Rhoi gwybod i ni am newidiadau i'ch elusen

Gallwch ddefnyddio ein gwasanaeth ar-lein i newid y manylion sydd gennym ar gyfer eich elusen. Dangosir peth o'r wybodaeth ar gofnod yr elusen ar y Gofrestr, felly mae'n bwysig eich bod yn ei diweddaru. Y manylion y gallwch eu diweddaru yw:

  • manylion cyswllt yr elusen
  • cyfeiriadau e-bost y gall y Comisiwn eu defnyddio ac i'w dangos i'r cyhoedd
  • diwedd y flwyddyn ariannol
  • manylion yr ymddiriedolwyr
  • cyfeiriad gwefan eich elusen
  • ble mae'ch elusen yn gweithredu
  • dosbarthiadau o elusennau
  • disgrifiad o weithgareddau
  • manylion cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu

Rhaid i chi gael cyfrinair unigryw yr elusen i ddefnyddio'r gwasanaeth ar-lein. Os nad oes cyfrinair gennych neu os oes angen un newydd arnoch, mae'n hawdd archebu cyfrinair arall.

Caiff y cyfrinair newydd ei e-bostio atoch os oes cyfeiriad e-bost gennych y gall y Comisiwn ei ddefnyddio ar gyfer yr elusen. Fel arall, caiff ei bostio i gyswllt yr elusen a dylech ganiatáu hyd at 7 diwrnod i'w dderbyn. Bydd archebu cyfrinair newydd yn annilysu unrhyw gyfrinair blaenorol ar unwaith.

Os yw'ch manylion cyswllt neu e-bost wedi dyddio ac nid oes cyfrifiadur gennych, dylech gysylltu â ni.

Am resymau diogelwch, bydd unrhyw newid cyswllt neu fanylion e-bost yn destun proses ddilysu.

I ddiweddaru manylion eich elusen ar-lein nawr, cliciwch isod:

mewngofnodi

Mae rhai o nodweddion pwysig y system ar-lein yn cynnwys:

  • fel rheol bydd manylion wedi'u diweddaru yn cael eu cynnwys ar gofnod yr elusen yn y Gofrestr ar y we dros nos;
  • mae'n ddiogel ac nid oes modd ymyrryd â'r manylion rydych yn eu hanfon;
  • mae'r system ar gael ar adeg sy'n gyfleus i chi.

© Hawlfraint y Goron

© 2011 Hawlfraint y Goron          Hysbysiad Hawlfraint, Ymwadiad a Datganiad Preifatrwydd