Beth yw elusennau?
Mae elusennau yn sefydliadau sy'n cynnig budd i'r cyhoedd mewn ffordd sy'n gyfreithiol elusennol. Mae'n rhaid i'r rhan fwyaf o elusennau gydag incwm blynyddol o fwy na £5,000 gofrestru gyda'r Comisiwn Elusennau. Er nad oes rhaid i elusennau gydag incwm o £5,000 neu lai (a rhai eraill) gofrestru gyda ni, mae'n rhaid iddynt ddilyn y gyfraith elusennau ac mae bron pob un yn cael eu rheoleiddio gan y Comisiwn.
I gael mwy o wybodaeth am elusennau yng Nghymru a Lloegr, gallwch weld y Gofrestr Elusennau i gael gwybodaeth am elusennau unigol yn ogystal â gwybodaeth am y sector. Hefyd gallwch ddarllen cwestiynau cyffredin am elusennau cofrestredig.
Cyhoeddwn adroddiadau, arolygon ac ymgynghoriadau hefyd sy'n rhoi gwybodaeth fanwl ar faterion penodol.
Pwy sy'n rhedeg elusennau?
Mae elusennau'n cael eu rhedeg gan 'ymddiriedolwyr' - y bobl sy'n ffurfio corff llywodraethu neu 'fwrdd' elusen. Gallant gael eu galw'n ymddiriedolwyr, cyfarwyddwyr, aelodau bwrdd, llywodraethwyr neu aelodau pwyllgor, ond dyma'r bobl sydd â'r prif gyfrifoldeb dros lywio busnes yr elusen. Mae'r rhan fwyaf o ymddiriedolwyr yn wirfoddolwyr, ac nid ydynt yn derbyn unrhyw dâl (heblaw treuliau parod).
Os hoffech fod yn ymddiriedolwr, mae ein hadran Bod yn ymddiriedolwr yn esbonio beth mae hyn yn ei olygu a gall eich helpu i gael hyd i swyddi gwag.