Newid manylion ymddiriedolwyr

Ymddiriedolwyr yw'r bobl sydd, o dan delerau dogfen lywodraethol yr elusen (cyfansoddiad, memorandwm ac erthyglau ac ati), yn gyfrifol am reoli gweinyddiad yr elusen.

Defnyddir y Ffurflen Flynyddol i gadarnhau'n flynyddol manylion yr ymddiriedolwyr hynny sy'n dal swydd pan gaiff y ffurflen ei chwblhau. Mae hyn yn sicrhau bod manylion yr ymddiriedolwyr yn cael eu diweddaru'n gyson oherwydd bydd corff ymddiriedolwyr y rhan fwyaf o elusennau yn newid yn flynyddol yn unig.

Am y rheswm hwnnw polisi'r Comisiwn yw ni fyddwn yn gwneud newidiadau i fanylion yr ymddiriedolwyr presennol fel rheol, eu dileu neu ychwanegu ymddiriedolwyr newydd yn ystod y cyfnod rhwng cyflwyno Ffurflenni Blynyddol. Ond fe fyddem, er enghraifft, yn gwneud eithriad i ddileu enw ymddiriedolwr os yw'r ymddiriedolwr wedi marw.

Gall elusennau wneud newidiadau eu hunain i fanylion yr ymddiriedolwyr ar-lein unrhyw bryd drwy ddefnyddio ein cyfleuster Gweld/Newid Manylion Elusen. Bydd angen cyfrinair yr elusen arnoch. Os nad oes cyfrinair gennych, gallwch archebu un drwy'r botwm 'Mewngofnodi' isod.

Mewngofnodi i newid manylion eich ymddiriedolwyr ar-lein nawr.

Os na allwch gyrchu ein gwasanaeth ar-lein, ac mae rhesymau eithriadol dros ddiweddaru manylion yr ymddiriedolwyr, gallwch gysylltu â ni i roi gwybod i ni am y newidiadau. Pan fyddwch yn ychwanegu ymddiriedolwyr newydd bydd rhaid i chi roi manylion llawn enw a chyfeiriad a dyddiadau geni. Am resymau diogelwch, bydd unrhyw newid i fanylion ymddiriedolwyr yn amodol ar drefn ddilysu.

Mae enwau'r ymddiriedolwyr i'w gweld ar y Gofrestr Elusennau oni bai fod goddefeb wedi cael ei rhoi. Ni ddangosir unrhyw fanylion personol eraill, megis cyfeiriad neu ddyddiad geni.

Fel rheol bydd newidiadau i enwau'r ymddiriedolwyr yn cael eu cynnwys ar gofnod Cofrestr yr elusen ar y we dros nos.

© Hawlfraint y Goron

© 2012 Hawlfraint y Goron          Hysbysiad Hawlfraint, Ymwadiad a Datganiad Preifatrwydd