Gallwn gadw dau gyfeiriad e-bost ar gyfer elusen:
- cyfeiriad e-bost preifat at ddefnydd y Comisiwn i ni gysylltu â'r elusen, er enghraifft pan fyddwn yn anfon cyfrinair i gyrchu ein gwasanaethau ar-lein neu bostio nodiadau atgoffa Ffurflen Flynyddol; a hefyd
- cyfeiriad cyhoeddus a gaiff ei gofnodi ar y Gofrestr Elusennau a'i arddangos ar gofnod yr elusen ar ein gwefan.
Gallwch ddefnyddio un cyfeiriad e-bost at y ddau ddiben, ond rhaid i chi nodi'r cyfeiriad e-bost hwnnw yn y ddau faes ar y ffurflen. Byddwn yn defnyddio'r cyfeiriad e-bost 'at ddefnydd y Comisiwn' i gysylltu â chi, ond bydd y cyfeiriad cyhoeddus yn cael ei ddangos ar y Gofrestr.
Rydym yn gohebu ag elusennau drwy'r e-bost fel arfer erbyn hyn, felly mae'n bwysig iawn i ddiweddaru'ch manylion e-bost. Os ydym yn cadw cyfeiriad e-bost 'at ddefnydd y Comisiwn' dilys, bydd negeseuon e-bost yn cael eu derbyn yn syth. Os nad oes un gennym, gall gymryd hyd at 7 diwrnod i'r llythyron gyrraedd.
Os yw'r cyfeiriadau e-bost wedi dyddio, gallai'ch elusen golli cyfathrebiadau pwysig. Os ydym yn colli cysylltiad â'r elusen yn llwyr, gallai gael ei dileu yn y pen draw oherwydd nid oes unrhyw dystiolaeth gennym ei bod yn parhau i weithredu. Os yw cyswllt yr elusen yn newid, cofiwch ddiweddaru'r cyfeiriad e-bost at ddefnydd y Comisiwn os oes angen newid hwn hefyd.
Gallwch newid manylion e-bost a chyswllt eich elusen ar-lein unrhyw bryd drwy ddefnyddio ein cyfleuster Gweld/Newid Manylion Elusen. Bydd angen cyfrinair yr elusen arnoch i wneud hyn.
i ddiweddaru manylion e-bost eich elusen nawr.
Os nad yw'r cyfrinair gennych, bydd rhaid i chi gael y cyfeiriad e-bost 'at ddefnydd y Comisiwn' wedi'i ddiweddaru cyn gofyn am un arall. Fel arall, bydd y cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'r hen gyfeiriad e-bost.
Gallwch cysylltu â ni i wneud cais am ddiwygiad i fanylion e-bost yr elusen.
Am resymau diogelwch, bydd unrhyw newid i fanylion e-bost yn amodol ar drefn ddilysu. Fel rheol bydd newidiadau i fanylion cyfeiriad e-bost cyhoeddus yn cael eu cynnwys ar gofnod Cofrestr yr elusen ar y we dros nos.