Pa wybodaeth sy'n rhaid ei chynnwys yn Adroddiadau Blynyddol yr Ymddiriedolwyr?

Rhaid i bob elusen gofrestredig baratoi Adroddiad Blynyddol yr Ymddiriedolwyr. Mae ein canllaw Adroddiadau a chyfrifon elusennau: yr hanfodion Ebrill 2009 (CC15b) yn rhoi rhagor o fanylion am ddiben a chynnwys Adroddiadau Blynyddol.

Dylai elusennau gydag incwm o lai na £25,000 ddarllen ein Canllaw i elusennau bach am y SORP.

Canllawiau i elusennau nad ydynt yn gwmnïau gydag incwm o £500,000 neu lai.

Yn achos elusennau nad ydynt yn gwmnïau gydag incwm gros blynyddol sy'n is na'r trothwy archwiliad (£500,000), mae pecynnau gennym gan gynnwys profforma Adroddiad Blynyddol yr Ymddiriedolwyr y gellir ei gwblhau mewn taenlen Excel ar-lein a'i argraffu, neu ei argraffu fel pdf a'i gwblhau â llaw.

Y SORP a chanllawiau i elusennau mwy nad ydynt yn gwmnïau ac elusennau sy'n gwmnïau

SORP 2005: mae'r Datganiad o Arferion Cymeradwy yn dwyn ynghyd mewn un cyhoeddiad yr holl ofynion cyfreithiol a safonau cyfrifyddu i elusennau sy'n paratoi cyfrifon croniadau. Mae hyn yn cynnwys canllawiau ar yr hyn sydd angen ei gynnwys yn adroddiad yr ymddiriedolwyr.

Testun llawn yr 2il rifyn o'r ddogfen yw hon, wedi'i diweddaru Mai 2008, mewn lliw. Mae fersiwn printiedig i'w gael (pris £15) gan CCH drwy ffonio 0870 777 2906 (8.30am tan 5.30pm yn ystod yr wythnos) neu archebwch ar-lein yn www.cch.co.uk neu e-bostiwch customerservices@cch.co.uk gan ddyfynnu cod cynnyrch CCSORP.

© Hawlfraint y Goron

© 2012 Hawlfraint y Goron          Hysbysiad Hawlfraint, Ymwadiad a Datganiad Preifatrwydd