen.
Yn fwy manwl
Bydd ein canllaw Prynu Tir (CC33) yn ddefnyddiol ac yn eich helpu i benderfynu. Cynghorwn eich bod yn ymgynghori â'ch ymgynghorydd proffesiynol eich hun os ydych yn ystyried prynu tir. Mae Cymdeithas y Gyfraith yn gallu'ch helpu i gael hyd i gyfreithiwr elusen addas i drafod eich amgylchiadau.
Brig y dudalen
Gwerthu Tir
All fy elusen werthu tir?
Yr ateb byr
Gall ymddiriedolwyr y rhan fwyaf o elusennau werthu tir. Caniateir i elusennau sydd hefyd yn gwmnïau i werthu tir oherwydd pŵer yn eu rheolau (Erthyglau Cymdeithasu). Yn gyffredinol gall elusennau sydd heb fod yn gwmnïau (anghorfforedig) ddibynnu ar y pŵer statudol yn Neddf Ymddiriedolaethau Tir a Phenodi Ymddiriedolwyr 1996. Mae ein canllaw Gwerthiannau, prydlesi, trosglwyddiadau neu forgeisiau: Yr hyn y mae angen i ymddiriedolwyr wybod am waredu tir elusennau (CC28) yn esbonio'r gyfraith a beth y mae angen i chi gofio.
Yn fwy manwl
Er y gall y rhan fwyaf o ymddiriedolwyr werthu tir eu helusen yn ddidrafferth mae'n rhaid bodloni rhai gofynion:
Yn gyffredinol rhaid i chi allu cydymffurfio â'r amodau yn adran 36 o Ddeddf Elusennau 1993 (fel y'u diwygiwyd), sy'n golygu:
- rhaid i chi geisio cyngor ysgrifenedig gan syrfëwr cymwysedig
- rhaid i chi hysbysebu'r gwerthiant oni bai bod y syrfëwr yn dweud fel arall
- rhaid i chi fod yn hapus mai'r hyn sy'n cael ei gynnig i chi yw'r fargen orau y gallwch ei chael
Oes angen caniatâd y Comisiwn arnom i brynu tir?
Yr ateb byr
Nac oes, yn gyffredinol, ond mae rhai eithriadau.
Yn fwy manwl
Os ydych yn gwerthu tir i rywun sy'n gysylltiedig â'r elusen (parti cysylltiedig) rhaid i chi gael caniatâd y Comisiwn. Dylech ddechrau drwy gysylltu â ni i esbonio beth yr hoffech ei wneud, gan ddefnyddio'r ffurflen ganlynol:
Os oes angen eich tir i sicrhau y gall eich elusen fodloni ei hamcanion, er enghraifft elusen Neuadd Bentref, edrychwch ar eich rheolau (dogfen lywodraethol) ar gyfer y canlynol:
- os yw'ch elusen yn parhau i allu bodloni ei hamcanion er bod y tir wedi cael ei werthu neu os yw'ch rheolau yn eich caniatáu i ddefnyddio'r arian a gewch o'r gwerthiant at ddibenion eraill yna mae'n debyg nad oes angen ein caniatâd arnoch
- ym mhob achos arall lle rydych yn dal tir i fodloni'ch amcanion mae'n bosib y bydd angen ein caniatâd arnoch i'w werthu
Mae rhagor o fanylion am y gyfraith a'r amgylchiadau a ddisgrifir uchod i'w cael yn ein canllaw Gwerthiannau, prydlesi, trosglwyddiadau neu forgeisiau: Beth mae angen i ymddiriedolwyr wybod am waredu tir elusen (CC28).
Ni allwn ddweud wrthych os mai gwerthu'ch tir yw'r peth iawn i'w wneud. Cynghorwn eich bod yn ymgynghori â'ch ymgynghorydd proffesiynol eich hun os ydych yn ystyried gwerthu tir. Mae gwefan Cymdeithas y Gyfraith yn gallu'ch helpu i gael hyd i gyfreithiwr elusen addas i drafod eich amgylchiadau.
Brig y dudalen
Breinio tir elusen yn y Ceidwad Swyddogol i Elusennau
Pam byddwn i am freinio tir fy elusen?
Yr ateb byr
Gwasanaeth rhad ac am ddim yw hwn a weithredir gan y Comisiwn. Mae'n rhoi tawelwch meddwl i ymddiriedolwyr fod tir yr elusen yn parhau i gael ei ddal i'r elusen er eu bod wedi ymddiswyddo neu wedi cael eu disodli.
Yn fwy manwl
Mae'n rhaid i dir elusen gael ei ddal yn enw rhywun. Oni bai bod eich elusen yn gwmni neu'n gorfforaeth gorfforedig arall, nid oes modd cofrestru'r teitl yn enw eich elusen yn unig, yn hytrach, mae'n rhaid iddo gael ei ddal yn enwau unigolion ar ran yr elusen. Pan fydd y corff ymddiriedolwyr yn newid gall hyn achosi costau oherwydd efallai y bydd rhaid cofrestru'r tir yn enw'r ymddiriedolwyr newydd.
Dewis arall symlach, rhad ac am ddim yw gofyn i'r Ceidwad Swyddogol ddal y teitl ar gyfer eich elusen. Mae'r Ceidwad Swyddogol yn dal y teitl cyfreithiol i'ch tir yn unig ac ni all ddweud sut y caiff ei ddefnyddio. Cewch fwy o fanylion ynghylch beth mae hyn yn ei olygu i'ch elusen yn ein cyhoeddiad Gwasanaeth Dal Tir y Ceidwad Swyddogol i Elusennau (CC13).
Oes angen caniatâd y Comisiwn arnom?
Yr ateb byr
Oes, rhaid i'r Comisiwn roi ei ganiatâd. Rydym wedi gwneud hyn yn haws i chi drwy ddarparu ffurflen ar-lein y gallwch ei defnyddio.
Yn fwy manwl
Ni allwn ddweud wrthych os mai breinio'ch tir yn y Ceidwad Swyddog yw'r peth iawn i'w wneud. Cynghorwn eich bod yn ymgynghori â'ch ymgynghorydd proffesiynol eich hun os ydych yn ystyried breinio tir. Mae gwefan Cymdeithas y Gyfraith yn gallu'ch helpu i gael hyd i gyfreithiwr elusen addas i drafod eich amgylchiadau.
Brig y dudalen