Incwm dros £1,000,000
|
|
Rhaid i elusennau gydag incwm blynyddol dros £1 miliwn anfon y canlynol atom:
Ffurflen Flynyddol
- Rhan A - Gwybodaeth am yr elusen
- Rhan B - Gwybodaeth ariannol
- Rhan C - Ffurflen gwybodaeth gryno
- Adrodd am ddigwyddiadau difrifol
Adroddiad Blynyddol yr Ymddiriedolwyr (TAR) a chyfrifon
i gwblhau eich Ffurflen Flynyddol a/neu gyflwyno eich TAR a chyfrifon.
|
Nodiadau
Rhan A - Gwybodaeth am yr elusen
Mae'r wybodaeth hon yn ffurfio rhan o gofnod yr elusen ar y Gofrestr, ac mae'n cynnwys meysydd allweddol megis manylion cyswllt a manylion ymddiriedolwyr yn ogystal ag incwm a gwariant.
Rhan B - Gwybodaeth ariannol
Mae'n cynnwys gwybodaeth ariannol fanwl am eich elusen. Bydd angen fersiwn terfynol o'r cyfrifon cyhoeddedig arnoch a dylai'r adran gael ei chwblhau gan rywun sy'n gyfarwydd â nhw. Mae'r wybodaeth sy'n cael ei rhoi yn cael ei dangos ar gofnod yr elusen ar y Gofrestr ar ffurf graff i ddangos incwm, gwariant ac asedau'r elusen.
Rhan C - Ffurflen gwybodaeth gryno (SIR)
Mae'r SIR yn rhoi crynodeb hylaw o nodau, gweithgareddau a chyraeddiadau allweddol eich elusen. Mae'n cael ei ddangos ar gofnod Cofrestr yr elusen ar y we i helpu'r cyhoedd i ddeall beth mae'ch elusen yn ei wneud a sut y mae wedi perfformio. Mae'n rhaid i chi anfon Rhannau A a B y Ffurflen Flynyddol cyn bod Rhan C ar gael ar-lein.
Adrodd am ddigwyddiadau difrifol
Wrth gwblhau'r ffurflen, rhaid i ymddiriedolwyr gadarnhau nad oes unrhyw ddigwyddiadau difrifol neu faterion eraill y dylent adrodd amdanynt ac ni chawsant eu dwyn at ein sylw eisoes. Mae ein canllawiau ar Adrodd am ddigwyddiadau difrifol yn rhoi mwy o wybodaeth.
Adroddiad Blynyddol yr Ymddiriedolwyr (TAR) a chyfrifon
Pan fyddwch yn anfon y ffurflen ar-lein, gallwch atodi'r TAR a chyfrifon. Gellir eu cyfuno'n un ddogfen neu eu hanfon fel dogfennau ar wahân, ond rhaid iddynt fod mewn fformat PDF. Mae ein canllaw ar baratoi Adroddiadau Blynyddol yr Ymddiriedolwyr a chyfrifon yn rhoi mwy o wybodaeth.