Mae'r Comisiwn Elusennau yn cofrestru ac yn rheoleiddio elusennau yng Nghymru a Lloegr. Cynigiwn gyngor iddynt a darparwn ystod eang o wasanaethau a chanllawiau i'w helpu i weithredu mor effeithiol â phosibl. Hefyd rydym yn gweithredu'r Gofrestr Elusennau ar-lein, sy'n rhoi gwybodaeth am bob un o'r miloedd o elusennau cofrestredig yng Nghymru a Lloegr.
Mae'r adran hon yn cyflwyno'r gwaith a wnawn, ac yn esbonio sut rydym yn gwneud y gwaith hwnnw.