Yr ymddiriedolwr hanfodol

Ymddiriedolwyr elusen yw'r bobl sy'n gwasanaethu ar gorff llywodraethu elusen. Maent yn dod o bob cefndir ac mae gan bron pob un alluoedd, gwybodaeth neu brofiad y gallant ei gynnig i'r elusen.

Dylai gwaith ymddiriedolwr fod yn waith sy'n rhoi boddhad a mwynhad, ac yn gyfle i wneud gwahaniaeth cadarnhaol a gwasanaethu'r gymuned gan ddysgu sgiliau newydd yr un pryd. Mae ymrwymiad personol cryf at nodau'r elusen yn bwysig. Mae'r rhan fwyaf o ymddiriedolwyr yn wirfoddolwyr di-dâl, ond mae hawl gan ymddiriedolwyr gael eu had-dalu am gostau rhesymol; nid oes unrhyw reswm pam y dylai ymddiriedolwyr fod ar eu colled yn ariannol.

Mae dyletswyddau a chyfrifoldebau gan ymddiriedolwyr i'w helusen, ei chefnogwyr a'i buddiolwyr. Os ydych newydd gael swydd ymddiriedolwr, neu hyd yn oed os buoch chi'n ymddiriedolwr am flynyddoedd, mae'n bwysig eich bod chi'n ymwybodol o'r rhain ac rydym yn eich annog i ddarllen ein canllawiau.

Yr Ymddiriedolwr Hanfodol: Yr hyn y mae angen i chi wybod (CC3) (Chwefror 2008) HTML | PDF | PDF Hawdd ei ddarllen
Yr Ymddiriedolwr Hanfodol: Cyflwyniad (CC3a) (Ionawr 2007) HTML | PDF

Mae CC3a hefyd ar gael mewn amryw o ieithoedd gwahanol

© 2012 Hawlfraint y Goron          Hysbysiad Hawlfraint | Ymwadiad a Datganiad Preifatrwydd | Cwis